Aberystwyth Council

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cyfarfod Cyngor Llawn (hybrid)

Meeting of Full Council (hybrid)

 

24.10.2022

 

 

COFNODION / MINUTES

 

108

Yn bresennol:

 

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Alun Williams

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Mathew Norman

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Brian Davies

Cyng. Mari Turner

Cyng. Carl Worrall

Cyng. Sienna Lewis

Cyng. Mark Strong

Cyng. Bryony Davies

Yn mynychu:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Carol Thomas (cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Alun Williams

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Mathew Norman

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Brian Davies

Cllr. Mari Turner

Cllr Carl Worrall

Cllr. Sienna Lewis

Cllr. Mark Strong

Cllr. Bryony Davies

In attendance:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Carol Thomas (translator)

 

 

109

Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Mair Benjamin

 

Apologies:

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Mair Benjamin

 

 

110

Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

  • 126: Ni fyddai'r Cynghorwyr Alun Williams a Carl Worrall yn gwneud sylwadau ar geisiadau.
  • 4: Cyflogir y Cyng Jeff Smith gan y Llyfrgell Genedlaethol.
  • 5: Roedd y Clerc yn perthyn i'r ymgeisydd

 

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

 

  • 126: Cllrs Alun Williams and Carl Worrall would not be commenting on applications.
  • 4: Cllr Jeff Smith is employed by the National Library.
  • 5: The Clerk was related to the applicant

 

 

111

Cyfeiriadau Personol

 

  • Cydymdeimlwyd ar farwolaeth Frank Hogg. Roedd yn aelod o Bartneriaeth Gefeillio Kronberg ac wedi bod yn ffigwr allweddol wrth geisio achub Eglwys Santes Gwenffrewi.
  • Dymunwyd yn dda i'r Cynghorydd Bryony Davies ar enedigaeth ei merch.

 

Personal References

 

  • Condolences were extended at the death of Frank Hogg. He was a member of the Kronberg Twinning Partnership and had been a key figure in trying to save St Winefride’s Church.
  • Best wishes were extended to Cllr Bryony Davies on the birth of her daughter.

 

 

112

Adroddiad y Maer

 

Gohiriwyd tan y cyfarfod nesaf

Mayoral report

 

Postponed until the next meeting

 

 

113

Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 26 Medi 2022 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gydag un cywiriad i’r prif bennawd

 

Minutes of the meeting of Full Council held on Monday, 26 September 2022 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with one correction to the main heading.

 

114

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Roedd Cinio Nadolig yr Henoed wedi'i archebu ar gyfer 14 Rhagfyr yng Ngwesty'r Marine.

Matters arising from the Minutes:

 

The Seniors Christmas Lunch had been booked for 14 December at the Marine Hotel.

 

 

 

115

Cofnodion o gyfarfod Arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 3 Hydref 2022 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gydag un cywiriad i’r prif bennawd.

Minutes of the Extraordinary meeting of Full Council held on Monday, 3 October 2022 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with one correction to the main heading.

 

 

116

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Dim

 

Matters arising from the Minutes:

 

None

 

 

117

Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 3 Hydref 2022

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gydag un cywiriad i bwynt 6 a ddylai ddarllen: ‘….oedd yn torri amodau cynllunio – dylai gwydr y ffenestr fod yn ddi-draidd’ .

 

Minutes of the Planning Committee held on Monday 3 October 2022

 

It was RESOLVED to approve the minutes with one correction to point 6 which should read: ‘…. was in breach of planning conditions - the glass in the window should be opaque’.

 

118

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Roedd y Cyng Alun Williams wedi cysylltu â'r Adran Gynllunio ynghylch y torri rheolau cynllunio ond nid oedd wedi clywed yn ôl.

Matters arising from the Minutes:

 

Cllr Alun Williams had contacted the Planning Department regarding the breach of planning regulations but had not heard back.

 

 

119

Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 10 Hydref 2022

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion

Minutes of the General Management Committee held on Monday 10 October 2022

 

It was RESOLVED to approve the minutes

 

 

120

Materion yn codi o’r Cofnodion

Dim

Matters arising from the Minutes:

None

 

 

121

Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 17 Hydref 2022

 

Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 17 October 2022

 

 

122

Materion yn codi o’r Cofnodion

 

  1. roedd y costau ar gyfer ysgubwr/golchwr stryd trydan yn ormodol – dros £600 yr wythnos ar gyfer opsiwn prydles. Dylid ymchwilio ymhellach i ddarpariaeth Cyngor Sir Ceredigion

 

