CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
COFNODION CYFARFOD LLAWN Y CYNGOR A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 23 MAWRTH 2015.
Yn bresennol:
Cyng Brenda Haines
Cyng Mererid Jones
Cyng Alun Williams
Cyng Mair Benjamin
Cyng Lucy Huws
Cyng Endaf Edwards
Cyng Sarah Bowen
Cyng Ceredig Davies
Cyng Martin W. Shewring
Cyng Wendy Morris
Cyng Brendan Somers
Cyng Kevin Roy Price
Cyng Sue Jones-Davies
Cyng Brian Davies
Cyng Jeff Smith.
Hefyd yn bresennol:
Ann Hobbs (Swyddog Cymorth Tai, Tai Cantref).
Ymddiheuriadau:
Cyng Mark Strong
Cyng Steve Davies
Cofnod 175.
Cyflwyniad gan Ann Harries Tai Cantref.
Rhoddwyd cyflwyniad byr gan Ann Harries Swyddog Cymorth Tai, Tai Cantref a hysbysodd aelodau o'r Cynllun Pobl Hŷn a oedd ar gael i bawb.
Diolchodd y Maer i Ms Harries am ei chyflwyniad manwl.
Cofnod 176.
Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o'r agenda.
Cyng Mair Benjamin - treuliau
Cyng Kevin Roy Price - mater cyllid
Cofnod 177.
Materion personol
Estynnodd y Maer gydymdeimlad holl aelodau'r cyngor yn sgil marwolaeth sydyn a thrist brawd yng nghyfraith Cyng Brendan Somers.
Cofnod 178.
Adroddiad o Weithgareddau'r Maer.
Dosbarthwyd adroddiad o weithgareddau'r Maer rhwng cyfarfod llawn diwethaf y cyngor a'r dyddiad presennol i aelodau.
Cofnod 179.
Cofnodion Cyngor Llawn a gynhaliwyd Ddydd Llun 23 Chwefror 2015.
Cofnod 180.
Materion yn codi o'r cofnodion.
Cofnod 160
(6) Ardal Chwarae: - Byddai Cyngor Sir Ceredigion yn trafod y brydles ddrafft ar drosglwyddo'r meysydd chwarae ar 23/03/2015 a byddai'r cyngor tref yn derbyn hysbysiad ar ôl y dyddiad hwn.
Cofnod 172.
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru): - Bydd Cyng Alun Williams yn dosbarthu'r cynigion cyn cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol ar 13 Ebrill pan fydd trafodaeth yn cael ei chynnal i baratoi ymateb y cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y Cyngor Llawn 23 Chwefror 2015.
Cofnod 181
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 9 MAWRTH 2015 AM 6.30 P.M.
Yn bresennol:
Cyng Endaf Edwards
Cyng Brenda Haines
Cyng Mair Benjamin
Cyng Jeff Smith
Cyng Steve Davies
Cyng Brian Davies
Cyng Lucy Huws
Cyng Martin Shewring
Hefyd yn bresennol:
Cyng Ceredig Davies
Cyng Alun Williams
Cyng Wendy Morris
Cyng Mark Strong
Ymddiheuriadau:
Cyng Sue Jones-Davies
Gan Gyngor Sir Ceredigion
(a) Apêl Hysbysiad Gorfodi
Mae apêl hysbysiad gorfodi wedi'i chyflwyno gyda'r Arolygiaeth Gynllunio yn ymwneud â Lip Licking Chicken, Heol y Wig, Aberystwyth. Honnir bod y sefydliad yn torri'i ganiatâd cynllunio trwy beidio â chydymffurfio â'r oriau agor a ganiateir. Honnir bod hyn wedi digwydd yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf. Gwrandewir ar yr apêl trwy gyfnewid datganiadau ysgrifenedig, y dylid eu hanfon at Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd a dylid eu derbyn yn ddim hwyrach na hanner dydd 2 Ebrill 2015.
(b) Papurau ar gyfer cyfarfod Pwyllgor Rheoli Datblygu CSC Ddydd Mercher, 11 Mawrth 2015.
