Aberystwyth Council

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty

Meeting of the Full Council meeting held remotely and at the Council Chambers, 11 Baker Street

 

22.7.2024

 

COFNODION / MINUTES

 

74

Yn bresennol:

 

Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd)

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Brian Davies

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Alun Williams

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mari Turner

 

Yn mynychu:

 

Joe Wilkins (Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru)

Kim Williams (Sustrans)

Anthony Jones (Sustrans)

Cyng. Endaf Edwards (Cyngor Sir Ceredigion)

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Maldwyn Pryse (Chair)

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Brian Davies

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Alun Williams

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mari Turner

 

In attendance:

 

Joe Wilkins (West Wales Rivers Trust)

Kim Williams (Sustrans)

Anthony Jones (Sustrans)

Cllr. Endaf Edwards (Ceredigion County Council)

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

 

 

 

75

Ymddiheuriadau ac absenoldeb:

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Carl Worrall

Cyng. Connor Edwards

Cyng. Bryony Davies

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Cyng. Mark Strong

Apologies and absence:

 

Absent with apologies:

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Carl Worrall

Cllr. Connor Edwards

Cllr. Bryony Davies

 

Absent without apologies:

Cllr. Mark Strong

 

 

 

76

Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

Datganwyd y diddordebau a ganlyn:

 

Cyng. Alun Williams:

  • Argymhellion y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol: Uwch aelod o Gyngor Sir Ceredigion.
  • Ymgynghoriad: system bleidleisio ar gyfer Etholiadau Awdurdod Lleol Cyngor Sir Ceredigion: Uwch aelod o Gyngor Sir Ceredigion.

 

Cyng. Kerry Ferguson:

  • Argymhellion y Pwyllgor Cyllid: Diddordeb busnes.

Cyng. Maldwyn Pryse:

  • Argymhellion y Pwyllgor Cyllid: Diddordeb mewn taliadau Cynghorwyr fel Maer ar gyfer 2024-25.

 

Cyng. Emlyn Jones:

  • Argymhellion y Pwyllgor Cyllid: Diddordeb busnes.
  • Argymhellion y Pwyllgor Cyllid: Diddordeb mewn taliadau Cynghorwyr fel Dirpwy Faer ar gyfer 2024-25.

 

Cyng. Jeff Smith:

  • Argymhellion y Pwyllgor Cyllid: Diddordeb mewn taliadau Cynghorwyr fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2024-25.

 

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands:

  • Argymhellion y Pwyllgor Cyllid: Diddordeb mewn taliadau Cynghorwyr fel Cadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar gyfer 2024-25.

 

Cyng. Talat Chaudhri:

  • Argymhellion y Pwyllgor Cyllid: Diddordeb mewn taliadau Cynghorwyr fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyfer 2024-25.

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

 

The following interests were declared:

 

Cllr. Alun Williams:

  • General Management Committee recommendations: Senior member of Ceredigion County Council.
  • Consultation: voting system for Ceredigion County Council Local Authority Elections: Senior member of Ceredigion County Council.

 

Cllr. Kerry Ferguson:

  • Finance Committee recommendations: Business interest.

 

Cllr. Maldwyn Pryse:

  • Finance Committee recommendations: Interest in Councillor payments as Mayor for 2024-25

 

Cllr. Emlyn Jones:

  • Finance Committee recommendations: Business interest.
  • Finance Committee recommendations: Interest in Councillor payments as Deputy Mayor for 2024-25.

 

Cllr. Jeff Smith:

  • Finance Committee recommendations: Interest in Councillor payments as Chair of Planning Committee for 2024-25.

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands:

  • Finance Committee recommendations: Interest in Councillor payments as Chair of General Management Committee for 2024-25.

