Aberystwyth Council

CYNGOR TREF ABERYSTWYTH

COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR LLAWN A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD MAWRTH 27 MAI 2014 am 6.30pm.

Yn bresennol:

Cyng Brenda Haines

Cyng Endaf Edwards

Cyng Mair Benjamin

Cyng Lucy Huws

Cyng Mark Strong

Cyng Brendan Somers

Cyng Kevin Roy Price

Cyng Mererid Jones

Cyng Brian Davies

Cyng Alun Williams

Cyng Steve Davies

Cyng Jeff Smith

Ymddiheuriadau:

Cyng Dylan Lewis

Cyng Wendy Morris – Twiddy

Cofnod  12.

Datgan Diddordeb:    Dim

Cofnod  13

Cyfeiriadau Personol:    Dim

Cofnod  14

Adroddiad o Weithgareddau'r Maer:   Byddai'r adroddiad yn cael ei ddosbarthu yn unigol i bob aelod.

Cofnod  15

Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2014:  

Cofnod  186 – dylai pwynt 4 ddweud request ac nid bequest.

Dylai cyllid gynnwys taliadau unigol sydd wedi'u cymeradwyo.

Derbyniwyd y cofnodion yn rhai cywir yn amodol ar y newidiadau.

Cofnod  16

COFNODION CYFARFOD BLYNYDDOL Y CYNGOR A GYNHALIWYD YN EGLWYS Y SANTES FAIR, PENPARCAU, ABERYSTWYTH DDYDD GWENER 9 MAI 2014 AM 6.30pm

Yn bresennol:     

Cynghorydd Wendy Morris-Twiddy

Cynghorydd Brenda Haines

Cynghorydd Dylan Lewis

Cynghorydd Jeff Smith

Cynghorydd Brendan Somers

Cynghorydd Aled Davies

Cynghorydd Mererid Jones

Cynghorydd Ceredig Davies

Cynghorydd Martin W Shewring

Cynghorydd Brian Davies

Cynghorydd Sue Jones-Davies

Cynghorydd Mair Benjamin

Cynghorydd Endaf Edwards

Cynghorydd Kevin Roy Price

Cynghorydd Steve Davies

Cynghorydd Lucy Huws

Cynghorydd Alun Williams

Ymddiheuriadau:

Cynghorydd Mark Strong

Cofnod  1

Fe wnaeth Caplan y Maer, y Parchedig Judith Morris agor y cyfarfod gyda gweddi.

Cofnod  2

Adolygu'r Flwyddyn.

Rhoddodd y Maer y Cynghorydd Wendy Morris-Twiddy adolygiad manwl o'i blwyddyn yn ei swydd a diolchodd i aelodau'r cyngor ac aelodau ei theulu am eu cefnogaeth yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

Cofnod  3

Diolchodd y Cynghorydd Mererid Jones i'r Maer a oedd yn ymddeol am ei dyletswyddau yn ystod ei Blwyddyn fel Maer.

Cofnod  4

Penodi Maer ar gyfer y Flwyddyn Faerol  2014-15.

Cynigiwyd enw'r Cynghorydd Brenda Haines gan y Cynghorydd Ceredig Davies a'i eilio gan y Cynghorydd Sue Jones-Davies. Pleidleisiwyd ar y cynnig a PHENDERFYNWYD yn unfrydol penodi'r Cynghorydd Brenda Haines yn Faer ar gyfer y Flwyddyn Faerol 2014-15.

Cofnod  5

Penodi Dirprwy Faer ar gyfer y Flwyddyn Faerol 2014-15.

Cynigiwyd enw'r Cynghorydd Endaf Edwards gan y Cynghorydd Brian Davies a'i eilio gan y  Cynghorydd Brendan Somers. Pleidleisiwyd ar y cynnig a PHENDERFYNWYD yn unfrydol penodi'r Cynghorydd Endaf Edwards yn Ddirprwy Faer ar gyfer y Flwyddyn Faerol 2014-15.

Cofnod  6

Gadawodd y Parti Arwisgo y cyfarfod er mwyn arwisgo'r Maer newydd.

Cafodd y Cynghorydd Endaf Edwards ei arwisgo fel Dirprwy Faer gyda chadwyn y swydd.

Cofnod  7

Datgan Swydd.