(c)Hysbysiadau Penderfynu
A140111 – wedi'i gymeradwyo
Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at CSC yn ymwneud â'r penderfyniad uchod ac yn mynegi pryderon Cyngor Tref Aberystwyth nad yw Pwyllgor Rheoli Datblygu CSC yn rhoi digon o bwys ar farn CTA ar geisiadau am ddatblygiadau arfaethedig yn Aberystwyth.
A140112 – caniatâd adeilad rhestredig wedi'i roi
A140354 - wedi'i gymeradwyo
A140557 – wedi'i dynnu yn ôl
A140621 – caniatâd adeilad rhestredig wedi'i roi
A140929 – wedi'i gymeradwyo
- Ystyried ceisiadau cynllunio
A141026
Trosi Tŷ Amlfeddiannaeth yn dair fflat ar wahân. Adfer ymddangosiad yr eiddo yn ôl i'w fanylion gwreiddiol pan gafodd ei Restru trwy newid y ffenestriad UPVC ar flaen yr eiddo, newid ffenestri bae gyda strwythur wedi'i wella'n thermol gydag ymddangosiad allanol i gyd-fynd â'r ffenestri bae presennol.
Gerlan, 5 Stryd y Brenin, Aberystwyth
- Mae gan Gyngor Tref Aberystwyth bryderon yn ymwneud â'r bwriad i ddymchwel rhan o'r adeilad rhestredig, h.y. wâl talcen tŷ a'r wâl i iard gefn y safle. Mae angen sicrhau hefyd bod digon o le amwynder ar gyfer y biniau. Serch hynny, mae Cyngor Tref Aberystwyth yn cefnogi newid y ffenestri UPVC am ffenestri pren.
A141029
Estyniad to arfaethedig i'r cefn, goleuadau to i'r gweddlun blaen a phaneli thermal solar i'r to blaen. Ôl-gais cynllunio i insiwleiddio wal allanol i'r blaen a'r cefn.
9 Tan-y-Cae, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad. Rydym yn croesawu defnyddio paneli solar ond byddai'n well gennym ffenestri pren na rhai UPVC.
A150017
Gosod Paneli Ffotofoltäig ar do Stac Lyfrau TLB presennol ac ar do'r adeilad Mewnlenwad Iard arfaethedig
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mynediad Llyfrgell Genedlaethol, Penglais, Aberystwyth
- Datganodd Cyng Endaf Edwards a Cyng Mark Strong ddiddordeb a gadael y cyfarfod wrth i'r cais uchod gael ei ystyried.
Dim gwrthwynebiad.
A150092
Llinellau trydan
Maes Crugiau, Southgate
Dim gwrthwynebiad.
A150103
Amrywiad i Amod 1 caniatâd cynllunio 950229 er mwyn caniatáu oriau agor rhwng 8am a 2am Dydd Llun i Ddydd Iau, 8am i 3.30am Dydd Gwener a Dydd Sadwrn a 8am i 2am Ddydd Sul
51 Y Stryd Fawr, Aberystwyth
- Mae gan Gyngor Tref Aberystwyth bryderon yn ymwneud â'r cynnydd posibl o ran problemau sbwriel yn ardal y safle a sŵn gan gwsmeriaid hwyr yn y nos / cynnar yn y bore. Byddai'r ddwy broblem hyn yn cael effaith niweidiol ar fwynder preswylwyr lleol. Teimlwn y bydd y datblygiad arfaethedig yn groes i bolisi DM06 Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion. Nodwn hefyd bod cais A130549, hefyd am amrywiad i Amod 1 caniatâd cynllunio 950229, wedi'i wrthod gan CSC a chredwn y dylai'r cais hwn gael ei wrthod hefyd.
------------------------------------
- Nododd Cyng Endaf Edwards fod pryder sylweddol yn ymwneud â Chaniatâd Cynllunio A140111. Clwb Pêl-droed Aberystwyth.
