Aberystwyth Council

CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR LLAWN A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD
11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 23 RHAGFYR 2013 am 6.30pm.

Yn bresennol:

  • Cyng. Wendy Morris-Twiddy
  • Cyng. Mererid Jones
  • Cyng. Ceredig Davies
  • Cyng. Steve Davies
  • Cyng. Kevin Roy Price
  • Cyng. Endaf Edwards
  • Cyng. Alun Williams
  • Cyng. Brian Davies
  • Cyng. Lucy Huws
  • Cyng. J. A. Davies
  • Cyng. Mark A. Strong

Ymddiheuriadau:

  • Cyng. Mair Benjamin
  • Cyng. Dylan Lewis
  • Cyng. Jeff Smith
  • Cyng. Sue Jones-Davies

Cofnod 118 – Datgan Diddordeb.

Dim.

Cofnod 119 – Gweithgareddau'r Maer.

Dosbarthwyd i'r aelodau.

Cofnod 120 – Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 23ain Rhagfyr 2013.

PENDERFYNWYD derbyn a mabwysiadu cofnodion y cyfarfod uchod.

Materion a godwyd:

Cofnod 104 Pwyllgor Cynllunio 4ydd Tachwedd 2013 wedi'i gofnodi yn anghywir fel Cyfarfod Dibenion Cyffredinol.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Adroddodd Cyng. Steve Davies ar drafodaeth gyda Ms Mercedes Mills a oedd eisiau i'r Cyngor Tref godi arwyddion yn nodi'r berthynas rhwng Aberystwyth ac Esquel.

Cofnod 121 – Cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2013.

PENDERFYNWYD derbyn a mabwysiadu cofnodion y cyfarfod uchod.

  • CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
    COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD,
    11 STRYD Y POPTY ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 9 RHAGFYR 2013 AM 6.30PM

    Yn bresennol:

    • Y Cynghorydd Steve Davies
    • Y Cynghorydd Kevin Roy Price
    • Y Cynghorydd Brenda Haines
    • Y Cynghorydd Jeff Smith
    • Y Cynghorydd Lucy Hues
    • Y Cynghorydd Brian Davies
    • Y Cynghorydd Ceredig Davies
    • Y Cynghorydd Mark Strong

    Ymddiheuriadau:

    • Y Cynghorydd Mair Benjamin
    • Y Cynghorydd Sue Jones-Davies
    • Y Cynghorydd Endaf Edwards
    • Y Cynghorydd Mererid Jones
    • Y Cynghorydd Wendy Morris-Twiddy
    • Y Cynghorydd Dylan Lewis
    1. Ceisiadau Cynllunio A130825 – Specsavers Opticians, 30 Y Stryd Fawr. Unedau aerdymheru allanol i'r gweddlun cefn wrth y to fflat uwchlaw'r llawr gwaelod. DIM GWRTHWYNEBIADAU A130835LB – Cadw peiriant talu arian i mewn ar ei draed ei hun. DIM GWRTHWYNEBIADAU. A130845 - Newid defnydd cyn Eglwys Fethodistaidd yn gyfleuster storio a gweithdy preifat. GWRTHWYNEBU. Cred y Cyngor Tref y byddai'n golled mwynder cymunedol trwy droi'r hyn sy'n fan cyfarfod gyda chyfleusterau priodol yn weithdy garej. Mae preswylwyr wedi canfasio aelodau lleol ac wedi mynegi pryderon dros sŵn posibl yn gysylltiedig â gweithgareddau'r gweithdy. Pryderon yn ymwneud â defnydd ffordd breifat. A130502LB – Newidiadau ac ehangu fflat cyfredol ar 54-56 Ffordd y Môr.  CYMERADWYO YN AMODOL AR GADW'R HOLL NODWEDDION HANESYDDOL A130447LB – Cadw slab concrit ar Rodfa Fuddug. Penderfyniad – DIM GWRTHWYNEBIAD ond byddai'r Cyngor Tref eisiau diogelu buddion preswylwyr ar hyd Rhes Crynfryn pe bai cynnig yn cael ei gyflwyno i ddatblygu'r ardal o fewn yr hyn a oedd yr Hen Lyfrgell.
    2. Ymgynghoriad ar Ail Gartrefi Fe wnaeth Cynghorwyr Ceredig Davies ac Alun Williams ymatal rhag pleidleisio. Penderfynodd y Cyngor Tref: - Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gefnogol iawn i godi lefi ail gartrefi yn unol â chynnig Ceredigion. Mae pobl leol yn ei chael hi'n anodd iawn prynu tai yn lleol yn enwedig o ystyried bod yr incwm cyfartalog yng Ngheredigion yn is na chyd-destun y DU. Teimlwn y byddai codi'r dreth ar ail gartrefi yn gostwng effeithiau anghydraddoldeb economaidd ac yn cynyddu argaeledd a fforddiadwyedd tai i bobl leol. Cyfeiriodd y Cyng. Endaf Edwards at y ffaith nad oedd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr yn nodi'r eiddo sy'n gysylltiedig â'r rhif cais cynllunio perthnasol. A130835LB Cyfeirio at Fanc HSBC, Y Stryd Fawr. A130845 Cyfeirio at Dŷ Cam, Capel Methodistaidd, Penparcau. A130447LB Cyfeirio at Res Crynfryn ac nid Rhodfa Fuddug. Nododd Cyng. Mark Strong ei fod ef hefyd wedi ymatal ynghyd â'r Cyng. Ceredig Davies a'r Cyng. Alun Williams ar fater ymgynghoriad ar Ail Gartrefi.