Ar ôl dychwelyd i'r cyfarfod, fe wnaeth y Cynghorydd Brenda Haines y Datganiad Swydd fel Maer a'i lofnodi a chafodd hynny ei dystio gan y sawl wnaeth ei chynnig a'i heilio.

Cofnod  8

Fe wnaeth y Maer y Cynghorydd Brenda Haines gyfarch y rheini yn bresennol a diolch i'w chyd gynghorwyr am ei henwebu a'i phenodi fel Maer.

Cofnod  9

Gwnaed y penodiadau a ganlyn:

Consort/Cymar y Maer.........................................................................................Mrs Jill Atkin.

Deputy Mayor/Dirpwy Faer............................................................Cynghorydd Endaf Edwards.

Mayors Chaplin/Caplan y Maer...........................................................Y Parchedig Andy Herrick.

Cofnod  10

Fe wnaeth Caplan y Maer, Y Parchedig Andy Herrick weddïo dros y Maer a'r penodedigion newydd yn ystod eu cyfnod yn y swydd.

Cofnod  11

Gan na chafwyd unrhyw fusnes arall, fe wnaeth y Maer ddatgan bod y cyfarfod wedi'i dorri.

-----------------------------------------------------------------------------------------

Cofnod  17

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD MAWRTH 6 MAI 2014 AM 6.30pm

Yn bresennol:

Cyng Endaf Edwards

Cyng Brenda Haines

Cyng Mair Benjamin

Cyng Wendy Morris-Twiddy

Cyng Ceredig Davies

Cyng Lucy Huws

Cyng Kevin Roy Price

Ymddiheuriadau:

Cyng Mererid Jones

Cyng Brian Davies

Cyng Sue Jones-Davies

Cyng Jeff Smith.

Derbyniwyd yr ohebiaeth a ganlyn gan Gyngor Sir Ceredigion.

Penderfyniadau cynllunio:

A130960 – wedi'i wrthod.

Cais i dynnu simnai o friciau ar Dŷ Talbot. Credwyd y byddai'r cynlluniau hyn i dynnu'r simnai yn cael effaith niweidiol ar ansawdd pensaernïol  yr adeilad hwn. Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn falch o'r penderfyniad cynllunio.  

A140076 – wedi'i gymeradwyo

A140091 – wedi'i gymeradwyo

A140107 - wedi'i gymeradwyo

A140108CA – wedi'i gymeradwyo

  • Ystyried ceisiadau cynllunio

Gofynnodd y Cadeirydd bod aelodau sy'n edrych ar gopïau ceisiadau cynllunio yn swyddfa'r Cyngor yn eu gadael yn daclus ac yn gyflawn ar ôl hynny.

A140208

Arddangos arwyddion

28 Ffordd y Môr, Aberystwyth

Nid oes gennym wrthwynebiad i'r arwydd ffasgia newydd, ond yn gofyn i'r arwydd newydd fod yn ddwyieithog. Mae digon o le ar yr arwydd arfaethedig i gynnwys y geiriau ‘Bar Ysgytlaeth’, yn ychwanegol at y Saesneg ‘Milkshake Bar’.

A140261

Gosod 3 uned aerdymheru ac 1 uned cyddwysydd

19 – 21 Rhodfa'r Gogledd, Aberystwyth

Er bod y cais hwn yn cyfeirio ar siop Tesco Express ar y safle, atgoffwyd yr aelodau i gyfyngu eu sylwadau i'r datblygiad arfaethedig yn unig.

Dim gwrthwynebiad.  Rhaid i'r unedau fod mor dawel â phosibl, er mwyn osgoi effeithiau niweidiol ar amwynder preswylwyr lleol.

A140119

Amrywiad i amod 2 caniatâd A061132

Heol yr Ysbyty, Aberystwyth

Dirprwywyd y Cadeirydd i ymateb i Gyngor Sir Ceredigion, ar ôl ymgynghori gyda'r Cynghorwyr Alun Williams a Mark Strong.

A140148

Tynnu Peiriant Gwerthu Stampiau o ffrâm ffenestr flaen a gosod cwarel wydr sengl a fydd yn gweddu orau â'r ffenestri sydd yno. Gwaith adnewyddu mewnol.

