Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau (hybrid)
Minutes of the Finance and Establishments Committee (hybrid)
- 9.2023
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 |
Presennol
Cyng. Kerry Ferguson (Cadeirydd) Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Emlyn Jones Cyng. Jeff Smith
Yn mynychu
Cyng. Mair Benjamin Will Rowlands (Clerc Dan Hyfforddiant) Steve Williams (Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau) |
Present
Cllr. Kerry Ferguson (Chair) Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Emlyn Jones Cllr. Jeff Smith Cllr. Mark Strong Cllr. Matthew Norman Cllr. Alun Williams Cllr. Owain Hughes
In attendance Cllr. Mair Benjamin Will Rowlands (Trainee Clerk) Steve Williams (Facilities and Assets Manager) |
|
2 |
Ymddiheuriadau
Cyng. Sienna Lewis Cyng. Brian Davies Cyng. Bryony Davies |
Apologies
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Brian Davies Cllr. Bryony Davies
|
|
3 |
Datgan buddiannau:
Dim
|
Declarations of interest:
None
|
|
4 |
Cyfeiriadau Personol:
Diolchwyd i'r staff am eu gwaith ar Ganmlwyddiant y Gofeb Rhyfel a Diwrnod Owain Glyndŵr. |
Personal references:
Thanks were extended to staff for their work on the War Memorial Centenary and Owain Glyndŵr day.
|
|
5
|
Cyfrifon Gorffennaf ac Awst
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon
Mynegwyd pryder ynghylch y diffyg gwariant yn y gyllideb plannu coed hyd yn hyn. Eglurodd y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau mai'r rheswm am hyn oedd bod plannu coed fel arfer yn cael ei wneud dros y Gaeaf. |
July & August accounts
It was RECOMMENDED that the accounts be approved.
Concern was raised over the lack of spending of the tree planting budget so far. The Facilities and Assets Manager explained that this was because tree planting was usually done over the Winter.
|
|
6 |
Grant Trawsnewid Trefi Rhoddwyd diweddariad ar gais y Cyngor Tref am grant i drawsnewid mannau gwyrdd yn y dref (tiroedd y Castell, Coedlan Plascrug, Sgwâr y Frenhines ayb.). Roedd llwyddiant y cais yn dibynnu ar dderbyn cadarnhad gan Gyngor Ceredigion ynghylch prydlesau'r lleoedd hyn cyn y dyddiad cau -18.9.2023. Cafwyd trafodaeth ar wahân ynglŷn â chynnig Cyngor Ceredigion i’r Cyngor Tref weinyddu rhan o’r gronfa grant Trawsnewid Trefi - yn benodol y cynllun i wella blaenau siopau. |
Transforming Towns Grant An update was provided on the Town Council’s grant application for the transformation of green spaces within town (Castle Grounds, Plascrug Avenue, Queen’s Square etc.). The success of the application was dependent on receiving confirmation from Ceredigion Council regarding the leases for these spaces before the deadline -18.9.2023. A separate discussion was had over Ceredigion Council’s offer for the Town Council to administer part of the Transforming Towns grant fund - specifically the shop frontage improvement scheme. |
|
7 |
Cronfa Ffyniant Gyffredin – staff newydd Darparwyd diweddariad ar y gronfa, sydd bellach wedi'i lofnodi a'i gytuno. Mae'r gronfa'n cynnwys recriwtio tri aelod newydd o staff, a ariennir gan y grant tan fis Rhagfyr 2024. Bydd y swyddi hyn yn rhai cyfnod penodol gyda'r bwriad i’r Cyngor Tref gyflogi dau ar ôl diwedd y cyllid grant, sy'n golygu y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn gyllideb 2024-25. Trafodwyd gofynion iaith Gymraeg y swyddi. |
Shared Prosperity Fund – new staff An update was provided on the fund, which has now been signed and agreed. The fund includes the recruitment of three new members of staff, funded by the grant until December 2024. These positions will be fixed-term with a view for the Town Council to continue two on after the grant funding, meaning this would be factored into the 2024-25 budget. Welsh language requirements for the posts was discussed. |
|
8 |
TCC ar Gyfer Parciau a Meysydd Chwarae ARGYMHELLWYD cymeradwyo'r gost o £4,858.68 am osod a'r gost cynnal o £90 y mis. Awgrymwyd hefyd edrych i mewn i'r posibilrwydd o gael camera ychwanegol ar gyfer y tu allan i'r swyddfa. |
