Aberystwyth Council

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llawn a gynhelir o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, Aberystwyth

Annual Meeting of Full Council held remotely and at the Council Chamber at 11 Baker Street, Aberystwyth

 

20.5.2024

 

 

COFNODION / MINUTES

 

 

18

Yn bresennol

 

Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd)

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Brian Davies

Cyng. Alun Williams

Cyng. Owain Hughes (Eitemau 18 i 35.12 yn unig)

Cyng. Mair Benjamin (Eitemau 18 i 35.20 yn unig)

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Mark Strong

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mari Turner (Eitemau 35 i 45.4 yn unig)

 

Yn mynychu

Will Rowlands (Clerc)

Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

Present

 

Cllr. Maldwyn Pryse (Chair)

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Brian Davies

Cllr. Alun Williams

Cllr. Owain Hughes (Items 18 to 35.12 only)

Cllr. Mair Benjamin (Items 18 to 35.20 only)

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Mark Strong

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mari Turner (Items 35 to 45.4 only)

 

In attendance

Will Rowlands (Clerk)

Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer)

Carol Thomas (Translator)

 

 

19

Ymddiheuriadau ac absenoldeb

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Cyng. Carl Worrall

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Cyng. Connor Edwards

 

Apologies & absence

 

Absent with apologies:

Cllr. Carl Worrall

 

Absent without apologies:

Cllr. Connor Edwards

 

20

Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o'r agenda

 

Dim

Declaration of Interest on matters arising from the agenda

 

None

 

 

21

Cyfeiriadau Personol

 

  • Estynnwyd croeso cynnes i'r aelod newydd ei gyfethol, y Cyng. Gwion Jones
  • Diolchwyd i'r Cyng. Kerry Ferguson am ei gwasanaeth drwy gydol ei blwyddyn fel Maer
  • Diolchwyd i'r staff am eu gwaith yn trefnu seremoni urddo'r Maer a'r parêd
  • Roedd gŵyl er cof am David Ivon Jones i'w chynnal ym mis Mehefin, gyda'r posibilrwydd o ymweliad gan Lysgenhadaeth De Affrica. Cyng. Dylan Lewis-Rowlands i gylchredeg y manylion.

Personal References

 

  • A warm welcome was extended to newly co-opted member, Cllr. Gwion Jones
  • Thanks were extended to Cllr. Kerry Ferguson for her service throughout her year as Mayor
  • Thanks were extended to staff for their work organising the Mayoral inauguration ceremony and parade
  • A festival in memory of David Ivon Jones was to be held in June, with potential for a visit from the South African Embassy. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands to circulate details.

 

 

22

Adroddiad ar weithgareddau’r Maer

 

Roedd adroddiadau ysgrifenedig wedi'u dosbarthu drwy e-bost; un gan y cyn Faer ac un gan y Maer newydd.

Mayoral activity report

 

Written reports had been circulated via email; one from the former Mayor and one from the new Mayor.

 

 

23

Cofnodion o Gyfarfod Blynyddol y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Wener, 17 Mai 2024 i gadarnhau cywirdeb

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda’r newid a ganlyn:

 

3. Ymddiheuriadau ac absenoldeb: Ychwanegu Cyng. Sienna Lewis-Oldale (absenoldeb estynedig a ganiateir)

 

Minutes of the Annual Meeting of Full Council held on Friday 17 May 2024, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with the following amendment:

 

3. Apologies and absence: Add Cllr. Sienna Lewis-Oldale (extended leave permitted)

 

 

24

Materion yn codi o’r cofnodion

 

Dim

Matters arising from the minutes

 

None

 

 

25

Cofnodion cyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 13 Mai 2024, i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda’r newid a ganlyn:

 

  1. Gwobrau gwasanaeth arbennig (Cyng. Maldwyn Pryse): Gohiriwyd y penderfyniad ar gyflwyno gwobr i’r cyn Glerc, Gweneira Raw-Rees, oherwydd bod llai na dwy ran o dair o’r aelodau’n bresennol.

Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 13 May 2024, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with the following amendment:

 

  1. Special service awards (Cllr. Maldwyn Pryse): Decision on presenting an award to the former Clerk, Gweneira Raw-Rees, was postponed due to there being fewer than two thirds of members present.

 

 

26

Materion yn codi o’r cofnodion

 

Awgrymwyd adolygu'r polisi o fynnu bod dwy ran o dair o'r holl aelodau yn bresennol i benderfynu ar fedalau gwasanaeth arbennig i fod yn unol â Rheolau Sefydlog cworwm arferol.

 

Matters arising from the minutes

 

It was suggested that the policy of requiring two thirds of all members present to decide on special service medals be reviewed to be in line with ordinary quoracy Standing Orders.

 

 

27

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun 13 Mai 2024, i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda’r newidiadau a ganlyn:

 

  1. 3. A240279: 67 Rhodfa’r Gogledd: Ychwanegu ‘Awgrymwyd cysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i drafod trwyddedu tai amlfeddiannaeth yn gyffredinol; i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.”

 

  1. 5. A240281: Specsavers, 30 Y Stryd Fawr: Diwygio i nodi ‘yn groes i’r canllawiau cynllunio atodol ychwanegol Cyngor Sir Ceredigion’.

 

Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 13 May 2024, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with the following amendments:

 

  1. 3. A240279: 67 Rhodfa’r Gogledd: Add ‘It was suggested to contact Ceredigion County Council to discuss HMO licencing generally; to be discussed at next meeting.’

 

  1. 5. A240281: Specsavers, 30 Y Stryd Fawr: Amend to specify ‘contrary to Ceredigion County Council’s additional supplementary planning guidance’.

 

 

28

Materion yn codi o’r cofnodion

 

  • Roedd y Cyng. Mathew Norman yn gwella'n dda
  • Roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo caniatâd cynllunio ar gyfer cais A240140 9 Rhes Penglais. Awgrymwyd bod y Cyngor Tref yn ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion yn mynegi siom gyda hyn. I'w drafod gan y Pwyllgor Cynllunio, gyda'r aelodau i ddarllen drwy'r adroddiad penderfyniad cynllunio ymlaen llaw.

Matters arising

 

  • Mathew Norman was recovering well
  • Ceredigion County Council had approved planning permission for application A240140 9 Rhes Penglais. It was suggested that the Town Council write to Ceredigion County Council expressing disappointment with this. To be discussed by Planning Committee, with members to read through the planning decision report prior.

 

Agenda Cynllunio

Planning Agenda

29

Ceisiadau Cynllunio

 

Dim

Planning Applications

 

None

 

 

30

Apwyntio aelodau i’r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2024-25

 

Gwirfoddolodd y Cynghorwyr canlynol fel aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio, gyda’r bwriad y gellir cyfethol Cynghorwyr nad ydynt yn y cyfarfod blynyddol i’r Pwyllgor yn y dyfodol:

  • Jeff Smith
  • Dylan Lewis-Rowlands
  • Lucy Huws
  • Mair Benjamin
  • Talat Chaudhri
  • Owain Hughes
  • Bryony Davies

To appoint members to the Planning Committee for 2024-25

 

The following Councillors volunteered as members of the Planning Committee, with a view that Councillors not at the annual meeting may be co-opted to the Committee at a later date:

  • Jeff Smith
  • Dylan Lewis-Rowlands
  • Lucy Huws
  • Mair Benjamin
  • Talat Chaudhri
  • Owain Hughes
  • Bryony Davies

 

31

Apwyntio aelodau i’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar gyfer 2024-25

 

Gwirfoddolodd y Cynghorwyr canlynol fel aelodau o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol, gyda’r bwriad y gellir cyfethol Cynghorwyr nad ydynt yn y cyfarfod blynyddol i’r Pwyllgor yn y dyfodol:

  • Jeff Smith
  • Dylan Lewis-Rowlands
  • Kerry Ferguson
  • Gwion Jones
  • Mark Strong
  • Mair Benjamin
  • Owain Hughes
  • Alun Williams
  • Brian Davies
  • Talat Chaudhri
  • Lucy Huws

 

To appoint members to the General Management Committee for 2024-25

 

