Dros y misoedd diwethaf mae’r Cyngor Tref wedi bod yn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl leol i’w ddweud am un o fannau gwyrdd poblogaidd Aberystwyth - Parc Ffordd y Gogledd.
Mae holiaduron a gweithdy wedi rhoi syniad inni o'r hyn y mae pobl ei eisiau. Roedd yr adborth yn glir ar rai elfennau ac o ganlyniad, tynnwyd y ddrysfa a'r ffens wifren i greu man mwy agored. Ond cam cyntaf yw hwn ac, yn ogystal â mwy o blannu coed a gwrychoedd, mae'r Cyngor Tref eisiau cadarnhau’r safbwyntiau a gyflwynwyd gan y gymuned hyd yn hyn. Felly rydym yn gofyn yn garedig i chi gwblhau yr holiadur cryno yma.
Lawrlwythwch Holiadur (Dogfen Word .docx)
Lawrlwythwch Holiadur (Dogfen Fformat Agored .odt)
Dychwelwch erbyn: 1.2.2020
Y Cyngor Tref , 11 Stryd y Popty, SY23 2BJ
Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. 01970 624761 www.aberystwyth.gov.uk