CCTV for Parks & Playgrounds It was RECOMMENDED that the installation cost of £4,858.68 and the maintenance cost of £90 per month be approved. It was also suggested to look into the possibility of an additional camera for outside the office. |
|
9 |
Murlun Stryd Y Farchnad Cysylltwyd ag Ymddiriedolaeth Pantyfedwen ac roedd cefnogaeth ariannol yn bosibilrwydd. Byddai cynnig llawn yn cael ei anfon iddynt i’w ystyried a diweddariad yn cael ei roi i berchennog y siop lyfrau. Byddai cyfarfod nesaf yr ymddiriedolwyr ym mis Tachwedd. |
Market Street Mural The Pantyfedwen Trust had been contacted and funding support was a possibility. A full proposal would be sent for them for consideration and an update provided to the owner of the bookshop. The trustees’ next meeting would be in November. |
Cysylltu â Pantyfedwen a’r siop lyfrau Contact Pantyfedwen and the bookshop |
10 |
Polyn Baner Cyngor Tref ARGYMHELLWYD cymeradwyo gwariant o £1,239 i brynu a chodi polyn fflag newydd ar dir y Castell, wrth ymyl y polyn presennol. |
Town Council Flag Pole It was RECOMMENDED to approve the expenditure of £1,239 to purchase and erect a new flag pole on the Castle grounds, next to the existing pole. |
|
11 |
Ymweliad Maer Yosano 8/9 Tachwedd ARGYMHELLWYD dyrannu £750 tuag at gynnal derbyniad ar gyfer ymweliad y Maer. |
Yosano Mayoral Visit 8/9 November It was RECOMMENDED that £750 be allocated towards hosting a reception for the Mayoral visit. |
|
12 |
Goleuadau Nadolig Derbyniwyd tri thendr. ARGYMHELLWYD ail-gontractio'r cyflenwr presennol gan fod y cwmni’n bodloni'r holl feini prawf ac yn cynnig y pris isaf. |
Christmas Lights Three tenders had been received. It was RECOMMENDED to re-contract the current supplier as the company met all criteria and offered the lowest price. |
|
13 |
Cyllideb 2024-25
Dosbarthwyd gopiau o gyllidebau 2022-23 a 2023-24 er paratoi ar gyfer trafod cyllideb drafft 2024-25 yn y cyfarfod nesaf. |
2024-25 Budget
Copies of the 2022-23 and 2023-24 budgets were distributed in preparation for discussing the 2024-25 draft budget at the next meeting. |
|
14 |
Gohebiaeth
|
Correspondence |
|
14.1 |
EGO Aberystwyth: Roedd y cylchgrawn wedi mynd yn ddigidol yn unig ac wedi gorffen darparu copïau printiedig. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach yn y Cyngor Llawn. |
Aberystwyth EGO: The magazine had gone digital only and would no longer be providing printed copies. To be discussed further at Full Council.
|
Agenda Cyngor Llawn Full Council agenda
|
14.2 |
Cyngor ar Bopeth Ceredigion: Derbyniwyd cais am gymorth i chwilio am leoliad ar gyfer sesiwn galw heibio wythnosol. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach yn y Cyngor Llawn, ond dylid gofyn am ragor o wybodaeth ymlaen llaw ynglŷn â dyddiau, amseroedd ac ati. |
Ceredigion Citizens Advice: A request for assistance in searching for a venue for a weekly drop-in session had been received. This would be discussed further at Full Council, but further information would be sought regarding days, times etc.
|
Agenda Cyngor Llawn Full Council agenda
|
14.3 |
Ras Twin Peaks: Derbyniwyd cais am gymorth ariannol. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach yn y Cyngor Llawn, ond dylid gofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â ffigurau ac ati. |
Twin Peaks Race: A request for financial assistance had been received. This would be discussed further at Full Council, but further information to be sought regarding amount etc. |
Agenda Cyngor Llawn Full Council agenda
|
14.4 |
HAHAV Cais am Gyllid: Ni ellid darparu cyllid i gynorthwyo gyda chostau rhedeg parhaus. Byddent yn cael eu cynghori i wneud cais drwy'r Cynllun Grantiau Cymunedol arferol ym mis Ebrill. |
HAHAV Request for Funding: Funding could not be provided to assist with continuous running costs. They would be advised to apply through the usual Community Grants Scheme in April.
|
Ymateb Respond |