- Byddai cyfarfod safle yn cael ei gynnal Ddydd Gwener 27 Mawrth 2015 am 10.30am a gwahoddir cynrychiolydd o Gyngor Tref Aberystwyth.
- Etholwyd Cyng Jeff Smith i gynrychioli'r cyngor yn y cyfarfod hwn
PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y Pwyllgor Cynllunio.
Cofnod 182.
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
Cofnodion y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol a gynhaliwyd yn yr Ystafell Gyfarfod, 11 Stryd y Popty, Aberystwyth Ddydd Llun 9 Mawrth 2015 am 7.00 pm.
Yn bresennol:
Cyng Ceredig Davies
Cyng Mair Benjamin
Cyng Wendy Morris
Cyng Lucy Huws
Cyng Brian Davies
Cyng Mark A. Strong
Cyng Martin Shewring
Cyng Jeff Smith
Cyng Brendan Somers
Cyng Alun Williams
Cyng Endaf Edwards
Hefyd yn bresennol:
Cyng Mererid Jones
Mr Peter Austin (Ardal Gwella Busnes Cyngor Sir Ceredigion)
Ymddiheuriadau:
Cyng Sue Jones-Davies
Datgan Diddordeb:
Cyng Mererid Jones – Prifysgol Aberystwyth yn gysylltiedig ag Ardal Gwella Busnes
Cyng Ceredig Davies – nododd ddiddordeb personol yn Ardal Gwella Busnes
Cyng Mark Strong – materion yn ymwneud â rhandiroedd
Cyflwyniad ar Ardal Gwella Busnes.
Croesawodd y cadeirydd Mr Peter Austin o Gyngor Sir Ceredigion a nododd fod Ardal Gwella Busnes yn fusnes sy'n cael ei redeg yn gyfan gwbl gyda'r bwriad o wella canol y dref. Mae Ardal Gwella Busnes Abertawe wedi bod yn llwyddiannus ond mae'r broses yn un anodd gan fod gofyn i fusnesau gyfrannu tuag ati.
- Cynhaliwyd dadansoddiad i weld a oes awydd am Ardal Gwella Busnes.
Os oedd y broses yn profi ei bod hi'n ffafriol a phe bai pleidlais hefyd yn profi'n llwyddiannus, byddai'n cael ei gynnal gan fusnesau.
- Fel arfer yn gweithio'n dda gyda Chynghorau Tref gan fod ganddynt fentrau ariannu tebyg.
- Byddai Ardal Gwella Busnes yn gallu tynnu ar arian arall fel arian cyfatebol.
- Beth yw'r gwerth posibl? Gallai fod cap ar fusnes bach yn gorfod talu treth o 2% - £180.000
- Nid yw'r ardal wedi'i diffinio hyd yma ond gallai'r 10 chwaraewr fwyaf fod yn sefydliadau'r sector cyhoeddus.
- Nid yw'r cyfarfodydd wedi bod â chworwm felly nid ydynt wedi gallu gwneud penderfyniadau ar y parthau ac ar beth y bydd yr arian yn cael ei wario.
- Gofynnodd Cyng Martin Shewring pa ganran o fusnesau a oedd yn annibynnol?
- Y bleidlais pan fydd ar gael bydd un busnes - un bleidlais.
- Mae Ardal Gwella Busnes wedi'i ffurfio gan y gyfraith ac o ran hynny rhaid iddo beidio â darparu'r un gwasanaethau â'r Cyngor Sir
Cafwyd trafodaeth wedyn i weld a oedd y Cyngor Tref o blaid cefnogi'r Ardal Gwella Busnes. Dewisodd Aelodau i argymell wrth y Cyngor Llawn y dylid cefnogi Ardal Gwella Busnes.
Byddai'r Llyfrgell Genedlaethol fel cefnogwyr brwd yn cael eu lleoli yn hen siop Boots yn y byr dymor.
Gohebiaeth:
(a) Llythyr gan y Landlord yn nodi y byddai'n ymweld â'r safle yn fuan. Mae angen datrys y broblem Hysbysfwrdd.