Swyddfa'r Post, 8 Y Stryd Fawr, Aberystwyth.

Er bod y cynlluniau yn nodi mai dim ond y tu fewn i swyddfa bost y dref sy'n amodol ar newid, mae'n ymddangos y bydd rhai mân newidiadau i'r tu allan hefyd. PENDERFYNWYD gofyn am ragor o fanylion am y cais hwn.

----------------------------------

Mynegodd y Cyng Mark Strong bryder am glymog Japan. Esboniodd Cyng Mererid Jones y bydd Mr John Hadlow yn delio â'r gwaith fel mater brys. Gofynnodd Cyng Lucy Huws sut y byddant yn cael gwared ar glymog Japan. Hysbysodd Cyng Alun Williams aelodau y byddai arbenigwyr yn cynnal y gwaith hwn.

Gofynnodd Cyng Endaf Edwards i'r holl aelodau sy'n ymweld â'r swyddfa i edrych ar faterion cynllunio i sicrhau bod yr holl ohebiaeth yn cael ei gadael yn y swyddfa.

Cofnod  18

COFNODION Y PWYLLGOR RHEOLAETH GYFFREDINOL A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD,   

11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 12 MAI 2014

Yn bresennol :

Cyng Ceredig Davies

Cyng Martin W Shewring

Cyng Brian Davies

Cyng Mark Strong

Cyng Jeff Smith

Cyng Brenda Haines

Cyng Sue Jones-Davies

Cyng Mair Benjamin

Cyng Wendy Morris-Twiddy

Cyng Endaf Edwards

Cyng Mererid Jones

Cyng Kevin Roy Price

Cyng Alun Williams (o 7.25pm).

Ymddiheuriadau:

Cyng Steve Davies

Cyng Dylan Lewis

Datgan Diddordeb - Dim wedi'i nodi

Gohebiaeth

Andy Blythe.(Marchnad y Ffermwyr).

Yn gofyn am gyfarfod yn ymwneud â Marchnad y Ffermwyr. Penderfynwyd y byddai'r Cynghorwyr Martin Shewring, Sue Jones-Davies, Brenda Haines, Mair Benjamin a Ceredig Davies yn cyfarfod â hwy. Yr amser a ffefrir yw 5:30, dyddiad i'w drefnu a'i gadarnhau gan Ceredig.

Gŵyl Seiclo Aber

Gwahoddiad i dderbyniad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ddydd Iau, Mai 22 am  6:30pm. Y rheini yn cynrychioli'r Cyngor Tref fydd y Cynghorwyr Mair Benjamin, Kevin Price, Wendy Morris-Twiddy, Endaf Edwards a Ceredig Davies.

Neges e-bost gan Tom Delph-Janiurek, Traffig Cyngor Sir Ceredigion.

 Y gost o gyflenwi arwydd Aberystwyth fyddai £950. Penderfynwyd ymateb trwy ddatgan y byddai'r Cyngor Tref yn trafod gyda Chyngor Sir Ceredigion ar y mater.

Neges e-bost gan Johanna M  Shaw. Arwyddion stryd treftadaeth Aberystwyth.

 Roedd hi'n gallu ariannu arwydd Aberystwyth posibl fel rhan o'r prosiect arwyddion stryd treftadaeth. Penderfynwyd ymateb trwy ddiolch iddi a chadarnhau y byddai'r Cyngor Tref yn hoffi cydweithio ar arwydd wrth yr Orsaf Heddlu.

Paul Arnold, Cyngor Sir Ceredigion - Rhandiroedd.

 Datganodd Cyng Mark Strong ddiddordeb gan fod gan ei wraig randir. Fe adawodd yr ystafell gan ddychwelyd ar ôl i'r pwyllgor symud ymlaen i'r eitem agenda nesaf yn unig. Roedd Paul Arnold wedi darparu cais am wybodaeth yn ymwneud â defnyddwyr rhandiroedd cyfredol a chostau cyfredol. Penderfynwyd ar yr angen i fod yn glir gyda'r hyn y mae defnyddwyr rhandiroedd ei eisiau, roedd angen gwneud hyn trwy drefnu cyfarfod rhwng y defnyddwyr a chynrychiolwyr Cyngor Tref. Byddai'r Cynghorwyr Ceredig Davies, Brenda Haines, Mair Benjamin, Jeff a Mererid Jones yn cwrdd â defnyddwyr y rhandiroedd i weld beth oedd eu dyheadau. Byddai'r holl ddeiliaid rhandiroedd yn derbyn gwahoddiad.