The following Councillors volunteered as members of the General Management Committee, with a view that Councillors not at the annual meeting may be co-opted to the Committee at a later date:

  • Jeff Smith
  • Dylan Lewis-Rowlands
  • Kerry Ferguson
  • Gwion Jones
  • Mark Strong
  • Mair Benjamin
  • Owain Hughes
  • Alun Williams
  • Brian Davies
  • Talat Chaudhri
  • Lucy Huws

 

 

32

Apwyntio aelodau i’r Pwyllgor Cyllid ar gyfer 2024-25

 

Gwirfoddolodd y Cynghorwyr canlynol fel aelodau o’r Pwyllgor Cyllid, gyda’r bwriad y gellir cyfethol Cynghorwyr nad ydynt yn y cyfarfod blynyddol i’r Pwyllgor yn y dyfodol:

  • Talat Chaudhri
  • Brian Davies
  • Alun Williams
  • Owain Hughes
  • Kerry Ferguson
  • Dylan Lewis-Rowlands
  • Jeff Smith

 

To appoint members to the Finance Committee for 2024-25

 

The following Councillors volunteered as members of the Finance Committee, with a view that Councillors not at the annual meeting may be co-opted to the Committee at a later date:

  • Talat Chaudhri
  • Brian Davies
  • Alun Williams
  • Owain Hughes
  • Kerry Ferguson
  • Dylan Lewis-Rowlands
  • Jeff Smith

 

 

33

Apwyntio aelodau i’r Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi ar gyfer 2024-25

 

Gwirfoddolodd y Cynghorwyr canlynol fel aelodau o’r Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi, gyda’r bwriad y gellir cyfethol Cynghorwyr nad ydynt yn y cyfarfod blynyddol i’r Pwyllgor yn y dyfodol:

  • Dylan Lewis-Rowlands (Ward Penparcau)
  • Kerry Ferguson (Ward Rheidol)
  • Talat Chaudhri (Ward Bronglais)
  • Jeff Smith (Ward y Gogledd)
  • Owain Hughes (Ward Canolog)

 

 

To appoint members to the Standing Orders & Policy Committee for 2024-25

 

The following Councillors volunteered as members of the Standing Orders & Policy Committee, with a view that Committee Chairs and Councillors not at the annual meeting may be co-opted to the Committee at a later date:

  • Dylan Lewis-Rowlands (Penparcau Ward)
  • Kerry Ferguson (Rheidol Ward)
  • Talat Chaudhri (Bronglais Ward)
  • Jeff Smith (North Ward)
  • Owain Hughes (Central Ward)

 

 

34

Apwyntio aelodau i’r Pwyllgor Staffio a Pholisi ar gyfer 2024-25

 

Gwirfoddolodd y Cynghorwyr canlynol fel aelodau o’r Pwyllgor Staffio, gyda’r bwriad y gellir cyfethol Cynghorwyr nad ydynt yn y cyfarfod blynyddol i’r Pwyllgor yn y dyfodol:

  • Talat Chaudhri
  • Bryony Davies
  • Kerry Ferguson
  • Dylan Lewis-Rowlands
  • Jeff Smith
  • Owain Hughes
  • Mari Turner

 

To appoint members to the Staffing Committee for 2024-25

 

The following Councillors volunteered as members of the Staffing Committee, with a view that Councillors not at the annual meeting may be co-opted to the Committee at a later date:

  • Talat Chaudhri
  • Bryony Davies
  • Kerry Ferguson
  • Dylan Lewis-Rowlands
  • Jeff Smith
  • Owain Hughes
  • Mari Turner

 

 

35

Apwyntio cynrhychiolwyr ar gyrff allanol ar gyfer 2024-25

 

Ymunodd Cyng. Mari Turner â'r cyfarfod.

 

Nodwyd mai ychydig iawn o adroddiadau gan gynrychiolwyr i gyrff allanol a dderbyniwyd yn 2023-24 ac atgoffwyd y Cynghorwyr o bwysigrwydd mynychu cyfarfodydd cyrff y maent yn gynrychiolwyr Cyngor Tref arnynt.

