Argraffu 

CYNGOR TREF ABERYSTWYTH

COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR LLAWN A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 27 HYDREF 2014 am 6.30pm.

Yn bresennol:

Cyng Brenda Haines

Cyng Mererid Jones

Cyng Martin W Shewring

Cyng Ceredig Davies

Cyng Wendy Morris-Twiddy

Cyng Brian Davies

Cyng Sarah Bowen

Cyng Brendan Somers

Cyng Jeff Smith

Cyng Steve Davies

Cyng Endaf Edwards

Cyng Alun Williams

Cyng Mair Benjamin

Cyng Sue Jones Davies

Cyng Mark A Strong

Cyng Kevin Roy Price

Ymddiheuriadau:

Cyng Dylan Lewis

Cyng Lucy Huws

 

Cofnod 82.

Datgan Diddordeb ar faterion sy'n codi o'r agenda.

Cyng Brenda Haines, Cyng Jeff Smith a'r Cyng Mair Benjamin (Cyllid, Cofnod 93).

 

Cofnod 83.

Cyfeiriadau personol.

Gofynnodd Cyng Sue Jones-Davies i lythyr gael ei anfon at yr Athro Marcus Longley gan ddatgan y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd i drafod goblygiadau ei adroddiad.

Hysbyswyd aelodau o farwolaeth Yannick Mayeux cyn-Gadeirydd Pwyllgor Gefeillio St Brieuc. Bydd llythyr cydymdeimlad yn cael ei anfon gan Gyngor Tref Aberystwyth.

 

Cofnod 84.

Adroddiad ar Weithgareddau'r Maer

Dosbarthwyd adroddiad o weithgareddau'r Maer ar gyfer mis Medi 2014 i aelodau.

 

Cofnod 85.

Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd Ddydd Llun 29 Medi 2014.

 

Cofnod 86.

Materion yn codi o gofnod 85.

Parthed Cofnod 79 – Traws Link Cymru. Mae cyfarfod cyhoeddus i drafod ymhellach y mater hwn wedi'i drefnu ar gyfer Ddydd Iau 15 Ionawr 2015 yn y Morlan am 7.00pm.

Parthed Cofnod 80 – Gorsaf Reilffordd Bow Street. Rhoddodd Cyng Mark Strong y diweddaraf yn ymwneud â chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion i'r ymgyrch. Byddai hyn yn galluogi i'r grŵp weithio ymhellach ar y prosiect hwn.

Cymeradwywyd y cofnodion.

 

Cofnod 87.

COFNODION CYFARFOD O'R PWYLLGOR CYNLLUNIO A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 6 HYDREF 2014 AM 6.30 P.M.

 

Yn bresennol:

Cyng Endaf Edwards

Cyng Mair Benjamin

Cyng Sue Jones Davies

Cyng Jeff Smith

Cyng Brenda Haines

Cyng Steve Davies

Cyng Brian Davies

Cyng Kevin Roy Price

 

Ymddiheuriadau:

Cyng Mererid Jones

Cyng Mark Strong

Cyng Ceredig Davies

 

 

  1. Gohebiaeth

 

  1. Cyngor Sir Ceredigion

 

Papurau ar gyfer y Pwyllgor Rheoli Datblygu i'w gynnal ar 8 Hydref 2014:

 

Nododd y cyfarfod y byddai dau gais yn ymwneud ag Aberystwyth yn cael eu hystyried, A140589 (caffi Starbucks) ac A140627/A140628LB (Gwesty'r Bae).

 

Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell y dylid cymeradwyo A140589, ac y dylai penderfyniad ar A140627/A140628LB gael ei oedi nes bod trafodaethau yn ymwneud â mynediad i'r anabl a derbyn ymateb gan CADW yn ymwneud â nodweddion pensaernïol  a hanesyddol yr adeilad. Os na fydd gwrthwynebiadau yn cael eu derbyn, argymhellodd y swyddogion y dylid cymeradwyo'r cais.

