_________________________
Hysbysiad archwilio
Hysbysiad o benodi'r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Tref Aberystwyth
Y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben 31 Mawrth 2024
- Dyddiad cyhoeddi 13 Mehefin 2024
- Bob blwyddyn mae'r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, caiff unrhyw berson â buddiant gyfle i archwilio a gwneud copïau o'r cyfrifon a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy'n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol wrth wneud cais i:
Cyngor Tref Aberystwyth
11 Stryd y Popty
Aberystwyth
SY23 2BJ
01970 624 761
Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
rhwng oriau 10:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener
yn dechrau ar 01 Gorffennaf 2024
ac yn gorffen ar 26 Gorffennaf 2024
- O 12 Medi 2024, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi'i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a'u cynrychiolwyr hefyd:
- yr hawl i holi'r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.
- yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i'r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Yn gyntaf, rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i'r Archwilydd Cyffredinol. Rhaid rhoi copi o'r hysbysiad ysgrifenedig i'r cyngor hefyd.
Gellir cysylltu â'r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cyngor Cymunedol, Archwilio Cymru, 1 Prifddinas-Chwarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Mae'r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
_________________________
Public Audit (Wales) Act 2004 Section 29
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014
|
|
Gweneira Raw-Rees – Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol
11 Stryd y Popty, Aberystwyth SY23 2BJ |
rhwng 10am a 4pm ar ddydd Llun i ddydd Iau
gan eithrio gwyliau cyhoeddus), pryd y gall unrhyw etholwr llywodraeth leol wneud copïau o’r cofnod blynyddol
|
|
Gweneira Raw-Rees, Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol, 11 Stryd y Popty, Aberystwyth SY23 2BJ
|
|
Hysbysiad archwilio
Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Tref Aberystwyth
Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 March 2023
- Dyddiad cyhoeddi: 18.6.2023
- Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
Cyngor Tref Aberystwyth
11 Stryd y Popty
Aberystwyth
SY23 2BJ
Rhwng yr oriau o 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 3 Gorffennaf 2023
Ac yn dod i ben ar 28 Gorffennaf 2023
- O 11 Medi 2023, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
- yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
- yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Cwr y ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd CF10 4BZ neu drwy e-bost yn Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Hysbysiad archwilio
Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Tref Aberystwyth
Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 March 2022
- Dyddiad cyhoeddi: 20.6.2022
- Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
Cyngor Tref Aberystwyth
11 Stryd y Popty
Aberystwyth
SY23 2BJ
Rhwng yr oriau o 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 4 Gorffennaf 2022
Ac yn dod i ben ar 29 Gorffennaf 2022
- O 12 Medi 2022, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
- yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
- yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ neu drwy e-bost yn Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
SWYDDOG DIGWYDDIADAU A PHARTNERIAETHAU
Gradd / Cyflog: LC2 (SCP 21) £26,975 pro rata (yn amodol ar gymwysterau a phrofiad)
Oriau: 37 awr yr wythnos (neu rhan amser)
Wedi'i leoli yn: swyddfa'r Cyngor Tref, 11 Stryd y Popty, Aberystwyth SY23 2BJ
DYDDIAD CAU: 5pm 31 March 2022
Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Tref Aberystwyth am benodi Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau a fydd yn gyfrifol am reoli a gweithredu strategaeth digwyddiadau ar gyfer y Cyngor Tref. Byddai’r rôl yn gyfrifol am ddigwyddiadau dinesig, cefnogi a datblygu partneriaethau ac am ddatblygu digwyddiadau tref newydd i gefnogi adfywiad Aberystwyth yn ogystal â nodi ffrydiau ariannu ar gyfer y digwyddiadau hyn.
I gael mwy o fanylion, y disgrifiad swydd llawn a’r ffurflen gais, e-bostiwch Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 624761. Ni dderbynnir CVs.
HYSBYSIAD ARCHWILIO
(Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 March 2021)
Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Tref Aberystwyth
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2021
Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
Cyngor Tref Aberystwyth
11 Stryd y Popty
Aberystwyth
SY23 2BJ
Rhwng yr oriau o: 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Iau
Yn dechrau ar: 16 Awst 2021
Ac yn dod i ben ar: 17 Medi 2021
O 20 Medi 2021, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
- yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
- yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ.
Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
CoronaFeirws
Cliciwch yma am wybodaeth gan Cyngor Ceredigion am y pandemig Coronafeirws.
ARCHEBU BWYD I’CH CARTREF YN ABERYSTWYTH (busnesau annibynol) |
Marchnad bysgod Jonah 01970 615492
Ultra Comeda 01970 630686
Rob Ratray 01970 615353
Tree House 01970 615791
Glyn Thomas (dyn llaeth a bwyd arall) 07974 159 356
Express Café 01970 832113
Maeth y Meysydd 01970 612946
Porth Cymorth Cynnar
Mae gwasanaeth Porth Cymorth Cynnar yw cadw mewn cysylltiad gydag unigolion a theuluoedd y maent fel arfer mewn cyswllt cyson â nhw (a nifer o rai ychwanegol erbyn hyn), dros y cyfnod anodd yma. Mae’r gwasanaeth yn rhoi galwad ffon iddynt yn ddyddiol / wythnosol yn ôl yr angen, i gael sgwrs gyda nhw ynglŷn â lles / iechyd ayyb ac yn eu cefnogi lle sy’n bosib – rhyw fath o ‘welfare check’.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch unrhyw un yn eich cymuned a byddai’n cael budd allan o gael galwad ffon gan y gwasanaeth, a fyddech cystal â hysbysu Porth Cymorth Cynnar, gan roi’r manylion canlynol:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhif ffôn.
Manylion cyswllt Porth Cymorth Cynnar:
Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Clic - 01545 570881 neu CAVO - 01570 423232
Mae’r adnoddau eraill sydd ar gael yn eich cymunedau ar wefan y Cyngor Sir: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/rhestr-o-adnoddau-yng-ngheredigion/
Cadwch hyd braich i leddfu’r baich.
Gwirfoddoli
Gweler yma wybodaeth am wirfoddoli.
Digwyddiadau Arlein
Goldies Cymru: weekly Goldies Mini Sing & Smile sessions every Thursday on their Facebook page (http://www.facebook.com/goldiescymru). If you, or any groups find it difficult to stream Facebook, the videos are being saved and can be forwarded separately. To receive these, please get in touch with Goldies Cymru: Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. |
Pili Pala Arts Wales: daily updates of warm-ups, dances like cha cha cha and salsa as well as seated dances and exercises that people can do at home available on Beth Ryland’s YouTube Channel. |
Gweler isod briff i randdeiliaid gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygiadau diweddar yn ymwneud â Covid.
Adolygiad o reoliadau a chanllawiau newydd
Mae Llywodraeth Cymru heddiw (24/4) wedi cyhoeddi newidiadau i’r rheoliadau Covid, yn ogystal â chyhoeddi canllawiau newydd – dilyna hyn yr adolygiad 3-wythnos statudol o’r rheoliadau brys. Ceir dolenni i’r wybodaeth hyn, yn ogystal â nifer o ddolenni defnyddiol eraill isod:-
Dolenni i’r rheolau adolygedig:- https://gov.wales/revised-coronavirus-rules-for-wales-unveiled . https://llyw.cymru/datgelu-rheolau-coronafeirws-adolygedig-ar-gyfer-cymru?_
Fel rhan o’r newidiadau hyn, mae canllawiau ar ymarfer corff wedi’u cyhoeddi sy’n darparu mwy o eglurder ar y math a hyd o fathau derbyniol o ymarfer corff, ac yn rhoi cyngor pellach ar ddefnydd cerbyd i deithio cyn cymryd ymarfer corff. Mae’r canllaw hefyd yn cydnabod y gallai pobl sydd â cyflwr iechyd penodol neu anableddau fuddio o ymarfer corff yn yr awyr agored mwy nag unwaith y dydd, ac mae’n codi’r cyfyngiadau dan yr amgylchiadau hyn:-
https://gov.wales/leaving-home-exercise-guidance https://llyw.cymru/gadael-y-cartref-i-wneud-ymarfer-corff-canllawiau?_ Fframwaith Yn ogystal heddiw (24/4), mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi fframwaith a saith cwestiwn allweddol i gynorthwyo i arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws. Bydd y fframwaith yn helpu i benderfynu pryd y gellid cychwyn llacio’r cyfyngiadau manwl aros adref yng Nghymru a bydd yn gymorth i ddarganfod ffordd i bobl yng Nghymru fyw a gweithio ochr wrth ochr â coronafeirws. Mae’n cynnwys datblygiad rhaglen o wyliadwriaeth adnabod achosion, ac olrhain cysylltiadau ledled Cymru, ac mae’n tanlinellu bwysigrwydd arbrofion yn y gymuned i ymatal heintiau coronafeirws sy’n ymddangos wrth a phan bydd cyfyngiadau’n cael eu llacio. Mae’r fframwaith yn seiliedig ar dri piler:- |
- Y mesurau a’r dystiolaeth y byddwn yn eu defnyddio i farnu’r lefelau haint presennol a chyfraddau trosglwyddo coronafeirws yng Nghymru.
