Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cyfarfod y Cyngor Llawn (hybrid)
Meeting of Full Council (hybrid)
25.3.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
280 |
Yn bresennol:
Yn mynychu:
Will Rowlands (Clerc dan hyfforddiant) Carol Thomas (cyfieithydd) Toby Driver (Comisiwn Brenhinol) (Eitemau 280-285 yn unig) Beca Davies (Comisiwn Brenhinol) (Eitemau 280-285 yn unig)
|
Present:
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Carl Worrall Cllr. Brian Davies Cllr. Mark Strong Cllr. Emlyn Jones Cllr. Mari Turner Cllr. Jeff Smith Cllr. Bryony Davies Cllr. Alun Williams Cllr. Owain Hughes Cllr. Mathew Norman
In attendance:
Will Rowlands (Trainee Clerk) Carol Thomas (Translator) Toby Driver (Royal Commission) (Items 280-285 only) Beca Davies (Royal Commission) (Items 280-285 only)
|
|
281 |
Ymddiheuriadau:
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Mair Benjamin Cyng. Lucy Huws Cyng. Sienna Lewis-Oldale (absenoldeb estynedig a ganiateir)
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Connor Edwards
|
Apologies:
Absent with apologies: Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Mair Benjamin Cllr. Lucy Huws Cllr. Sienna Lewis-Oldale (extended leave permitted)
Absent without apologies: Cllr. Connor Edwards
|
|
282 |
Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda
|
Declaration of Interest on matters arising from the agenda
|
|
283 |
Cyfeiriadau Personol
|
Personal References
|
|
284 |
Adroddiad y Maer
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig trwy e-bost. Diolchwyd i'r Maer am ei holl waith. |
Mayoral report
A written report was circulated via email. The Mayor was thanked for all of her work.
|
|
285 |
Cloddiad archaeolegol Pendinas – cyflwyniad gan y Comisiwn Brenhinol
Cafwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr o’r Comisiwn Brenhinol ar brosiect archeolegol Pendinas. Roedd y prosiect yn gweithio'n agos gyda'r gymuned ym Mhenparcau ac wedi nodi angen am well arwyddion ac ymwybyddiaeth ar gyfer y fryngaer.
Awgrymwyd efallai y gallai'r Cyngor Tref ariannu rhai mynegbyst neu arwyddion eraill, ac y byddai hyn yn cael ei ymchwilio ymhellach.
Diolchwyd i gynrychiolwyr y Comisiwn Brenhinol am eu hamser a'u gwaith. |
Pendinas archaeological dig – presentation by the Royal Commission
A presentation was received by representatives from the Royal Commission on the Pendinas archaeological project. The project was working closely with the community in Penparcau and had identified a need for better signage and awareness for the hillfort.
It was suggested that perhaps the Town Council could fund some fingerposts or other signage, and this would be investigated further.
Representatives from the Royal Commission were thanked for their time and work.
|
|
286 |
Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 26 Chwefror 2024 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda’r newidiadau a ganlyn:
|
Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 26 February 2024 to confirm accuracy.
It was RESOLVED to approve the minutes, with the following amendment:
|
|
287 |
Materion yn codi o’r Cofnodion:
|
Matters arising from the Minutes:
|
|
288 |
Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 4 Mawrth 2024
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the Planning Committee held on Monday 4 March 2024
It was RESOLVED to approve the minutes. |
|
289 |
Materion yn codi o'r cofnodion
Dim |
Matters arising from the minutes
None
|
|
290 |
Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 11 Mawrth 2024 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 11 March 2024 to confirm accuracy.
It was RESOLVED to approve the minutes. |
|
291 |
Materion yn codi o’r Cofnodion:
Dim |
Matters arising from the Minutes:
None
|
|
292 |
Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 11 Mawrth 2024
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion. |
Minutes of the General Management Committee held on Monday 11 Mawrth 2024
It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.
|
|
293 |
Materion yn codi o’r Cofnodion:
Dim |
Matters arising from the minutes:
None
|
|
294 |
Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 18 Mawrth 2024 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 18 March 2024 to confirm accuracy.