 

Hysbysiadau penderfynu:

 

A140155 – wedi'i gymeradwyo

A140548 – wedi'i gymeradwyo

A140558 – wedi'i gymeradwyo

A140559 – wedi'i gymeradwyo

 

  1. Cynghrair Cymunedau Cymraeg

 

Derbyniwyd gohebiaeth yn gofyn am gefnogaeth dros ymgyrch am fesur cynllunio amgen i'r hynny a gynigir gan Lywodraeth Cymru. PENDERFYNODD y Pwyllgor gefnogi'r ymgyrch (i'w gadarnhau gan y Cyngor Llawn).

 

  1. Ystyried ceisiadau cynllunio

 

A140556

Newid defnydd o adeilad swyddfa gwag i ddwy fflat annibynnol i gynnwys gwaith gwella ac addasu yn fewnol ac yn allanol.

Birkdale, Stryd y Gorfforaeth, Aberystwyth

 

Dim gwrthwynebiad. Croesawn y cynnig y bydd rhai ffenestri UPVC yn cael eu newid am rhai pren, ond yn nodi serch hynny y bydd rhai ffenestri UPVC yn parhau.  Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gofyn bod pob ffenest o'r fath yn cael eu newid am rhai pren.

 

A140674

Amrywiad i amod 4 caniatâd cynllunio A100767 i ganiatáu i'r eiddo fasnachu hyd at 0100 o'r gloch (danfoniadau yn unig ar ôl 2300 o'r gloch)

Dominos, Canolfan y Sgubor, Ffordd Alexandra, Aberystwyth

 

  1. Mae cwynion eisoes wedi'u derbyn gan breswylwyr lleol yn ymwneud â sŵn yn ardal y cyfleuster. Rydym yn ansicr o allu'r ymgeisydd i weithredu gwasanaeth dosbarthu o du blaen y cyfleuster ac o'r farn y byddai'r sŵn o'r traffig cynyddol a achosir gan yr oriau agor estynedig arfaethedig yn niweidiol i breswylwyr lleol.

 

A140688

Newid gorffeniadau to llechi i dŷ o fewn ardal gadwraeth

Clyde House, Morfa Mawr, Aberystwyth

 

Ar sail ystyriaethau cynllunio sylweddol perthnasol, nid oes gan Gyngor Tref Aberystwyth wrthwynebiad i'r cais hwn. Serch hynny, nid ydym yn derbyn y rheswm a roddir gan yr ymgeisydd (h.y. diffyg argaeledd) ar gyfer peidio â defnyddio llechi o Gymru yn y datblygiad arfaethedig.

 

A140620

Cynigir gosod ramp allanol newydd i ddarparu mynediad gwastad i'r gangen. Bydd y ramp arfaethedig yn 1:12 mewn graddiant gyda phen grisiau a 2 ris a chanllaw.

Natwest, Rhodfa'r Gogledd, Aberystwyth

 

Nid oes gan Gyngor Tref Aberystwyth wrthwynebiad mewn egwyddor i'r cais hwn, ond mae'n pryderu am effaith gyfyngol y datblygiad arfaethedig ar lif traffig cerddwyr o amgylch cornel Stryd y Popty a Sgwâr Owain Glyndŵr.

 

A140621

Mân addasiadau mewnol ac arddangos arwyddion

Natwest, Rhodfa'r Gogledd, Aberystwyth

 

  1. Mae arwyddion wedi'u goleuo yn amhriodol ac nid ydynt yn cydymffurfio â Chanllawiau Cynllunio Atodol ar Gynllun Blaen Siop yn Aberystwyth. Serch hynny, croesawn y cynnig na fydd yr addasiadau mewnol yn effeithio ar nodweddion gwreiddiol yr adeilad.

 

Unrhyw fusnes arall.

Nododd Cyng Brian Davies mai'r argymhelliad oedd cyfarfod safle ar gais cynllunio rhif 140620

Cymeradwywyd y cofnodion ar ôl nodi'r sylwadau uchod.

 

Cofnod 88.

CYNGOR TREF ABERYSTWYTH

COFNODION Y PWYLLGOR RHEOLAETH GYFFREDINOL A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL BWYLLGOR, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 13 HYDREF 2014.