 

Byddai gofyn i gyrff allanol anfon manylion cyfarfodydd yn uniongyrchol at eu aelodau a hefyd i swyddfa'r Cyngor Tref i sicrhau bod Cynghorwyr yn ymwybodol o bob cyfarfod i'w fynychu.

 

PENDERFYNWYD penodi cynrychiolwyr i gyrff allanol fel a ganlyn:

 

To appoint representatives to outside bodies for 2024-25

 

Cllr. Mari Turner joined the meeting.

 

It was noted that very few reports from representatives to outside bodies had been received in 2023-24 and Councillors were reminded of the importance to attend meetings of bodies on which they are Town Council representatives.

 

Outside bodies would be requested to send meeting details both directly to their members and also to the Town Council office to ensure Councillors were aware of all meetings to be attended.  

 

It was RESOLVED to make the following appointments of representatives to outside bodies:

 

 

35.1

Pwyllgor Cyswllt Rheilffyrdd Amwythig i Aberystwyth

 

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mair Benjamin

Shrewsbury to Aberystwyth Rail Liaison Committee

 

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mair Benjamin

 

 

35.2

Cymdeithas Teithwyr Rheilffyrdd Amwythig i Aberystwyth

 

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mair Benjamin

Shrewsbury to Aberystwyth Rail Passengers Association

 

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mair Benjamin

 

 

35.3

Traws Link Cymru

 

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Mark Strong

Traws Link Cymru

 

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Mark Strong

 

 

35.4

Partneriaeth Gefeillio Sant Brieg

 

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Brian Davies

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

 

Saint Brieuc Twinning Partnership

 

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Brian Davies

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

 

 

35.5

Gefeillio Aberystwyth a Kronberg

 

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Talat Chaudhri

Aberystwyth Kronberg Twinning

 

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Talat Chaudhri

 

 

35.6

Cymdeithas Gefeillio Aberystwyth a Yosano

 

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Bryony Davies

 

Aberystwyth Yosano Twinning Association

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Bryony Davies

 

35.7

Gefeillio Esquel

 

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Emlyn Jones

Esquel Twinning

 

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Emlyn Jones

 

 

35.8

Gefeillio Arklow

 

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Emlyn Jones

Arklow Twinning

 

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Emlyn Jones

 

 

35.9

Un Llais Cymru

 

Cyng. Maldwyn Pryse

One Voice Wales

 

Cllr. Maldwyn Pryse

 

 

35.10

Menter Aberystwyth

 

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Mair Benjamin

Menter Aberystwyth

 

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Mair Benjamin

 

 

35.11

Llys Prifysgol Aberystwyth

 

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Owain Hughes

Aberystwyth University Court

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Owain Hughes

 

 

35.12

Bwrdd Prosiect yr Hen Goleg

 

Cyng. Brian Davies

Cyng. Emlyn Jones

 

Gadawodd Cyng. Owain Hughes y cyfarfod

Old College Project Board

 

Cllr. Brian Davies

Cllr. Emlyn Jones

 

Cllr. Owain Hughes left the meeting

 

 

35.13

Seindorf Arian Aberystwyth

 

Cyng. Maldwyn Pryse

(Cyng. Talat Chaudhri wrth gefn)

Aberystwyth Silver Band

 

Cllr. Maldwyn Pryse

(Cllr. Talat Chaudhri in reserve)

 

 

35.14

Grŵp Adleoli Ffoaduriaid

 

Cyng. Cylan Lewis-Rowlands

Cyng. Lucy Huws

Refugee Resettlement Group

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Lucy Huws

 

 

35.15

Bwrdd Ymddiriedolwyr Craig Glais

 

Cyng. Maldwyn Pryse

Constitution Hill Board of Trustees

 

Cllr. Maldwyn Pryse

 

 

35.16

Pwyllgor Defnyddwyr yr Harbwr

 

Cyng. Brian Davies

(Cyng. Mair Benjamin wrth gefn)

Harbour Users Committee

 

Cllr. Brian Davies

(Cllr. Mair Benjamin in reserve)

 

 

35.17

Grŵp Aberystwyth Gwyrddach

 

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Mair Benjamin

Greener Aberystwyth Group

 

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Mair Benjamin

 

 

35.18

Biosffer Dyfi

 

Cyng. Mair Benjamin

Dyfi Biosphere

 

Cllr. Mair Benjamin

 

 

35.19

Parc Natur Penglais

 

Cyng. Maldwyn Pryse

(Cyng. Jeff Smith wrth gefn)

Parc Natur Penglais

 

Cllr. Maldwyn Pryse

(Cllr. Jeff Smith in reserve)

 

 

35.20

Bwrdd Rheoli’r Cynllun Bro

 

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

 

Gadawodd Cyng. Mair Benjamin y cyfarfod

Place Plan Management Board

 

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

 

Cllr. Mair Benjamin left the meeting

 

 

35.21

Ymddiriedolaeth Cofeb Rhyfel

 

Cyng. Mari Turner

Cyng. Brian Davies

Cyng. Maldwyn Pryse

War Memorial Trust

 

Cllr. Mari Turner

Cllr. Brian Davies

Cllr. Maldwyn Pryse

 

 

35.22

Ymddiriedolaeth Cymynrodd Joseph a Jane Downie

 

Nid oedd yn hysbys a oedd y grŵp hwn yn dal yn weithredol ai peidio; Clerc i ymchwilio.

Joseph and Jane Downie Bequest Trust

 

It was unknown if this group was still active or not; Clerk to investigate.

 

 

35.23

Llywodraethwyr Ysgolion

 

Deallwyd bod llywodraethwyr ysgol yn cael eu penodi am gyfnod o bum mlynedd ac y byddai angen iddynt aros fel y llynedd; y Clerc i gadarnhau hyn gyda Chyngor Sir Ceredigion.

 

Gadawodd Wendy Hughes y cyfarfod.

School Governors

 

It was understood that school governors were appointed for a five year period and would need to remain as last year; the Clerk to confirm this with Ceredigion County Council.

 

Wendy Hughes left the meeting.

 

 

36

Mabwysiadu Rheoliadau Sefydlog

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Rheolau Sefydlog, gyda’r newid isod:

 

18D(iii). i ddarllen: ‘bydd y gwahoddiad i dendro yn cael ei hysbysebu’n gyhoeddus mewn modd sy’n briodol’

 

Atgoffwyd y Cynghorwyr o'r angen i ymgymryd â hyfforddiant Côd Ymddygiad.

To adopt Standing Orders

 

It was RESOLVED to approve Standing Orders, with the amendment below:

 

18D(iii). to read: ‘the invitation to tender shall be publicly advertised in a manner that is appropriate’

 

Councillors were reminded of the need to undertake Code of Conduct training.

 

 

37

Mabwysiadu Rheoliadau Ariannol

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Rheoliadau Ariannol.

To adopt Financial Regulations

 

It was RESOLVED to approve Financial Regulations.

 

 

38

Mabwysiadu Cylch Gorchwyl ar gyfer pob Pwyllgor

 

Dosbarthwyd Cylch Gorchwyl wedi'i ddiweddaru ar gyfer pob Pwyllgor a darparwyd diweddariad ar y newidiadau gan y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cylchoedd Gorchwyl ar gyfer yr holl Bwyllgorau, gyda’r newidiadau a ganlyn:

 

Pwyllgor Cynllunio: Dileu term 5.7 ynglyn ag ymgynghoriadau. Byddai'r Clerc yn drafftio polisi ymgynghoriadau, mewn cydweithrediad â'r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands.

 

Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol: Ychwanegu term 5.17 ‘i nodi’r angen am wasanaethau a chyfleusterau newydd’.

 

Pwyllgor Cyllid: Diwygio term 5.16 i ddarllen ‘i ystyried darpariaeth gwasanaethau’r Cyngor’.

 

Byddai pob Pwyllgor yn adolygu eu Cylch Gorchwyl yn eu cyfarfod cyntaf, er mwyn sicrhau bod yr aelodau yn eu deall yn llawn.