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
295 |
Materion yn codi o’r Cofnodion:
|
Matters arising from the Minutes:
The Project Manager was providing an estimated cost for works in order for an informed application to be made.
|
|
296 |
Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun 19 Chwefror 2024
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion.
|
Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday 19 February 2024
It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations. |
|
297 |
Materion yn codi o’r Cofnodion:
Dim |
Matters arising from the minutes:
None
|
|
298 |
Ystyried gwariant Mis Mawrth
Datganwyd diddordeb gan y Cyng. Jeff Smith a gadawodd y siambr
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.
|
To consider March expenditure
Cllr. Jeff Smith declared an interest and left the chamber
It was RESOLVED to approve the expenditure
|
|
299 |
Cymeradwyo cyfrifon Mis Chwefror
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon.
Gyda'r flwyddyn ariannol yn cau, byddai'r Pwyllgor Cyllid yn adolygu gwariant gwirioneddol yn erbyn gwariant a gyllidebwyd.
Pleidleisiodd Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn erbyn hyn.
|
To approve February accounts
It was RESOLVED to approve the accounts.
With the financial year closing, the Finance Committee would review actual vs budgeted expenditure.
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands voted against this.
|
Agenda Cyllid Finance Agenda |
300 |
Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.
Gadawodd y Cyng. Owain Hughes y cyfarfod
|
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
Cllr. Owain Hughes left the meeting
|
|
301 |
Ceisiadau cynllunio
|
Planning applications
|
|
301.1 |
A240144: Kestrel Cottage, Felin Y Mor
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref ac mae'n falch o weld y ddarpariaeth o flychau adar; gydag ystyriaethau ecolegol o'r fath, byddai'n dda gweld ystyriaeth i baneli solar hefyd.
Dylid gosod amod i atal ei ddefnyddio fel llety gwyliau. |
A240144: Kestrel Cottage, Felin Y Mor
The Town Council has NO OBJECTION and is pleased to see the provision of bird boxes; with such ecological considerations, it would be good to see consideration for solar panels also.
A condition should be placed to prevent it being used as holiday accommodation.
|
Ymateb Respond |
301.2 |
A240170: 11-13 Rhoddfa’r Gogledd
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref cyn belled a bod y fflatiau yn rhai preswyl; dylid gosod amod i'w hatal rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau. Dylid ystyried mynediad trigolion i’r storfa wastraff yn yr iard gefn, a sicrhau nad yw’r datblygiad yn effeithio’n negyddol ar hyfywedd masnachol y gofod siop ar y llawr gwaelod. |
A240170: 11-13 Rhoddfa’r Gogledd
The Town Council has NO OBJECTION so long as the flats are residential; a condition should be placed to prevent them being used as holiday accommodation. Consideration should be given to residents’ access to the waste storage in the rear yard, and to ensuring that development does not negatively impact the commercial viability of the ground floor shop space.
|
Ymateb Respond |
301.3 |
A240163: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref ac mae'n croesawu'r ymdrechion i fod yn garbon niwtral. |
A240163: National Library of Wales
The Town Council has NO OBJECTION and welcomes the efforts towards carbon neutrality.
|
Ymateb Respond |
301.4 |
A240165: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
DIM GWRTHWYNEBIAD |
A240165: National Library of Wales
NO OBJECTION
|
Ymateb Respond |
302 |
Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
Dosbarthwyd adroddiad gan Cyng. Jeff Smith ar Gymdeithas Teithwyr Rheilffordd Amwythig Aberystwyth (SARPA). |
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
A report from Cllr. Jeff Smith on the Shrewsbury Aberystwyth Rail Passengers Association (SARPA) was circulated.
|
|
303 |
Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
|
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
|
|
304 |
Neuadd Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad
Cynhaliwyd ymweliad safle ar gyfer Cynghorwyr ar 20.3.2024, ond ychydig iawn oedd yn gallu mynychu, felly roedd fideo o'r cynnydd wedi'i recordio.
|
Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment
A site visit for Councillors was held on 20.3.2024, however very few were able to attend, so a video of progess had been recorded.
|
|
305 |
Brandio tref (Cyngor Sir Ceredigion)
Dosbarthwyd canllaw brandio tref a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Ceredigion. PENDERFYNWYD gwrthwynebu'n gryf y lliwiau a ddefnyddir ar gyfer Aberystwyth (coch a phinc); mae gan Aberystwyth frand a lliwiau sefydledig eisoes (glas ac aur), a byddai'n wrthgynhyrchiol newid hyn.