- Yr egwyddorion y byddwn yn eu defnyddio i ymchwilio i’r dulliau arfaethedig o lacio’r cyfyngiadau presennol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach.
- Sut bydd ein system ar gyfer cadw golwg ar iechyd y cyhoedd ac ymateb i’r sefyllfa yn cael ei wella i’n galluogi i fedru olrhain y feirws yn ofalus wrth i’r cyfyngiadau godi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos â gweddill y DU drwy gydol y pandemig ac wedi rhannu datblygiad y fframwaith gyda llywodraethau’r Alban, Gogledd Iwareddon a’r DU.
Rhestr canoledig o gaeadau
Ceir canllawiau penodol ar y Rheoliadau Coronafeirws mewn perthynas â llwybrau tramwy a thir mynediad, ynghyd â rhestr canoledig o ddolenni i gaeadau Awdurdodau unigol yn y dolenni canlynol:-
https://gov.wales/public-rights-way-and-access-land-closures
https://llyw.cymru/cau-hawliau-tramwy-cyhoeddus-thir-mynediad?_
Canllawiau’r Heddlu ar ymarfer corff
Yn dilyn ymholiadau gan randdeiliaid ynglŷn â’r cyhoeddiad Lloegr-yn unig gan Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a’r erthygl newyddion BBC a ddilynodd oedd yn awgrymu y gallai fod yn dderbyniol i deithio ymhellach i ymarfer corff, gall Lywodraeth Cymru gadarnhau nad yw’r pedwar llu heddlu yng Nghymru yn mabwysiadu’r canllaw hon.
Newyddion a Chyhoeddiadau
Cyllideb 1 Ebrill 2020 – 31 Mawrth 2021
Ar hyn o bryd mae’r Cyngor Tref yn penderfynu cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a hoffwn glywed gennych beth fyddai eich blaenoriaethau chi?
Er enghraifft, ar hyn o bryd mae cyllideb y Cyngor Tref yn talu am:
- Darparu, cynnal a chadw tri maes chwarae: Penparcau, Plas Crug a’r Castell
- Darparu, cynnal a chadw y parc sgrialu, Parc Kronberg
- Darparu, cynnal a chadw Parc Ffordd y Gogledd
- Darparu a rheoli’r rhandiroedd yng Nghaeffynnon (ond hefyd ar hyn o bryd yn trafod gyda’r Brifysgol i gael plotiau tyfu ar hen lawnt fowlio Plascrug)
- Darparu tybiau a pamau blodau’r haf
- Plannu coed
- Plannu bylbiau cenin Pedr (15,000 yn 2018 a 15,000 arall yn 2019)
- Darparu, cynnal a chadw cyfran o’r cysgodfannau bws
- Darparu, cynnal a chadw cyfran o’r meinciau
- Cynnal a chadw’r arwyddion bys (a fabwysiadwyd yn ddiweddar oddi wrth y Cyngor Sir)
- Darparu gwerth £20,000 o grantiau i’r gymuned
- Darparu goleuadau Nadolig, a choed Nadolig yn Sgwâr Glyndŵr, Penparcau a Trefechan
- Digwyddiadau megis: rhaglen adloniant yr haf yn y Bandstand; cyfraniadau i bartneriaid i ddarparu digwyddiadau ee Menter Aberystwyth i drefnu’r Goleuo a’r Orymdaith Nadolig a Goreuon Aber a Lleng Frenhinol Prydain i drefnu Sul y Cofio ; digwyddiadau allweddol eraill megis y Eisteddfod a’r Gwyl Feicio; seremoniau dinesig megis Sefydlu’r Maer
- Dau aelod o staff – Clerc (llawn amser) a Dirprwy Glerc (rhan amser)
Anfoner sylwadau erbyn 13 Ionawr 2020 at: Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Holiadur ar ddyfodol Parc Ffordd y Gogledd - dychwelwch erbyn 1/2/2020 os gwelwch yn dda.