Menter Aberystwyth

Gofynnodd Menter i'r Cyngor Tref amlinellu'r meini prawf ar gyfer beirniadu'r "Wobr Atyniad Gorau". Penderfynwyd mai'r meini prawf fyddai:

Hygyrchedd (h.y. Cyfeillgar i'r anabl)

Gwerth am arian (h.y. Fforddiadwyedd)

Hyd yr apêl (h.y. A yw'n addas i deuluoedd, pobl wedi ymddeol, plant ifanc)

Angen sicrhau bod pawb yn anfon ymlaen y ddolen at y we i wneud enwebiadau.

Menter Aberystwyth - Rhaglen Adloniant yr Haf

Cyflwynwyd copi o'r rhaglen gan gynnwys Castell Roc i'w gynnal ar naill ai 12 neu 19 Gorffennaf.

Roedd Cyngor Tref Aberystwyth yn parhau yn ymrwymedig i ddarparu £5,000 o arian tuag at raglen adloniant Menter.

Nodwyd y byddai ffair haf Penparcau yn cael ei chynnal ar 12 Gorffennaf a dylid gofyn i Menter drefnu Castell Roc ar yr 19.

Gohebiaeth Ychwanegol

Cost arwyddion newydd, y mater i'w drosglwyddo i'r pwyllgor cyllid.

Nid oedd y ffôn yn y swyddfa yn bodloni gofynion y cyngor, materion yn ymwneud â'i allu i recordio negeseuon sy'n dod i mewn ac allan. Dylai Carl brynu ffôn newydd yn ei swydd fel Swyddog Ariannol Cyfrifol dros dro, yn unol â'r rheoliadau ariannol.

Roedd angen rhywun yn y swyddfa yn ystod y Dydd Iau, Dydd Gwener a Dydd Llun i ddod. Cytunodd y Cynghorwyr Kevin Price, Sue Jones-Davies a Brenda Haines i fod yn bresennol yn y swyddfa.

Diweddaraf ar Safle

Dim cynnydd, nid oedd Huw Bates, cyfreithiwr, wedi clywed unrhyw beth.

Roedd Canolfan Cyngor ar Bopeth wedi rhoi gwybod yn anffurfiol nad oeddynt angen gofod swyddfa.

Roedd SEREN eisiau defnyddio ystafell ar Ddyddiau Llun, 11am i 4pm. Penderfynwyd y byddai'r Cyng Mererid Jones yn eu gwahodd i weld pa ystafell oedd ar gael.

Roedd asiant y landlord wedi cysylltu â Rheoli Adeiladu er mwyn pennu capasiti y llawr cyntaf e.e. nifer y bobl a allai fod yn yr adeilad ar unrhyw un pryd.

Parc Bwrdd Sgrialu

Datganodd Cyng Mark Strong ddiddordeb gan ei fod yn aelod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Ceredigion ac fe adawodd yr ystafell gan ddychwelyd ar ôl i'r pwyllgor symud ymlaen i'r eitem nesaf ar yr agenda yn unig.

Roedd cais cynllunio wedi'i gyflwyno a'i dderbyn fel cais dilys.

Roedd trafodaethau wedi'u cynnal gydag adran ystadau Cyngor Sir Ceredigion yn ymwneud ag ymestyn y brydles ar Gae Kronberg hefyd i isafswm o 20 mlynedd,  gan fod hynny'n hanfodol ar gyfer arian y loteri. Byddai'r mater yn cael ei roi fel eitem agenda ar gyfer cyfarfod cabinet Ceredigion ym mis Mehefin.

Roedd angen cynnal cyfarfod ar y cyd rhwng Cyngor Tref a Phwyllgor Gefeillio Kronberg er mwyn trafod enwi'r parc bwrdd sgrialu newydd.

Diweddaraf ar Dwrnamaint Gwyddbwyll

Roedd Cyng Ceredig Davies yn trefnu creu tri bwrdd gwyddbwyll awyr agored a fyddai'n nodwedd yn ystod y bencampwriaeth wyddbwyll ar ddod. Byddent yn cael eu lleoli ar y Prom, Sgwâr Neuadd y Brenin a Sgwâr Owain Glyndŵr.

