Aberystwyth Council

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cyfarfod Cyngor Llawn (hybrid)

Meeting of Full Council (hybrid)

 

27.2.2023

 

COFNODION / MINUTES

 

200

Yn bresennol:

 

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Alun Williams

Cyng. Matthew Norman

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Brian Davies

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Carl Worrall

Cyng. Mark Strong

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Steve Davies

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Mari Turner

Cyng. Connor Edwards

 

Yn mynychu:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Carol Thomas (cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Alun Williams

Cllr. Matthew Norman

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Brian Davies

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Carl Worrall

Cllr. Mark Strong

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Steve Davies

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Mari Turner

Cllr. Connor Edwards

 

In attendance:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Carol Thomas (translator)

 

 

201

Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Sienna Lewis

Cyng. Mair Benjamin

Apologies:

 

Cllr. Sienna Lewis

Cllr. Mair Benjamin

 

 

202

Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

  1. 1: Cyflogir y Cyng Jeff Smith yn y Llyfrgell Genedlaethol

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

 

  1. 1: Cllr Jeff Smith is employed at the National Library

 

 

203

Cyfeiriadau Personol

 

Dim

Personal References

 

None

 

 

204

Adroddiad y Maer

 

Cyflwynwyd adroddiad llafar gan y Maer. Yn benodol roedd wedi mynychu'r digwyddiad yn Sgwâr Glyndŵr lle daeth ffoaduriaid o'r Wcráin ynghyd i ddweud diolch i Aberystwyth.

 

Mayoral report

 

A verbal report was presented by the Mayor. In particular he had attended the event at Sgwâr Glyndŵr where refugees from Ukraine gathered to say thank you to Aberystwyth.

 

 

205

Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 30 January 2023 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion

 

Minutes of the meeting of Full Council held on Monday, 30 January 2023 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes

 

206

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

193: Costau etholiad. Darparwyd dadansoddiad, a gofynnwyd am y canlynol:

  • Dylid gofyn i Geredigion am gyfiawnhad o'r gwahaniaeth rhwng costau etholiad ddiweddar 2022 a’r etholiad flaenorol 2017
  • Dylid gofyn i Un Llais Cymru ynglŷn â chostau mewn siroedd eraill.

 

Teimlwyd bod talu hanner costau etholiad Aberystwyth yn annheg gan fod etholiadau’r Cyngor Sir yn ddrytach. Teimlwyd hefyd bod y costau yn ormodol i gynnal etholiadau pellach fel yr anogwyd gan LlC.

Matters arising from the Minutes:

 

193: Election costs. A breakdown was provided, and the following was requested:

  • Ceredigion be asked for a justification of the difference between the costs of the recent 2022 and previous 2017 election
  • One Voice Wales be asked regarding costs in other counties.

 

It was felt that paying half the election costs for Aberystwyth was unfair as county council elections were more expensive. It was also felt that the costs were prohibitive to holding further elections as encouraged by WG.

 

 

 

207

Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 6 Chwefror 2023

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion

 

Minutes of the Planning Committee held on Monday 6 February 2023

 

It was RESOLVED to approve the minutes

 

208

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the Minutes:

 

None

 

 

209

Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 13 Chwefror 2023

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gyda dau gywiriad

 

.2: y bargyfreithiwr ‘benywaidd’ du cyntaf

10: y pennawd cywir yn y cofnod Cymraeg i’w ychwanegu

 

PENDERFYNWYD hefyd cymeradwyo'r argymhellion.

Minutes of the General Management Committee held on Monday 13 February 2023

 

It was RESOLVED to approve the minutes with a couple of corrections:

 

8.2: the first black ‘female’ barrister

10: the correct heading in the Welsh minute to be added

 

It was also RESOLVED to approve the recommendations.

 

 

210

Materion yn codi o’r Cofnodion

 

10: Matthew i e-bostio’r data sy’n ymwneud â’r sector rhentu

Matters arising from the Minutes:

 

10: Matthew to email the data relating to the rental sector

 

 

211

Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 20 Chwefror 2023

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion gydag un ychwanegiad (roedd y Cyng. Jeff Smith wedi datgan diddordeb) a'r holl argymhellion - gan gynnwys y contract Cyfraith Cyflogaeth newydd

 

Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 20 February 2023

 

It was RESOLVED to approve the minutes with one addition (Cllr Jeff Smith had declared an interest) and all recommendations -  

 

including the new Employment Law contract

 

212

Materion yn codi o’r Cofnodion

 

Dim

Matters arising from the Minutes:

 

None

 

 

213

Cyllid – ystyried gwariant Mis Chwefror

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gwariant

Finance – to consider February expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

 

214

Cymeradwyo cyfrifon Ionawr

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cyfrifon

To approve the January accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts.

 

 

215

Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG

 

Wifi y dref: derbyniwyd un tendr. Byddai grŵp bach yn cynllunio lleoliadau.

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

Town wifi: one tender had been received. A small group would plan locations.

 

 

216

Ceisiadau Cynllunio

 

Planning applications

 

216.1

A23059/60/86: Llyfrgell Genedlaethol

 

Gadawodd y Cyng Jeff Smith y Siambr ac ni chymerodd y Cynghorwyr Alun Williams na Mark Strong ran yn y trafodaethau.

 

DIM GWRTHWYNEBIAD.

A23059/60/86: National Library

 

Cllr Jeff Smith left the Chamber and Cllrs Alun Williams and Mark Strong did not participate in discussions.

 

NO OBJECTION.

 

 

 

216.2

A230077: Unedau 3 a 4 40/48 Y Stryd Fawr

 

Croesawodd y Cyngor adferiad sensitif o'r adeilad ond dylid gofyn am ddefnyddio arwyddion dwyieithog gyda'r Gymraeg yn cael blaenoriaeth.

 

Parthed yr arwydd stryd ar yr adeilad: dylid rhoi blaenoriaeth i ‘Heol y Bont’ gyda ‘Bridge Street’ isod.

 

Dylid hefyd gofyn yn garedig i’r cwmni ystyried cyfieithiad o’r enw Edinburgh Woolen Mill i ‘Melin Wlân Caeredin’ fel cam i annog teyrngarwch lleol.

A230077: Units 3&4 40/48 Great Darkgate St

 

The Council welcomed sympathetic restoration of the building but requested that bilingual signage is used with Welsh given priority.

Regarding the street sign on the building: priority should be given to  ‘Heol y Bont’ with ‘Bridge Street’ below. 

And the company would be kindly asked to consider a translation of the Edinburgh Woollen Mill brand name to ‘Melin Wlân Caeredin’ as a move to encourage local loyalty.

 

217

Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

Dim

 

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies

 

None

 

218

Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

Cyng Alun Williams

Roedd Ceredigion ar fin penderfynu’r Dreth Cyngor ar gyfer 2023-24

 

Cyng Carl Worrall

Roedd Fforwm Pendinas wedi'i sefydlu a byddai'r Cyng Worrall yn anfon manylion i'r swyddfa

 

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

 

Cllr Alun Williams

Ceredigion was due to decide the Council Tax for 2023-24

 

Cllr Carl Worrall

The Pendinas Forum had been set up and Cllr Worrall would send details to the office

 

 

219

Apwyntio’r Maer etholedig ar gyfer y flwyddyn Faerol 2023-24

 

Enwebwyd y Cyng Kerry Ferguson gan y Cyng Talat Chaudhri ac fe’i heiliwyd gan y Cyng Jeff Smith

 

Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill ac etholwyd y Cynghorydd Kerry Ferguson fel y Maer etholedig.

To appoint the Mayor elect for the Mayoral year 2023-24

 

Cllr Kerry Ferguson was nominated by Cllr Talat Chaudhri and seconded by Cllr Jeff Smith

 

There were no other nominations and Cllr Kerry Ferguson was duly elected as the Mayor elect.

 

 

220

Apwyntio’r Dirprwy Faer etholedig ar gyfer y flwyddyn Faerol 2023-24

 

Enwebwyd y Cyng Maldwyn Pryse gan y Cyng Alun Williams ac fe’i eiliwyd gan y Cyng Carl Worrall

 

Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill ac etholwyd y Cynghorydd Maldwyn Pryse yn Ddirprwy Faer etholedig.

To appoint the Deputy Mayor elect for the Mayoral year 2023-24

 

Cllr Maldwyn Pryse was nominated by Cllr Alun Williams and seconded by Cllr Carl Worrall

 

There were no other nominations and Cllr Maldwyn Pryse was duly elected as the Deputy Mayor elect.

 

 

 

221

Bardd y Dref

 

Cynigiodd y Cyng Emlyn Jones y dylid creu rôl Bardd Tref Aberystwyth i gefnogi traddodiad barddol Cymru ac i gryfhau cais Aberystwyth am Ddinas Llên UNESCO.

 

Byddai'r rôl yn cyd-fynd â blwyddyn y Maer.

 

Byddai’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol yn trafod y broses o benodi’r bardd ayb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo penodi Bardd y Dref.

Town bard

 

Cllr Emlyn Jones proposed that the role of Aberystwyth Town Bard be created to support Wales’ bardic tradition and to strengthen Aberystwyth’s bid for the UNESCO City of Literature.

 

The role would align with the Mayoral year.

 

General Management would discuss the process of appointing the bard etc.

 

It was RESOLVED to approve the appointment of a Town Bard.

 

 

222

Ymgynghoriad: Tai digonol 

 

Roedd y Cyng Jeff Smith wedi paratoi ymateb a oedd wedi'i ddosbarthu. Diolchwyd iddo am ei waith. Ymhlith yr ychwanegiadau roedd yr angen am gyllid i gefnogi gorfodi.

Consultation: Adequate Housing 

 

Cllr Jeff Smith had prepared a response which had been circulated. He was thanked for his work. Additions included the need for funding to support enforcement.

 

 

223

Gohebiaeth

 

Byddai’r eitemau'n cael eu cyflwyno i'r Pwyllgorau Rheolaeth Cyffredinol a Chyllid

Correspondence

 

Items would be presented to the General Management and Finance committees.

 

Agenda RhC a Chyllid

GM and Finance agenda