(b) Plac Hermann Ethé: - Gofynnodd Cyng Mark Strong bod yr holl aelodau yn gwirio geiriad neges e-bost yn ymwneud â'r plac arfaethedig. Byddai Cyng Strong yn sicrhau bod y geiriad Cymraeg arfaethedig yn cael ei wirio er cywirdeb.
Rhandiroedd Coedlan 5 a Min-y-ddol :
(a) Roedd Cyng Ceredig Davies wedi cwrdd â Mr Paul Arnold o Gyngor Sir Ceredigion a thri aelod o'r tenantiaid rhandiroedd. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal yr holl waith sy'n weddill ar y gerddi sydd wedi gordyfu ac yn gwneud unrhyw atgyweiriadau gofynnol. Mynegwyd pryderon ynglŷn ag is-osod plotiau. Mae cais wedi'i anfon at holl denantiaid y rhandiroedd yn gofyn iddynt fynd i Ganolfan Rheidol a llofnodi prydlesau newydd a thalu am y 12 mis nesaf. Bydd plotiau gwag yn cael eu dosbarthu ar sail meini prawf Cyngor Tref Aberystwyth.
- Bydd y mater hwn yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau pan ddylid cytuno ar benderfyniad ar ba un a ddylai'r arian o'r rhandiroedd gael eu clustnodi ai peidio.
(b) Gofynnodd Cyng Mair Benjamin a oedd Clymog Japan yn bresennol.
Nid oedd hyn yn rhan o'r brydles hon.
(c) Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ildio hawl ar gost y tir ar Goedlan 5 o ganlyniad i dderbyn y brydles hon.
(d) Mae angen sefydlu pwyllgor ar wahân i ddelio gyda thenantiaid rhandiroedd.
Parc Bwrdd Sgrialu:
Yn dilyn gwaith atgyweirio mae difrod pellach wedi'i wneud. Bellach mae angen bolltio'r bwrdd sgrialu yn hytrach na'i adael yn rhydd.
Mae angen copi o'r yswiriant ar gyfer y parc.
Mae angen dyrannu cyfrifoldeb dros gasglu sbwriel yn y lleoliad hwn a hefyd mater arolygu. Penderfynwyd cyfeirio hwn at y pwyllgor Cyllid a Sefydliadau i gynnwys swydd tasgmon.
MUGA:
Mae'r contractwr trydanol wedi newid y peiriant tocynnau ac mae'r goleuadau bellach yn gweithio. Mae'r contractwr wedi nodi, ar ôl gwirio'r goleuadau mai ar y panel trydanol oedd y broblem ac nid y goleuadau.
Dathliadau Tref Wych:
Mae'r grŵp etholedig sy'n cwrdd bob pythefnos ar nosweithiau Mawrth eisoes wedi cwrdd ddwywaith. Mae'r Faner ar gyfer yr achlysur wedi cyrraedd a bydd llun yn cael ei gyhoeddi yn y Cambrian News. Mae grŵp Facebook hefyd wedi'i greu.
Sgarmes, Band Arian Aberystwyth, Helfa Drysor, Corau Ysgol ac arddangosfa o'r Pier a'r Orsaf Reilffordd oll yn rhan o'r digwyddiad dathlu.
Bydd y llwyfan yn cael ei godi y tu allan i Gapel Bethel.
Mae angen manylion yswiriant y cyngor er mwyn symud ymlaen â chau Stryd y Popty.
Bydd angen llythyr i ofyn am gefnogaeth yn y digwyddiad gan Heddlu Dyfed – Powys.
Dylid gofyn am ariannu gan Gyngor Sir Ceredigion i ddarparu deunydd hyrwyddo.
Hysbysfwrdd:
Cyng Martin Shewring a Cyng Steve Davies i gynorthwyo'r swyddfa wrth ganfod hysbysfwrdd allanol.