 

To adopt Terms of Reference for each Committee

 

Updated Terms of Reference for each Committee were circulated and an update on changes provided by Cllr. Dylan Lewis-Rowlands. It was RESOLVED to approve the Terms of Reference for all Committees, with the following amendments:

 

Planning Committee: Remove term 5.7 regarding consultations. The Clerk would draft a consultations policy, in cooperation with Cllr. Dylan Lewis-Rowlands.

 

General Management Committee: Add term 5.17 ‘to identify the need for new services and facilities’.

 

Finance Committee: Amend term 5.16 to read ‘to consider the provision of Council services’.

 

Each Committee would review their Terms of Reference at their first meeting, to ensure members fully understood them.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod i 21:40

It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting to 21:40

 

39

Ystyried cymhwysedd ar gyfer y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol

 

Nid oedd Cyngor Tref Aberystwyth yn gymwys ar gyfer y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol ar hyn o bryd, er bod y Clerc yn astudio tuag at ennill cymhwyster CiLCA.

 

PENDERFYNWYD gweithio tuag at ddod yn gymwys. Byddai’r Pwyllgor Staffio yn trafod ffyrdd o gefnogi astudiaethau’r Clerc.

 

To consider eligibility for the General Power of Competence

 

Aberystwyth Town Council was not currently eligible for the General Power of Competence, although the Clerk was studying towards becoming CiLCA qualified.

 

It was RESOLVED to work towards becoming eligible. The Staffing Committee would discuss ways of supporting the Clerk’s studies.

 

Agenda Staffio

Staffing Agenda

40

Cwestiynau sy’n ymwneud a materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG

 

  • Atgyweirio’r jeti: Gofynnwyd am amserlen ar gyfer gwaith atgyweirio.
  • Postyn bys y Stryd Fawr: Postyn wedi’i ddifrodi; i’w atgyweirio fel mater o frys
  • Esquel: Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol i drafod enwi rhan o’r dref ar ôl gefeilldref Aberystwyth, Esquel.
  • Placiau: Nid oedd cynigion blaenorol i godi placiau i gydnabod merched nodedig Aberystwyth wedi'u gweithredu eto. Kerry Ferguson i geisio caniatâd perchnogion adeiladau i godi placiau er cof am Iris da Freitas a Cranogwen.
  • Gŵyl y Castell: Roedd yr ŵyl ar raddfa fawr gyda chyllid grant a chodwyd cwestiynau ynglŷn â chodi arian i gynnal digwyddiad ar yr un raddfa y flwyddyn nesaf. I'w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
  • Coeden Olewydd Heddwch: Nid oedd y goeden yn gwneud yn dda yn swyddfa'r Cyngor Tref. Gwirfoddolodd y Cyng. Lucy Huws i ofalu am y goeden gartref hyd nes y gellid cynnal y seremoni blannu.
  • Adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad: Gofynnodd y Cynghorwyr am adroddiad ar gynnydd ariannol y gwaith adnewyddu. Clerc i drefnu.

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

  • Jetty repairs: A timeline for repair works was requested.
  • Fingerpost Great Darkgate Street: Fingerpost was damaged; to be repaired as a matter of urgency.
  • Esquel: General Management Committee to discuss naming a part of town after Aberystwyth’s twin town Esquel.
  • Plaques: Previous proposals to erect plaques in recognition of notable women of Aberystwyth had not yet been actioned. Cllr. Kerry Ferguson to seek permission from building owners to erect plaques in memory of Iris da Freitas and Cranogwen.
  • Gŵyl y Castell: The festival was large scale with grant funding and questions were raised as to funraising to deliver an event at the same scale next year. To be discussed by General Management Committee.
  • Olive Tree of Peace: The tree was not faring well in the Town Council’s office. Cllr. Lucy Huws volunteered to care for the tree at home until the planting ceremony could take place.
  • Presbytery Refurbishment: Councillors requested a report on the financial progress of the refurbishment. Clerk to arrange.

 

 

 

 

 

Agenda RhC

GM Agenda

 

 

 

 

 

 

Agenda RhC

GM Agenda

41

Ystyried gwariant mis Mai

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.