  1. roedd cyfarfod i'w gynnal gyda swyddogion Cyngor Ceredigion yn y Ganolfan Hamdden i ymchwilio i opsiynau chwarae meddal

 

  1. Gofynnodd y Cyng Sienna Lewis yn ffurfiol i'r grŵp Pride gael defnyddio Siambr y Cyngor. Cymeradwywyd hyn

Matters arising from the Minutes:

 

  1. the costs for an electric street sweeper/washer were prohibitive – over £600 per week for a lease option. Ceredigion County Council provision to be investigated further

 

  1. 9. a meeting was due to be held with Ceredigion Council officers at the Leisure Centre to investigate soft play options

 

  1. Cllr Sienna Lewis formally requested use of the Council Chamber by the Pride group. This was approved

 

 

 

123

Cyllid – ystyried gwariant Mis Hydref

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gwariant

Finance – to consider October expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

 

124

Cymeradwyo cyfrifon Medi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cyfrifon

To approve the September accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts.

 

 

125

Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG

 

Gofynnodd y Cyng. Bryony Davies am gael eistedd ar holl bwyllgorau’r Cyngor Tref ac fe gymeradwywyd hyn.

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

Cllr Bryony Davies asked to sit on all the Town Council committees which was approved.

 

 

126

Ceisiadau Cynllunio

 

Planning applications

 

126.1

A220720: Adeiladau’r Orsaf

 

DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref cyn belled â bod arwyddion yn ddwyieithog lle bo'n berthnasol a heb eu goleuo'n fewnol.

A220720:Station Buildings

 

The Town Council has NO OBJECTION as long as signage is bilingual where applicable and is not internally illuminated.

 

Anfon ymatebion

Send responses

126.2

A220739:Gwernllwyn, Penparcau

 

DIM GWRTHWYNEBIAD

A220739: Gwernllwyn, Penparcau

 

NO OBJECTION

 

 

126.3

A220688/9: 43 Rhodfa’r Gogledd

 

Mae’r Cyngor Tref yn croesawu addasiadau o HMO i fflatiau ond mae ganddo bryderon ynghylch:

 

  • Y cais cynllunio ôl-weithredol
  • Defnyddio ffenestri UPVC mewn ardal gadwraeth
  • Maint bach Fflat 2 – mae hyn yn cynrychioli gor ddatblygu
  • Dim storfa ar gyfer beiciau
  • Y cyfrifiadau ariannol amheus

 

Dylid gosod amod ar y fflatiau na ddylid eu defnyddio fel ail gartrefi neu osodiadau gwyliau

A220688/9: 43 North Parade

 

The Town Council welcomes conversions from HMO to flats but has concerns regarding:

 

  • The retrospective planning application
  • The use of UPVC windows in a conservation area
  • The small size of Flat 2 – this represents over development
  • No storage for bikes
  • The questionable financial calculations

 

A stipulation should be placed on the flats that they should not be used as second homes or holiday lets

 

 

 

126.4

A220729/30:Llyfrgell Genedlaethol

 

Daeth y Cyng Sienna Lewis i'r Gadair wrth i'r Cyng Jeff Smith adael y Siambr.

 

DIM GWRTHWYNEBIAD. Mae'r Cyngor yn croesawu plannu coed yn lle unrhyw goed a dorrir

A220729/30:National Library of Wales

 

Cllr Sienna Lewis took the Chair as Cllr Jeff Smith withdrew from the Chamber.

 

NO OBJECTION.  The Council welcomes tree planting to replace any felled trees

 

 

126.5

A220764:10 Heol y Wig

 

Gadawodd y Clerc y Siambr.

 

DIM GWRTHWYNEBIAD. Byddai’n dda gweld y siop yn cael ei defnyddio. Mae'r cyngor yn cymryd y bydd sŵn ac arogleuon yn cael eu cynnwys mewn cais cynllunio yn y dyfodol.

 

A220764:10 Pier Street

 

The Clerk withdrew from the Chamber.

 

NO OBJECTION.  It would be good to see the shop in use. The council trusts that noise and smells will be covered by a future planning application.

 

 

127

Mannau tyfu Plascrug

 

PENDERFYNWYD derbyn y brydles fer am 6 blynedd a 364 diwrnod gyda’r gobaith y gellid ei hadnewyddu.

Plascrug growing spaces

 

It was RESOLVED to accept the short lease for 6 years and 364 days which could hopefully be renewed.

