CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR LLAWN A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 24 MAWRTH 2014 AM 6.30PM
Yn bresennol: Cyng. Martin Shewring
Cyng. Alun Williams
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Lucy Teresa Huws
Cyng. Ceredig Davies
Cyng. Mererid Jones
Cyng. Mark A Strong
Cyng. Kevin Roy Price
Cyng. Brian Davies
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Endaf Edwards
Ymddiheuriadau: Cyng. Steve Davies
Cyng. Wendy Morris-Twiddy
Cyng. Jeff Smith
Yn absenoldeb y Cadeirydd, penderfynwyd y byddai Dylan Lewis yn cadeirio'r cyfarfod. Cymerodd y Cyng. Mererid Jones y cofnodion.
Cofnod 169 - Datgan Diddordeb.
Cyllid................................... Cyng. Kevin Price.
Cyng. Martin Shewring
Cyng. Dylan Lewis
Cofnod 170 - Cyfeiriadau Personol.
Dim
Cofnod 171 - Gweithgareddau'r Maer.
Dosbarthwyd y rhain i aelodau.
Cofnod 172 - Cofnodion cyfarfod y cyngor llawn ar 24 Chwefror 2014.
PENDERFYNWYD derbyn a mabwysiadu cofnodion y cyfarfod uchod. Codwyd y materion a ganlyn er gwybodaeth:-
- Cododd Cyng. Mark Strong gwestiwn yn ymwneud â choed a oedd wedi'u difrodi gan y storm. I'w adolygu
- Gerddi Frondeg – mae'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 16/4/2014 am 5.30pm yng Nghanolfan Rheidol. Cytunwyd mai'r Cyng. Ceredig Davies a'r Cyng. Steve Davies fyddai ein cynrychiolwyr yn y cyfarfod.
- Nodwyd diolch i'r Cyng. Aled Davies am godi'r faner yn y castell.
- Nodwyd diolch i'r Cynghorwyr Steve Davies a Ceredig Davies am symud yr arhosfan fws ar Goedlan Pump.
Cofnod 173 - Cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 3 Mawrth 2014
PENDERFYNWYD derbyn a mabwysiadu cofnodion y cyfarfod uchod.
COFNODION CYFARFOD O'R PWYLLGOR CYNLLUNIO A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 3 MAWRTH 2014 AM 6.30 PM
Yn bresennol:
Cynghorydd Martin Shewring
Cynghorydd Brenda Haines
Cynghorydd Mair Benjamin
Cynghorydd Steve Davies
Cynghorydd Jeff Smith
Cynghorydd Kevin Price
Cynghorydd Sue Jones-Davies
Cynghorydd Wendy Morris-Twiddy
Cynghorydd Brian Davies
Cynghorydd Lucy Huws
Cynghorydd Ceredig Davies
Cynghorydd Endaf Edwards
Ymddiheuriadau:
Cynghorydd Mererid Jones
- Gohebiaeth
Derbyniwyd yr ohebiaeth a ganlyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio, yn ymwneud â'r apêl a ganlyn:
A130176 – apêl wedi'i gwrthod (mae'r datblygiad arfaethedig yn cael ei ystyried yn niweidiol i leoliad yr adeiladau rhestredig ar 10-11 Glan-y-Môr)
Derbyniwyd yr ohebiaeth a ganlyn gan Gyngor Sir Ceredigion.
Penderfyniadau cynllunio:
A130784LB – cymeradwywyd
A130929 – cymeradwywyd (nodwyd amod 7, sy'n gofyn am blannu, o fewn 12 mis i gwblhau'r datblygiad, 6 coeden o darddiad lleol yn ychwanegol at y 3 coeden newydd arfaethedig)
A140006 – nid oes angen cymeradwyaeth flaenorol (mae'r datblygiad yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir)
A140007 – nid oes angen cymeradwyaeth flaenorol (mae'r datblygiad yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir)
A140009 – nid oes angen cymeradwyaeth flaenorol (mae'r datblygiad yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir)
A140010 – nid oes angen cymeradwyaeth flaenorol (mae'r datblygiad yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir)
A140017 – nid oes angen cymeradwyaeth flaenorol (mae'r datblygiad yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir)
A140018 – nid oes angen cymeradwyaeth flaenorol (mae'r datblygiad yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir)
A140019 – nid oes angen cymeradwyaeth flaenorol (mae'r datblygiad yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir)
- Ystyried ceisiadau cynllunio
A140008 - Lleoli cabinet telathrebu
Tir ger Garth Celyn, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad. Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn croesawu'r cais hwn. Rydym hefyd yn dymuno gweld y cabinet yn cael ei beintio yn y Glas Corfforaethol, yn unol ag arwyddion a dodrefn stryd o amgylch canol y dref.
