Aberystwyth Council

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cyfarfod Cyngor Llawn

Meeting of Full Council

 

25.11.2019

 

 

COFNODION / MINUTES

 

107

Yn bresennol:

 

Cyng. Mari Turner (Cadeirydd)

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Brendan Somers

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Brenda Haines

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. Sue Jones Davies

Cyng. Steve Davies

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Mark Strong

Cyng. Alun Williams

Cyng. David Lees

Cyng. Lucy Huws

 

Yn mynychu:

Carol Thomas(cyfieithydd)

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)

Anthony Gedge: Gohebydd y Cambrian News

Mathew Leeman a chynrhychiolwyr: Beiciau Gwaed Aberystwyth

Jeremy Moore a chynrhychiolwyr: Gwrthryfel Difodiant

 

Present:

 

Cllr. Mari Turner (Chair)

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Brendan Somers

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Brenda Haines

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. Sue Jones Davies

Cllr. Steve Davies

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Mark Strong

Cllr. Alun Williams

Cllr. David Lees

Cllr. Lucy Huws

 

In attendance:

Carol Thomas (translator)

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Meinir Jenkins (Deputy Clerk)

Anthony Gedge: Cambrian News reporter

Mathew Leeman and representatives: Blood Bikes Aberystwyth

Jeremy Moore and representatives: Extension Rebellion

 

 

108

Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. Michael Chappell

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Rhodri Francis

Cyng. Alex Mangold

Cyng. Claudine Young

 

Apologies:

 

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Michael Chappell

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Rhodri Francis

Cllr. Alex Mangold

Cllr. Claudine Young

 

 

109

Datgan Diddordeb:  Dim

 

Declaration of interest: None

 

 

110

Cyfeiriadau Personol: Dim

Personal References: None

 

 

111

Cyfarfodydd ar y cyd Gwrthryfel Difodiant a Chyngor Tref

 

PENDERFYNWYD y byddai cynrychiolwyr y Cyngor a Gwrthryfel Difodiant yn cyfarfod am 6pm ddydd Iau 5 Rhagfyr i drafod cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD hefyd y dylai'r Cynghorydd Talat Chaudhri fynychu'r hyfforddiant deuddydd ‘Sgiliau Llythrennedd Dim Carbon’ ym Machynlleth ar 4 a 5 Rhagfyr.

Extinction Rebellion and Town Council joint meetings

 

It was RESOLVED that Council and Extinction Rebellion representatives would meet at 6pm on Thursday 5 December to discuss future meetings.

 

It was also RESOLVED that Cllr Talat Chaudhri should attend the two day ‘Zero Carbon Literacy Skills’ training in Machynlleth on 4 and 5 December.

 

 

112

Beiciau gwaed Aberystwyth

 

Rhoddodd Mathew Leeman drosolwg o'r gwasanaeth cludo meddygol am ddim a'r personél yr oedd eu hangen i'w redeg. Roedd beicwyr, rheolwyr a chodwyr arian i gyd yn wirfoddolwyr ac ystyriwyd bod Aberystwyth yn gosod y safon.

 

Diolchwyd iddynt am eu gwaith gwerthfawr.

Blood bikes Aberystwyth

 

Mathew Leeman provided an overview of the free medical courier service and the personnel needed to run it. Riders, controllers and fundraisers were all volunteers and Aberystwyth was considered to be setting the standard.

 

They were thanked for their valuable work.

 

 

 

113

Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer:

 

Cyflwynwyd adroddiad ar lafar.

 

Mayoral Activity Report:   

 

A verbal report was presented.

 

124

Cynnig: Trafodaeth mewn cyfarfodydd (Cyng Steve Davies)

 

Cytunwyd y gellid trafod eitemau 124 a 125 ar yr agenda yn gynharach oherwydd bod cynghorwyr yn gorfod gadael yn gynnar.

 

Nod y cynnig oedd cyfyngu areithiau i hyd at 2 funud a chyfyngu ar y nifer o weithiau y gallai cynghorydd siarad ar bwnc penodol.

 

PENDERFYNWYD newid y cynnig i:

 

Dylid cyfyngu hyd areithiau cynghorydd i 2 funud yn eu cyfanrwydd’.

 

Motion: Discussion at meetings (Cllr Steve Davies)

 

It was agreed that agenda items 124 and 125 could be discussed earlier due to councillors having to leave early.

 

The motion aimed to restrict speeches to up to 2 minutes and to restrict the number of times a councillor could speak on a particular topic.