Ymateb i Ad-drefnu Awdurdod Lleol:
Yn dilyn y drafodaeth yn y cyngor llawn cafwyd sgwrs bellach i drafod a fyddai Cyngor Tref Aberystwyth yn cefnogi'r syniad o gynyddu maint Cynghorau Cymuned.
Cytunodd Cyng Alun Williams i ddilyn y mater hwn mewn cyfarfodydd y dyfodol.
Adloniant yr Haf:
Aros am fanylion gan Fenter Aberystwyth. Cyng Alun Williams i ddilyn i fyny ar gyfarfod sy'n cael ei gynnal ar 10/03/2015.
Materion sy'n Weddill:
(a) Swydd Achlysurol - Mae materion cyfreithiol yn golygu bod yr hawl i bleidleisio yn amrywio rhwng etholiadau seneddol ac etholiadau cymuned. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cynghori yn erbyn cynnal y ddau etholiad ar yr un diwrnod. Penderfynodd aelodau yn bresennol i gynghori'r cyfarfod llawn nesaf o'r Cyngor y byddai Cyngor Tref Aberystwyth yn barod i ddal y swydd wag hyd at ar ôl yr etholiad seneddol.
(b) Calon Cymru – mae Cyng Wendy Morris yn dal i drafod gyda Calon Cymru ar fater diffibrilwyr.
I'w gyfeirio at gyfarfod nesaf y pwyllgor Cyllid a Sefydliadau parthed cost o £300 i'r cyngor.
(c) Arwisgo'r Maer (Cyfarfod Blynyddol y Cyngor) – Y dyddiad sydd wedi'i gadarnhau ar gyfer yr achlysur hwn yw Ddydd Gwener 15 Mai 2015 am 6.30pm yn y “Morlan” Morfa Mawr.
(d) Dydd Sul y Maer – Y dyddiad sydd wedi'i gadarnhau ar gyfer yr achlysur hwn yw Dydd Sul 24 Mai 2015. Cynhelir y gwasanaeth yng "Nghapel Seion" Stryd y Popty am 11.00am. Bydd Gorymdaith y Maer yn dechrau am 10.30am o Hen Neuadd y Dref - Stryd Portland – Y Porth Bach – Y Stryd Fawr – Stryd y Popty (Capel Seion)
(e) Heol Cambridge – Bydd is-bwyllgor yn cwrdd gyda phreswylwyr yn Heol Cambridge sy'n awyddus i dorri'r coed yn groes i gyngor Mr Jon Hadlow o Gyngor Sir Ceredigion.
Rhandiroedd: Hysbyswyd aelodau bod hanner tenantiaid y rhandiroedd wedi llofnodi a thalu am eu prydles a gobeithiwyd y byddai'r holl gytundebau yn eu lle erbyn 1 Ebrill 2015.
Parc Bwrdd Sgrialu: Bydd gwaith cynnal a chadw yn parhau i gael ei wneud a byddai'r is-bwyllgor yn cwrdd am 5.30pm Ddydd Iau 26 Mawrth 2015.
MUGA: Mae gwaith cynnal a chadw wedi'i gynnal.
Ardal Gwella Busnes: Mynegodd Cyng Ceredig Davies ddiddordeb sy'n rhagfarnu. Yn dilyn trafodaeth hir penderfynwyd bod y geiriad a ganlyn yn dderbyniol “Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn cefnogi sefydlu Ardal Gwella Busnes ar gyfer Aberystwyth yn dilyn ymgynghoriad llawn gyda'r gymuned fusnes"
Cau'r Ffordd ar gyfer Gorymdaith y Maer: Roedd angen arwydd ym Mhenparcau i nodi y gallai oedi posibl fod yn Nhref Aberystwyth. Byddai'r Cynghorwyr Ceredig Davies a Mererid Jones yn trafod ar y mater hwn.
Cofnod 183.