Cofnod 122 – Cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2013.

PENDERFYNWYD derbyn a mabwysiadu cofnodion y cyfarfod uchod gyda'r diwygiad bod angen cywiro enw Cyng. Brenda Haines wrth gyfeirio at Adroddiad y Parc Sgrialu.

  • COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR RHEOLAETH GYFFREDINOL
    A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD,
    11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH
    DDYDD LLUN 9fed RHAGFYR 2013 AM 7.00PM

    Yn Bresennol:

    • Y Cynghorydd Ceredig Wyn Davies
    • Y Cynghorydd Kevin Roy Price
    • Y Cynghorydd Wendy Morris-Twiddy
    • Y Cynghorydd Jeff Smith
    • Y Cynghorydd Mark Strong
    • Y Cynghorydd J. Aled Davies
    • Y Cynghorydd Mererid Jones
    • Y Cynghorydd Brian Davies
    • Y Cynghorydd Steve Davies
    • Y Cynghorydd Sarah Bowen
    • Y Cynghorydd Lucy Huws
    • Y Cynghorydd Alun Williams
    • Y Cynghorydd Brenda Haines

    Ymddiheuriadau:

    • Y Cynghorydd Endaf Edwards
    • Y Cynghorydd Sue Jones-Davies
    • Y Cynghorydd Mair Benjamin
    • Y Cynghorydd Dylan Lewis
    1. Datgan Diddordeb

      Datganodd Cynghorydd Aled Davies ac Alun Williams ddiddordeb yn eitem 6 – Ysbyty Bronglais.

    2. Goleuadau Nadolig

      1. Nodwyd bod cefnogaeth dda yn y nifer a ddaeth i ddigwyddiad cynnau'r goleuadau Nadolig. Mae gan Fenter Aberystwyth gyfarfod ar ôl y digwyddiad Ddydd Mercher 11 Rhagfyr. Dylai unrhyw bwyntiau sydd angen eu codi gael eu hanfon trwy e-bost at Alun a Mark cyn y cyfarfod. Angen adolygu pwy sy'n gyfrifol am beth y flwyddyn nesaf.
      2. Rhwymedigaethau Nadolig yn y Dyfodol Cofnodwyd pleidlais o ddiolch i Tom Edwards am y gwaith trydanol brys a wnaed yn ystod yr wythnos olaf. Mae angen i ni sicrhau bod y costau ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'u cyllidebu'n gywir. Mae Ceredigion yn darparu 10 blwch torri allan (breakout) ar gyfer Cyngor Cymuned Llanbadarn – efallai gan ei fod ar gefnffordd. PENDERFYNWYD dilyn hyn i fyny gyda Chyngor Sir Ceredigion a'r Asiantaeth Cefnffyrdd.
    3. Ailgylchu gwydr

