CYNGOR TREF ABERYSTWYTH TOWN COUNCIL
COFNODION O GYFARFOD O’R CYNGOR LLAWN A GYNHALIWYD YN SIAMBR Y CYNGOR, 11 STRYD-Y-POPTY AR NOS LUN, 28 MEDI 2015 AM 6.30p.m.
PRESENNOL
- Cyngh./Cllr. Dr. Endaf Edwards (Maer)
- Y Cyngh./Cllr. Brendan Somers (Dirprwy Faer)
- Cyngh./Cllr. Brenda Haines
- Cyngh./Cllr. Alun Williams
- Cyngh./Cllr. Steve Davies
- Cyngh./Cllr. Mark A. Strong
- Cyngh./Cllr. Brian Davies
- Cyngh./Cllr. Mererid Jones
- Cyngh./Cllr. Mair Benjamin
- Cyngh./Cllr. Lucy Huws
- Cyngh./Cllr. Sue Jones-Davies
- Cyngh./Cllr. Wendy Morris
- Cyngh./Cllr. Ceredig Davies
- Cyngh./Cllr. Sarah Bowen
- Cyngh./Cllr. Jeff Smith
- Cyngh./Cllr. Martin Shewring
- Cyngh./Cllr. Kevin Price
- Cyngh./Cllr. Talat Chaudhri
YMDDIHEURIADAU:
DIM
Cofnod 62
Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r Agenda
- Cyngh./Cllr. M. Benjamin, Cyngh./Cllr. Smith, Cyngh./Cllr. K. Price – eitem 14 /item 14.
- Cyngh./Cllr. Mererid Jones, Cyngh./Sue Jones-Davies – eitem 15/item 15.
Cofnod 63
Cyfeiriadau Personol
Fe wnaeth y Maer longyfarch y Cyngh. Wendy Morris ar ennill y wobr ‘Real Welsh Legend’ ym mis Awst; y Cyngh. Jeff Smith ar ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gyflwynwyd iddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst; a llongyfarchwyd Gwenllian Spink, merch y Cyngh. Lucy Huws ar ennill ysgoloriaeth Artist Ifanc y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod hefyd.
Cyfeiriodd y Maer at y gwaith mawr sydd wedi digwydd yn symud ac ail-drefnu’r dodrefn yn Siambr y Cyngor a diolchodd yn benodol i’r Cyngh. Talat. Chaudhri, y Cyngh. Mererid Jones, y Cyngh. Kevin Price a’r Cyngh. Jeff Smith am eu holl waith caled.
Cofnod 64
Adroddiad y Maer
Cylchredwyd adroddiad o weithgareddau’r Maer ers cyfarfod diwetha’r Cyngor Llawn i’r Aelodau.
Cofnod 65
Cofnodion o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar ddydd Llun, 27 Gorffennaf 2015
Cofnod 66
Materion yn codi o’r Cofnodion
Dim
PENDERFYNWYD derbyn y Cofnodion.
Cofnod 67
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH TOWN COUNCIL
COFNODION O GYFARFOD O’R CYNGOR LLAWN A GYNHALIWYD YN SIAMBR Y CYNGOR, 11 STRYD-Y-POPTY AR NOS WENER, 31 GORFFENNAF 2015 AM 6.30P.M
PRESENNOL:
- Cyngh./Cllr. Dr. Endaf Edwards (Maer/Mayor)
- Cyngh./Cllr.Brendan Somers (Dirprwy Faer/Deputy Mayor)
- /Cllr. Brian Davies
- Cyngh./Cllr. Wendy Morris
- Cyngh./Cllr. Brenda Haines
- Cyngh./Cllr. Lucy Huws
- Cyngh./Cllr. Steve Davies
- Cyngh./Cllr. Kevin Price
- Cyngh./Cllr. Jeff Smith
- Cyngh./Cllr. Aled Davies
- Cyngh./Cllr. Ceredig Davies
- Cyngh./Cllr. Martin Shewring
- Cyngh./Cllr. Alun Williams
- Cyngh./Cllr. Sue Jones-Davies
YMDDIHEURIADAU:
- Cyngh./Cllr. Mererid Jones
- Cyngh./Cllr. Mark A. Strong
- Cyngh./Cllr. Mair Benjamin
1, Cyfethol Aelod newydd i Gyngor Tref Aberystwyth
Agorodd y Maer y cyfarfod drwy rhoi cefndir ar sut roedd y Cyngor wedi cyrrraedd y fan yr oeddent o gyfethol Aelod newydd. Eglurwyd a phwysleisiwyd bod y Cyngor wedi dilyn y prosesau cywir ar ei hyd: derbyniwyd cyngor ac arweiniad gan Gyngor Sir Ceredigon ac Un Llais Cymru. PENDERFYNWYD y byddai’r Cyngor yn egluro’r broses a rhoi gwybod i’r cyhoedd drwy ddatganiad i’r wasg. Caniataodd y Maer i’r Aelodau ymateb ac yna aeth ymlaen i egluro’r broeses bleidleisio. Ar ôl pleidlais gyfrinachol, etholwyd Dr Talat Chaudhri yn Aelod o Gyngor Tref Aberystwyth.
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion
Cofnod 68
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH TOWN COUNCIL
Cofnodion o Gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, ar nos Fawrth, 8 Medi 2015 am 6.30 p.m.
PRESENNOL:
- Cyngh./Cllr. Jeff Smith (Cadeirydd)
- Cyngh./Cllr. Lucy Huws (Is-Gadeirydd)
- Cyngh./Cllr. Mair Benjamin
- Cyngh./Cllr. Kevin Price
- Cyngh./Cllr. Brian Davies
- Cyngh./Cllr. Talat Chaudhri
- Cyngh./Cllr. Martin Shewring
- Cyngh./Cllr. Sue Jones-Davies
- Cyngh.Cllr. Alun Williams
YMDDIHEURIADAU:
- /Cllr. Endaf Edwards
- Cyngh./Cllr. Brendan Somers
- Cyngh./Cllr. Steve Davies
- Cyngh./Cllr. Mark Strong
YN MYNYCHU:
- Cyngh./Cllr. Ceredig Davies
- Cyngh./Cllr. Mererid Jones
- Datgan Diddordeb/ Declaration of Interest
A150238: Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos/Llwyn yr Eos Primary School: Cyngh./Cllr. Kevin Price.