Nid oedd cymaint o wrthwynebiad i eiriad hunaniaeth Aberystwyth, ond byddai angen ei ddiwygio, mewn cydweithrediad â’r Cyngor Tref.
Byddai ymateb yn cael ei anfon yn amlinellu siom y Cyngor Tref ac na fyddai’n defnyddio’r brandio fel y’i darparwyd yn ei gyflwr presennol.
|
Town branding (Ceredigion County Council)
A town branding guide commissioned by Ceredigion County Council was circulated. It was RESOLVED to strongly object to the colours used for Aberystwyth (red & pink); Aberystwyth already has an established brand and colours (blue & gold), and it would be counter-productive to change this.
The wording of Aberystwyth’s identity was less strongly opposed, but would need to be revised, in collaboration with the Town Council.
A response would be sent, outlining the Town Council’s disappointment and that it would not use the branding as provided in its current state.
|
|
306 |
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer eitem 307
PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a'r cyhoedd ar gyfer yr eitem hon, oherwydd natur gyfrinachol y busnes a drafodwyd.
|
To exclude the press and public for item 307
It was RESOLVED to exclude the press and public for this item, due to the confidential nature of business discussed.
|
|
307 |
Eitem gaeedig: Staffio
Yn dilyn cyfweliadau ar 22.3.2024, PENDERFYNWYD yn unfrydol penodi Clerc y Dref newydd, Will Rowlands.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gyflogi cymhorthydd amgylcheddol y Cyngor Tref yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy asiantaeth gyflogi fel yn bresennol. Roedd hyn yn cynrychioli arbediad o tua £5,000 y flwyddyn mewn ffioedd asiantaeth a byddai’n cynnig buddion i’r gweithiwr trwy bensiwn, gwyliau blynyddol ayyb. |
Closed item: Staffing
Following interviews on 22.3.2024, it was unanimously RESOLVED to appoint a new Town Clerk, Will Rowlands.
It was unanimously RESOLVED to employ the Town Council’s environmental assistant directly, rather than through an employment agency as present. This represented a saving of around £5,000 p.a. in agency fees and would offer benefits to the employee through pension, annual leave etc.
|
|
308 |
Gohebiaeth |
Correspondence
|
|
|
Adolygiad Cymunedau Ceredigion: Roedd Ffiniau Cymru yn cynnal adolygiad o drefniadau a ffiniau cymunedol yng Ngheredigion. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol, er ei bod yn dda gweld awgrymiadau blaenorol y Cyngor Tref wedi eu cymryd i ystyriaeth a’u canmol. |
Ceredigion Communities Review: Boundaries Wales were conducting a review of community arrangements and boundaries in Ceredigion. To be discussed by General Management Committee, although it was good to see the Town Council’s previous suggestions had been taken into account and credited. |
Agenda RhC GM Agenda |
|
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Byddai Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn drafftio ymateb, i'w gytuno gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. |
Welsh Government Consultation: Consultation was open on the Senedd Cymru (Electoral Candidates Lists) Bill. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands would draft a response, to be agreed by the General Management Committee. |
Agenda RhC GM Agenda |
|
Cyngerdd Elusennol y Maer: Cyngerdd yn cael ei gynnal ar 26.4.2024 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i godi arian at Elusen y Maer, Hafan Y Waun. |
Mayor’s Charity Concert: Concert being held on 26.4.2024 at Aberystwyth Arts Centre to raise funds for the Mayor’s Charity, Hafan Y Waun. |
|
|
Ffeiriau Hwyl Studt – Olwyn Arsylwi: Roedd rhagor o wybodaeth wedi dod i law a byddai’n cael ei drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. |
Studt’s Funfairs – Observation Wheel: Further information had been received and would be discussed by the General Management Committee. |
Agenda RhC GM Agenda |