Yn bresennol:

Cyng Ceredig Davies

Cyng Alun Williams

Cyng Mair Benjamin

Cyng Jeff Smith

Cyng Wendy Morris-Twiddy

Cyng Brendan Somers

Cyng Endaf Edwards

Cyng Kevin Roy Price

Cyng Mark Strong

Cyng Brenda Haines

Cyng Sue Jones-Davies

Cyng Steve Davies

Cyng Mererid Jones

 

Ymddiheuriadau:                                      DIM

 

  1. Cyflwyniad gan Radio Bronglais. (RBFM)

 Canlyniad y cyflwyniad oedd y byddai RBFM yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyngor Tref       Aberystwyth gan ofyn ymhellach i'r aelodau yn bresennol roi gwybod i bobl eraill o'u      presenoldeb yn y gymuned.

 

4      Datgan Diddordeb.

        Dim

5      Gohebiaeth.

        Dim

6      Plac i goffau Leopold Kohr.

Gofynnodd Cyng Mark Strong am blac ar gyfer “Etae”. Cefnogodd yr aelodau yn bresennol egwyddor y placiau a dylid ystyried yr anghenion ymhellach yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.

7      Llety, 11 Stryd y Popty.

 Hysbyswyd aelodau y byddai'r brydles newydd ar gael i'w llofnodi yn ystod yr wythnos hon. Gofynnwyd i'r Cyng Ceredig Davies ymholi ynglŷn â'r gwaith sy'n ofynnol ar yr hen risiau.

8      Gŵyl Feicio.

        Yn dilyn trafodaethau gyda'r Brifysgol roeddynt wedi nodi na fyddent yn cyfrannu at ddarlledu'r ras ar y teledu eleni. Penderfynwyd y dylai Cyngor Tref Aberystwyth gefnogi hyn fel digwyddiad cymunedol yn hytrach na rhywbeth ar y teledu.

9      Rhandiroedd a Gerddi.

        Nid oedd unrhyw beth yn ychwanegol i'w adrodd ar y mater hwn ac eithrio ei fod yn parhau.

10    Trefniadau Nadolig 2014.

Roedd y Goeden Nadolig wedi'i harchebu. Gwnaeth y cadeirydd gais bod yr holl gynghorwyr ar gael i weithredu fel stiwardiaid ar gyfer y "Gorymdaith Llusernau"

11    Tudalen Gwe'r Cyngor ac isadeiledd TG.

        Hysbyswyd aelodau bod y cyfarpar cyfredol yn ddigonol yn y tymor byr

12    Arwyddion – “Peidiwch â bwydo'r Gwylanod”

        Penderfynwyd cefnogi'r cais mewn egwyddor a gofynnwyd i'r Cyng Ceredig Davies

       wneud ymholiadau pellach.

13    Ffair Tachwedd Aberystwyth 2014.

Byddai'r Cyng Brenda Haines yn gwneud ymholiadau yn ymwneud â'r agoriad swyddogol.

14    Diffibriliwr.

        Nododd y Cyng Wendy Morris ei bod wedi ceisio cyngor a'i bod yn gwneud ymholiadau

15    Materion sy'n Weddill.

      

Eitem Agenda 6 – Byddai'r Cyng Alun Williams bellach yn arwain ar faterion yn ymwneud â Phlaciau.

Dylai plac ar gyfer “Etae” ddweud plac ar gyfer “Ethe”.

Eitem Agenda 7 – Hysbyswyd Aelodau nad oedd y brydles ddrafft wedi'i derbyn o hyd a bod mân waith yn cael ei wneud yn yr adeilad.

Eitem Agenda 12 – Arwyddion “Peidiwch â bwydo'r Gwylanod” Hysbysodd Cyng Ceredig Davies yr aelodau bod hyn parhau.

Cymeradwywyd y cofnodion

 

Cofnod  89.