A15056: Meddygfa’r Llan/Church Surgery: Cyngh./Cllr. Mair Benjamin, Cyngh./Cllr. Lucy Huws, Cyngh./Cllr. Sue Jones-Davies, Cyngh./Cllr. Kevin Price, Cyngh./Cllr. Jeff Smith, a’r/and Cyngh./Cllr. Alun Williams.
- Adborth o’r cwrs cynllunio a gynhaliwyd 7 Medi yng Nghanolfan Rheidol
Cytunwyd bod y cwrs yn llawn o faterion diddorol gan gynnwys sut y gall ac y dylai’r Cyngor Tref weithredu yn greadigol gyda’u cymunedau a’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Yn y dyfodol agos rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Deddf Gynllunio newydd i Gymru er mwyn dod â phrosesau a gweithdrefnau cynllunio yn gyfredol. PENDERFYNWYD ysgrifennu at gynghorau cymuned eraill sydd o fewn cyrraedd agos i Aberystwyth i weld a fyddent â diddordeb sefydlu Fforwm i ddarganfod a fyddai digon o awydd ar gyfer Cynllun Llefydd i.e. ffordd o weithredu a chyfranogi i wybod beth mae’r cymunedau eu eisiau.
- Cwrs Cynllunio Ieithyddol
Cynigiwyd y byddai’r Cadeirydd yn mynychu un o’r cyrsiau yma sy’n cael eu cynnal gan Brifysgol Aberystwyth ac i gysylltu gyda hwy i wybod pa un fyddai mwyaf defnyddiol. Fe fydd y Cadeirydd yn gwneud adroddiad ysgrifenedig i’r Pwyllgor am yr hyfforddiant. PENDERFYNWYD ar hyn.
- Y nifer arfaethedig o dai yn Aberystwyth
Cwestiynwyd y nifer o dai newydd sy’n bwriadau cael eu dynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol gan gofio y lleihad yn niferoedd y myfyrwyr a’r datblygiad diweddar yn y lle newydd i fyfyrwyr yn Waunfawr. Yn ychwanegol at hyn mae yna nifer o dai gwag yn y dre. Atgoffwyd yr Aelodau bod y niferoedd a bennir gan Cyngor Sir Ceredigion yn unol â chanllawiau gan Llywodraeth Cymru. PENDERFYNWYD ysgrifennu at Cyngor Sir Cerdigion gyda chopi i’w anfon at Llywodraeth Cymru ac hefyd PENDERFYNWYD ysgrifennu llythyr draft at y Gwenidog.
- Pryderon ynglŷn â’r rhwydwaith nwy yn y dref
Adroddwyd bod gan rhai trigolion bryderon diogelwch. Teimlwyd y dylid cysylltu gyda gwahanol bartneriaid megis y Brifysgol, Tai Ceredigion a Chyngor Sir Ceredigion ynglŷn â’r broblem yma. PENDERFYNWYD anfon llythyr at Adran Iechyd Cyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion yn nodi Heol y Gogledd, Morfa Mawr a Ffordd y Môr yn arbennig.
- Gohebiaeth
A140498: Clwb RAFA, Stryd Y Bont/RAFA Club, Bridge Street - Tynwyd yn ôl/
A140438/A140439: 23 Y Stryd Fawr/Great Darkgate Street - Tynwyd yn ôl/
A150424: Pen-y-Cei, Ffordd Felin y Môr/Pen-y-Cei, Ffordd Felin y Môr - Tynwyd yn ôl.
A150391: Iries/Iries – Caniatawyd.
A150343: Ysgol Llwyn yr Eos (campfa)/Llwyn yr Eos School (gymnasium) – Caniatawyd.
A150395: Y Libertine, Ffordd y Môr (arwyddion)/The Libertine, Terrace Road (signage) – Caniatawyd.
- Ystyried Ceisiadau Cynllunio
A150238: Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos:
Dymchwel adeilad dros-dro sy’n bodoli yn barod ac adeiladu Cyfleuster Flying Start: Dim gwrthwynebiad. Mae Cyngor Tref Aberystywth yn croesawu’r datblygiad ac yn annog mwy o ddarpariaeth fel Flying Start”.
A150560: Meddygfa’r Llan, Stryd Portland (arddangos arwyddion):
- Nid yw’r arwyddion arfaethedig yn gydnaws â’r adeilad hanesyddol lle perfformiwyd yr emyn ‘Aberystwyth’ gyntaf yn 1879 (tôn sydd erbyn hyn yn fyd enwog). Does dim angen cymaint o arwyddion mawr ac yn benodol does dim angen arwydd yn rhestru’r nwyddau sydd ar gael. Does dim angen goleuadau mewnol o ystyried bod yr arwydd mewn Ardal Cadwraeth. Dylai’r arwyddion fod yn ddwyieithog.
A150640 & A150641: 23 Stryd Fawr:
Gosod ffrynt newydd, caeadau-rholer, arwyddion ac unedau aer-dymheru. Trafodwyd y rhain fel un cais.
Gosod ffrynt siop newydd: byddai Cyngor Tref Aberystwyth yn croesawu ffrynt siop a fyddai’n adlewyrchu ffryntiau siopau traddodiadol a adeiladwyd fel rhan o’r Ardal Adfywio.
Arwyddion: (gan gynnwys posteri yn y ffenestri ). Hoffai’r Cyngor Tref weld arwyddion dwyieithog.
Shyters-rholer: ym marn Cyngor Tref Aberystwyth, nid yw shyters yn gwella gwedd y dref a hoffai’r Cyngor annog yr ymgeisydd i ail ysytried yr angen am shyters rholer.
Unedau aer-dymheru: Dim gwrthwynebiad.
Materion eraill: o ystyried faint o sbwriel fydd y siop newydd yn debygol o greu, hoffai Cyngor Tref Aberystwyth weld yr ymgeisydd yn gwneud cyfraniad tuag at finiau sbwriel a glanhau’r stryd.
PENDERFYNWYD derbyn y Cofnodion.
Cofnod 69
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH TOWN COUNCIL
Cofnodion o Gyfarfod o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, nos Lun, 14 Medi 2015 am 6.30p.m.