 

It was RESOLVED to amend the motion to:

 

‘The length of speeches from a councillor should be limited to 2 minutes overall’.

 

 

125

Cynnig: Dathliadau hanner canmlwyddiant Adran Gyfrifiaduron y Brifysgol

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r cynnig i gefnogi’r dathliadau mewn egwyddor ond i'w drafod yn fanwl yn y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol

 

Motion: University Computer Department 50th anniversary celebrations

 

It was RESOLVED to support the motion to support the celebrations in principle but to discuss it in detail at the General Management Committee

 

Agenda RhC

GM agenda

 

114

Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 28 Hydref 2019 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda chywiriadau:

 

  • 103: dylid nodi manylion yr ychwanegiad at y cynnig yn y cofnodion: 'Byddai adfer y llinellau hyn yn cysylltu Cymru o'r Gogledd i'r De yn gynaliadwy ac yn sicrhau gwytnwch ar adegau llifogydd (fel yr amlygwyd yn ddiweddar pan cauwyd llinell Amwythig - De Cymru rhwng Henffordd a Chasnewydd oherwydd llifogydd). '
  • 104: newid ‘Trindod’ i Neuadd Buarth
  • 106.1: dylid nodi bod y Cynghorydd Endaf Edwards wedi gadael cyn i'r eitem hon gael ei thrafod ac na chymerodd ran yn y bleidlais

 

Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 28 October 2019 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with corrections:

 

  • 103: the detail of the addition to the motion should be noted in the minutes: ‘The reinstatement of these lines would sustainably connect Wales from North to South and ensure resilience during times of flooding (as highlighted by the recent closure of the Shrewsbury - South Wales line between Hereford and Newport due to flooding).’ 
  • 104: amend ‘Trinity’ to Buarth Hall
  • 1: it should be noted that Cllr Endaf Edwards had left before this item was discussed and did not participate in the vote

 

 

115

Materion yn codi o’r Cofnodion: Dim

Matters arising from the Minutes: None

 

 

 

116

Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun, 4 Tachwedd 2019

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda chywiriadau:

 

7: Yr amser cywir ar gyfer y Switch On oedd 5pm

9: Dylid ychwanegu eglurhad: ‘bod y Cyng. Alun Williams yn ymateb yn ysgrifenedig i gadarnhau bod y Cyngor Tref yn hapus i fabwysiadu’r orsaf’

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo pob argymhelliad

Minutes of the General Management Committee held on Monday, 4 November 2019

 

It was RESOLVED to approve the minutes with corrections:

 

7: The correct time for the Switch On was 5pm

9: Explanation to be added ‘that Cllr Alun Williams responds in writing to confirm that ATC are happy to adopt the Station’

 

 

It was RESOLVED to approve all recommendations

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

117

Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun, 11 Tachwedd 2019

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion

Minutes of the Planning Committee held on Monday, 11 November 2019

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 

 

 

 

 

118

Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 18 Tachwedd 2019

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda newidiadau:

 

6: Dylai’r coed sy’n cymryd lle’r coed ynn fod yn rhywogaethau sy'n wydn yn enetig – fe ddylai hwn fod yn eitem ar agenda Rheolaeth Cyffredinol

 

11: sillafiad cywir – ‘Chaudhri’

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo pob argymhelliad.

 

 

Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 18 November 2019

 

It was RESOLVED to approve the minutes with amendments:

 

6: Ash tree replacements should be genetically resilient species - this should be added as a  General Management agenda item

 

11: correct spelling – ‘Chaudhri’

 

It was RESOLVED to approve all recommendations.

 

Gweithredu’r argymhellion

Action resolutions

 

 

 

119

Ceisiadau Cynllunio: Dim

 

Planning Applications:  None

 

120

Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor Hwn YN UNIG.

 

Y tŷ addurnedig Nadolig gorau: PENDERFYNWYD dyrannu hanner y wobr ariannol tuag at gyhoeddusrwydd os oedd angen

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit.

 

 

Best Christmas decorated house: it was RESOLVED to allocate half the prize money towards publicity if necessary.