A140013 - Lleoli cabinet telathrebu
Tir ar bwys 5 Heol y Wig, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad. Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn croesawu'r cais hwn. Rydym hefyd yn dymuno gweld y cabinet yn cael ei beintio yn y Glas Corfforaethol, yn unol ag arwyddion a dodrefn stryd o amgylch canol y dref.
A140014- Lleoli cabinet telathrebu
Tir ar bwys Yr Hen Ysgol Gymraeg, Ffordd Alexandra, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad. Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn croesawu'r cais hwn. Rydym hefyd yn dymuno gweld y cabinet yn cael ei beintio yn y Glas Corfforaethol, yn unol ag arwyddion a dodrefn stryd o amgylch canol y dref.
A140015 - Lleoli cabinet telathrebu
Glan-y-Môr (ger Penroc), Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad. Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn croesawu'r cais hwn. Rydym hefyd yn dymuno gweld y cabinet yn cael ei beintio yn y Glas Corfforaethol, yn unol ag arwyddion a dodrefn stryd o amgylch canol y dref.
A140016 - Lleoli cabinet telathrebu
Safle ger 8 Stryd y Gorfforaeth, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad. Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn croesawu'r cais hwn. Rydym hefyd yn dymuno gweld y cabinet yn cael ei beintio yn y Glas Corfforaethol, yn unol ag arwyddion a dodrefn stryd o amgylch canol y dref.
A140091 - Codi estyniad un llawr i'r ochr
12 Coedlan Dau, Penparcau, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad.
A140076 - Newid arwydd ar flaen siop
Sports Direct, Heol y Wig, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad. Mynegodd Cynghorydd Martin Shewring ei siom at yr ôl-gais ar gyfer yr arwydd cyfredol.
A140097- Adnewyddu blaen siop. Tynnu hen ddrws a ffenestr alwminiwm a gosod rhai pren newydd gydag arwyddion ac amgylchynau traddodiadol.
Seafront Palace, 5 Glan-y-Môr, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad. Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn croesawu defnydd ar ddeunydd traddodiadol a chynaliadwy yn y datblygiad arfaethedig.
Derbyniwyd y diweddariad a ganlyn: -
Nododd Cyng. Ceredig Davies bod y blwch ar Heol y Wig wedi'i wrthod oherwydd problemau i gerddwyr. Roedd y cais i'r blwch fod yn las wedi'i wrthod gan fod angen iddynt gymysgu â'r cefndir.
Darllenwyd neges e-bost gan Gyngor Sir Ceredigion i ddatgan bod y cais ar gyfer y Bandstand wedi'i dynnu yn ôl. Cyngor Tref Aberystwyth i geisio eglurhad a fydd hyn yn rhoi stop ar y datblygiad i gyd neu a fydd cynlluniau amgen yn cael eu cyflwyno. Mae Bwrdd Adfywio Strategol Aberystwyth yn cwrdd ar 17/4/2014 a gofynnodd Cyng. Alun Williams a allai dderbyn sylwadau cyn y cyfarfod. Nodwyd y bydd angen i unrhyw gynlluniau diwygiedig fod yn unol ag anghenion y gymuned. Nododd Cyng. Lucy Huws bod pryderon wedi'u codi ar ôl y llifogydd. Nododd Cyng. Endaf Edwards nad yw'r bandstand cyfredol yn cyd-fynd â'r prom cyfredol. Dywedodd Cyng. Mark Strong bod posibilrwydd ein bod wedi colli ariannu yn gyfan gwbl o ganlyniad i'r gwrthwynebiadau a wnaed.
Cofnod 174 - Cyfarfod Rheolaeth Gyffredinol – 10 Mawrth 2014
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD derbyn a mabwysiadu cofnodion y cyfarfod uchod.
COFNODION PWYLLGOR RHEOLAETH GYFFREDINOL A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 10 MAWRTH 2014.