PRESENNOL:
- Cyngh./Cllr. Ceredig Davies (Cadeirydd/Chair)
- /Cllr. Kevin Price (Is-Gadeirydd/Vice-Chair)
- Cyngh./Cllr. Mair Benjamin
- Cyngh./Cllr. Martin Shewring
- Cyngh./Cllr. Sue Jones-Davies
- Cyngh./Cllr. Brenda Haines
- Cyngh./Cllr. Alun Williams
- Cyngh./Cllr. Wendy Morris
- Cyngh./Cllr. Brendan Somers
- Cyngh.Cllr. Brian Davies
- /Cllr. Mark Strong
- Cyngh./Cllr. Steve Davies
- Cyngh./Cllr. Jeff Smith
- /Cllr. Endaf Edwards
YMDDIHEURIADAU:
DIM
YN MYNYCHU:
- Cyngh./Cllr. Mererid Jones
- Cyngh./Cllr. Talat Chaudhri
Cyn i’r cyfarfod ddechrau fe groesawodd y Cadeirydd y Cyngh. Talat Chaudhri yn gynnes i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Rheolaeth fel aelod newydd etholedig o’r Cyngor Tref. Fe groesawodd y Cadeirydd hefyd yr Aelodau yn ôl yn dilyn toriad yr haf.
- Datgan diddordeb
Eitem10 - Rhandiroedd: Cyngh./Cllr. Mark A. Strong.
4. Statws Aberystwyth fel tref ‘Croeso i Gerddwyr’
Nodwyd bod y Cyngor wedi cytuno yn flaenorol i dderbyn y syniad yma. PENDERFYNWYD i fynd ymlaen â hyn drwy gysylltu gyda’r Cerddwyr i’w gwahodd i drafod eu syniadau. Cytunwyd y gellid gwneud hynny gyda cynrychiolydd o’r Cyngor ac yn annibynol o gyfarfod pwyllgor.
- ‘Potensial Ynni Dŵr yn eich Tref’ (gohebiaeth o’r Cyngor Llawn 27-7-15 oddi wrth ‘Hydropower Consultancy’)
Cafwyd trafodaeth ar y pwnc a nodwyd bod Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio ynni gwynt ac ynni haul; efallai nad ynni hydro yw’r opsiwn gorau bob amser. PENDERFYNWYD y dylai’r Cyngor Tref gysylltu gyda’r cwmni a dweud wrthynt na fyddai Cyngor Tref Aberystwyth yn ystyried eu cynnig ar hyn o bryd a’u cynghori i gysylltu gyda Chyngor Sir Ceredigion.
- Goleuadau Nadolig
Ysytyriwyd yn llawn y dyfynbris a dderbyniwyd gan gwmni Goleuadau Nadolig o Lanelli. Cafwyd trafodaeth ar beth fyddai pobl y dref ei eisiau a sut orau y gallai Cyngor y Dref ddefnyddio arian cyhoeddus yn y ffordd mwyaf effeithlon i wneud y dref i edrych yn arbennig ac ar yr un pryd rhoi gwerth am arian. Nodwyd bod costau storio uchel ar eitemau y goleaudau Nadolig ar hyn o bryd. Nodwyd hefyd y byddai’n fwy darbodus i ddefnyddio contractwyr lleol oherwydd y byddent ar gael pe bai eu hangen mewn argyfwng. Rhoddwyd ystyriaeth i’r defnydd o addurniadau di-drydan fel y gwelir mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Cafwyd cynnig y dylid gael costau yn barod ar gyfer y Pwyllgor Cyllid; cael Fforwm agored gyda trigolion Aberystwth drwy roi holiadur ar wefan y Cyngor Tref ac anfon llythyr at y Siambr Fasnach, Clwb Busnes Aberystwyth, Datblygwyr Lagan (Tesco), Spar a Coop a gofyn iddynt am gymorth ariannol. PENDERFYNWYD gweithredu ar hyn.
- Baw Cŵn
Dangosodd y Cadeirydd daflen addysgol gyda’r penawd “Why Do We Need to Clean Up Dog Mess” a roddir i bob disgybl ym mhob ysgol leol gan rhai cynghorau cymuned ar draws Cymru. PENDERFYNWYD anfon llythyr at Swyddog o Gyngor Sir Ceredigion i drafod yr mater ac i roi gwybodaeth i’r Cyngor Tref ar beth fedr a beth na fedr y Cyngor Sir ei wneud yng ngwyneb y diffyg ariannol presennol.
- Gwahoddiad i Glerc Cyngor Tef Y Trallwng ymweld â Chyngor Tref Aberystwyth a rhoi cyflwyniad ar sut maent wedi mabwysiadu rhai gwasanaethau
PENDERFYNWYD y byddai’r Clerc yn trefnu cyfarfod anffurfiol gyda Clerc Cyngor Tref Y Trallwng, Mr Robert Robinson cyn y cyfarfod ar y cyd gyda Pwyllgor Cysylltu Rheilffordd Yr Amwythig/Aberystwyth gyda Phwyllgor Cysylltu Rheilffordd yr Arfordir y Cambrian a gynhelir yn Siambr y Cyngor dydd Gwener,18 Medi, 2015.
- Cynllun gwael mynedfa i’r Orsaf Rheilffordd
Nodwyd mai Cyngor Sir Ceredigion sydd berchen ac yn gyfrifol am y tu allan i Wetherspoon. Rhoddwyd gwybodaeth i’r Aelodau bod Fforwm Anabledd yn mynd i roi cynnig gerbron i waredu y dodrefn stryd ac unrhyw rwystrau eraill sy’n amharu ar bobl â diffyg are eu golwg. Nodwyd yn y fan hon y dylai cyfrifoldeb fod ar Gynghorwyr Tref i gysylltu gyda’u Cynghorydd Sir lleol am help gyda materion o’r fath yma.
- Rhandiroedd Allotments
Nodwyd y cynhelir cyfarfod Rhandiroedd ar y cyd ar 15 Hydref am 6.30p.m. yn Siambr y Cyngor rhwng cynrychiolwyr o Cyngor Tref Aberystwyth a Phwyllgor Rhandiroedd. Cyfeiriwyd, er diddordeb gan Aelod bod 2015 yn flwyddyn Rhyngwladol y Priddoedd. PENDERFYNWYD y gellid amgau “Cronfa Rhandiroedd” yn y Gyllideb ac i gael dyfynbrisiau ar gyfer cywiro ffens ffiniol yn Rhandir Coedlan 5.
- Plac “Gwobr Tref Arbennig”
Cynigiwyd y dylid gwneud trefniadau i’r dystysgrif sydd wedi ei fframio gael ei rhoi i fyny yn Llyfrgell y Dre. Awgrymwyd y dylid cael copi ohoni cyn i’r Cyngor ei throsglwyddo. PENDERFYNWYD ar hyn.