Diweddaraf ar Neuadd y Farchnad

Yn dal i aros am gynllun diwygiedig. Cyng Mair Benjamin i godi'r mater gyda masnachwyr Neuadd y Farchnad. Anfonwyd llythyr hefyd ar Gyngor Ceredigion yn gofyn a ellid gosod blodau o amgylch Neuadd y Farchnad.

Mr Glan Davies - Diffibliwyr

Cafodd yr eitem hon ei gohirio hyd at y Cyfarfod Rheolaeth Gyffredinol nesaf.

Drysfa Ffordd y Gogledd

Roedd angen torri'r gwair o fewn y Ddrysfa. Cyng Ceredig Davies i ddilyn ymlaen â'r mater.

Arwyddion Dim Ysmygu.

Roedd arwyddion Dim Ysmygu o fewn ardaloedd chwarae yn cael eu cynnig gan Gyngor Ceredigion. Penderfynwyd caniatáu iddynt gael eu gosod ym mharc Ffordd y Gogledd a MUGA Penparcau. Roedd ardaloedd chwarae eraill eisoes wedi'u dynodi gan Gyngor Ceredigion fel mannau ble y byddent yn codi arwyddion Dim Ysmygu.

Gofynnodd Cyng Mair Benjamin a allai godi rhai materion sy'n bodoli ers amser maith. Cytunodd y Cadeirydd ond gofynnodd yn y dyfodol y dylai materion o'r fath gael eu gosod fel eitemau agenda.

Cardiau Teyrngarwch

Dim cynnydd gan nad oedd hynny'n bosibl ar y pryd.

Man Gwefru Cerbydau Trydan

Adroddodd Cyng Alun Williams nad oedd hyn wedi'i symud ymlaen gan nad oedd wedi derbyn cefnogaeth Siambr Fasnach Aberystwyth.

Cyllideb a Neilltuwyd i Deledu Cylch Cyfyng

 Cyfeiriwyd y mater at y Pwyllgor Cyllid.

Coeden Nadolig

Mater i'w drafod yng nghyfarfod Rheolaeth Gyffredinol yn y dyfodol.

Nodwyd bod Arwisgo'r Maer a Pharêd y Maer wedi bod yn ddigwyddiadau llwyddiannus, diolchodd y pwyllgor i bawb a oedd wedi bod yn gysylltiedig â threfnu materion. Rhoddwyd cydnabyddiaeth hefyd i'r modd yr oedd Carl Williams wedi cynnal y trafodion yn ystod Arwisgo'r Maer.

  • Cafwyd cydnabyddiaeth fod Gŵyl Feicio Aberystwyth wedi bod yn llwyddiannus iawn ac y dylid diolch i'r trefnwyr am ddigwyddiad mor dda
  • Dylid rhoi rhestr o enwau i Menter o'r aelodau a fydd yn mynychu Aber yn Gyntaf
  • Roedd gwair yn Nrysfa Ffordd y Gogledd wedi'i dorri
  • Gofynnodd Cyng Mair Benjamin am ailystyried mannau gwefru trydan

Derbyniwyd a chytunwyd ar y cofnodion.

Cofnod  19

COFNODION Y PWYLLGOR CYLLID A SEFYDLIADAU A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 19 MAI 2014 am 6.30pm.

Yn bresennol:                        Cyng Brenda Haines

                                    Cyng Mererid Jones

                                    Cyng Mair Benjamin

                                    Cyng Dylan Lewis

                                    Cyng Wendy Morris-Twiddy

Cyng Jeff Smith

Cyng Mark Strong

Ymddiheuriadau:         Cyng Brian Davies

                                    Cyng Endaf Edwards

                                    Cyng Ceredig Davies

1          Datgan Diddordeb.

Cyng Mark Strong – Cymdeithas Gofal Ceredigion

  • Gohebiaeth

Cerdyn o ddiolch am y grant gan Caroline Jones a Chlwb Henoed Penparcau.

Neges e-bost o ddiolch gan Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ac ymddiheuriad nad oeddynt yn gallu mynychu.