 

Cllr. Talat Chaudhri:

  • Finance Committee recommendations: Interest in Councillor payments as Chair of Finance Committee for 2024-25

 

 

 

77

Cyfeiriadau Personol

 

  • Llongyfarchwyd Clive Williams ar gael ei benodi'n bennaeth Ysgol Penweddig.
  • Llongyfarchwyd Carol Macy ar gael ei phenodi'n bennaeth Ysgol Plascrug.
  • Llongyfarchwyd y Cyng. Maldwyn Pryse ar ddod yn dad-cu.
  • Cydymdeimlwyd â'r Cyng. Keith Henson (Cyngor Sir Ceredigion), a oedd wedi colli ei dad yn ddiweddar. Bydd cerdyn yn cael ei anfon.

 

Personal References

 

  • Congratulations were extended to Clive Williams on being appointed as headteacher of Penweddig school.
  • Congratulations were extended to Carol Macy on being appointed as headteacher of Plascrug school.
  • Congratulations were extended to Cllr. Maldwyn Pryse on becoming a grandfather.
  • Condolences were extended to Cllr. Keith Henson (Ceredigion County Council), who had recently lost his father. A card would be sent.

 

 

78

Cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru

 

Cafwyd cyflwyniad gan Joe Wilkins o Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru ar ei chynllun ‘mabwysiadu llednant’. Prif nodau’r cynllun oedd addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae afonydd yn eu hwynebu ac annog pobl i ymwneud â monitro afonydd a llednentydd.

 

Bydd cyfarfod pellach yn cael ei drefnu i drafod cyfleoedd posibl i gydweithio o amgylch Nant Plascrug.

Presentation by West Wales Rivers Trust

 

A presentation was given by Joe Wilkins from West Wales Rivers Trust on their ‘adopt a tributary’ scheme. The scheme’s main aims were to educate and raise awareness of challenges that rivers face and encourage people to get involved with monitoring rivers and tributaries.

 

A further meeting would be arranged to discuss potential opportunities to collaborate around Nant Plascrug.

 

 

 

 

79

Prosiect celf Aberystwyth – cyflwyniad gan Sustrans

 

Cafwyd cyflwyniad pellach ar y prosiect gan gynrychiolwyr Sustrans. PENDERFYNWYD cefnogi'r prosiect mewn egwyddor, a byddai'r Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol yn trafod ac yn awgrymu lleoliadau posibl.

 

Diolchwyd i Joe Wilkins, Anthony Jones a Kim Williams am fynychu a gadawsant y cyfarfod

Aberystwyth art project – presentation by Sustrans

 

A further presentation on the project was given by Sustrans representatives. It was RESOLVED to support the project in principle, and the General Management Committee would discuss and suggest possible locations.

 

Joe Wilkins, Anthony Jones and Kim Williams were thanked for attending and left the meeting

 

Agenda RhC

GM Agenda

 

80

Adroddiad y Maer

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig trwy e-bost.

Mayoral report

 

A written report was circulated via email.

 

 

 

81

Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 24 Mehefin 2024 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 24 June 2024 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 

 

82

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

  1. Materion yn codi o’r cofnodion: Gofynnwyd am ddiweddariadau ar gyrff allanol; Clerc i ddarparu.
  2. Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio: Roedd dyddiad yn cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod ynghylch trethi busnes.
  3. Cwestiynau sy’n ymwneud â chylch gwaith y Cyngor hwn YN UNIG:
  • Roedd y mynegbost ar top y dref wedi ei atgyweirio, ond roedd arwyddion yr amgueddfa a gwybodaeth twristiaid yn wynebu gwahanol gyfeiriadau, er eu bod yn yr un adeilad.
  • Gofynnwyd am ddyluniadau newydd ar gyfer arwyddion tref a fyddai’n bodloni gofyniad yr asiantaeth cefnffyrdd am arwyddion ffyrdd.
  • Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi i wneud gwaith dilynol ar greu log o benderfyniadau'r Cyngor.