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
CYNHALIWYD COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR CYLLID A SEFYDLIADAU YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 16 MAWRTH 2015 AM 6.30PM
Yn bresennol:
Cyng Mererid Jones
Cyng Ceredig Davies
Cyng Alun Williams
Cyng Wendy Morris
Cyng Brenda Haines
Cyng Brian Davies
Cyng Sue Jones-Davies
Ymddiheuriadau:
Cyng Mair Benjamin
Cyng Mark Strong
Cyng Endaf Edwards
- Datgan Diddordeb
- Gohebiaeth
- Derbyniwyd neges e-bost yn ymwneud ag enghraifft o hysbysfwrdd. Cyfeiriwyd y mater at y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol o dan Cyng Ceredig Davies.
- Neges e-bost gan Cyng Mark Strong yn ymwneud â phlac Hermann Ethé. Roedd y dyfynbris gan I B Williams yn sylweddol uwch gan hynny penderfynwyd cymeradwyo'r dyfynbris a dderbyniwyd gan James Memorial, Llandre.
- Derbyniwyd hysbysiad i adnewyddu aelodaeth Un Llais Cymru. Cytunwyd cymeradwyo'r gost o £1,456 o gyllideb y flwyddyn nesaf.
- Ceisiadau trwy e-bost gan Fforwm Penparcau ar gyfer cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. CYTUNWYD y byddai gofyn iddynt gyflwyno ffurflen gais.
- CYTUNWYD ymhellach y byddai gofyn i'r holl bwyllgorau gefeillio lanw'r ffurflen gais am grant hefyd.
- Cymeradwyo'r cyfrifon ar gyfer mis Chwefror 2015
Derbyniwyd y cyfrifon ar gyfer Chwefror 2015 a'u cymeradwyo.
- Adolygu Gweithdrefn Ariannol
Cyfeiriwyd y mater at y cyfarfod Cyllid nesaf (ym mis Ebrill).
- Adolygu gofynion Cynnal a Chadw a chynnal Parciau
Derbyniwyd dyfynbris gan Gymdeithas Gofal Ceredigion am £2,115 ar gyfer cynnal a chadw Drysfa Ffordd y Gogledd – gan gynnwys ailbeintio ym mis Ebrill a Thachwedd a thorri gwair bob pythefnos. CYTUNWYD y byddai'r gost yn cael ei chymeradwyo ac y byddai'r gwaith yn cael ei fonitro yn ystod y cyfnod.
CYTUNWYD hefyd i lunio rhestr o fanylion y gwaith i gynnal 5 parc ac i hysbysebu am ddarparwr i'w benodi erbyn mis Mehefin 2015.Ystyried Cynllun Pensiwn Dyfed
Derbyniwyd llythyr gan Gynllun Pensiwn Dyfed yn ymwneud â'r angen i ad-dalu'r diffyg gan nad ydym wedi gwneud cyfraniadau er mis Hydref 2014. CYTUNWYD talu ôl-ddyledion o £147.50 am 6 mis - £1,885.
CYTUNWYD hefyd cynnig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i'r clerc newydd. Os bydd y clerc newydd yn gwrthod y cynnig, byddai'r sefyllfa yn cael ei hadolygu bryd hynny.
- Materion a gyfeiriwyd o'r cyfarfod Rheolaeth Gyffredinol
- Safle Bws Penparcau
CYTUNWYD derbyn yr isaf o'r ddau ddyfynbris a dderbyniwyd sef R. P. D. (Wales) Limited am £1,595 & TAW. CYTUNWYD bwrw ymlaen â'r gwaith cyn gynted â phosib.
- Cyfrifon ar gyfer incwm a gwariant rhandiroedd
Roedd £856 wedi'i dderbyn gan randiroedd Coedlan 5 a Min y Ddol ar gyfer 2015-16. CYTUNWYD rhoi'r arian hwn yn y banc yng Nghyfrif Rhif Dau Aberystwyth ac i ail-enwi'r cyfrif yn 'Cyngor Tref Aberystwyth - Cyfrif Rhandiroedd'. Byddai llwybr archwilio yn cael ei gynnal o'r arian sy'n cael ei dalu i'r cyfrif.