- Arwydd Treftadaeth Penparcau
Eglurwyd y gellir gosod arwydd disgrifiadol ar yr un patrwm â’r rheiny a welir o gwmpas safleoedd hanesyddol yn Aberystwyth a’u gosod mor agos ac mor ddiogel a phosib i safle gwreiddiol y Tollborth ym Mhenparcau. PENDERFYNWYD i gael costau o’r math yma o arwydd ac i ddod â’r gwaith ysgrifenedig a fydd ar yr arwydd yn ôl i’r Cyngor llawn.
3.Mesurau Diogelwch Tân
Derbyniwyd adroddiad llawn gan y Cyngh. J. Smith yn nodi nifer o ffyrdd y gallai trefniadau diogelwch tân adeilad y Cyngor - sydd ar les - eu gwella. Derbyniwyd a PHENDERFYNWYD ar y cynigion canlynol:
Bod CTA yn cael gweithwyr i mewn i ail-hongian drysau Siambr y Cyngor i agor tu fas - i mewn i’r coridor ac i drwsio’r drws sydd ddim mewn defnydd ar hyn o bryd
Bod arwyddion goleuol yn cael eu gosod (wrth y lifft ar y llawr gyntaf a’r llawr gwaelod) i wahardd pobl rhag ddefnyddio’r lifft os oes tân
- Bod arwyddion goleuol yn cael eu gosod (ym mhob ystafell a’r coridor a’r llawr gwaelod) i esbonio bod angen i bobl fynd lawr y grisiau os oes tân, a pheidio â defnyddio’r lifft, ac i ymgynnull tu allan i Gapel Seion ar draws y ffordd
- Bod arwyddion goleuol gwyrdd yn dweud “allan / exit” neu rhywbeth tebyg yn cael eu gosod uwchben drysau Siambr y Cyngor, uwchben y drws sy’n arwain o’r lifft i’r cyntedd ar y llawr gwaelod (ar ochr y lifft), uwchben y prif drws allanol (ar y tu mewn) ac yn yr ystafelloedd
- Bod y Cadeirydd/Maer yn egluro’r trefniadau tân ar ddechrau pob cyfarfod.
- Bod CTA yn rhoi gwybod am drefniadau tân i drefnwyr unrhyw weithgaredd allanol a gynhelir yn yr adeilad, a gofyn iddynt gyfleu’r wybodaeth i bawb sy’n rhan o’r gweithgaredd
- Bod CTA yn adolygu trefniadau ar gyfer arbrofi larymau tân yn yr adeilad, gan sicrhau arbrofion larymau tân wythnosol am bris cystadleuol
- Bod yr holl arwyddion tân yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg uwchben y Saesneg
Yn ogystal, dylai’r partition ddod i lawr; penderfynwyd hynny’n barod. PENDERFYNWYD y byddai y Cyngh. Smith yn cael prisau ar yr eitemau hyn a’u cyflwyno yn y Pwyllgor Cyllid nesaf.
- Plac Pont Trefechan
Adroddwyd ar ddigwyddiad anffodus lle y bu i’r plac llechen sydd ar Bont Trefechen ddisgyn a thorri. PENDERFYNWYD y byddai Cyngor Tref Aberystwyth yn ail-osod y plac a tynnu sylw at y ffaith y dylai defnydd y sgriws fod yn addas ar gyfer y lleoliad. Cytunwyd y byddai y Cyngh. J. Smith a’r Cyngh. M. Strong yn cyd-gysylltu yn y mater hwn.
- Dyfodol Dodrefn y Cyngor a’r Byrddau Anrhydeddau
Cynigwyd i ddelio gyda’r dodrefn sy’n weddill nad sydd ar y llawr cyntaf a cadw byrddau plygadwy ar gyfer achlysuron.
Cynigiwyd addasu trefn gosod-allan y dodrefn yn y Siambr ac i gael gwared ar y partition. PENDERFYNWYD ar yr holl faterion hyn.
Cytunwyd i drafod Byrddau Anrhydedd ar ddyddiad arall.
- Materion Heb eu Cyflawni
- Fe fydd y Llen Brydeinig a’r Grwpiau Heddwch yn cyfarfod yn Siambr y Cyngor ar ddydd Mercher 16 Medi 2015 i drafod trefniadau ar gyfer Sul y Cofio. Nodwyd bod Cyngor y Dref yn hwyluso’r cyfarfod a chytunwyd y byddai’r Maer, y Cyngh. Alun Williams a’r Cyngh. Ceredig Davies yn mynychu.
- PENDERFYNWYD anfon llythyr ar achlysur ymweliad y Maer gyda St. Brieuc, at M. Jean Guezennec yn datgan ei fod wedi ei wobrwyo gyda Rhyddid Tref Aberystwyth.
- (i) Gofynwyd gan y Cyngh. M. Shewring am ddilyniant i’r mater yn ymwneud â chyflwr y ffens o amgylch ardal picnic wrth ymyl y castell yn Ffordd y De.
(ii) Gwnaed cais gan y Cyngh. M. Shewring am restr o’r holl gynigion a phenderfyniadau a basiwyd yn y Cyngor llawn a’r dilyniant dilynol iddynt.
- Cefnogwyd yr egwyddor o bwrcasu cyfrifiadur newydd i’r swyddfa gan yr Aelodau; cytunwyd y byddai’r pwyllgor ariannol yn ysytried hyn mewn manylder.
- Gohebiaeth
i) Derbyniwyd e-bost gan Weinyddwr Ardal Arklow yn ymwneud â’r posibilrwydd o Efeillio Cyngor Bwrdeistrefol Arklow gyda Cyngor Tref Aberystwyth. Cytunwyd mewn egwyddor i gefnogi’r syniad gefeillio gyda Arklow. PENDERFYNWYD anfon llythyr at Mr. D. Jenkins yn gofyn iddo ymchwilio pa mor ymarferol fyddai i ffurfio Pwyllgor Gyfeillio a fyddai’n cynnwys cynrychiolaeth o Gyngor Tref Aberystwyth.
ii) Arosfanau bws – Yn dilyn symudiadau diweddar gan Cyngor Tref Aberystwyth i osod arosfan bws ar brif stryd Penparcau derbyniwyd ymateb cadarnhaol oddi wrth Swyddog o Gyngor Sir Ceredigion yn cydnabod awydd y Cyngor Tref ac roedd yn ymateb yn ffafriol i hynny.