To consider May expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

 

42

Ystyried cyfrifon mis Mawrth a diwedd blwyddyn 2023-24

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon. Byddai esboniad ysgrifenedig yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â nhw ar-lein. Byddai'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal adolygiad o'r cyllid a gyllidebwyd yn erbyn gwariant gwirioneddol am y flwyddyn.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr Dylan Lewis-Rowlands a Brian Davies yn erbyn hyn.

To consider March and 2023-24 year end accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts. A written explanation would be provided alongside them online. The Finance Committee would conduct a review of budgeted against actual expenditure for the year.

 

Cllrs. Dylan Lewis-Rowlands and Brian Davies voted against this.

 

 

43

Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud a’r Cyngor hwn YN UNIG

 

  1. Alun Williams: Roedd cynllun Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer datblygu promenâd y De wedi’i gymeradwyo gan y Cabinet a byddai’n dechrau eleni. Nodwyd bod yr ymgynghoriad ar y cynigion hyn yn wael iawn, a diolchwyd i’r Cyng. Alun Williams am godi hyn yn ystod cyfarfod y Cabinet. Awgrymwyd ysgrifennu llythyr at Gyngor Sir Ceredigion yn mynegi siom gyda'r penderfyniad hwn; i'w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

  1. Alun Williams: Ceredigion County Council’s plan for development of the South promenade had been approved by Cabinet and would commence this year. It was noted that the consultation on these proposals was very poor, and Cllr. Alun Williams was thanked for raising this during the Cabinet meeting. It was suggested to write a letter to Ceredigion County Council expressing disappointment with this decision; to be discussed by General Management Committee.

 

Agenda RhC

GM Agenda

44

Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

Dosbarthwyd yr adroddiadau canlynol drwy e-bost:

  • Grŵp Trafnidiaeth y Cambrian (Sefydliad Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru) – Cyng. Jeff Smith.
  • Cymdeithas Teithwyr Rheilffyrdd Amwythig i Aberystwyth (SARPA) – Cyng. Jeff Smith
  • Grŵp Cefnogaeth Parc Natur Penglais – Cyng. Maldwyn Pryse
  • Bwrdd Ymddiriedolwyr Craig Glais – Cyng. Maldwyn Pryse

WRITTEN reports from representatives on outside bodies

 

The following reports had been circulated via email:

  • Cambrian Transport Group (North and Mid Wales Association of Local Councils) – Cllr. Jeff Smith.
  • Shrewsbury – Aberystwyth Rail Passengers Association (SARPA) – Cllr. Jeff Smith.
  • Parc Natur Penglais Support Group – Cllr. Maldwyn Pryse
  • Constitution Hill Board of Trustees – Cllr. Maldwyn Pryse

 

 

45

Gohebiaeth

Correspondence

 

 

45.1

Ymddiswyddiad: Roedd Cyng. Mathew Norman wedi ymddiswyddo fel aelod o'r Cyngor Tref.

Resignation: Cllr. Mathew Norman had resigned as a member of the Town Council.

 

 

45.2

Ymddiswyddiad: Roedd Cyng. Sienna Lewis-Oldale wedi ymddiswyddo fel aelod o'r Cyngor Tref.

Resignation: Cllr. Sienna Lewis-Oldale had resigned as a member of the Town Council.

 

 

45.3

Datblygiad Tai Newydd: Datblygiad newydd arfaethedig gyda’r enw ‘Porth y Dre’. I'w drafod gan y Pwyllgor Cynllunio.

New Housing Development: Proposed new development with the name ‘Porth y Dre’. To be discussed by Planning Committee.

Agenda Cynllunio Planning Agenda

45.4

Grantiau UKSPF Cynnal Y Cardi: Roedd dau gais am grant wedi bod yn llwyddiannus; un i drwsio’r jeti bren ar bromenâd y Gogledd ac un i osod amrywiol offer chwarae addas i’r anabl ar draws meysydd chwarae’r Cyngor Tref.

Cynnal Y Cardi UKSPF Grants: Two grant applications had been successful; one to repair the wooden jetty on the North promenade and one to install various disabled-friendly play equipment across the Town Council’s playgrounds.