Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol (hybrid)
General Management Committee (hybrid)
- 2.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 |
Presennol
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd)
Yn mynychu: Gweneira Raw-Rees (Clerc) Will Rowlands (Clerc dan Hyfforddiant) Steve Williams (Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau) Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau) |
Present
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Emlyn Jones Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Alun Williams Cllr. Jeff Smith Cllr. Mathew Norman Cllr. Mark Strong
In attendance: Gweneira Raw-Rees (Clerk) Will Rowlands (Trainee Clerk) Steve Williams (Facilities and Assets Manager) Wendy Hughes (Events and Partnerships Officer) |
|
2 |
Ymddiheuriadau
|
Apologies
Cllr. Brian Davies Cllr. Lucy Huws Cllr. Owain Hughes Cllr. Carl Worrall Cllr. Bryony Davies
|
|
3 |
Datgan Diddordeb:
|
Declaration of Interest:
|
|
4 |
Cyfeiriadau personol:
Estynnwyd dymuniadau gorau i'r Cyng. Lucy Huws, yr oedd ei thad yn yr ysbyty. |
Personal references:
Best wishes were extended to Cllr. Lucy Huws, whose father was in hospital.
|
|
5 |
Neuadd Gwenfrewi – adnewyddu Tŷ’r Offeiriad
Byddai ymweliadau safle i Gynghorwyr yn cael eu cynnal ar 26 Chwefror a 20 Mawrth. |
Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment
Site visits for Councillors would be held on 26 February and 20 March.
|
|
6 |
Adborth digwyddiad Santes Dwynwen
Cafwyd adborth cadarnhaol gan swyddogion a Chynghorwyr. Roedd y digwyddiad wedi bod yn llwyddiant a denodd dyrfa fawr. Ystyriwyd syniadau ar gyfer gwella'r digwyddiad y flwyddyn nesaf.
Diolchwyd i'r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau am ei gwaith. |
Santes Dwynwen event feedback
Positive feedback was received from both officers and Councillors. The event had been a success and attracted a large crowd. Ideas were considered for improving the event next year.
The Events & Partnerships Officer was thanked for her work.
|
|
7 |
Digwyddiadau 2024
Rhoddwyd diweddariad ar ddigwyddiadau a gynlluniwyd:
Gŵyl Dewi: ARGYMHELLWYD dyrannu £500 o’r gyllideb digwyddiadau i drefnu digwyddiadau’r prynhawn, gan gynnwys gweithdy Clocsio, Holi ac Ateb gyda Bardd y Dref a sesiwn adrodd straeon.
Sefydlu’r Maer: Byddai'n cael ei gynnal ddydd Gwener 17 Mai a dydd Sul 19 Mai. Trafodwyd lleoliadau posibl ac ARGYMHELLWYD dirprwyo manylion i'r swyddfa i'w trefnu.
Gŵyl y Castell: Digwyddiad diwrnod cyfan wedi’i drefnu o amgylch Diwrnod Owain Glyndŵr ym mis Medi. Gyda chefnogaeth arian grant, byddai hwn yn ddigwyddiad mawr gydag adloniant amrywiol gan gynnwys cerddoriaeth, bwyd a diod.
Sinema Awyr Agored: ARGYMHELLWYD edrych ar wneud ceisiadau am grant i dreialu cynnal sinema awyr agored yn yr Haf.
Calan Gaeaf: ARGYMHELLWYD ymchwilio i drefnu ‘Gorymdaith Pwmpenni’ i lawr Coedlan Plascrug gydag ysgolion yn yr Hydref. |
Events 2024
An update on planned events was provided:
Gŵyl Dewi: It was RECOMMENDED to allocate £500 from the events budget to arrange afternoon events, including a Clog Dancing workshop, a Q&A with Bardd Y Dref and a storytelling session.
Mayor Making: Would be held on Friday 17 May and Sunday 19 May. Potential venues were discussed and it was RECOMMENDED to delegate particulars to the office to arrange.
Gŵyl y Castell: An all day event arranged around Owain Glyndwr Day in September. Supported by grant funding, this would be a large event with various entertainment including music, food and drink.
Outdoor Cinema: It was RECOMMENDED to look at making grant applications to pilot holding an open-air cinema in the Summer.
Halloween: It was RECOMMENDED to investigate arranging a ‘Pumpkin Parade’ down Coedlan Plascrug with schools in the Autumn.
|
|
8 |
Blodau - diweddariad
Roedd plannu cymysg o blanhigion unflwydd a phlanhigion lluosflwydd yn mynd ymlaen tua mis Mai 2024. Byddai hyn ar gyfer gwelyau blodau ar bromenâd y Gogledd yn unig, gan y byddai gwaith Cyngor Sir Ceredigion ar bromenâd y De yn golygu cael gwared ar y gwelyau blodau yno.
|
Flowers – update
A mixed planting of annuals and perennials was going ahead around May 2024. This would be for flower beds on the North promenade only, as Ceredigion County Council works to the South promenade would involve removing the flower beds there.
|
|
9 |
Mannau Tyfu Plascrug – diweddariad a dyraniad
Roedd y dyraniadau bron wedi'u cwblhau ac roedd gwaith tyfu eisoes wedi dechrau. Byddai diwrnod agored a datganiad i'r wasg yn cael eu trefnu yn hwyrach yn y Gwanwyn.
ARGYMHELLWYD cynnig dau wely i Bwyd Dros Ben Aber
|
Plascrug Growing Spaces – update and allocation
Allocations were nearly complete and growing work had already begun. An open day and press release would be arranged later in the Spring. It was RECOMMENDED to offer two beds to Aber Food Surplus. |
|
10 |
Fy nrws ffrynt
Cais gan drigolion Heol y Wig i drefnu golchiad pŵer i’r palmentydd unwaith y mis fel rhan o gynllun arbrofol.
Er ei fod yn gefnogol mewn egwyddor, byddai hyn yn aneconomaidd i'r Cyngor Tref, ond gellid edrych arno dan Brosiect Aber. |
My front door
A request from Heol y Wig residents to arrange power washing of the pavements once a month as part of an experimental scheme.
Whilst supportive in principle, this would be uneconomical for the Town Council, but could be looked at under Prosiect Aber. |
|
11 |
Gohebiaeth |
Correspondence
|
|
11.1 |
Llysgenhadaeth Ciwba: Byddai cynrychiolwyr o Lysgenhadaeth Ciwba yn ymweld ag Aberystwyth ar gyfer dathliadau ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod (8 Mawrth). |
Cuban Embassy: Representatives from the Cuban Embassy would be visiting Aberystwyth for celebrations on International Women’s Day (8 March).
|
|
11.2 |
CPD Padarn: Cais i logi gazebos ar gyfer ‘Diwrnod Hwyl Padarn’ ar 29 Mehefin. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i gefnogi hyn a byddai swyddogion yn ymchwilio i gostau ac ymarferoldeb |
Padarn FC: Request to hire gazebos for ‘Padarn Fun Day’ on 29 June. The Committee was keen to support this and officers would investigate costs and practicalities
|
|
11.3 |
Gefeillio Aberystwyth a Kronberg: Llythyr yn gofyn am gyfarfod i drafod eu perthynas swyddogaethol gyda'r Cyngor Tref a'r 30 mlwyddiant o'r gefeillio yn 2027. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach gan y Pwyllgor Cyllid. |
Aberystwyth Kronberg Twinning: A letter requesting to meet to discuss their functional relationship with the Town Council and the upcoming 30th Anniversary of twinning in 2027. This would be discussed further by the Finance Committee.
|
|
11.4 |
Datganwyd diddordeb gan Cyng. Jeff Smith a gadawodd y siambr.
Llyfrgell Genedlaethol: Cais gan un o drigolion y Cyngor Tref i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn erbyn toriadau arfaethedig i gyllideb y Llyfrgell Genedlaethol. Byddai llythyr yn cael ei anfon. |
Cllr. Jeff Smith declared an interest and left the chamber.
National Library: A request from a resident for the Town Council write to the Welsh Government against planned cuts to the National Library’s budget. A letter would be sent. |
|