CYNGOR TREF ABERYSTWYTH

COFNODION Y PWYLLGOR CYLLID A SEFYDLIADAU A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 20 HYDREF 2014

Yn bresennol:

Cyng Mererid Jones

Cyng Mair Benjamin

Cyng Alun Williams

Cyng Brendan Somers

Cyng Wendy Morris-Twiddy

Cyng Brian Davies

Cyng Ceredig Davies

Cyng Endaf Edwards

Cyng Sue Jones-Davies

Cyng Kevin Roy Price

Cyng Jeff Smith

Ymddiheuriadau:

Cyng Brenda Haines

Cyng Mark Strong

 

1     Cyflwyniadau gan y Pwyllgorau Gefeillio sy'n cael eu cefnogi'n ariannol gan Gyngor Tref Aberystwyth.

       Ymhlith y rheini a oedd yn bresennol oedd cynrychiolwyr o'r pwyllgorau a ganlyn: St Brieuc,

       Kronberg ac Esquel.

Fe wnaeth cynrychiolwyr a oedd â diddordeb mewn sefydlu cyswllt gefeillio gydag Arklow annerch y cyfarfod cyn y cyflwyniad gan bwyllgor gefeillio Kronberg.

CYTUNWYD i ddiwygio'r canllawiau cyfredol a roddwyd i'r pwyllgorau gefeillio unigol gyda'u grantiau blynyddol.

2     Datgan Diddordeb.

       Dim

3     Gohebiaeth.

(a) Fforwm Penparcau gynigiodd y pris isaf i gynnal gwaith ar yr Hysbysfwrdd ym Mhenparcau. Cytunwyd derbyn eu dyfynbris.

(b) Cytunwyd ariannu Menter gyda swm o £4,000 ar gyfer adloniant yr haf a'r orymdaith Nadolig. Roedd hyn o fewn y gyllideb o £5,000 a roddwyd.

(c) Cytunwyd adolygu treuliau milltiredd a delir i gynghorwyr yn y Pwyllgor Cyllid nesaf gan fod angen adolygu'r gyfradd gyfredol o 25c y filltir.

4     Staffio

CYTUNWYD y dylai Ysgrifennydd y Maer dderbyn cefnogaeth Iechyd Galwedigaethol ac i dalu costau teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac nid am dacsi.

CYTUNWYD oherwydd pryder yn ymwneud â gweithio ar eich pen eich hun, byddai Ysgrifennydd y Maer yn parhau ar gyflog llawn hyd nes bod strwythur y swyddfa wedi'i ddatrys.

      Byddai'r Cyng Sue Jones-Davies a'r Cyng Brendan Somers yn siarad â'r Dirprwy Swyddog Ariannol Cyfrifol ac Ysgrifennydd Dros Dro i'r Maer ynglŷn â dod yn gyflogai a llanw ffurflen

5   Cyfrifon ar gyfer Medi 2014.

     Cyflwynwyd Cyfrifon ar gyfer mis Medi 2014 a chytunwyd arnynt.

 

    Cymeradwywyd y cofnodion.

 

Cofnod 90.

Ceisiadau cynllunio.

A140720 Gorsaf Dân Newydd Arfaethedig - a fyddai'n rhannu cyfleusterau gyda Gwylwyr y Glannau ac yn cynnig cyfleusterau hyfforddi a pharcio ychwanegol. Roedd arsylwadau o Ddiwrnod Agored a gynhaliwyd ym mis Awst 2014 yn ffafriol iawn er bod y lleoliad ar orlifdir.

Cefnogodd y Cyngor y cais ar wahân i un gwrthwynebiad gan Cyng Mair Benjamin.

A140758 Gosod 6 (chwech) bolard diogelwch y tu allan i'r Tesco Express newydd.

Mynegwyd pryderon y byddai hyn yn rhwystro symudiad cerddwyr ar gornel allweddol rhwng Rhodfa'r Gogledd a Ffordd y Môr. Nodwyd nad yw'r tir dan sylw ym mherchnogaeth Tesco a bod rhwystrau eisoes i'w cael ar y gornel. Ni fyddai aelodau yn cefnogi'r cais hwn oni bai bod gwelliannau yn cael eu gwneud. Mynegwyd pryderon hefyd ynglŷn â chludo nwyddau i'r siop.