- Cyfraniad tuag at gost diffibrilwyr
Cytunwyd ariannu £1,000 tuag at gost dau diffibriliwr. Bydd angen trafod ymhellach lleoliad y diffibrilwyr.
- Hysbyseb yn y Cambrian News ar gyfer Dathliad Gwobr Tref Wych
CYTUNWYD ariannu cost o £150 tuag at gost golygyddol i hysbysebu Dathliad Gwobr Tref Wych.
- Unrhyw faterion ar ddisgresiwn y Cadeirydd.
- Panel Staffio
O'r 1af o Fawrth 2015, bydd oriau Carl Williams yn cynyddu i 12 awr yr wythnos. Angen hysbysu Cyngor Sir Gaerfyrddin
- Incwm a dderbyniwyd
Cyflwynodd Cyng Ceredig Davies £856 ar gyfer incwm rhandiroedd a £50 am werthu 2 cabinet. Diolchwyd iddo am ei waith.
Cwestiynodd Cyng Martin Shewring pam mai dim ond un dyfynbris a oedd wedi'i dderbyn am waith ar Ddrysfa Ffordd y Gogledd. Fe'i hysbyswyd bod hon yn berthynas barhaus gyda Chymdeithas Gofal Ceredigion ac y byddai'r gwaith yn rhan o'r broses dendro lawn yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau.
Cofnod 184.
Ceisiadau Cynllunio:
A 141026 – Stryd y Brenin. Gwaith adnewyddu i'r adeilad.
Roedd hwn yn gynllun diwygiedig gan fod yr adeilad yn adeilad rhestredig Gradd 2. Roedd aelodau o blaid y cynllun a chan hynny ni wnaethant wrthwynebu.
Cofnod 185.
Gohebiaeth:
(a) Roedd yr Ŵyl Feicio yn gofyn am ddefnyddio trwydded gyhoeddus Cyngor Tref Aberystwyth. Dylid hysbysu'r Ŵyl Feicio bod y cyngor yn cytuno i'r cais hwn.
(b) Darllenwyd llythyr gan Lynn Thomas yn diolch i'r cyngor am godi plac yn coffau Syr T.H.Parry Williams ar gartref y teulu yn Ffordd y Gogledd, Aberystwyth.
(c) Llythyr gan Mr Ken Young yn hysbysu aelodau y byddai nofwyr St Brieuc yn cyrraedd y Clwb Bocsio ym Mhenparcau ar 17 Ebrill 2015 am 6pm.
(d) Llythyr gan Mr Ken Young yn hysbysu aelodau y byddai dirprwyaeth o St Brieuc yn cyrraedd Aberystwyth mewn pryd i fynychu Arwisgo'r Maer ar 15 Mai 2015.
(e) Dosbarthwyd manylion digwyddiad yn dathlu 10 mlynedd y "Morlan" i aelodau.
(f) Cyfeiriwyd neges e-bost gan Wales in Bloom yn ymwneud â chystadleuaeth eleni at y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.
(g) Nododd lythyr gan Glwb Strôc Aberystwyth a'r Cylch eu bod angen man cyfarfod gyda chyfleusterau parcio digonol. Awgrymwyd sawl lle gan aelodau a byddai'r rhain yn cael eu hanfon ymlaen at y Clwb Strôc.
(h) Nododd neges e-bost gan Adran Etholiadol Cyngor Sir Ceredigion na allai isetholiad ym Mhenparcau gael ei gynnal ar yr un diwrnod â'r Etholiad Cyffredinol.
(i) Llythyr gan awdurdod heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod y llythyr a anfonwyd gan y cyngor yn ymwneud â defnyddio Gorsaf Heddlu Penparcau.
(j) Llythyr gan Elizabeth Morley yn cwyno am y gwaith ar y palisau sy'n amgylchynu safle Tesco. Roedd Pod Clare wedi'i chomisiynu i gynnal peth gwaith ac mae'n ymwybodol o'r gwrthwynebiadau gan rai unigolion.