 

 

121

Cyllid – ystyried gwariant mis Tachwedd

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gwariant

 

Finance – to consider the November expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

122

Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

Cyng Mark Strong

  • Yng Ngrŵp Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Canolbarth a De-orllewin Cymru a gynhaliwyd ym Mhenparcau, trafodwyd newidiadau i unedau trawma ond rhoddodd Steve Moore ymateb cadarnhaol ynghylch cynnal gwasanaethau trawma ym Mronglais. Dylid cysylltu ag ef ynghylch materion parcio sy'n ymwneud â'r ysbyty.
  • Roedd pobl ag anghenion cymhleth yn byw mewn pebyll mewn gwahanol leoliadau yn Aberystwyth. PENDERFYNWYD gwahodd tîm Opsiynau Tai Ceredigion i siarad â'r Cyngor Tref

 

Cyng Alun Williams

  • Lansiwyd yr Oergell Gymunedol ar 25.11.2019 yng nghanolfan y Ffynnon Haearn
  • Roedd Prifysgol Aberystwyth wedi cynnig i LlC ar gyfer lleoedd gradd nyrsio ac iechyd meddwl gan ddechrau Medi 2022. Cydnabu'r Cyngor Tref fod hwn yn gam pwysig
  • Roedd y Strategaeth ar gyfer Bronglais yn cael ei chyflwyno i'r Bwrdd Iechyd ar 28.11.2019

 

  • Roedd CCB Parc Natur Penglais yn cael ei gynnal yn eglwys Sant Paul ar 27.11.2019
  • Roedd Goleuadau’r Nadolig yn cael eu troi ymlaen am 5.30pm. Byddai’r orymdaith yn cychwyn o Mihangel Sant am 5pm a’r stiwardiaid yn cael cyfarwyddid yno am 4.15pm

 

Cyng Endaf Edwards

  • Roedd arwydd i'r harbwr wedi'i osod ar ddiwedd Heol y Wig. Roedd angen caniatâd yr Asiantaeth Cefnffyrdd ar ail arwydd a osodwyd ar gornel Dan Dre a Heol y Bont yn pwyntio i lawr Tan y Cae.

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

 

Cllr Mark Strong

  • At the Mid & SW Wales Health and Social Care Scrutiny Group held in Penparcau, changes to trauma units were discussed however Steve Moore gave a positive response regarding maintaining trauma services at Bronglais. He should be contacted regarding parking issues involving the hospital.
  • People with complex needs were living in tents in various locations in Aberystwyth. It was RESOLVED to invite Ceredigion’s Housing Options team to talk to the Town Council

 

Cllr Alun Williams

  • The Community Fridge had been launched on 25.11.2019 at the centre in Chalybeate Street
  • Aberystwyth University had bid to WG for nursing and mental health degree places commencing September 2022. The Town Council acknowledged this as an important step
  • The Strategy for Bronglais was being presented to the Health Board on 28.11.2019
  • The Parc Natur Penglais AGM was being held in St Paul’s on 27.11.2019
  • The Christmas Lights ‘Switch On’ was being held at 5.30pm. The parade would start from St Michael’s at 5pm and stewards briefed there at 4.15pm

 

Cllr Endaf Edwards

  • A sign to the harbour had been placed at the end of Pier Street. A second sign placed at the corner of Mill Street and Bridge Street pointing down South Road needed permission from the Trunk Road Agency.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwahodd swyddogion Tai y Cyngor Sir

Invite CCC Housing officers

123

Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol: 

  

Cynhadledd Flynyddol Un Llais Cymru 5.10.2019 (y Cynghorydd Mair Benjamin)

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies    

 

 

One Voice Wales Annual Conference 5.10.2019 (Cllr Mair Benjamin)

 

 

124

Cynnig: Trafodaeth mewn cyfarfodydd

 

(gweler uchod)

Motion: Discussion at meetings

 

(see above)

 

 

125

Cynnig: Dathliadau hanner canmlwyddiant Adran Gyfrifiaduron y Brifysgol

 

(gweler uchod)

Motion: University Computer Department 50th anniversary celebrations

 

(see above)

 

 

126

Ad-drefnu’r pwyllgorau

 

Yn dilyn yr arbrawf dros tri mis PENDERFYNWYD dychwelyd i'r drefn flaenorol.

Committee reorganisation

 

Following the three-month trial, it was RESOLVED to return to the previous order.

 

 

127

Gefeillio Sant Brieuc

 

Oherwydd nifer isel yr aelodaeth, roedd y Pwyllgor Gefeillio eisiau i'r Cyngor Tref arwain partneriaeth Gefeillio St Brieuc o Ebrill 2020.

 

PENDERFYNWYD trefnu cyfarfod gyda'r holl Bartneriaethau Gefeillio a Chyfeillgarwch i edrych ar syniadau ac atebion, gan gynnwys dulliau cyfathrebu, ac i drafod hyn yn fwy manwl yn y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.