Yn bresennol:
Cyng. Ceredig Davies
Cyng. Mair Benjamin
Cyng Brenda Haines
Cyng. Alun Williams
Cyng. Mererid Jones
Cyng. Aled Davies
Cyng. Jeff Smith
Cyng. Kevin Roy Price
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Sue Jones-Davies
Cyng. Martin Shewring
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Steve Davies
Cyng. Wendy Morris-Twiddy
Ymddiheuriadau:
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Brian Davies
Cyng. Mark Strong
1 Cyflwyniad gan Mr Jim Wallace (Cadeirydd Menter) gydag Aelodau Bwrdd Menter.
Amlinellodd Mr Wallace sefyllfa ariannol y Fenter a'i blaenraglen waith. Ar hyn o bryd mae gan Menter
gronfa wrth gefn o £35,000 a fyddai'n galluogi iddi weithredu am ddeuddeg mis heb gefnogaeth ariannol bellach gan Gyngor Tref Aberystwyth. Mae'r bwrdd yn cwrdd bob yn ail fis ond gyda'r hyblygrwydd i gwrdd yn ôl yr angen. Ar hyn o bryd roedd Menter wrthi'n drafftio rhaglen o Ddigwyddiadau'r Haf, gyda chymorth ariannu o £5,000 gan Gyngor Tref Aberystwyth, er roedd peth ansicrwydd eleni oherwydd nad oedd y Bandstand ar gael. Gallai Rhaglen yr Haf gyflwyno adloniant gwerth £20,000 ond roedd yn dibynnu ar grantiau arian cyfatebol gan gyrff allanol. Penderfynwyd bod angen cydamseru dyddiaduron fel nad oedd gwrthdaro gyda digwyddiadau eraill ac y byddai Menter yn cwrdd â Chyngor Tref Aberystwyth ar ddiwedd mis Mawrth 2014 er mwyn cwblhau rhaglen o ddigwyddiadau'r haf hwn. Byddai'r cymorth ariannol a roddir i Fenter yn eitem agenda mewn Cyfarfod Pwyllgor Cyllid yn y dyfodol. Cytunwyd hefyd y dylai Cyngor Tref Aberystwyth ymchwilio i'r posibilrwydd o gynnig gofod desg i Menter yn 11 Stryd y Popty yn ychwanegol at gynnal cyfarfodydd ar y cyd yn fwy rheolaidd.
2 Gohebiaeth.
(a) “Stately Lighting”: Llythyr cyflwyno yn gofyn i gael eu hystyried mewn unrhyw gynigion goleuadau stryd.
(b) Mr Paul Arnold, Cyngor Sir Ceredigion: Llythyr yn gwahodd Cyngor Tref Aberystwyth i anfon dau gynrychiolydd i gyfarfod gyda Cheredigion, Cynghorau Cymuned Faenor a Llanbadarn er mwyn trafod posibilrwydd o ffurfio “Bwrdd Garddio Ardal”. (Trafodwyd o dan Agenda 6).
(c) Cyngor Sir Ceredigion: Llythyr yn tynnu sylw Cyngor Tref Aberystwyth at gyrsiau sy'n cael eu cynnal ar gyfer y rheini sydd eisiau sicrhau cymhwyster Trwydded Bersonol.
(d) Jan Fenner, Cyngor Sir Ceredigion: Llythyr yn tynnu sylw Cyngor Tref Aberystwyth at yr angen i ddiwygio'i Drwydded Safle gan mai hi sy'n cael ei henwi ar y drwydded ac ar fin ymddeol.
3 Teledu Cylch Cyfyng (CCTV).
Mynychodd Cyng. Martin Shewring gyfarfod CCTV a alwyd er mwyn trafod darpariaeth y system ar draws y sir yn y dyfodol. Daeth hi'n amlwg mai Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan oedd yr unig gyngor tref a oedd yn barod i ariannu CCTV gan fod potensial iddynt wneud hyn mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Llanbedr Pont Steffan. Dywedodd Cyngor Tref Aberteifi na fyddent yn cyfrannu at gostau CCTV. Adroddwyd yn y cyfarfod nad oedd yr heddlu yn barod i ariannu CCTV. Nododd Cyng. Ceredig Davies y byddai'n cwrdd â'r Comisiynydd Heddlu a byddai'n codi'r mater bod y dref yn colli'r gwasanaeth. Cynigiodd Cyng. Aled Davies na ddylai Cyngor Tref Aberystwyth ddarparu unrhyw ariannu ar gyfer CCTV. Derbyniwyd y cynnig hwn yn unfrydol.
4 Rhandiroedd.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn canfyddiadau'r arolwg a gynhaliwyd i ganfod a oedd llifogydd 2013 wedi llygru rhandiroedd Coedlan Pump ym Mhenparcau. Roedd y canlyniadau yn nodi bod modd defnyddio'r rhandiroedd gyda'r lefelau llygredd yn is na'r hyn oedd yn dderbyniol. Roedd y wybodaeth hon wedi'i chyflwyno i'r Gymdeithas Rhandiroedd. Penderfynwyd pe bai gan Gyngor Tref Aberystwyth ddyheadau i reoli'r rhandiroedd roedd angen ymweld â'r rhandiroedd a chwrdd â'r defnyddwyr. Penderfynwyd hefyd enwebu Cyng. Ceredig Davies a Cyng. Steve Davies i fynychu'r cyfarfod i drafod potensial sefydlu "Bwrdd Gardd".