(k) Llythyr gan Adran Dwristiaeth Cyngor Sir Ceredigion yn nodi y byddai newid yn oriau agor holl Ganolfannau Croeso yng Ngheredigion. Ni fyddai'r Canolfannau bellach ar agor ar Ddyddiau Sul.
(l) Llythyr gan Kids Cancer Charity yn gofyn i'r Maer etholedig ystyried dewis eu helusen fel ei elusen y flwyddyn.
(m) Llythyr at aelodau yn eu hysbysu o'r Ymgynghoriad Heddlu a Thân sy'n cael ei gynnal yn Aberaeron 27 Ebrill 2015 rhwng 7.00 pm a 9 pm.
(n) “Economi Gyda'r Nos”. Rhoddwyd y diweddaraf gan Cyng Mair Benjamin.
(o) Neges e-bost gan Lowri Edwards o Gyngor Sir Ceredigion yn hysbysu aelodau o gylchlythyr a oedd ar gael ar Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
- Gwnaed cais bod pob ymholiad i gadw ystafelloedd yn cael eu gwneud trwy'r swyddfa - mae hyn yn cynnwys gweithio ar eich pen eich hun at ddibenion yswiriant.
Cofnod 186.
Cwestiynau yn ymwneud â materion yng nghylch gwaith y cyngor hwn yn unig.
Cofnod 187.
Cyllid – I ystyried gwariant.
Cymeradwywyd y taliadau a ganlyn:-
Talwyd i |
Disgrifiad |
Swm (£) |
Purchase Power |
Peiriant Ffrancio |
228.35 |
Cambrian Locksmith |
Sylw i goffor y swyddfa |
50.00 |
Cyngor Sir Gaerfyrddin |
Cyflogau, taliadau a diffyg pensiwn |
3,075.51 |
Rebus |
Baner Gwobr Tref Wych |
378.00 |
Cyng Mair Benjamin |
Treuliau i gyfarfod Un Llais Cymru |
21.75 |
E.Carl Williams |
Cyflogau a threuliau |
305.16 |
Rhwydweithiau Morgan Price |
Costau adnewyddu gwefan |
500.00 |
Cambrian News |
Hysbyseb am glerc |
475.20 |
Un Llais Cymru |
Aelodaeth ar gyfer 2015-16 |
1,456.00 |
Afan Construction |
Storio 7/2/15 – 8/5/15 |
312.00 |
TME Electrical Contracting |
5 anfoneb am waith ar Oleuadau Nadolig |
11,941.85 |
Delyth Davies |
Gwasanaethau cyfieithu Ionawr a Chwefror |
87.50 |
Ffenestri Davies Windows |
Gwaith Fforwm Penparcau |
840.00 |
Howden Joinery |
Gwaith Fforwm Penparcau |
654.22 |
Clements |
Gwaith Fforwm Penparcau |
252.00 |
PTS |
Gwaith Fforwm Penparcau |
116.30 |
Hayward Electrical |
Gwaith Fforwm Penparcau |
1,179.66 |
Cofnod 188.
Adroddiadau ar lafar gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion yn ymwneud â'r cyngor hwn yn unig.
Hysbysodd Cyng Alun Williams aelodau y byddai'r brydles 25 mlynedd o hyd ar feysydd chwarae yn cael ei thrafod yn y Cabinet y diwrnod canlynol (24/3/2015).
- Mynegodd Cyng Mererid Jones bryder bod Cyngor Sir Ceredigion yn hwyr iawn yn darparu'r brydles i Gyngor Tref Aberystwyth ac nad ydynt wedi'i gweld hyd yma. Nododd ymhellach y dylai'r yswiriant perthnasol fod yn ei le cyn i'r brydles gael ei harwyddo.
- Mae gan Cyng Martin Shewring gymhwyster pe bai'r cyngor angen cynllun dros dro ar sut y bydd yr ardal chwarae yn cael ei rheoli yn y tymor byr.
Nododd Cyng Alun Williams bod cynnig i estyn ardal dir 1995 Parc Natur Penglais gan 25% i Ffordd Brynymor.