iii) Derbyniwyd e-bost yn ymwneud â chyflwr palmantydd a tramwyfeydd yn Dan-y-Coed. Nodwyd bod y Cyngh. M. Strong yn delio â’r mater gyda Cyngor Sir Ceredigion.
iv) Llythyr yn tynnu sylw’r Cyngor Tref bod Stryd y Popty yn cau yn ystod Gŵyl Bwyd a Diod Aberystwyth, 19 Medi 2015.
v) Llythyr oddi wrth Mark Williams AS yn cyfleu ei bryder ar ran un o’i etholwyr ynglŷn â Rhaglen Adloniant yr Haf gan Menter Aberystwyth. PENDERFYNWYD anfon y llythyr ymlaen at Mr J. Wallace, Menter Aberystwyth.
vi) Llythyr oddi wrth Mark Williams AS yn gofyn faint o finiau baw cŵn sydd ar Craig Glais. Nodwyd nad yw Cyngor y Dref yn berchen ar Craig Glais ac nad yw biniau cŵn yn rhan o gylch gwaith Cyngor y Dref. PENDERFYNWYD i ateb Mr Williams yn datgan hyn.
vii) Derbyniwyd e-bost yn hysbysu am ddigwyddiad fyddai’n hyrwyddo y paratoadau ar gyfer Gŵyl Calan Gaeaf. Roedd yr Aelodau yn gefnogol.
viii) Derbyniwyd e-bost yn cwyno am y colomenod yn yr ardal bwyta yn Wetherspoon. Nodwyd bod y mater hwn tu allan i gylch gorchwyl Cyngor Tref Aberystwyth. PENDERFYNWYD i anfon yn ôl at yr person oedd wedi cyflwyno’r gŵyn i ddatgan hyn.
ix) Derbyniwyd e-bost yn gofyn beth oedd wedi digwydd i’r biniau coch baw-cŵn yn Nghoedlan Plas Crug. Cytunwyd i ateb yn datgan bod holl faw-cŵn yn gallu cael ei roi mewn unrhyw fin bellach a bod y mater y tu allan i gylch gorchwyl Cyngor y Dref.
PENDERFYNWYD derbyn y Cofnodion.
Cofnod 70
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH TOWN COUNCIL
Cofnodion o Gyfarfod o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, ar ddydd Llun, 21 Medi 2015 am 6.30p.m.
PRESENNOL:
- Cyngh./Cllr.Mererid Jones (Cadeirydd)
- /Cllr. Alun Williams (Is-Gadeirydd)
- Cyngh.C/llr. Brenda Haines
- Cyngh./Cllr. Wendy Morris
- /Cllr. Brian Davies
- Cyngh./Cllr. Brendan Somers
- /Cllr. Mark A. Strong
- Cyngh./Cllr. Ceredig Davies
- Cyngh./Cllr. Endaf Edwards
YMDDIHEUERIADAU:
DIM
YN MYNYCHU:
- Cyngh./Cllr. Jeff Smith
- Datgan Diddordeb
Dim
4 Cymeradwyo Cyfrifon hyd at ddiwedd Gorffennaf 2015
PENDERFYNWYD derbyn y Cyfrifon.
- Cymeradwyo Cyfrifon hyd at ddiwedd Awst 2015
Nodwyd bod Cynghorau sydd â chyllideb o dros £200K yn ddarostyngedig i’r Ddeddf Llesiant ac hefyd â’r hawl i gario 30% o’r arian dros ben drosodd I’r flwyddyn ariannol nesaf. Pwysleisiodd y Cadeirydd y dylai’r Aelodau fod yn wyliadwrus o hyn. PENDERFYNWYD derbyn y cyfrifon.
- Materion a gyfeiriwyd o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
(a) Gwariant Rhandiroedd:
PENDERFYNWYD y byddai’r mater hwn yn cael ei ystyried pan yn pennu’r Gyllideb ar gyfer y Flwyddyn Ariannol nesaf.
Adroddwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol - y dylai’r Cyngor Tref (gan eu bod wedi mabwysiadu’r Rhandiroedd oddi wrth y Cyngor Sir) osod proses mewn lle ar gyfer pan fyddai angen gwneud gwaith yn y Rhandiroedd, y byddai’r Swyddfa yn gallu cyfeirio at restr o gontractwyr cydnabyddedig.
PENDERFYNWYD y dylid gosod hysbyseb ar wefan Cyngor Tref Aberystwyth ac yn y Cambrian News yn gwahodd contractwyr cydnabyddedig i fod ar restr y Cyngor.
Trwsio ffens ymylol yn Rhandir Coedlan 5: PENDERFYNWYD bod y Cadeirydd a’r Clerc yn cyd-gysylltu i drefnu ail-osod y ffens.
(b) Gwerthuso Dyfynbris Goleuadau Nadolig:
Gwrandawyd ar adroddiad llafar manwl gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar y gwaith sydd angen ei wneud oddi wrth y contractydd lleol cyn rhoi goleuadau eleni i fyny. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â’r posibilrwydd o gael addurniadau di-drydan yn ogystal. Cynigiwyd gofyn am ddyfynbris ysgrifenedig am y gwaith trydanol sydd angen ei wneud ac i Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol gyd-gysylltu gyda’r contractydd lleol ar addasrwydd goleuadau newydd. PENDERFYNWYD ar hyn. Yn ogystal cafwyd cynnig gan y Cadeirydd i ddynodi £750 yn ychwanegol ar gyfer addurniadau di-drydan. PENDERFYNWYD ar hyn.
(c) Arwydd Treftadaeth Penparcau
Adroddwyd bod y Cyngh. Kevin Price mewn trafodaeth gyda Menter Aberystwyth ynglŷn â phrisiau. Fe ddaw â mwy o fanylion maes o law.
(ch) Costau Diogelwch Tân
Cafwyd adroddiad manwl ar gost yr uchod. Gwnaethpwyd cynnig am bwerau dirprwyedig I’r Cyngh. J. Smith a’r Clerc i wario £60 ar arwyddion tân dwyieithog addas sydd eu hangen.
(d) Cyfrifiadur
PENDERFYNWYD Prynu cyfrifiadur newydd am £650 yn cynnwys T.A.W.
- Opsiynau sydd ar gael ar gyfer llun-gopïydd
Mae les y llun-gopïydd wedi dod i ben ar ôl 5 mlynedd; mae’n amser edrych ar beth sydd ar gael. Fe ddaeth dau ddyfynbris i law: un oddi wrth Konica ac un arall oddi wrth Infinity. PENDERFYNWYD aros gyda Konica sydd â chynnig fydd yn arbed £230.12 pob cwarter i’r Cyngor.