 

Matters arising from the Minutes:

 

  1. Matters arising from the minutes: Updates were requested on outside bodies; Clerk to provide.
  2. Minutes of the Planning Committee: A date was being arranged for a meeting regarding business rates.
  3. Questions relating ONLY to this Council’s remit:
  • The fingerpost at the top of town had been repaired, however the signs for the museum and tourist information were facing different directions, despite being in the same building.
  • New designs were requested for town signs that met the trunk road agency’s requirement for road signs.
  • Standing Order & Policy Committee to follow up on creating a log of Council decisions.

 

Agenda Rheolau Sefydlog a Pholisi

Standing Orders & Policy Agenda

 

83

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd ar gyfer eitemau 84 ac 85, oherwydd natur gyfrinachol y busnes i'w drafod

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 10a(xi), PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a'r cyhoedd ar gyfer eitemau 6-8, oherwydd natur cyfrinachol y busnes i'w drafod.

 

Gadawodd Cyng. Endaf Edwards y siambr.

To exclude the press & public for items 84 and 85, due to the confidential nature of business to be discussed

 

In accordance with Standing Order 10a(xi), it was RESOLVED to exclude the press and public for items 6-8, due to the confidential nature of business to be discussed.

 

Cllr. Endaf Edwards left the chamber.

 

 

 

84

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Staffio a gynhaliwyd nos Wener 28 Mehefin 2024, i gadarnhau cywirdeb

 

Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi i drafod y ffordd y caiff cyfarfodydd y Pwyllgor Staffio eu cofnodi, oherwydd natur sensitif y pynciau a drafodir. Bydd cyngor yn cael ei geisio gan Un Llais Cymru.

Minutes of the Staffing Committee meeting held on Friday 28 June 2024, to confirm accuracy

 

Standing Orders & Policy Committee to discuss the way in which Staffing Committee meetings are minuted, due to the sensitive nature of topics discussed. Advice would be sought from One Voice Wales.

 

Agenda Rheolau Sefydlog a Pholisi

Standing Orders & Policy Agenda

 

85

Materion yn codi o’r cofnodion

 

N/A

Matters arising from the minutes

 

N/A

 

 

86

Cofnodion Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 1 Gorffennaf 2024, i gadarnhau cywirdeb

 

Dychwelodd Cyng. Endaf Edward i'r siambr.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

Minutes of the Extraordinary Meeting of Full Council held on Monday, 1 July 2024 to confirm accuracy

 

Cllr. Endaf Edward returned to the chamber.

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 

 

87

Materion yn codi o’r cofnodion

 

Dim

Matters arising from the minutes

 

None

 

 

 

88

Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 1 Gorffennaf 2024

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 1 July 2024, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 

 

89

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

  1. 1 A240413 Y Cambria, Glan y Môr: Cyng. Lucy Huws i ofyn am gopïau o unrhyw luniau a dynnwyd o nodweddion hanesyddol.

 

Matters arising from the minutes

 

  1. 1 A240413 The Cambria, Glan y Môr: Cllr. Lucy Huws to request copies of any photos taken of historic features.

 

 

 

90

Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 8 Gorffennaf 2024

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion a ganlyn:

 

  • 1 30 Mlwyddiant gefeillio a Kronberg
  • 2 750 Mlwyddiant siarter Aberystwyth
  • 1 Chwynnu strydoedd. Ataliodd Cyng. Alun Williams ei bleidlais.
  • 7 Ymgynghoriad promenâd y De. Ataliodd Cyng. Alun Williams ei bleidlais.
  • 9 Safon peintio meinciau’r promenâd
  • 10 Adroddiad blynyddol
  • 11 Newidiadau i amserlenni trenau

Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 8 July 2024, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes and the following recommendations:

 

  • 1 Kronberg twinning 30 year anniversary
  • 2 Aberystwyth charter 750 year anniversary
  • 1 Street weeding. Cllr. Alun Williams abstained from voting on this matter.
  • 7 South promenade consultation. Cllr. Alun Williams abstained from voting on this matter.
  • 9 Quality of painting promenade benches
  • 10 Annual report
  • 11 Changes to train timetables

 

 

 

91

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

  1. 2 750 Mlwyddiant siarter Aberystwyth: Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau i drefnu cyfarfod ‘galwad agored’ i drafod

 

  1. Grŵp Aberystwyth Gwyrddach Coedlan Plascrug: Roedd lwfans wedi'i wneud mewn cais am grant fel rhan dau o brosiect Mannau Tyfu Plascrug i gynnwys arwyddion.