St Brieuc Twinning

 

Due to low membership numbers, the Twinning Committee wanted the Town Council to lead the St Brieuc Twinning partnership from April 2020.

 

It was RESOLVED to organise a meeting with all the Twinning and Friendship Partnerships to look at ideas and solutions, including communication methods, and to discuss this in more detail at the General Management Committee.

 

Agenda RhC

GM agenda

128

Mainc Stryd y Popty

 

Er mwyn lleihau effaith ysmygwyr ar fusnesau cyfagos PENDERFYNWYD symud y fainc tuag at gatiau'r capel

Baker Street bench

 

To minimise the impact of smokers on neighbouring businesses, it was RESOLVED to move the bench towards the chapel gates

 

 

129

Ymgynghoriad: Cwympo Castanwydden, Ffordd Alexandra

 

PENDERFYNWYD anfon yr ymateb canlynol:

 

Dylai'r goeden newydd fod yn frodorol, mor aeddfed â phosib, a dylai dyfu i'r un maint â'r goeden heintiedig bresennol gyda chanopi tebyg.

Consultation: Chestnut tree felling, Alexandra Road

 

It was RESOLVED to send the following response:

 

The replacement tree should be native, as mature as possible, and should grow to the same size as the existing diseased tree with a similar canopy.

 

 

 

130

Ymgynghoriad: Cynlluniau a blaenoriaethau y Cyngor Iechyd Cymuned

 

I'w drafod yn y cyfarfod Rheoli Cyffredinol nesaf

Consultation: Community Health Council plans and priorities

 

To be discussed at the next General Management meeting

 

Agenda RhC

GM agenda

131

Ymgyrch ynni cymunedol genedlaethol

 

I'w drafod yn y cyfarfod Rheoli Cyffredinol nesaf

National community energy campaign

 

To be discussed at the next General Management meeting

 

Agenda RhC

GM agenda

 

132

Gohebiaeth

Correspondence

 

 

 

 

Gan nad oedd cworwm bellach, byddai’r eitemau gohebiaeth yn weddill yn cael eu trafod yn y Pwyllgor priodol nesaf

 

As the meeting was no longer quorate, remaining items of correspondence to be discussed at the next appropriate Committee

 

Agenda Pwyllgor

Committee agenda

 

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Cynllunio

Planning Committee

 

2.12.2019

 

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1

Yn bresennol:

 

Cyng. Michael Chappell (Cadeirydd)

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Mari Turner

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Sue Jones Davies

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Claudine Young

 

Yn mynychu:

 

Cyng. Brendan Somers

Cyng. Alun Williams

Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)

Present:

 

Cllr. Michael Chappell (Chair)

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Mari Turner

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Sue Jones Davies

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Claudine Young

 

In attendance:

 

Cllr Brendan Somers

Cllr. Alun Williams

Meinir Jenkins (Deputy Clerk)

 

 

2

Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Steve Davies

 

Apologies:

 

Cllr. Steve Davies

 

3

Datgan Diddordeb:

 

  1. 1 Meddygfa Borth a Ystwyth: Cyng Alun Williams

 

Declaration of interest:

 

  1. 1 Borth and Ystwyth Surgeries: Cllr Alun Williams

 

 

4

Cyfeiriadau Personol: Dim

 

Personal references: None

 

 

5

Ceisiadau Cynllunio

 

Planning Applications

 

 

5.1

A190958: 11 Ffordd Y Bryn

 

DIM GWRTHWYNEBIAD – Mae ffenestri pren neu aluminiwm yn well ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru.

 

A190958: 11 Edgehill Road

 

NO OBJECTION – Wood or aluminium windows are preferred in accordance with Planning Wales Policy

 

Cysylltu â’r adran Gynllunio.

Contact Planning dept.

6

Adroddiad Pwyllgor Rheoli Datblygu: Heb ei dderbyn

 

Development Control Committee report: Had not been received

 

 

7

Gohebiaeth:

Correspondence:

 

 

7.1

Meddygfa Borth a Ystwyth: nodwyd y cais i newid y ffîn.

Borth and Ystwyth Surgeries: the boundary change application was noted.