- Cyllideb Ddrafft 2016-17
Nodwyd gan y Cadeirydd a chytunwyd gan yr Aelodau i gyd bod pwysau cynyddol ar Cynghorau Tref a Chymuned ar draws Cymru i gymryd mwy o gyfrifoldebau. PENDERFYNWYD ymchwilio ar sut mae’r dreth wedi bod yn mynd i fyny dros y 15 mlynedd ddiwethaf. PENDERFYNWYD gwneud hyn.
- Dyfynbrisiau ar gyfer cynnal a chadw mannau chwarae
Cadarnhaodd y Gadair y byddai’r eitem yma i’w gynnwys yn y penderfyniad a wnaed o dan etiem 6(a) ar yr Agenda.
- Llythyr Llongyfarch/A Letter of Congratulations
PENDERFYNWYD y dylid anfon llythyr at Menter i’w llongyfarch ar eu Rhaglen Adloniant Haf 2015. Nodwyd yn y fan hon gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol bod Menter yn mynd rhagddynt gyda trefnu’r digwyddiad o droi’r goleuadau Nadolig ymlaen.
It was RESOLVED to send a letter of congratulations to Menter for their 2015 Summer Entertainment. It was noted at this juncture by the Chair of General Management that Menter is progressing with the organising of the event for the turning-on of the Christmas lights.
- Adolygiad o’r Rheolau Sefydlog
Adroddwyd gan y Maer y cynhaliwyd cyfarfodydd o’r is-bwyllgor Rheolau Sefydlog dros yr haf. Roedd un mater ar ôl i’w drafod sef, beth yw cylch gorchwyl pob pwyllgor. PENDERFYNWYD bod pob Pwyllgor i ddrafftio ei gylch gorchwyl a dod a’u cyflwyno i’r is-bwyllgor Rheolau Sefydlog mewn paratoad i’r Rheolau Sefydlog fod mewn llaw ar gyfer y Cyngor Llawn ar 26 Hydref 2015.
- Gohebiaeth
i) Anfonwyd e-bost i’r Swyddfa gyda llun wedi ei atodi o goden Nadolig.
PENDERFYNWYD rhoi pwerau dirprwyedig i Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredidnol i wario £300 ar goeden Nadolig.
ii) Cyflwynwyd e-bost yn ymwneud â’r Gronfa Bensiwn.
PENDERFYNWYD y dylid cynnal cyfarfod gyda’r Clerc a Chadeirydd Cyllid i ddelio gyda materion yn ymwneud â’r Gronfa Bensiwn.
PENDERFYNWYD derbyn y Cofnodion fel rhai cywir
Cofnod 71
Ceisiadau Cynllunio
DIM
Cofnod 72
Cwestiynnau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG
i) A ellir gweithredu ar ddyfynbris T.M.E. yn ymwneud â’r goleuadau Nadolig.
PENDERFYNWYD gofyn i gwmni T.M.E. i fod yn gyfrifol am y goleuadau Nadolig eleni.
ii) A ellir gweithredu a phrynu arosfan bws yn Plas Helyg?
PENDERFYNWYD i weithredu ar hyn.
iii) Gofynwyd lle oedd y rhestr taliadau oedd fod gerbron yr Aelodau cyn/yn ystod y cyfarfod, a gan nad oedd yr Aelodau i gyd wedi gweld y papurau perthnasol (taliadau) o flaen llaw PENDERFYNWYD trafod eitem 14 ar yr Agenda ar ôl eitem 19.
Cofnod 73
Cynnig Masnach Deg Aberystwyth
Cafwyd adroddiad yn cynnwys cefndir Aberystwyth fel tref Masnach Deg ers 1 Mawrth 2005. Pwysleisiwyd y ffaith mai Cyngor Tref Aberystwyth wnaeth basio’r cynnig i wneud y dref yn Dref Masnach Deg. Yn 2016 bydd rhaid ail-gofrestru am y Statws ac mae angen help gweinyddol ar Grŵp Masnach Deg i wneud hyn. Y Cynnig ger bron oedd: ‘bod Cyngor Tref Aberystywth yn cytuno i ymgymryd â’r tasgau sy’n gysylltiedig â’r adnewyddu bob dwy flynedd i gael statws Tref Masnach Deg a hyrwyddo Masnach Deg trwy ei gysylltiadau lleol. Bydd y grŵp Masnach Deg yn parahu i hyrwyddo a bod yn eiriolydd dros Masnach Deg drwy barhau i gynnal digwyddiadau, cysylltiadau ag ysgolion a grwpiau, a chynnal y wefan.’ Cafwyd gwelliant ar y cynnig sef bod y Cyngor Tref yn anfon llythyr o ddiolch at Arnold Smith wrth iddo gamu i lawr o’i swydd fel Ysgrifennydd y Grŵp am ei waith, gan iddo wneud Aberystwyth yn dref Masnach Deg a thrwy hynny Ceredigion yn Sir Fasnach Deg PENDERFYNWYD ar y cynnig a’r GWELLIANT.