      Nodwyd nad oedd y cyfleuster newydd sydd wedi'i ddarparu yn cael ei gasglu yn rheolaidd. Nodwyd bod diffyg arwyddion i esbonio sut mae defnyddio'r biniau a phwy i gysylltu â hwy os ydynt yn llawn. Mae pryderon bod busnesau masnachol yn parhau i ddefnyddio'r cyfleuster. Nid oedd gan PEG y gallu'r wythnos ddiwethaf i wneud y casgliadau arfaethedig ac felly roedd y biniau yn llawn.

      PENDERFYNWYD adolygu ble mae'r biniau yn llawn ac edrych am ardaloedd ble gellid lleoli biniau eraill. Nodwyd Coedlan Pump a Neuadd Alexandra fel dau leoliad posibl. Cyngor Tref Aberystwyth i gysylltu â PEG. Storio dodrefn Cyngor Tref Ar hyn o bryd mae dodrefn yn cael ei storio yn Ynyslas ar gost o £58 yr wythnos o fis Medi 2013. Rhoddwyd y dasg i'r Cynghorwyr Mererid Jones a Kevin Price i ganfod beth oedd yn cael ei storio yno a gwneud cynllun i bopeth gael ei symud erbyn diwedd mis Ionawr 2014.

    4. Cymdogion Cynnes

      Rhoddodd Cynghorydd Mererid Jones gyflwyniad ar fenter Cyngor Sir Ceredigion i gadw'r henoed yn gynnes yn ystod y gaeaf ac i sicrhau nad oedd unrhyw un yn unig. Mae'n cynnwys cynghorion da ar ostwng gwastraff a dosbarthwyd pecynnau i'r holl Gynghorwyr a oedd yn bresennol.

    5. Ysbyty Bronglais Datganodd y Cynghorwyr Alun Williams ac Aled Davies ddiddordeb. Mae'r eitem wedi'i chyfeirio o'r Cyngor Llawn fel cais i gynnal cyfarfod cyhoeddus pellach gydag Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda i dderbyn y diweddaraf ar yr hyn sy'n digwydd gyda'r ysbyty. PENDERFYNWYD anelu at drefnu cyfarfod ym mis Ionawr, gydag Elin Jones AC a Mark Williams AS yn cadeirio ar y cyd. Angen cysylltu â Grŵp Achub Bronglais i sicrhau eu cyswllt. Y diweddaraf i gael ei roi i'r cyngor llawn ar 23 Rhagfyr 2013. Adroddiad ar lety cyngor newydd Nid oedd gohebiaeth wedi'i derbyn gan y naill gyfreithiwr na'r llall ar y pwynt hwn. Parc Bwrdd Sgrialu Dosbarthwyd cofnodion y cyfarfod ar 27 Tachwedd 2012. Eglurwyd nad oedd Cynghorydd Brenda Davies a Martin Shewring yn aelodau o Grŵp Parc Bwrdd Sgrialu, ond yn gynrychiolwyr ar fwrdd gefeillio Kronberg.  Mae'r Grŵp Parc Bwrdd Sgrialu yn cael ei gynrychioli gan Sue Jones-Davies a Mair Benjamin. Mynegwyd pryderon nad yw'r parc bwrdd sgrialu cyfredol yn cael ei gynnal a'i gadw a phwy fydd yn gyfrifol am gostau cynnal a chadw parhaus y parc newydd. PENDERFYNWYD y byddai'r Cynghorwyr Aled Davies a Mererid Jones yn gynrychiolwyr ychwanegol ar y grŵp. PENDERFYNWYD ymhellach bod angen i ni gael adolygiad manwl ar ddiwedd Cyfnod 1 (unwaith y mae caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo). Materion sy'n weddill Cafodd dyddiadau cyfarfodydd ar gyfer 2014 eu cytuno a'u dosbarthu