 

  1. Meinciau’r promenâd: Yr oedd mainc ar Llwyn Afallon wedi ei symud ; roedd hyn oherwydd ei fod yn cael ei gymryd oddi ar y safle ar gyfer gwaith atgyweirio.

 

  1. 1 Mynediad a pharcio top y dref: Clerc i ysgrifennu at Gymdeithas Masnachwyr Neuadd y Farchnad i drefnu cyfarfod.

 

  1. 1 Cerflun Americaniad Brodorol Ffordd y Môr: Diolchwyd i'r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands am ddatrys y mater.

Matters arising from the minutes

 

  1. 2. Aberystwyth charter 750 year anniversary: Events and Partnerships Officer to arrange ‘open call’ meeting to discuss.

 

  1. Greener Aberystwyth Group Plascrug Avenue: Allowance had been made in a grant application as part of phase two of the Plascrug Growing Spaces project to include signage.

 

  1. Promenade benches: A bench on Elysian Grove had been removed; this was due to being taken off-site for repairs.

 

  1. 1 Top of town access & parking: Clerk to write to Market Hall Traders Association to arrange meeting.

 

  1. 1 Native American statue Terrace Road: Thanks were extended to Cllr. Dylan Lewis-Rowlands for resolving the matter.

 

 

 

92

Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 19 Mehefin 2023

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda’r newidiadau a ganlyn:

 

  1. Cyfrifon Mehefin: cwestiwn ynghylch 1128 costau TG swyddfa i'w gyfieithu.
  2. Neuadd Gwenfrewi adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad: Pleidleisiodd y Cyng. Brian Davies yn erbyn yn hytrach nag ymatal.
  3. Taliadau Cynghorwyr 2024-25: Nodi mai'r rheswm am benderfynu gwneud taliadau rôl uwch i gadeiryddion Pwyllgorau penodedig oedd dyblygu cadeiryddion.
  4. 1. Prosiect Aber: Dileu

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion a ganlyn:

  • Neuadd Gwenfrewi adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad. Ataliodd y Cyng. Kerry Ferguson ac Emlyn Jones eu pleidlais.
  • TCC. Pleidleisiodd y Cyng. Brian Davies yn erbyn hyn.
  • Chwynnu strydoedd
  • Arwyddion top y dref. Pleidleisiodd y Cyng. Mair Benjamin yn erbyn hyn.
  • Taliadau Cynghorwyr 2024-25: Ymatalodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands, Jeff Smith, Emlyn Jones, Talat Chaudhri a Maldwyn Pryse rhag pleidleisio.
  • Gefeillio Aberystwyth a Kronberg cais am gyllid. Ataliodd y Cyng. Talat Chaudhri rhag pleidleisio. Pleidleisiodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn erbyn hyn.
  • Bin gardd goffa rhoddwr organau Penparcau.

Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 15 July 2024, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with the following amendments:

 

  1. June Accounts: question regarding 1128 office IT costs to be translated.
  2. Neuadd Gwenfrewi Presbytery refurbishment: Cllr. Brian Davies voted against rather than abstained.
  3. Councillor payments 2024-25: Specify that the decision to make senior role payments to the specified Committee chairs was due to duplication of chairs.
  4. 1. Prosiect Aber: Omit

 

It was RESOLVED to approve the following recommendations:

  • Neuadd Gwenfrewi Presbytery refurbishment. Cllrs. Kerry Ferguson & Emlyn Jones abstained from voting.
  • CCTV. Cllr. Brian Davies voted against this.
  • Street weeding
  • Top of town signage. Cllr. Mair Benjamin voted against this.
  • Councillor payments 2024-25. Cllrs. Dylan Lewis-Rowlands, Jeff Smith, Emlyn Jones, Talat Chaudhri and Maldwyn Pryse abstained from voting.
  • Aberystwyth Kronberg Twinning funding request. Cllr. Talat Chaudhri abstained from voting. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands voted against this.
  • Penparcau organ donor memorial garden bin.