Cofnod 74
Cynnig cydymdeimlad, cefnogaeth a lloches ar gyfer ffoaduriaid o Syria
Y cynnig ger bron oedd: ‘y dylai Cyngor Tref Aberystwyth uno i ddangos ein cydymdeimlad â’r rhai sy’n ceisio dianc o’u gwledydd oherwydd rhyfel a diffyg gobaith. Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn annog llywodraeth San Steffan i gynnig lloches i lawer mwy o bobl o Syria er mwyn diogelu eu bywydau. Mae Aberystywth yn barod i gynnig llefydd diogel i bobl, ac yn gofyn i Lywodraeth y DU am adnoddau i helpu gwneud hyn.’ Cafwyd adroddiad manwl am y pwyntiau casglu nwyddau gwahanol sydd o gwmpas y dref ac yn wir o gwmpas Ceredigon gyfan ar gyfer ffoaduriaid Syria. Nodwyd bod Cyngor Sir Ceredigion wedi addo y byddent yn gwneud y cwbl sydd o fewn eu gallu i helpu. Y mae Aberystwyth eisoes wedi cael sylw fel tref a fyddai’n gallu cefnogi yn addysgol, yn gymdeithasol a thrwy wasanaethau iechyd. Pwysleiswyd mai ymateb yn ddyngarol i’r argyfwng y mae trigolion Aberystwyth a dylai’r Cyngor Tref ddangos hyn fel corff sy’n cynrychioli’r trigolion eu bod yn cefnogi’r ffoaduriaid. Pwysleisiwyd hefyd mai ymateb dynol ac nid gwleidyddol yw hyn. Gofynnwyd am elgurder oddi wrth Cyngor Sir Ceredigion, na fyddai cynnig rhoi help llety yn golygu y byddai pobl lleol yn colli eu lle ar y rhestr aros. PENDERFYNWYD derbyn y cynnig. Gofynnodd y Cyngh. Ceredig Davies a’r Cyngh. Brendan Somers i’w henwau gael eu cofnodi fel rhai wnaeth ymatal
Cofnod 75
Cynnig i gynhyrchu cofnodion dwyieithog
Cafwyd adroddiad manwl o’r cynnig a chafwyd trafodaeth o’r pwysigrwydd o weinyddu drwy’r Gymraeg sy’n dangos neges glir bod y Gymraeg yn rhywbeth manteisiol sydd yn cyfoethogi’r dref. Esboniwyd y sefyllfa ar hyn o bryd, sef nad oes pleidlais ar fersiwn Cymraeg o’r cofnodion. Mae’n bosib felly i rywbeth cael ei drosi mewn modd sydd ddim yn cyfleu beth ddigwyddodd yn y cyfarfod. Ond mae’r cofnodion Cymraeg i fod yn ddogfen gyfreithiol sydd wedi cael eu cytuno gan y Cynghorwyr. Petai’r cofnodion yn cael eu cylchredeg ymysg y Cynghorwyr cyn eu mabwysiadu, bydd modd cadarnhau’r ddwy fersiwn o’r cofnodion. Eglurwyd bod Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac o’r herwydd wedi chwarae rhan bwysig iawn yn sicrhau bod llai o gwymp yn y canran o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd. Mae llawer o gynghorau cymuned, yn gweithredu’n fewnol yn y Gymraeg, a chyfieithu i’r Saesneg ar gyfer pobl sydd ddim yn medru’r Gymraeg. Yn diweddar, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysidu strategaeth gwmpasog i symud tuag at weithredu’n fewnol yn Gymraeg, fel rhan o gynllun i atal dirywiad y Gymraeg yn y sir. Bu gweithgor o gynghorwyr yn treulio tua blwyddyn yn ysgrifennu dogfen o’r enw “Y Gymraeg yn Sir Gâr”.
Dylai cynhyrchu cofnodion drwy’r Gymraeg yn fewnol ac wedyn eu danfon at gyfieithydd fod yr un mor ymarferol â’r system bresennol. Serch hynny, os nad ydynt ar gael mewn Saesneg mewn da bryd, gall hyn peri rhwystr. Hefyd, na fyddai’r cyfieithydd yn ymwybodol o’r cyd-destun a gallai hynny peri dryswch.
Argymhellion:
- Cynhyrchu’r cofnodion yn Gymraeg yn gyntaf
- Danfon cofnodion drafft at y cynghorwyr yn y ddwy iaith ar yr amseroedd a nodir yn y Rheolau Sefydlog
Gwneir hyn drwy opsiwn A neu opsiwn B (Cyfarfod i drafod)
Opsiwn A: danfonir y cofnodion Cymraeg at gyfieithydd allanol i’w cyfieithu i’r Saesneg, gan bwysleisio eu bod yn cyrraedd nôl atom erbyn 9 a.m, dydd Mercher cyn cyfarfod y Cyngor Llawn.
Opsiwn B: Cynhyrchu cyfieithiad Saesneg o’r cofnodion yn fewnol. Mae’r Cyngor yn gofyn i’r panel staffio ymgynghori â’r Clerc i drafod ymarferoldeb hyn, ac os oes angen cynyddu oriau gwaith y Clerc ar sail y llwyth gwaith ychwanegol (ac os felly, gan faint).
PENDERFYNWYD i gytuno ar opsiwn A.
Cofnod 76
Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sy’n ymwneud â’r Cyngor hwn YN UNIG
Cafwyd adroddiad calonogol gan y Cyngh. Mark Strong ar Barc Natur Penglais. Roedd yna Ddigwyddiad Agored yno ddydd Sadwrn 26 Medi 2015. Mae arwyddion newydd ar gyfer cerddwyr ac mae yna ardaloedd newydd i fynd am dro yno. Mae gan Barc Natur Penglais dudalen Gwep-lyfr a diolchodd i’r Cyngh. Alun Williams am hyn. Y mae’r Parc wedi ymestyn eu tir ac y mae 25% ohono yn rhan o Warchodfa Natur Statudol. Y mae iddo lefydd cerdded gyda golygfeydd godidog ac yn ôl y Cyngh. Alun Williams dyma yr em yng nghoron Aberystwyth. Y mae’r Parc yn haeddu bod yn fwy adnabyddus.
Adroddodd y Cyngh. Alun Williams bod rheidrwydd ar i bob awdurdod lleol yn ôl Deddf Teithio (Active Travel Act) mis Medi 2014 wneud gwelliannau ar gyfer seiclwyr a cherddwyr. Y mae ymgynghoriad yn mynd ymlaen tan 27-11-15. Fe fydd ymgynghoriad yn digwydd yng Nghanolfan Rheidol ar 2-10-15 o 12.30p.m. – 5.30p.m. Nodwyd gan y Cyngh. Ceredig Davies bod Coedlan Plas-crug yn ardal lle mae cerddwyr a seiclwyr ar y cyd yn rhannu’r defnydd o’r llwybr.
Cofnod 77
Adroddiad YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
Cafwyd adroddiad ysgrifenedig gan y Cyngh. Mair Benjamin ar y cyfarfod y mynychodd sef: Pwyllgor Cysylltiad Rheilffordd Amwythig/Aberystwyth ar 24 Gorffennaf 2015 yn Y Trallwng. Nodwyd hefyd gan y Cyngh. Alun Williams bod nifer y teithwyr wedi cynyddu yn ôl yr hyn a adroddwyd gan gynrychiolydd o Arriva mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cysylltiad Rheilffordd Amwythig/Aberystwyth a Rheilffordd y Cambrian ar y cyd, a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, dydd Gwener, 18 Medi 2015.