Gwrthwynebodd aelodau'r cynllun cyfredol yn gryf gan dynnu sylw at yr angen am symudiad rhydd cerddwyr i ganol y dref.

Datblygiad Dan Dre. Mynegwyd pryderon am ôl-gais am estyniad i'r adeilad. Angen gofyn am wybodaeth bellach gan Gyngor Sir Ceredigion.

 

Cofnod  91.

Gohebiaeth

(a) Cynghrair Cymunedau Cymraeg - Cymeradwywyd llythyr yn gofyn am logi'r ystafell bwyllgor yn 11 Stryd  y Popty Ddydd Sadwrn 17 Hydref 2015. Cytunodd Cyng Jeff Smith i agor a chau'r adeilad ar y diwrnod.

(b) Coeden Nadolig yn Nhrefechan – Cymeradwyodd y Cyngor gais gan Fountain Inn  am £150.00, sef cost Coeden Nadolig i'w lleoli yn Nhrefechan.

(c) Ymgynghoriad Papur Gwyn – Roedd y swyddfa wedi derbyn llythyr yn cydnabod ymateb y cyngor i'r ymgynghoriad.

(d) Bwrdd Cynghori Canolfan Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth – Cytunodd Cyng Sarah Bowen i gynrychioli'r cyngor ar y bwrdd hwn. Dyddiad y cyfarfod nesaf fydd 24 Tachwedd 2014.

(e) Cyngor Cymuned Clynnogfawr – Darllenwyd llythyr i aelodau gan glerc Cyngor Cymuned Clynnogfawr yn cwyno am gerbydau gwersylla yn parcio dros nos yn eu cymuned. Roedd y swyddfa wedi cydnabod derbyn y llythyr ac wedi cynghori'r cyngor i ymgynghori â Chyngor Sir Gwynedd.

(f) The Cinnamon Trust – Llythyr gan yr elusen yn tynnu sylw at eu gwaith wrth gynorthwyo pobl sydd ag afiechyd terfynol a'u hanifeiliaid anwes. Byddent yn croesawu gwirfoddolwyr i fynd â chŵn am dro bob dydd.

(g) Adolygiad Iechyd Canolbarth Cymru – Nododd aelodau'r adroddiad gan yr Athro Marcus Longley.

(h) Gŵyl Môr i'r Tir – Derbyniwyd adroddiad ar yr Ŵyl Môr i'r Tir a oedd yn cynnwys diolch i Gyngor Tref Aberystwyth am eu cefnogaeth.

(i) Theatr Louche - Derbyniwyd neges e-bost gan Harry Durnall o Theatr Louche yn datgan y byddai'r cwmni yn cynhyrchu drama mis Ebrill nesaf ynglŷn â'r anghyfiawnder a gyfeiriwyd at Dr Hermann Ethe. Penderfynodd yr aelodau anfon y neges ymlaen at Menter.

(j) Cyfarfod Cyhoeddus – Roedd llythyr gan Gyngor Sir Ceredigion yn hysbysu aelodau o gyfarfod i'w gynnal yng Nghanolfan Rheidol ar 18 Tachwedd i drafod toriadau mewn cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Penderfynwyd y byddai'r Cynghorwyr Brenda Haines, Brian Davies a Brendan Somers yn cynrychioli'r cyngor yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnod  92

Cwestiynau yn ymwneud â materion yng nghylch gwaith y cyngor hwn yn unig.

(a) Hysbyswyd Cyng Mark Strong bod y Cynghorwyr Brenda Haines a Ceredig Davies bellach yn cynrychioli'r cyngor ar y Pwyllgor Coffa Rhyfel

(b) Mae cofnodion y cyngor dros nifer o flynyddoedd yn cael eu cadw yn y swyddfa. Gofynnwyd bod Llyfrgell Aberystwyth yn derbyn cofnodion y cyngor llawn bob mis

(c) Gofynnodd Cyng Mair Benjamin pwy oedd cynrychiolwyr y cyngor ar gynigion Gorsaf Bow Street. Holodd y Cynghorwyr Alun Williams a Mark Strong a oedd hi'n briodol i Gyngor Tref Aberystwyth arwain ar y mater hwn.