Mae Aberystwyth wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Cymdogaeth Orau Prydain ar gyfer Cerdded 2019, gwobr flynyddol y Cerddwyr sy’n dathlu cymdogaethau sydd wedi’u cynllunio i hybu cerdded.
Hoffech chi weld Aberystwyth yn ennill y wobr? Gall y cyhoedd bleidleisio dros y gymdogaeth o’u dewis hyd 30 Mehefin, felly pleidleisiwch heddiw yn www.ramblers.org.uk/vote
Mae Aberystwyth wedi ennill statws "di-blastig" (dolen Saesneg). Mae tudalen Facebook gallwch chi ei ddilyn.
Rydym ni'n cefnogi Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed. Mae manylion cyswllt ar gael ar y tudalen Facebook.
Rydym ni'n cefnogi'r Cyngor Iechyd Cymuned, sy'n gweithio i wella gwasanethau clinigol. Anfonwch unrhyw atborth am eich profiadau o ddarpariaeth gwasanaethau iechyd lleol atyn nhw os gwelwch yn dda.
Hysbysiad Cyhoeddus
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH (WARD GOGLEDD ABERYSTWYTH)
Hysbysir drwy hyn fod yna 1 sedd wag achlysurol ar gyfer swydd Cynghorydd ar Gyngor Tref Aberystwyth (Ward Gogledd Aberystwyth).
Gall unrhyw ddeg etholwr yn ardal etholiadol Cyngor Tref Aberystwyth (Ward Gogledd Aberystwyth) ofyn am etholiad i lenwi’r 1 sedd wag drwy hysbysiad yn ysgrifenedig wedi ei gyfeirio a’i drosglwyddo i Mr Eifion Evans yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA ar 03/01/2019 neu cyn hynny.
DYDDIEDIG 11/12/2018
Archif
Gwyl Hen Linell Bell - 21/07 - 5/08: Rhwng 21 Gorffennaf a 5 Awst 2017, cyflwynodd Cwmni Theatr Arad Goch ŵyl gymunedol ar raddfa fawr yn Aberystwyth – GWYL HEN LINELL BELL...
Dathlu Amrywiaeth yn Aberystwyth : Mae'r Cyngor wedi cyflwyno datganiad wedi rhai o ddigwyddiadau a Brexit…
Adeg Wych i Aberystwyth a'i Gefeilldrefi: Mae Aberystwyth newydd gytuno i lofnodi siartr gyfeillgarwch gydag Arklow, fel ein gefeilldref ddiweddaraf yn 2016.
Yn yr un flwyddyn dyfernir Rhyddid Bwrdeistref Aberystwyth i Monsieur Jean Guezennec o St Brieuc, ym mis Mehefin. Mae Monsieur Guezennec wedi rhoi dros 40 mlynedd o wasanaeth i'r gefeilldrefi ers i St Brieuc ddod yn efeilldref gyntaf i Aberystwyth ym 1974. Mae Cyngor Aberystwyth yn dal Siartr y Fwrdeistref a ddyfarnwyd gyntaf ym 1277 mewn ymddiriedolaeth i'r dref, a rhoddwyd y Rhyddid Anrhydeddus o'r blaen dani hi i nifer o enwogion o fri cenedlaethol.
Aberystwyth ar y Blaen: Sefydlwyd y Bwrdd ym mis Tachwedd 2016. Yn cefnogi busnesau Aberystwyth
Aberystwyth Yn Croesawu Cynnig Am Reilffyrdd : Bu Cyngor Aberystwyth yn cynnal cyfarfod gyda tua chant o bobl yn ei fynychu yn y Morlan, Aberystwyth, bron pob un o blaid ail-agor y rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Ynghyd â Traws Link Cymru, roedd y Cyngor yn awyddus i glywed barnau aelodau’r cyhoedd er mwyn mesur cefnogaeth cyhoeddus i’r…
Hysbysiad o bennu dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr