Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol (hybrid)
General Management Committee (hybrid)
10.7.2023
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 |
Presennol
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Kerry Ferguson
Cyng. Emlyn Jones Cyng. Lucy Huws Cyng. Mair Benjamin Cyng. Bryony Davies Cyng. Alun Williams Cyng. Matthew Norman Cyng. Brian Davies
Yn mynychu:
Cyng. Carl Worrall Gweneira Raw-Rees (Clerc) Steve Williams (Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau)
|
Present
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Emlyn Jones Cllr. Lucy Huws Cllr. Mair Benjamin Cllr. Bryony Davies Cllr. Alun Williams Cllr. Matthew Norman Cllr. Brian Davies
In attendance:
Cllr. Carl Worrall Gweneira Raw-Rees (Clerk) Steve Williams (Facilities and Assets Manager)
|
|
2 |
Ymddiheuriadau
Cyng. Mark Strong Cyng. Connor Edwards Cyng. Owain Hughes Cyng. Steve Davies
|
Apologies
Cllr. Mark Strong Cllr. Connor Edwards Cllr. Owain Hughes Cllr. Steve Davies
|
|
3 |
Datgan Diddordeb:
Dim |
Declaration of Interest:
None
|
|
4 |
Cyfeiriadau personol:
Cytunodd y Cynghorwyr ei fod yn annerbyniol a byddai'r Panel Staffio yn ymchwilio i'r mater. Byddai cyfarfod o'r Panel yn cael ei gynnal am 6.30pm ar 19 Gorffennaf. |
Personal references:
Councillors agreed it was unacceptable and the Staffing Panel would look into the matter. A meeting of the Panel would be held at 6.30pm on 19 July.
|
Trefnu Panel Staffio Organise Staffing Panel |
5 |
Canmlwyddiant y Gofeb Rhyfel
Roedd y digwyddiad i'w gynnal am 6.30pm (machlud) ar 14 Medi a byddai'n canolbwyntio ar heddwch. Byddai'n cynnwys cerddoriaeth gan Triano a Chôr Gobaith. Byddai'r Maer yn cyflwyno hanes y Gofeb a byddai'r Parch. Cei Rees hefyd yn siarad. Y gobaith oedd y byddai ffoaduriaid yn cymryd rhan yn ogystal â phartneriaid allweddol fel y Lleng Brydeinig Frenhinol. Byddai arddangosfa yn cael ei threfnu gydag Archifdy Ceredigion a byddai Llyfr Coffa Heddwch ar gael i'r cyhoedd. Y gobaith hefyd oedd y gallai Bardd y Dref wneud darn o waith gydag ysgolion lleol.
Diolchwyd i'r Swyddog Digwyddiadau am ei gwaith ac ARGYMHELLWYD cymeradwyo'r cynlluniau hyn. Byddai'r costau'n cael eu trafod gan y Pwyllgor Cyllid |
War Memorial centenary
The event was to take place at 6.30pm (sunset) on 14 September and would focus on peace. It would include music from Triano and Côr Gobaith. The Mayor would present the history of the Memorial and the Rev. Cei Rees would also speak. It was hoped that refugees would participate as well as key partners such as the Royal British Legion. An exhibition would be organised with Ceredigion Archive and a Remembrance Book of Peace would be available to the public. It was also hoped that the Town Bard could be involved in a piece of work with local schools.
The Events Officer was thanked for her work and it was RECOMMENDED that these plans be approved. Costs would be discussed by the Finance Committee.
|
Agenda Cyllid Finance agenda |
6 |
Ymweliad gan gôr o Kronberg 17.7.2023
I’w gynnal yn yr Amgueddfa gyda bwffe i’r corau. Byddai'r digwyddiad yn costio £500 i logi'r Amgueddfa a lluniaeth i'r corau. Oherwydd yr amserlen dynn, cymeradwywyd gwariant y gyllideb Gefeillio gan y Pwyllgor. |
Kronberg choir visit 17.7.2023
To be held in the Museum with a buffet for the choirs. The event would cost £500 for the hire of the Museum and the refreshments for the choirs. Due to the tight timescales the expenditure from the Twinning budget was approved by the Committee.
|
|
7 |
Cyfeillgarwch Yosano
Cynnig gan Yosano i:
‘Datgan yn ffurfiol ein bwriad i hyrwyddo ymhellach y berthynas a’r cyd-ddealltwriaeth sydd wedi’i adeiladu ers 1984 rhwng Aberystwyth, Cymru, y DU, a Yosano, Kyoto Prefecture, Japan.
Bydd trefi Aberystwyth a Yosano, trwy ddilyn egwyddor o gydweithio cyfeillgar, cydraddoldeb a chyd-fuddiant, yn ymdrechu i ddeall a pharchu ei gilydd ac i ddatblygu'r berthynas honno trwy gyfnewidiadau ym meysydd hanes, diwylliant ac addysg.
ARGYMHELLWYD derbyn y cais |
Yosano friendship
The proposal by Yosano to:
‘formally declare our intention to further promote the relationship and mutual understanding which has been built since 1984 between Aberystwyth, Wales, UK, and Yosano, Kyoto Prefecture, Japan.
The towns Aberystwyth and Yosano on the principle of friendly co-operation, equality and mutual benefit, will endeavour to understand and respect each other and to develop that relationship through exchanges in the areas of history, culture and education.
It was RECOMMENDED that the request be accepted
|
|
8 |
Arwydd Glas Aberystwyth (Rhydyfelin)
Roedd angen ymchwilio ac ystyried ymhellach. Gallai arian grant roi cyfle ar gyfer arwyddion newydd mwy deniadol a allai hefyd gynnwys pob gefeilldref. |
Aberystwyth Blue sign (Rhydyfelin)
Further investigation and consideration was needed. Grant funding could provide an opportunity for new more attractive signage that could also include all twin towns.
|
Investigate Ymchwilio |
9 |
Arwyddion cŵn i’r traethau
Dosbarthwyd proflenni o'r arwyddion a nodwyd newidiadau. Diolchwyd i'r Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau am ei waith. |
Dog signage for the beaches
Proofs of the signage were distributed and amendments noted. The Facilities and Assets Manager was thanked for his work.
|
|
10 |
Baneri’r Cyngor Tref – stoc a strategaeth
Defnyddiwyd polion fflag y Cyngor Tref yn South Marine a Phenparcau ar gyfer chwifio baner Cymru trwy gydol y flwyddyn. Ar achlysuron megis Diwrnod Rhyngwladol Heddwch, cefnogaeth i'r Wcráin neu fis Pride roedd yn golygu bod rhaid tynnu baner Cymru. ARGYMHELLWYD ymchwilio a chostio ail bolyn fflag yn y dref. |
Town Council flags – stock and strategy
The Town Council’s flagpoles in South Marine and Penparcau were used for flying the Welsh flag throughout the year. On occasions such as the International Day of Peace, support for Ukraine or Pride month it meant that the Welsh flag had to be removed. It was RECOMMENDED that a second flagpole in the town be investigated and costed.
|
Agenda Cyllid Finance agenda |
11 |
Goleuadau Nadolig - adolygu
Roedd hwn yn mynd allan i dendr yn seiliedig ar y ddarpariaeth bresennol. Roedd y Clwb Busnes yn edrych ar brynu goleuadau ychwanegol. |
Christmas Lights review
This was going out to tender based on current provision. The Business Club were looking at purchasing additional lights.
|
|
12 |
Gohebiaeth |
Correspondence
|
|
12.1 |
Ymgynghoriad Cynllun Cydraddoldeb Strategol (dyddiad cau 30 Gorffennaf): Cynghorwyr i ymateb yn unigol
|
Strategic Equality Plan Consultation (deadline 30 July): Councillors to respond individually
|
|
12.2 |
Murlun yn Stryd y Farchnad – cais am arian: roedd cefnogaeth brwd i’r murlun mewn egwyddor. Y Pwyllgor Cyllid i drafod swm y cymorth ariannol ond dylid gofyn i Bantyfedwen am arian cyfatebol |
Mural in Market Street – request for funding: there was enthusiastic support for the mural in principle. The Finance Committee to discuss the amount of funding support but Pantyfedwen to be approached for match funding.
|
Agenda Cyllid Finance agenda |
12.3 |
Neuadd y Farchnad – potiau blodau: Roedd marchnad a digwyddiadau’r Cyngor Tref wedi creu gweithgarwch yn yr ardal ym mhen ucha’r dref a byddai mwy o weithgarwch yn cyfrannu at adfywiad yr ardal a elwir yn ‘Hen Dref Aberystwyth’. |
Market Hall – flower pots: The Town Council’s market and events had generated activity in the area at the top of town and increased activity would contribute to the revival of the area known as ‘Old Town Aberystwyth’.
|
|
12.4 |
Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr: cais i fenthyg festiau ffordd. ARGYMHELLWYD darparu rhestr o'r hyn sydd ei angen arnynt i sicrhau monitro eiddo'r Cyngor Tref. |
Llanbadarn Fawr Community Council: a request to borrow high viz vests. It was RECOMMENDED that they should provide a list of what they needed to ensure monitoring of Town Council possessions.
|
|