5 Marchnad y Ffermwyr.
Roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cysylltu â Chyngor Tref Aberystwyth gyda'r posibilrwydd o gymryd yr awenau wrth reoli'r farchnad. Ers y cyswllt cyntaf, roedd Swyddogion Ceredigion wedi ailasesu'i strwythur staffio ac wedi penderfynu y byddai'n parhau i reoli'r farchnad. Byddai'r Cyngor Sir yn parhau i werthfawrogi cymorth ariannol Cyngor Tref Aberystwyth fel sydd wedi cael ei ddarparu yn ystod y blynyddoedd diweddar. Awgrymodd Cyng. Aled Davies symud Marchnad y Ffermwyr i dop y Stryd Fawr. Cynigiodd Cyng. Mererid Jones barhau â'r un lefel o gymorth ariannol â'r flwyddyn ddiwethaf, sef £7.000 sy'n rhoi blwyddyn i benderfynu ar leoliadau yn y dyfodol. Cafodd y cynnig ei eilio gan Cyng. Aled Davies a derbyniodd gefnogaeth unfrydol. Byddai gofyn i Gyngor Sir Ceredigion ymgeisio am yr ariannu yn yr un modd ag yr oedd disgwyl i unrhyw ymgeiswyr sy'n dymuno cymorth ariannol.
6 Goleuadau Stryd.
Amlinellodd Cyng. Mair Benjamin broblemau yn gysylltiedig â'r diffyg goleuadau yn ardal Stryd yr Efail a Garth y Môr yn y dref. Oherwydd bod goleuadau yn cael eu diffodd am hanner nos. Cytunodd Cyng. Brendan Somers bod problemau wedi bod yn yr ardal. Cyng. Aled Davies i gwrdd â Cyng. Wendy Morris-Twiddy, Cyng. Brendan Somers a Cyng. Mair Benjamin i weld pa lampau sydd angen eu goleuo. Angen cysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i ganfod costau cadw goleuadau ynghyn ar ôl hanner nos.
7 Walk for Life.
Poster a phamffledi wedi'u dosbarthu i aelodau.
8 Penwythnos Beicio.
Mynychodd Cyng. Ceredig Davies gyfarfod i drafod materion gweithredol yn gysylltiedig â chynnal y digwyddiad rhwng 24 – 26 Mai 2014. Byddai'r llwybr yr un peth â'r blynyddoedd blaenorol ond i'r gwrthwyneb. Bydd yn Dechrau ac yn Gorffen ar Heol y Wig. Digwyddiadau'r ras i'w cynnal ar hyd Heol y Wig. Mae'r posibilrwydd o ddosbarthu Baneri Cyngor Tref Aberystwyth yn yr un modd â'r llynedd wedi'i gyfeirio at Gyllid.
9 Materion sy'n weddill.
Y diweddaraf ar 11 Stryd y Popty: Mae asiant y perchennog yn ystyried codi dau bolyn baner y tu allan i Rif 11 a derbyniodd hynny gefnogaeth unfrydol.
10 Parc Bwrdd Sgrialu.
Cynhaliwyd cyfarfod yn 11 Stryd y Popty a rhoddwyd cyflwyniad yno ar gynllun arfaethedig y parc bwrdd sgrialu. Y consensws oedd bod yr hyn sy'n cael ei gynnig yn llawer gwell na'r hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn barc bwrdd sgrialu.
11 Goleuadau Addurn.
Yn dal i aros am gadarnhad bod ariannu yn ei le.
Derbyniwyd y diweddariad a ganlyn: -
- Angen ysgrifennu at y Siambr Fasnach a Chlwb Busnes Aberystwyth yn ymwneud â'r sefyllfa CCTV.
- Marchnad y Ffermwyr – Llongyfarchodd y Cyngor Farchnad y Ffermwyr Aberystwyth ar gyrraedd rhestr fer Gwobrau Radio 4. Rydym yn aros am y canlyniad ym mis Mai. Mae Jan Fenner yn gadael Cyngor Sir Ceredigion ac mae'r Cyngor yn edrych ar opsiynau. A allem ni gyflogi Jan yn uniongyrchol yn y tymor byr o'r £7,000. Cytunwyd yn unfrydol y byddai Cyng. Ceredig Davies yn dechrau trafodaethau gyda Jan am gyfradd dalu.