 

 

 

 

93

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

  1. Arwyddion top y dref: Dyluniadau i'w trafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.

 

  1. Taliadau Cynghorwyr 2024-25: Cododd y Cyng. Maldwyn Pryse na fyddai’n derbyn taliad y maer o £1500, ac awgrymodd fod yr arian hwn yn mynd tuag at gostau’r daith i Yosano yn yr Hydref. Cynnig i'w gyflwyno i'r cyfarfod nesaf.

 

  1. Gefeillio Aberystwyth a Kronberg cais am gyllid: Roedd gohebiaeth wedi dod i law oddi wrth Gadeirydd y grŵp, Chris Hodgson, yn egluro pwysigrwydd eu hymweliad â Porto Recanati. Amlygodd hyn yr angen am strategaeth ddiffiniedig ar gyfer cyllido gefeillio, a fyddai'n cael ei drafod gan y Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi.

 

  1. 1 Meinciau coffa: Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi i drafod polisi meinciau coffa.

Matters arising from the minutes

 

  1. Top of town signage: Designs to be discussed by General Management Committee.

 

  1. Councillor payments 2024-25: Cllr. Maldwyn Pryse raised that he would not be accepting the £1500 mayor’s payment, and suggested that these funds go towards costs of the trip to Yosano in the Autumn. Motion to be brought to next meeting.

 

  1. Aberystwyth Kronberg Twinning funding request: Correspondence had been received from the Chair of the group, Chris Hodgson, explaining the importance of their visit to Porto Recanati. This highlighted the need for a defined strategy for funding twinning, which would be discussed by the Standing Orders & Policy Committee.

 

  1. 1 Memorial benches: Standing Orders & Policy Committee to discuss memorial benches policy.

 

Agenda RhC

GM Agenda

 

Cynnig

Motion

 

 

 

 

Agenda Rheolau Sefydlog a Pholisi

Standing Orders & Policy Agenda

 

 

PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tan 22:00.

It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting to 22:00.

 

 

94

Ystyried gwariant Mis Gorffennaf

 

Gadawodd Cyng. Mari Turner y cyfarfod

 

Codwyd y cwestiynau canlynol o’r gwariant:

 

  • Roedd seddi siglen i'r anabl wedi'u prynu o dan arian grant Cynnal y Cardi; Clerc i baratoi adroddiad ar brosiectau grant i hysbysu'r cynghorwyr.
  • Dylid ystyried opsiynau ar gyfer storio offer.
  • Dylid ystyried opsiynau ar gyfer contractau gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol, gan gynnwys potensial gweithiwr uniongyrchol yn hytrach na chontractwyr allanol.
  • Cafwyd planhigion o Ganolfan Arddio Llanarth yn hytrach na chyflenwr mwy lleol, a hynny oherwydd gallu i gyflenwi ac ansawdd y planhigion a gyflenwyd a'r gost.
  • Nodwyd bod cost prynu baner balchder yn uchel, fodd bynnag roedd hyn oherwydd prynu baner a wehyddwyd o ansawdd uwch a fyddai'n para am flynyddoedd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.

 

Ataliodd y Cyng. Kerry Ferguson ac Emlyn Jones eu pleidlais.