Cofnod 78
Cyllid – ystyried gwariant
£
BT |
Gwasanaethau Rhyngrwyd/Internet Services |
£175.38 |
TME Electrical Contracting Ltd |
Goleuadau a meter arian diffygiol/Faulty lights and coin Meter - MUGA |
£ 495.86 |
Aberystwyth Removals & Storage |
Ffioedd Storio/Trosglwyddo ffioedd storio/Storage Fees/Hand out of store fees |
£706.80 |
XL Displays |
Hysbysfwrdd Allanol/ External Notice Boards |
£106.80 |
Delyth Davies |
Cyfieithu yn y Cyngor Mai a Gorffennaf 2015/Translation in the Council May and July |
£112.50 |
Cyngor Sir Gâr |
Cyflog Gorffennaf-Awst/ Salary July-August |
£3,789.17 |
Dŵr Cymru |
Rhandiroedd Coedlan 5/ Allotments 5th Ave. |
£15.29 |
Cyngor Sir Ceredigion |
Gŵyl Seiclo Aberystwyth/Aberystwyth Cycle Fest |
£10,000.00 |
Pitney Bowes |
Rent a catrisau ar gyfer y Peiriant Ffrancio/Rental and Cartridges for Franking Machine |
£521.90 |
AEA Management Ltd |
Rent am y cyfnod/ Rent for the perod 29/9 /15 – 25/ 12/15 |
£4,500.00 |
Amaethwyr Clunderwen |
20 Safleoedd cyn-abwyd Llygod Mawr/ Pre-baited Reusable Rat Station |
£187.50 |
Cyngh./Cllr. Jeff Smith |
Costau Teithio: Cyfarfod Biosffêr Dyfi a’r Gynghrair Cymunedau Cymraeg/Travelling Expenses: Meeting of Biosphere Dyfi and Alliance of Welsh-speaking Communities |
£28.50 |
Cyngh. Mair Benjamin |
Costau Teithio: Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd y Cambrian/Travelling Expenses to a Meeting of the Cambrian Railway Liaison Committee |
£34.20 |
Afan Construction Ltd |
Storio Goleuadau Nadolig/Storing of Christmas Lights |
£312.00 |
Cyngh. Kevin Price |
Nwyddau â ddefnyddiwyd I ddatgymalu’r partisiwn yn Siambr y Cyngor/Material in connection with dismantling of the partition in Siambr y Cyngor |
£5.00 |
Llinos Roberts-Young |
Stamp ar gyfer llythyr at Faer St Brieuc/Stamp for a letter to the Mayor of St Brieuc |
£1.52 |
Cofnod 79
Gohebiaeth
i) Llythyr oddi wrth Mrs M. Mills, Ysgrifennydd AEPPA/CPPAE yn diolch i’r Maer am ei bresenoldeb yn y digwyddiad ar y cyd gyda Amgueddfa Ceredigion ac Arad Goch ar 28 Gorffennaf 2015 i nodi 150 mlwyddiant glaniad y Mimosa.
ii) e-bost oddi wrth Chris Ashman yn atodi gohebiaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael gan ei swyddfa yn Llanelli ar gyfer cynghorau tref a chymuned i weithredu Deddf Well Being of Future Generations. PENDERFYNWYD ei wahodd i ddod i roi cyflwyniad.
iii) Llythyr oddi wrth Bwyllgor Cysylltu Rheilffordd Amwythig ac Aberystwyth yn hysbysu am gyfarfod eu Fforwm. Cynhelir y cyfarfod yn Aberystwyth yn Siambr Cyngor y Dref nos Fercher, 30 Medi am 7.30p.m.
iv) Llythyr oddi wrth Beach Buddies Aberystwyth yn diolch am yr ohebiaeth anfonwyd o’r Cyngor Tref i gydnabod eu gwaith yn glanhau traethau Aberystwyth.
v) e-bost oddi wrth Mr. Arthur Dafis o’r Adran Gyfathrebu Prifysgol Aberystwyth yn atodi copiau o’r datganiadau i’r wasg gafodd eu rhyddhau yn dweud bod Prifysgol Aberystwyth yn un o’r dringwyr mwyaf yn nhabl cynghrair Y Times/The Sunday Times Good University Guide. PENDERFYNWYD anfon llythyr o longyfarch at yr Is-ganghellor, yr Athro April McMahon.
vi) e-bost gan RAY Ceredgion yn rhoi gwybodaeth am ‘Gyllid a Mannau Chwarae’.
vii) Hysbysyiad am daith gerdded ‘Walking with the Wounded’. Cyfeiriodd y Maer at y ffaith bod y Dirprwy Faer, y Cyngh. Brendan Somers wedi dirprwyo ar ei ran i ddechrau’r cerddwyr ar eu taith o Aberystwyth, ddydd Gwener 23 Medi, 2015.
viii) e-bost oddi Fiona Smith yn rhoi gwybodaeth am ‘Light it up Gold’ for Chilhood Cancer Awareness Month.
ix) Llythyr gan yr AS, Mark Williams yn amgau taflen wybodaeth gyda’i fanylion cyswllt.
x) Cylchgrawn ‘The Yardstick’ oddi wrth y gymdeithas British Weights and Measures Association.
xi) Adroddiad oddi wrth Clwb Bowlio Aberystwyth am ddiwrnod Cystadleuaeth y Gwpan Gorfforaethol flynyddol. Mynychodd y Maer y digwyddiad hwn, ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf, 2015.
xii) Llythyr gan Kevin Kirkland, Rheolwr Cynnal a Chadw Priffyrdd Ymatebol yn amgau hysbyseb a fydd yn mynd i’r wasg yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan rhai sy’n dymuno cael bod ar y Rhestr Gymeradwy ar gyfer Darparu Gwasanaethau Atodol i Glirio Eira a Gwanaethau Eraill sy’n ymwneud ag Argyfyngau 2015-16.
xiii) e-bost gan Rob Butler yn hysbysebu rhaglen o ddigwyddiadau ‘New Christmas Entertainment 2015’.
xiv) Dogfen gan Llywodraeth Cymru: Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 /Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020.
xv) Adroddiad Blynyddol Cantref 2014/15 a Chalendr Cantref 2015/16.
xvi) Taflen oddi wrth gwmni Glasdon yn hysbysebu biniau.
xvii) Le Griffon – cylchgrawn Ffrangeg o St Brieuc.
xviii) Cylchgrawn Kelvin Valley News .
ix) Cylchgrawn Clerks & Councils Direct.
xx) Cylchgrawn oddi wrth NBB ‘Outdoor Shelters’