- Parc Bwrdd Sgrialu - gwahoddir yr holl Gynghorwyr i ddau gyfarfod gyda Freestyle ar 27 Mawrth 2014 am 3pm neu 6pm. Mae cyfarfod hefyd yn cael ei gynnal gyda Richard Duggan am 10.30am - 28/3/2014. Mae cais loteri terfynol (cyfnod I) wedi'i gyflwyno.
- Goleuadau addurn – Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r arian ond nid oes digon o amser i'r goleuadau gael eu codi mewn pryd gan fod angen ei wario cyn 31/3/2014.
o Roedd profforma neu daliadau ymlaen llaw wedi'u gwrthod.
o A oes modd i ni brynu'r cyfarpar ac adfer costau cyfarpar a mynd i gost gosod o'n harian ein hunain?
o Ni allem ofyn i'r cyflenwr gadw'r cyfarpar yn y tymor byr gan y byddai hyn yn erbyn gofynion archwilio Llywodraeth Cymru.
o Angen ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ystyried rhesymoldeb a hyblygrwydd yr amserlen. Angen cysylltu ag Alun Davies ac Edwina Hart hefyd.
Cofnod 175 - Cyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD derbyn a mabwysiadu cofnodion y cyfarfod uchod.
COFNODION Y PWYLLGOR CYLLID A SEFYDLIAD A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 17 MAWRTH 2014.
Yn bresennol:
Cyng. Wendy Morris-Twiddy
Cyng. Martin W Shewring
Cyng. Alun Williams
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Ceredig Davies
Cyng. Sue Jones-Davies
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Kevin Roy Price
Cyng. Brian Davies
Ymddiheuriadau:
Cyng. Mererid Jones
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Dylan Lewis
Yn absenoldeb y Cadeirydd Cyng. Mererid Jones, cynigiwyd y gallai Cyng. Brian Davies gadeirio'r cyfarfod.
1. Datgan Diddordeb - Dim
2. Gohebiaeth
- Arad Goch – yn gofyn am £500 ar gyfer derbyniad i westeion Agor Drysau.
- Cangen Aberystwyth Y Lleng Brydeinig. Cytunwyd cefnogi digwyddiadau Gwasanaeth Cofio Rhyfel Byd Cyntaf 3 Awst 2014. Ffurflen gais i'w hanfon.
- Clerc a gwefan y Cyngor. Cytunwyd i ddod â'r tanysgrifiad i ben nes clywir yn wahanol
- Rhyngrwyd a chysylltiad llinell BT. Cyng. Kevin Price i edrych am gyflenwyr amgen
Cyng. Ceredig Davies yn gwirio bod y taliadau ailgylchu wedi'u canslo. Nodwyd bod gwariant gweinyddu swyddfa wedi'i ostwng a bod arbediad yn cael ei wneud. Yr holl dreuliau eraill wedi'u pasio
3. Adolygwyd a chytunwyd mabwysiadu'r cyfrifon ar gyfer mis Chwefror 2014
4. Cwestiynau yn ymwneud â materion ariannol. Ar gais Cyng. Martin Shewring trafodwyd sefyllfa'r CCTV. Cafodd llythyr ei ddarllen gan Gareth Ravel, Rheolwr tafarn yr Academy. Roedd y llythyr wedi'i gyfeirio at Chris Salmon Comisiynydd yr Heddlu ac at Heddlu Dyfed Powys, roedd yn tynnu sylw at bryderon o beidio â chael CCTV yn ardal Aberystwyth. Tynnodd y Cyng. Shewring sylw bod Economi Gyda'r Nos a Goleuadau Nos wedi annog pobl i ysgrifennu at y Comisiynydd Heddlu. Amcangyfrifodd Cyng. Alun Williams y byddai'n costio £150 mil am CCTV i gynnwys Ceredigion gyfan. Nid yw Llanbedr Pont Steffan yn siŵr beth y byddant yn ei wneud o ran CCTV, dywedodd Cyng. Shewring pe bai Aberystwyth yn ymuno â'r cytundeb yna byddai Llanbedr Pont Steffan yn ystyried. Mae Aberteifi ac Aberaeron wedi tynnu yn ôl o'r grŵp.
Y penderfyniad yn Rheolaeth Gyffredinol Cyngor Tref Aberystwyth oedd na fyddai taliad yn cael ei wneud am CCTV gan ei fod yn ben agored, gan ychwanegu y dylai Heddlu Dyfed Powys gymryd cyfrifoldeb.
Nid oes arian yn cael ei roi gerbron gan gwmnïau eraill. Awgrymwyd cysylltu â'r Siambr Fasnach yn gofyn am eu barn.