To consider July expenditure

 

Cllr. Mari Turner left the meeting

 

The following questions were raised from the expenditure:

 

  • Disabled swing seats had been purchased under Cynnal y Cardi grant funding; Clerk to prepare report on grant projects to inform councillors.
  • Options for storage of equipment to be considered
  • Options for future of maintenance work contracts to be considered, including potential of a direct employee rather than external contractors.
  • Plants were obtained from Llanarth Garden Centre rather than a more local supplier, which was due to the capacity and quality of plants supplied and to cost.
  • It was noted that the purchase of a pride flag was expensive, however this was due to purchasing a higher quality woven flag that would last many years.

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

Cllrs. Kerry Ferguson and Emlyn Jones abstained from voting.

 

 

 

95

Cymeradwyo cyfrifon Mis Mehefin

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r cyfrifon.

To approve June accounts

 

It was unanimously RESOLVED to approve the Accounts.

 

 

 

96

Chwynnu strydoedd

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant amcangyfrifedig o £6,284.60 i gyflogi Cynorthwy-ydd Amgylcheddol ychwanegol am gyfnod penodol tan ddiwedd mis Medi i gyflawni dyletswyddau chwynnu a chefnogi codi sbwriel.

 

Roedd trefniadau wedi'u gwneud gyda Hyb Penparcau i alluogi'r Cynorthwyydd Amgylcheddol hwn i weithio un diwrnod yr wythnos ym Mhenparcau.

 

Roedd digwyddiad tacluso tref Prosiect Aber i’w gynnal ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf 2024.

Street weeding

 

It was RESOLVED to approve estimated expenditure of £6,284.60 to employ an additional Environmental Assistant on a fixed term basis until the end of September to undertake weeding duties and support with litter picking.

 

Arrangements had been made with Penparcau Hub to enable this Environmental Assistant to work one day per week in Penparcau.

 

A Prosiect Aber town tidying event was to be held on Saturday 27 July 2024.

 

 

 

97

Blodau’r dref

 

Dosbarthwyd gwybodaeth am welliannau blodau a mannau gwyrdd i'w cyflawni yn 2024. PENDERFYNWYD creu gweithgor i drafod blodau'r dref yn fanylach.

Town flowers

 

Information on flower and green space improvements to be delivered in 2024 was circulated. It was RESOLVED to create a working group to discuss town flowers in more detail.

 

 

 

 

PENDERFYNWYD diwygio trefn y busnes i drafod eitem 102 yn syth ar ôl eitem 97.

It was RESOLVED to amend the order of business to discuss item 102 immediately after item 97.

 

 

98

Ymgynghoriad: system bleidleisio ar gyfer Etholiadau Awdurdod Lleol Cyngor Sir Ceredigion

 

PENDERFYNWYD gwahodd Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth i amlinellu manteision ac anfanteision systemau pleidleisio gwahanol, er mwyn galluogi ymateb gwybodus i'r ymgynghoriad. Cyng. Lucy Huws i wahodd.

 

PENDERFYNWYD hefyd codi'r modd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn gyda'r Comisiwn Etholiadol ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, oherwydd iddo gael ei gyflwyno mewn modd anghytbwys.

 

Ataliodd y Cyng. Alun Williams ei bleidlais, oherwydd bod ganddo bleidlais ar y mater hwn ar lefel Cyngor Sir.

 

Consultation: voting system for Ceredigion County Council Local Authority Elections

 

It was RESOLVED to invite Dr Elin Royles from Aberystwyth University to outline pros and cons of different voting systems, to enable an informed response to the consultation. Cllr. Lucy Huws to invite.  

 

It was also RESOLVED to raise the conduct of this consultation with the Electoral Commission and Public Services Ombudsman for Wales, due to it being presented in an unbalanced manner.

 

Cllr. Alun Williams abstained from voting, due to having a vote on this matter at County Council level.

 

 

 

99

Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.

 

Dim

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

None

 

 

 

100

Ceisiadau cynllunio

 

Planning applications

 

 

 

100.1

A240498: 9a Y Ffynnon Hearn

 

Mae'r Cyngor Tref yn CEFNOGI'r cais hwn ac yn croesawu'r defnydd o ddeunyddiau adeiladu traddodiadol, er y byddent yn hoffi gweld y ffenestr godi bren yn y cefn yn cael ei chadw.