 

 

Cysylltu gyda’r Brifysgol

Contact the University

128

Cynnig: Cysgodfan wrth yr arhosfan tacsi (Cyng Jeff Smith)

 

Y cynnig: bod y Cyngor Tref yn gosod a chynnal cysgodfa gyda mainc/seddi wrth flaen y ranc tacsis lle mae pobl yn aros pan nad oes tacsis wedi cyrraedd y ranc.

 

Cefnogwyd hyn mewn egwyddor ond roedd angen mwy o wybodaeth o ran costau ac adborth gan Gymdeithas y Gyrwyr Tacsi i alluogi trafodaeth bellach.

 

Motion: Taxi rank shelter (Cllr Jeff Smith)

 

 

The motion: ‘the Town Council erects and maintains a shelter with bench/seats at the front of the taxi rank where people wait if there are currently no taxis at the rank’.

 

This was supported in principle but more information was needed in terms of costs and feedback from the Taxi Drivers’ Association to enable further discussion

 

Agenda Cyllid

Finance agenda

129

Cynnig: cysgodfannau cyfeillgar i wenyn (Cyng Jeff Smith)

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig bod ‘y Cyngor Tref yn galw am i gysgodfeydd bws newydd yn yr ardal gynnwys to cyfeillgar i wenyn lle bod hynny’n ymarferol posibl’.

 

Motion: bee friendly bus shelters (Cllr Jeff Smith)

 

 

It was RESOLVED to approve the motion which proposed that ‘the Town Council calls for all new bus shelters in the area to include a bee-friendly roof where possible’.

 

 

130

Cynnig: Rhyddid y Dref (Cyng. Talat Chaudhri)

 

I’w drafod ymhellach yn y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol

 

 

Motion: Freedom of the Town (Cllr Talat Chaudhri)

 

To be discussed further in the General Management Committee

 

Agenda Rh.C

GM agenda

131

Cynnig: MUGA (Cyng Talat Chaudhri)

 

I’w drafod ymhellach yn y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ond yn y cyfamser dylid ymgynghori ar ei ddefnydd presennol a'r hyn yr hoffai'r gymuned ei weld.

 

Byddai cyllideb cynnal a chadw'r flwyddyn nesaf yn gyfle i gywiro'r llinellau pêl-fasged.

Motion: MUGA (Cllr Talat Chaudhri)

 

To be discussed further in the General Management Committee

but in the meantime consultation should take place on its current usage and what the community would like to see.

 

Next year’s maintenance budget would be an opportunity to correct the basketball lines.

Agenda Rh.C

GM agenda

 

132

Gohebiaeth

Correspondence

 

 

132.1

Maes chwarae Plascrug - mater o frys: roedd gwerth £2000 o ddifrod wedi cael ei wneud i sleid yn maes chwarae Plascrug. Roedd dau opsiwn: cymryd y sleid i ffwrdd yn barhaol (£200) neu talu am sleid newydd cryfach (£2000). Eitem i’w drafod yn y Pwyllgor Cyllid.

 

Plascrug playground - a matter of urgency: £2000 worth of damage had been done to a slide in the Plascrug playground. There were two options: take the slide away permanently (£200) or pay for a new stronger slide (£2000). To be discussed in the Finance Committee.

Agenda Cyllid

Finance agenda

132.2

Fforwm Penparcau: yn gofyn am gefnogaeth ariannol i ddathliad Nadolig ym Mhenparcau. Eitem i’w drafod yn y Pwyllgor Cyllid.

 

Penparcau Forum: asking for financial support for a Christmas celebration in Penparcau. To be discussed in the Finance Committee..

Agenda Cyllid

Finance agenda

 

132.3

Eisteddfod yr Urdd 2023: yn gofyn am gefnogaeth ariannol. Eitem i’w drafod yn y Pwyllgor Cyllid.

Urdd Eisteddfod 2023: asking for financial support. To be discussed in the Finance Committee.

Agenda Cyllid

Finance agenda

 

133

Eitem caeedig:

Pwyllgor Staffio: Swydd Digwyddiadau a Phartneriaethau

 

Roedd y Cyng Emlyn Jones wedi'i ethol yn Gadeirydd y Panel Staffio. Yn dilyn proses o gyfweld, eglurodd bod yna un ymgeisydd yn deilwng o’r swydd Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau.

 

PENDERFYNWYD cynnig y swydd i'r ymgeisydd yma.

Closed item:

Staffing committee: Events and Partnerships post.

 

Cllr Emlyn Jones had been elected as the Chair of the Staffing Panel.  He reported that following an interview process there was one suitable candidate for the post of Events and Partnerships Officer.

 

It was RESOLVED to offer the post to this candidate.

 

 

Gweithredu

Action