Negeseuon e-bost o ddiolch am y ffurflen grant

Neges e-bost gan SEREN i gydnabod cynnig ystafell yn y swyddfa. Angen anfon e-bost i gynnig iddynt alw i mewn.

Praespet gan Gyngor Sir Ceredigion ar 30 Ebrill 2014.

Derbyniwyd dyfynbris gan Gymdeithas Gofal Ceredigion am y gwaith ar Ddrysfa Ffordd y Gogledd. Gwerth y gwaith i gyd am y flwyddyn yw £2,000 gan gynnwys torri gwair, trimio'r sietyn ac ailbeintio meinciau. PENDERFYNWYD derbyn y dyfynbris.

3     Diweddariad ar gyfrifon 2013-14

Yn dilyn problemau cyfrifiadurol, roedd yn rhaid gohirio'r archwiliad mewnol ddwywaith. Rhaid datrys y problemau cyfrifiadurol ar unwaith. Cyng Brenda Haines i ddilyn i fyny cyn gynted â phosibl.

4     Y Diweddaraf ar y Safle - Canolfan Cyngor ar Bopeth

Derbyniasom neges e-bost gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn ein hysbysu eu bod wedi cael cynnig llety gan Brifysgol Aberystwyth. PENDERFYNWYD cysylltu â Chanolfan Cyngor ar Bopeth i ofyn:-

  • A fydd y swyddfa o fewn ffin Aberystwyth & Penparcau.
  • Os yw o fewn y ffin, dylid ystyried ffurflen gais ddiwygiedig yn nodi at ba ddiben y byddai'r ariannu.

5    Adnewyddu Yswiriant

Adolygwyd y dogfennau yswiriant yn fanwl. Nid oes gennym yr hanes hawlio 5 mlynedd o hyd er mwyn cael dyfynbrisiau cywir. Awgrymwyd y diwygiadau a ganlyn ar gyfer y polisi:-

  • Cynnwys goleuadau addurn
  • Cynyddu'r tal-dros-ben ar y risg busnes o £50 i £100
  • Angen rhestr o ddodrefn stryd sydd ym mherchnogaeth y Cyngor Tref.
  • Polisi Arian Parod - penderfynwyd

6   Gosod tendr am wasanaeth cyfieithu

PENDERFYNWYD mynd i dendr am gyfieithu cofnodion. Roedd cofnodion o fis Mawrth 2011 a Mawrth 2012 wedi'u cyfieithu, yn yr un modd â Gorffennaf i Dachwedd 2013. Penderfynwyd y byddem yn cyfieithu o fis Ionawr 2014 ymlaen yn unig. Os oes gan unrhyw gynghorwyr awgrymiadau am gwmnïau, dylid rhoi rhestr i Cyng Mererid Jones cyn Dydd Llun 26 Mai 2014.

7   Adolygu llwyddiannau/cost Grŵp Gefeillio

Cafodd yr adroddiadau a gyflwynwyd gan y grwpiau gefeillio eu hadolygu a'u trafod. Cytunwyd darparu £2,500 o ariannu i bob sefydliad unwaith eto eleni.

8   Cais am Faner Neuadd y Farchnad

Roedd Marchnad Aberystwyth wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig ar gyfer y faner. PENDERFYNWYD talu am gynllun rhif 3 os mai dyna'u hoff gynllun. Dylid cyflwyno anfoneb ar gyfer y faner i'r Cyngor Tref.

9   Materion Eraill

Angen dosbarthwyr i helpu i ddosbarthu taflenni ar gyfer y ras feiciau cyn Dydd Gwener.

PENDERFYNWYD bwrw ymlaen ag ymchwiliad fforensig y cyfrifiadur am y pris a gyflwynwyd.

Cafodd y cofnodion eu derbyn a'u cytuno

Cofnod  20

Gohebiaeth

  • Aber yn Gyntaf : Cyng Endaf Edwards, Cyng Kevin Roy Price, Cyng Mair Benjamin a Cyng Brendan Somers i fynychu.
  • Neuadd y Farchnad Aberystwyth: Archeb ar gyfer y faner wedi'i gymeradwyo.
  • Seremoni Raddio: Rhaid i aelodau ymateb i wahoddiad yn uniongyrchol erbyn 2 Gorffennaf.
  • Gareth Lewis (Pensaer): Angen dyddiad er mwyn symud i'r llawr cyntaf.