 

Cofnod  93

Cyllid – Ystyried gwariant.

Gadawodd Cyng Brenda Haines, Cyng Kevin Roy Price, Cyng Jeff Smith a Chyng Mair Benjamin yr ystafell bwyllgor wrth i wariant ariannol gael ei drafod.

 

Taliadau gan Gyngor Tref Aberystwyth - 27/10/2014

Menter Aberystwyth

Grant Blynyddol

5000

1000

6000

Menter Aberystwyth

Adloniant yr Haf

4000

800

4800

Cyng Mair Benjamin

Treuliau

47.5

0

47.5

Cyng Dylan Lewis

Treuliau

12.5

0

12.5

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog Medi

6598

0

6598

Konica Minolta

Rhent Llungopïwr

370.02

74

444.02

Konica Minolta

Llungopïau

526.94

105.39

632.33

Pitney Bowes

Peiriant Ffrancio

38.21

3.59

41.8

Cyng Jeff Smith

Tocynnau trên

4.35

0

4.35

Viking

Amlenni

41.23

8.25

49.48

Viking

Inc

140.54

28.11

168.65

Carl Williams

Oriau 22/9/14 - 17/10/14

600

0

600

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Torch Dydd y Cofio

50

0

50

 

Cymeradwywyd yr holl daliadau.

 

Cofnod  94

Adroddiadau ar lafar gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion yn ymwneud â'r cyngor hwn yn unig.

Adroddodd Cyng Mark Strong bod “Traws Link Cymru” wedi bod yn ymgyrchu i ddefnyddio rheilffordd i gludo nwyddau. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dangos cefnogaeth dros hyn ac yn archwilio i'r posibilrwydd o ariannu Ewropeaidd ar gyfer y prosiect.

Mae toriadau mewn ariannu yn debygol o arwain at nifer yn llai o hysbysebion mewn papurau newydd. Bydd hi'n bwysig defnyddio gwefan y cyngor yn lle hynny.

Adroddodd y Cyng Alun Williams bod cyfarfod “Biosffer Dyfi” Ddydd Llun 3 Tachwedd.

Adroddodd Cyng Steve Davies y byddai Cyfarfod Cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 28 Hydref am 6.30pm ym Mhenparcau i drafod arwyddion “Southgate”.

Tynnodd y Cyng Ceredig Davies sylw bod Apêl y Pabi yn parhau ac y dylai aelodau fynychu'r seremoni. Nododd y Cyng Davies bod y cyngor angen y diweddaraf ar Adran Gwella Busnes (“BID”) a'r cynrychiolydd lleol oedd Mr Cyril Baker.

 

 

Cofnod  95

Adroddiadau ysgrifenedig gan gynrychiolwyr cyrff allanol.

Cyflwynwyd cofnodion Menter Aberystwyth i aelodau.

Cyflwynwyd adroddiad SARPA gan Gyng Jeff Smith.

 

Cofnod  96

Seremoni Gwobrau Masnach Deg.

Cymeradwyodd y Cyngor y byddai'r seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn yr ystafell bwyllgor, 11 Stryd y Popty ac y byddai lluniaeth ysgafn yn cael ei darparu.

Gofynnodd Cyng Martin Shewring am restr o'r busnesau a oedd wedi ennill gwobrau.

 

Cofnod  97

Arfbais a Logo Marchnata'r Dref.

Roedd llythyr Cyng Mererid Jones yn gofyn am eglurhad ar ddefnydd (a) Arfbais y Dref a (b) Logo Aberystwyth.

PENDERFYNWYD derbyn logo newydd Aberystwyth (fel y dangosir isod) ar yr holl frandio corfforaethol i gyd-fynd â'n delwedd newydd.

PENDERFYNWYD ymhellach cadw Arfbais Aberystwyth at ddibenion sifil a herodrol - megis amlenni, papur pennawd, cofnodion y Cyngor, bathodynnau ayyb. Cyngor Tref Aberystwyth yw'r unig gorff a all ddefnyddio'r Arfbais.