 

 

 

 

 

 

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau

Finance and Establishments committee

 

  1. 12.2019

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1

Presennol

Cyng. Charlie Kingsbury (Cadeirydd)

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Alun Williams

Cyng. Mark Strong

Cyng. Mari Turner

Cyng. Nia Edwards-Behi

 

Yn mynychu:

Cyng. Mair Benjamin

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Present

Cllr. Charlie Kingsbury (Chair)

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Alun Williams

Cllr. Mark Strong

Cllr. Mari Turner

Cllr. Nia Edwards-Behi

 

In attendance:

Cllr. Mair Benjamin

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

2

Ymddiheuriadau

 

Cyng. David Lees

Cyng. Brenda Haines

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. Steve Davies

Cyng. Alex Mangold

Cyng. Brendan Somers

 

Apologies

 

Cllr David Lees

Cllr. Brenda Haines

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. Steve Davies

Cllr. Alex Mangold

Cllr. Brendan Somers

 

 

3

Datgan buddiannau: Dim

Declarations of interest:  None

 

 

4

Cyfeiriadau Personol: Dim

 

Personal references: None

 

 

5

Ystyried cyfrifon mis Tachwedd

 

Byddai'r cyfrifon misol yn cael eu hystyried gan y Cyngor Llawn gan nad oedd y datganiadau banc wedi'u derbyn eto oherwydd amseriad cynharach y Pwyllgor

 

Consider Monthly accounts for November

 

The monthly accounts would be considered by Full Council as the bank statements had not yet been received due to the earlier timing of the Committee

 

Agenda Cyngor Llawn

Full Council agenda

6

Ariannu Gwyl Feic 2020

 

Byddai'r trefnwyr yn cael eu gwahodd i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ym mis Ionawr.

Cyclefest 2020 sponsorship

 

The organisers would be invited to the January Finance Committee meeting.

 

Agenda Cyllid

Finance agenda

7

Medal y Cyn Faer

 

Derbyniwyd dau ddyfynbris ac amlinelliad dylunio gydag un arall i ddod i mewn. I'w ystyried yn llawn yn y cyfarfod nesaf.

Past Mayor Medal

 

Two quotes and design outlines had been received with another one due to come in. To be considered fully in the next meeting.

 

Agenda Cyllid

Finance genda

8

Cyllideb 2020-21

 

Darparwyd cyllideb ddrafft 2020-21 i’w ystyried ac ARGYMHELLWYD y newidiadau canlynol:

 

 

Gostyngwyd:

Cyflogau a phensiynau staff - £80,000 (- £5000)

Hysbysebu - £1750 (- £250)

Cyfieithu - £2000 (- £400)

Lwfans Maer a Dirprwy Faer - £3000 (- £1000)

Lwfans Aelodau - £1500 (- £2150)

Hyfforddiant aelodau - £1500 (- £780)

 

 

Wedi cynyddu

Costau hyfforddi a chyfarfodydd staff - £1000 (+ £500)

Cyflenwadau Deunydd Swyddfa - £700 (+ £200)

Tanysgrifiadau - £2200 (+ £300)

Cyfalaf Parciau a Thiroedd - £35,000 (+ £5000)

Dodrefn stryd - £8000 (+ £4000)

Plannu coed - £20,000 (+ £5000)

Nadolig: y costiau i gyd - £30,000 (+ £5000)

Sul y Cofio - £650 (+ £400)

 

Incwm: Llog - £300 (+ £270)

 

Yn seiliedig ar gyfanswm gwariant o £393,100 (minws amcangyfrif o incwm o £2343 = £390,757.00) y cynnydd canrannol yw 2.10%

 

 

 

 

2020-21 Budget

 

A draft 2020-21 budget was provided for consideration and the following amendments to last year’s budget were RECOMMENDED:

 

Reduced:

Staff salaries and pensions - £80,000 (-£5000)

Advertising - £1750 (-£250)

Translation - £2000 (-£400)

Mayor & Deputy Mayor allowance - £3000 (-£1000)

Members Allowance - £1500 (-£2150)

Members training - £1500 (-£780)

 

 

Increased

Staff training & meeting costs - £1000 (+£500)

Stationary & Office Supplies - £700 (+ £200)

Subscriptions - £2200 (+ £300)

Parks & Grounds Capital - £35,000 (+£5000)

Street furniture - £8000 (+£4000)

Tree planting - £20,000 (+£5000)

Christmas: all costs - £30,000 (+ £5000)

Remembrance Sunday - £650 (+£400)

 

Income: Interest - £300 (+£270)

 

Based on a total spend of £393,100 (minus an estimated income of £2343 = £390,757.00) the percentage increase is 2.10%