(a) A oes unrhyw ddarpariaeth yn y brydles ar gyfer glanhau?

    Roedd y brydles pan gafodd ei llofnodi yn nodi bod glanhau wedi'i gynnwys.

(b) Angen codi Hysbysfwrdd.

     Bydd yr hysbysfwrdd yn cael ei godi unwaith eto ar ôl llofnodi'r brydles.

  • Roedd Cyng Dylan Lewis eisiau tynnu'n ôl fel cynrychiolydd Cyngor Tref Aberystwyth ar Grŵp Gefeillio Kronberg. Cytunodd Cyng Lucy Huws i'w henwebiad i gymryd lle Cyng Lewis
  • Ras Gyfnewid Baton y Frenhines: Byddai'r Baton yn Aberystwyth rhwng 3.00 -3.45pm ar 28 Mai ac roedd cais i'r holl aelodau gefnogi'r digwyddiad
  • Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog: Roedd llythyr gan y cyngor hwn yn ceisio cyngor ar y protocol wrth sefydlu cyswllt gefeillio. Cytunodd Cyng Endaf Edwards a Cyng Sue Jones- Davies i ymateb ar ran Cyngor Tref Aberystwyth i Gyngor Tref Blaenau Ffestiniog.
  • Cymdeithas Pêl-droed Cymru: Roedd y gymdeithas yn dymuno cynnal digwyddiad yn Aberystwyth yn ystod mis Awst. Fe'u cynghorwyd bod angen sicrhau'r trwyddedau angenrheidiol gan Gyngor Sir Ceredigion.
  • Llythyr gan Frank Grey o Galifornia yn yr Unol Daleithiau yn gofyn am wybodaeth am Aberystwyth. Cytunwyd ymateb yn unol â hynny.
  • Cyflwynwyd cofnodion Economi Gyda'r Nos.
  • Cyflwynwyd cofnodion Masnach Deg.
  • Un Llais Cymru: Penderfynwyd adnewyddu'r aelodaeth.
  • Llythyr gan Claire Fletcher o Lanbadarn yn llongyfarch Cyngor Tref Aberystwyth ar ddarpariaeth y Ddrysfa ar Ffordd y Gogledd. Cytunodd y Maer i ymateb i'r llythyr.
  • Cyngor Cymuned Llanbadarn: Roedd caniatâd wedi'i wrthod gan Gyngor Cymuned Llanbadarn i'r Maer wisgo cadwyn y swydd yn eu plwyf. Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal Ddydd Mercher 4 Mehefin am 6.30pm rhwng Cyngor Cymuned Llanbadarn a'r Cynghorwyr Brenda Haines, Endaf Edwards a Ceredig Davies a fyddai'n cynrychioli Cyngor Tref Aberystwyth.
  • Llythyr gan Gyngor Sir Ceredigion yn nodi y byddai seremoni i osod yn ffurfiol Gadeirydd newydd yn cael ei gynnal Ddydd Gwener 23 Medi 2014. Roedd llythyr wedi'i anfon at Cyng Towyn Jones yn dymuno gwellhad cyflym iddo at iechyd da.
  • Llythyr gan Mr John Evans o “Hafod” Y Ro Fawr yn nodi ei fod yn siomedig gydag ansawdd Glanhau Traethau y mae Cyngor Sir Ceredigion yn ei wneud. Ymatebodd Cyng Alun Williams gan ddatgan y byddai biniau a "Belly Bins" pellach yn cael eu darparu ond bod angen dyletswydd sifil/balchder i unigolion ddefnyddio'r biniau hyn. Llythyron i'w hanfon at Mr Evans a'r “Cyfeillion Traeth” a oedd wedi cynorthwyo gyda'r glanhau.
  • Cadlanciau Awyr: Darllenwyd llythyr o ddiolch yn mynegi diolch i Gyngor Tref Aberystwyth am eu cymorth ariannol.

Cofnod  21

Materion yn ymwneud â materion yng nghylch gwaith y cyngor hwn yn unig

Un Llais Cymru:  Bydd Cyng Brendan Somers yn cymryd lle Cyng Mererid Jones fel y cynrychiolydd.