I'w godi yn y cyngor llawn a ddylai llythyr gael ei anfon at y Comisiynydd Heddlu yn datgan mai cylch gorchwyl craidd yr heddlu yw cael system CCTV a dylid ei gynnwys yng nghylch gorchwyl yr heddlu.
Cynnig - Cefnogi argymhelliad y pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol i fynd i'r cyngor llawn nesaf. Pasiwyd yn unfrydol gan holl aelodau'r Pwyllgor Cyllid.
5. Materion a gyfeiriwyd gan Reolaeth Gyffredinol/Cyngor Llawn
Prosiect Gardd. Yn cwrdd yng nghanol mis Mawrth parthed gofod rhandiroedd yn ward Faenor. Mynychodd gynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberystwyth, LLCC, Cyngor Faenor a Phrifysgol Aberystwyth gyfarfod cynhyrchiol. Pob grŵp i fod yn rhan o'r cynlluniau i'r dyfodol. Mae 70 o bobl ar restr aros am randir, gyda 64% yn byw yn Aberystwyth. Mae Cyngor Tref Aberystwyth eisiau gweld cynllun busnes a chreu bwrdd o aelodau o'r holl grwpiau. Mae'r Gymdeithas Randiroedd wedi'i lleoli ym Mhenparcau yn gymdeithas ar wahân i ddatblygiad Waun Fawr.
Menter Aberystwyth. Trafodwyd y penderfyniad a wnaed yn Rheolaeth Gyffredinol i ostwng yr arian ar gyfer adloniant yr Haf o £10 mil i £5 mil. Yn aros i adolygu'u cais sydd angen ei gyflwyno cyn y dyddiad cau ar ddiwedd mis Mawrth.
Arhosfan Fws Penparcau, Coedlan Pump. Cyfrifoldeb Cyngor Tref Aberystwyth, a ddylid ei symud neu a ddylai barhau ar y safle. Penderfynwyd - trafod sefyllfa'r lloches fws yn y cyfarfod Rheolaeth Gyffredinol nesaf.
6. Unrhyw faterion eraill ar ddisgresiwn y Cadeirydd - Dim.
Cofnod 176 - Ceisiadau Cynllunio sy'n sensitif o ran amser
A140178 – Dymchwel bloc toiledau Penparcau
Oherwydd gwaith Cyng. Lorrae Jones-Southgate, mae'r toiled yn y Clwb Bocsio bellach ar gael i'r cyhoedd, ac mae'r toiledau cyfredol wedi mynd yn adfail. Dim gwrthwynebiadau.
A140146 – Maes parcio dros dro Trefechan
Nododd yr adroddiad bod 156 o leoedd parcio ceir, 6 bae parcio i'r anabl a 4 bae parcio beiciau modur yn y maes parcio.
Mae'r mynediad ar hyn o bryd trwy Erddi'r Ffynnon a byddai hyn yn cael ei gau a byddai mynediad newydd trwy Green Gardens. Nid yw priffyrdd Cyngor Sir Ceredigion yn gwrthwynebu hyn.
Mae effaith weledol yr ardal wedi gwella ers dymchwel ar gyfer y preswylwyr.
Mae angen asesiad canlyniad llifogydd, ac mae'n cael ei ystyried yng Nghylchfa Llifogydd 3. Mae tebygoliaeth 1:200 y flwyddyn o lifogydd llanw. Ni wnaeth y safle orlifo ym mis Mehefin 2012.
Nododd Cyng. Martin Shewring ei fod wedi derbyn pryderon gan breswylwyr y byddai hyn yn cynyddu lefel y parcio ar strydoedd Trefechan. Y prif amserau defnydd fyddai yn gynnar yn y bore ac ar ddiwedd y diwrnod gwaith a fyddai'n cyd-fynd ag amserau ysgol plant. Nododd y dylai'r cais gael ei wrthod.
Nododd Cyng. Mererid Jones y prinder parcio yn y dref ac y dylai'r datblygiad gael ei groesawu.
Nododd Cyng. Endaf Edwards y byddai hyn yn gwella'r gwelededd ac y byddai'n cynyddu'r risg o ddamweiniau.
Dywedodd Cyng. Mair Benjamin bod angen mwy o arwyddion pe bai'r datblygiad hwn yn mynd rhagddo.
Nododd Cyng. Brian Davies bod cyfarfod cyhoeddus wedi’i gynnal ym mis Rhagfyr a bod y rhan fwyaf o bobl a oedd yn bresennol yn fodlon â'r atebion a roddwyd.
Dywedodd Cyng. Lucy Huws bod angen mynd i'r afael â'r broblem cartrefi modur ar Draeth y De.