 

 

9

Praesept 2020-21

 

Yn seiliedig ar gynnydd canrannol o 2.10% bydd yr hyn sy'n cyfateb i Fand D yn cynyddu o £104.17 i £104.45

2020-21 Precept

 

Based on a percentage increase of 2.10% the Band D equivalent will increase from £104.17 to £104.45

 

 

10

Gohebiaeth

Correspondence

 

 

 

10.1

Ymgynghoriad praesept Heddlu Dyfed-Powys: Y Clerc i gylchredeg yr ymgynghoriad i’r aelodau

Dyfed-Powys Police precept consultation: The Clerk to circulate consultation to members

 

Cylchredeg

Circulate

10.2

Y Gymdeithas Gofal: cais am roddion. ARGYMHELLWYD y dylid eu gwahodd i Gyngor Llawn mis Ionawr

The Care Society: request for donations.  It was RECOMMENDED that they be invited to the January Full Council

 

Gwahodd

Invite

10.3

Biniau Penparcau (y Cyng Alex Mangold): Roedd Ceredigion yn gosod bin yn lle un o'r ddau fin a gafodd ei symud oherwydd problem gyda gwastraff domestig. Roedd tîm Parciau a Gerddi Ceredigion yn cadw llygaid ar finiau roced y maes chwarae o ran y lefel a’r math o ddefnydd.

Penparcau bins (Cllr Alex Mangold): Ceredigion were replacing one of the two bins that had been removed due to an issue with domestic waste.  The playground rocket bins were being monitored by Ceredigion’s Parks and Gardens team in terms of level and type of use .

 

Asesu

Monitor

10.4

Cais Ecodyfi am arian Gweithredu dros yr Hinsawdd: cais am gefnogaeth mewn egwyddor.

 

Dylid cynnwys hyn fel eitem ar agenda'r Cyngor Llawn.

 

Ecodyfi Climate Action funding application: a request for support in principle.

 

This should be included as a Full Council agenda item.

 

Eitem agenda Cyngor Llawn

Full Council agenda item

10.5

Ymholiad am Plac Siapan yn Sgwâr y Frenhines: y Clerc i siarad â'r Cyng Ceredig Davies

Query regarding the Japan plaque in Queens Square: the Clerk to speak to Cllr Ceredig Davies

 

Holi Cyng C Davies

Contact Cllr C Davies

10.6

Cyllid ar gyfer ardaloedd chwarae: dylid ymchwilio ymhellach

Funding for play areas: to be investigated further

 

Ymchwilio

Investigate

 

 

 

 

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol

General Management Committee

 

  1. 12.2019

 

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1

Presennol

 

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Mari Turner

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Michael Chappell

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. Sue Jones Davies

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Brendan Somers

Cyng. Claudine Young

 

Yn mynychu:

 

  1. Alun Williams

Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)

Present

 

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Mari Turner

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Michael Chappell

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Sue Jones Davies

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Brendan Somers

Cllr. Claudine Young

 

In attendance:

 

Cllr. Alun Williams

Meinir Jenkins (Deputy Clerk)

 

 

2

Ymddiheuriadau

 

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. Steve Jones

Cyng. Mark Strong

 

Apologies

 

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. Steve Jones

Cllr. Mark Strong

 

 

3

Datgan Diddordeb: Dim

 

Declaration of Interest: None

 

4

Cyfeiriadau personol: Dim

Personal references: None

 

 

5

Ymgynghoriad: Cynlluniau a blaenoriaethau y Cyngor Iechyd Cymuned

 

ARGYMHELLWYD bod y Dirprwy Glerc yn cylchredeg yr holiadur i’r aelodau

 

Consultation: Community Health Council plans and priorities

 

It was RECOMMENDED that the Deputy Clerk circulates the questionnaire to members

Gweithredu

Action

6

Gohebiaeth

Correspondence

 

 

6.1

Ymgynghoriad: Cynlluniau a blaenoriaethau y Cyngor Iechyd Cymuned :


Roedd trigolion lleol wedi cysylltu â rhai Cynghorwyr ynghylch dyfodol y GIG

 

ARGYMHELLWYD bod y Dirprwy Glerc yn cylchredeg yr holiadur i'r aelodau

 

Consultation: Community Health Council plans and priorities:

 

Some Councillors had been approached by local residents about the future of the NHS

 

It was RECOMMENDED that the Deputy Clerk circulates the questionnaire to members

 

Gweithredu

Action