Fforwm y Prom:  Nododd Cyng Mair Benjamin nad oedd y pwyllgor hwn wedi cwrdd ers amser maith. Ysgrifennu at Menter.

Partneriaeth Pobl Ifanc:  Nid yw Cyng Endaf Edwards yn derbyn unrhyw ohebiaeth. Gwirio gyda Chyngor Sir Ceredigion.

Ymddiriedolaeth Cofeb Rhyfel:  Dylai Cyng Brenda Haines fod yn derbyn yr holl ohebiaeth bellach ac nid Cyng Mark Strong

Llywodraethwyr Padarn Sant:  Byddai Cyng Lucy Huws bellach yn cymryd lle Cyng Martin Shewring ar y corff hwn

Aelodaeth Pwyllgor:  Byddai'r Cynghorwyr Brendan Somers a Wendy Morris-Twiddy yn eistedd ar y "Pwyllgor Cyllid". Byddai'r Cynghorwyr Brendan Somers a Wendy Morris-Twiddy yn eistedd hefyd ar y "Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol" hefyd. Byddai'r Cyng Lucy Huws yn eistedd ar y “Pwyllgor Cynllunio”

“Llys y Brifysgol”  Cynghorwyr Mark Strong ac Endaf Edwards. Nododd Cyng Lucy Huws y gallai'r Cynghorwyr Strong ac Edwards godi mater ymwelwyr Iddewig ac y dylai llais y Brifysgol fod yn gryfach. Roedd hefyd angen trefnu cyfarfod “Tref a Phrifysgol”.

Rheilffyrdd Arriva (Y Trallwng):  Etholwyd Cynghorwyr Mair Benjamin a Kevin Roy Price i gynrychioli Cyngor Tref Aberystwyth

Grŵp Adfywio:  Etholwyd Cyng Alun Williams.

Parc Bwrdd Sgrialu;   Etholwyd Cynghorwyr Mererid Jones, Ceredig Davies a Sue Jones-Davies.

ABER :  Gofyn a oeddynt angen cynrychiolydd.

Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd:   Etholwyd Cyng Dylan Lewis.

Cofnod  22

Cyllid:  Cafodd y gwariant ei nodi a'i gymeradwyo.

Cofnod  23

Adroddiadau ar lafar gan Gynghorwyr Cyngor Ceredigion.

Adroddodd Cyng Alun Williams y byddai'r ymgynghoriad ar y “Bandstand” yn dod i ben ar 30 Mai. Unwaith y byddai'r holl ymgynghoriadau wedi'u derbyn, byddai cais yn cael ei wneud am gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.

Cofnod  24

Adroddiadau ysgrifenedig gan gynrychiolwyr i gyrff allanol

Ni chyflwynwyd unrhyw adroddiadau

Cofnod  25

Aflonyddwch sŵn ym Mharc Manwerthu Ystwyth, Maes Parcio.

Nodwyd bod sŵn annerbyniol wrth i unigolion gerdded trwy'r maes parcio hwn yn ystod y nos. Penderfynodd Cyngor Tref Aberystwyth ysgrifennu at y cwmni preifat sy'n gyfrifol ynglŷn â'r broblem yn nodi nad oedd y mater hwn yn dderbyniol gan fod hawl tramwy cyhoeddus yn bodoli yn yr ardal hon. Mae mater cyfreithiol hefyd yn ymwneud â'r mater a'r angen am gynnal a chadw'r maes parcio.

Cofnod  26

Canolfan Cyngor ar Bopeth.

Cyflwynodd Cyng Mererid Jones ohebiaeth a dderbyniwyd gan Ganolfan Gyngor ar Bopeth a phenderfynwyd cymeradwyo grant o £2.000 a threfnu cyfarfod gyda Chynghorwyr Brenda Haines, Mark Strong a Mererid Jones yn bresennol.

Cofnod  27

Materion Staffio.

Gofynnwyd i aelodau ystyried o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (fel yr estynnwyd gan adran100 a (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972), y dylid gwahardd y cyhoedd a chynrychiolwyr achrededig o bapurau newydd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon fel y diffinnir yn Rhan 1 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae natur y busnes hwn yn ymwneud â materion staffio cyfrinachol. Penderfynodd aelodau i fynd i bwyllgor.