CYTUNWYD nad oedd gwrthwynebiadau i'r datblygiad yn amodol ar wella arwyddion.
Cofnod 177 - Gohebiaeth.
- Negeseuon e-bost gyda phryderon yn ymwneud â'r CCTV gan
i. Jacqui Wetherburn – Coleg Ceredigion
ii. Ursula Blair – Ship & Castle
iii. Lee Price – Royal Pier
iv. Katy Johnson – Cydlynydd Goleuadau Nos (Cyngor Sir Ceredigion)
v. Gareth Revell – The Academy
vi. Sandra Evans – Swyddog Ymwybyddiaeth (Cyngor Sir Ceredigion)
- Derbyniwyd ceisiadau am ariannu gan: -
i. Dyddiadur Aber- Nid yw Menter Aberystwyth bellach yn ariannu'r dyddiadur.
ii. Radio Beca
iii. Prism
Cytunwyd y byddai'r tri yn derbyn ffurflen gais am grant.
- Dyddiadau er gwybodaeth
i. Ymgynghoriad parc bwrdd sgrialu - 27/3/2014 am 3pm a 6pm
ii. Cyfarfod gyda Richard Duggan yn ymwneud â'r Parc Bwrdd Sgrialu – 28/3/14 – 10.30am
iii. Cyfarfod ymgynghorol Cyngor Sir Ceredigion– 3/4/14 – 5.30pm – Ystafell 1, Canolfan Rheidol – cytunwyd y byddai Cynghorwyr Mair Benjamin a Martin Shewring yn mynychu.
iv. Digwyddiad Cynnal y Cardi– 10/5/14 – 11am i 4pm yn Llanerchaeron.
v. Ras yr Iaith – a gynhelir ar 20/6/14. Dim gwrthwynebiadau i'r ras.
vi. Gwasanaeth Goffa yn Eglwys San Mihangel ar 3/8/14 gan y Lleng Brydeinig Frenhinol. Roeddent yn dweud eu bod angen siop wag i arddangos pethau cofiadwy. Awgrymwyd y dylent gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion am fewnbwn.
- Gohebiaeth gyffredinol wedi'i derbyn
i. Cyngor gan Un Llais Cymru yn ymwneud â phwy ddylai weinyddu yn Cyflwyno'r Maer yn absenoldeb y Clerc.
ii. Llythyr gan Jazz Swingers yn gofyn a oeddem yn parhau gyda'r rhaglen Adloniant yr Haf. Cytunwyd trosglwyddo'r llythyr at Fenter Aberystwyth.
iii. Llythyr gan Theresa May Bridget Vaccaro – nodwyd y byddem yn cydnabod y llythyr ac yn gofyn am eglurhad.
iv. Llythyr gan y Comisiynydd Gwybodaeth yn ymwneud â chais Rhyddid Gwybodaeth gan Miss Carole Prime. Dosbarthwyd ymateb drafft.
v. Llythyr gan Gyngor Sir Ceredigion yn ymwneud â'r rhandir ym Min y Ddol ac yn ailddechrau trafodaethau ar gyfer trosglwyddiad. Cytunwyd ei drosglwyddo i'r Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.
vi. Llythyr gan Keith Dale, Cyngor Sir Ceredigion yn datgan y gallai ariannu ar gyfer y wefan gael ei hymestyn i 2014-15. Nodwyd y byddem yn ymateb i ddatgan bod y wefan ar waith.
vii. E-bost gan PEG Cyngor Sir Ceredigion. Byddai cynnwys Esquel ar arwyddion Aberystwyth yn gofyn am ailgynllunio a chost cynhyrchu. Byddai'n rhaid i Gyngor Tref Aberystwyth dalu am 50% o'r gost hon. Cytunwyd gofyn am brisiau.
viii. Adroddiad RAY Ceredigion ar gasgliad adolygiad o ardaloedd chwarae. Mae angen i ni gadarnhau bod y meysydd chwarae a nodir o fewn ein perchnogaeth.
ix. Neges e-bost gan Carl Williams mewn perthynas â phroblemau posibl gyda symud i'r llawr cyntaf a'r angen i godi hysbysfwrdd.
x. Llythyr gan Bradley Reynolds – myfyriwr lefel A sydd â diddordeb yn ein gwefan. Cytunwyd y byddai Cyng. Kevin Price yn ymateb.
xi. Copi o lythyr gan Mark Drakeford at Rebecca Evans AC yn ymwneud ag indemniad cyfreithiol ar gyfer cynrychiolwyr Cyngor Iechyd Cymuned. Er gwybodaeth
xii. Llythyr gan Triathlon Aberystwyth -28/9/14- yn gofyn a oes gennym unrhyw wrthwynebiadau i'r ras ar Draeth y Gogledd. Nodwyd nad oedd unrhyw wrthwynebiadau.