A240498: 9a Y Ffynnon Hearn

 

The Town Council SUPPORTS this application and welcomes the use of traditional building materials, although would like to see the wooden sash window at the rear retained.

 

Ymateb

Respond

 

100.2

A230837: Gwelfryn, Ffordd Penparcau

 

Roedd yr ymgeisydd yn apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio, er y nodwyd bod yr apêl eisoes wedi'i gwrthod.

A230837: Gwelfryn, Ffordd Penparcau

 

Applicant was appealing planning decision, although it was noted that the appeal had already been refused.

 

Ymateb

Respond

 

101

Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

Dim

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies

 

None

 

 

 

102

Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

Cyng. Endaf Edwards:

  • Roedd gwersylla a chysgu allan yn Nhanybwlch yn broblem gynyddol, ond yn un heb unrhyw ateb hawdd.
  • Roedd cais cynllunio A240340 Y Bwthyn, Heol y Brenin wedi cael ei ddanfon at Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion i’w drafod.

 

Cyng. Alun Williams:

  • Roedd grŵp aml-asiantaeth yn cyfarfod yn rheolaidd i helpu i ymdrin â'r mater cynyddol o ddigartrefedd a chysgu allan. Nodwyd na fyddai Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn helpu gyda hyn, gan na fyddai'n berthnasol i ddrysau siopau.
  • Roedd Ysgol Plascrug wedi ennill gwobr Sustrans am deithio cynaliadwy, ac roedd yn un o dair ysgol yn unig yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru i wneud hynny.

 

Diolchwyd i’r Cyng. Endaf Edwards am fynychu a gadawodd y cyfarfod.

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

Cllr. Endaf Edwards:

  • Camping and rough sleeping in Tanybwlch was an increasing issue, but one without any easy solution.
  • Planning application A240340 Y Bwthyn, King Street had been requested to be discussed by Ceredigion County Council’s Planning Committee.

 

Cllr. Alun Williams:

  • A multi-agency group was meeting regularly to help deal with the increasing issue of homelessness and rough sleeping. It was noted that a Public Space Protection Order would not help with this, as it would not apply to shop doorways.
  • Plascrug School had won a sustrans award for sustainable travel, and was one of only three school in Mid & North Wales to do so.

 

Cllr. Endaf Edwards was thanked for attending and left eh meeting.

 

 

 

103

Partnerschaftsabend Kronberg Rhagfyr 2024

 

Dim digon o amser, i'w drafod yn y cyfarfod nesaf

Kronberg partnerschaftsabend December 2024

 

Insufficient time, to be discussed at next meeting

 

 

 

104

Cais am gyllid: gweithdai sglefrfyrddio

 

Dim digon o amser, i'w drafod yn y cyfarfod nesaf

Funding request: skateboarding workshops

 

Insufficient time, to be discussed at next meeting

 

 

 

105

Cais am gyllid: Bardd y Dref gŵyl farddoniaeth yr Iseldiroedd

 

Dim digon o amser, i'w drafod yn y cyfarfod nesaf

 

Funding request: Town Bard Netherlands poetry festival

 

Insufficient time, to be discussed at next meeting

 

 

106

Cais am gyllid: Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 2025

 

Dim digon o amser, i'w drafod yn y cyfarfod nesaf

Funding request: Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 2025

 

Insufficient time, to be discussed at next meeting

 

 

 

107

Gohebiaeth

 

Correspondence

 

 

107.1

Cynnydd yn lefel y môr: Cais gan ddarlledwr radio o'r Almaen i gwrdd a thrafod codiad yn lefel y môr. Cyfarfod i'w drefnu.

Sea level rise: Request from a German radio broadcaster to meet and discuss sea level rise. Meeting to be arranged.