Cafodd cylchlythyron eraill eu dosbarthu ond nid eu trafod.
Cofnod 178 - Cwestiynau yn ymwneud â materion i'r cylch gwaith hwn yn unig.
Ni chafwyd unrhyw un.
Cofnod 179 – Ystyried gwariant
PENDERFYNWYD gwneud y taliadau a ganlyn: -
Taledig |
Disgrifiad |
Swm (£) |
Cyngor Sir Caerfyrddin |
Cyflog Chwefror |
5,095.77 |
Cyngor Sir Ceredigion |
Ffi ar gyfer Goruchwyliwr Adeilad Dynodedig ar gyfer Aled Davies |
23.00 |
E Carl Williams |
Swyddfa 17/2/14 i 14/3/14 |
600.00 |
Dr Karen Kemish |
Apwyntiad Iechyd Galwedigaethol 3/3/2014 |
80.00 |
Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda |
Cymorth i J O Griffiths - iechyd galwedigaethol |
339.00 |
Cyngor Sir Caerfyrddin |
Ffi gwasanaeth cyflogres 2013-14 |
264.00 |
Afan Construction Limited |
Llogi uned storio 9/11/13 i 7/2/14 |
312.00 |
Aberystwyth Removal & Storage |
Llogi uned storio |
904.80 |
Cynghorydd Dylan Lewis |
Teithio i Fachynlleth (cyfarfod rheilffordd) |
9.00 |
Cynghorydd Martin Shewring |
Teithio i Aberaeron (cyfarfod CCTV) |
18.00 |
Viking |
Deunydd ysgrifennu swyddfa |
7.64 |
Purchase Power |
Rhentu peiriant ffrancio |
21.54 |
BT |
Gwasanaethau rhyngrwyd |
191.22 |
Dr Karen Kemish |
Apwyntiad Iechyd Galwedigaethol 17/3/2014 |
80.00 |
Cynghorydd Kevin Price |
Cynnal y wefan |
41.99 |
Mona Lisa |
Baner i'r Castell |
10.00 |
|
|
7,997.96 |
Cofnod 180 – Adroddiadau ar Lafar gan Gynghorwyr Sir Ceredigion
Nododd Cyng. Alun Williams bod disgwyl cyhoeddiad mewn perthynas â threnau ychwanegol yn fuan. Mae Stryd Thespis bellach wedi'i adnewyddu gydag ariannu Adfywio.
Mae pwyllgor defnyddwyr yr harbwr bellach wedi dychwelyd o Aberaeron i Aberystwyth, ac fe'i cynhelir am 1pm ar 7/4/14 yn Neuadd Goffa, Penparcau. Fe ddosbarthodd daflenni ar gyfer digwyddiadau cofio'r llifogydd.
Nododd Cyng. Ceredig Davies bod gwaith wedi'i wneud ar Dan Dre a Siambrau Burton. Mae 2 fin ailgylchu ar olwynion yn y Castell erbyn hyn.
Rydym angen marsialiaid ar gyfer digwyddiad Cyflwyno'r Maer ar 11 Mai 2014.
Oherwydd cau'r ganolfan yn Aberaeron, mae rhai bellach yn gorfod teithio i'r Ganolfan Ddydd yn Aberystwyth ac mae hyn yn gosod straen ar y gwasanaeth.
Cofnod 181 – Adroddiadau gan Grwpiau Allanol
Derbyniwyd adroddiadau gan - Cyng. Dylan Lewis - Grŵp defnyddwyr rheilffordd
Cyng. Mair Benjamin - Grŵp Economi Gyda'r Nos
Cytunwyd mai Dylan Lewis fyddai'r cynrychiolydd ffurfiol ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth ar gyfer y Grŵp Defnyddwyr Rheilffordd.
Cofnod 181 – CCTV ar gais Cyng. Martin Shewring
Roedd Cyng. Martin Shewring eisiau gwybod a oedd y Cyngor yn barod i agor trafodaeth gydag Awdurdod/Comisiynydd yr Heddlu.
Mae angen i Gyngor Tref Aberystwyth roi ymateb ffurfiol i Gyng. Ray Quant ein bod ni angen gwybodaeth ddigonol am y manylion sy'n cael eu cynnig: -
- A fydd y system yn cael ei monitro gan yr heddlu?
- Pa mor aml fydd y system yn cael ei chynnal?
- Pwy fydd yn talu os fydd y system yn torri lawr?