Mae’r olwyn adeiniog yn symbol herodrol sy’n dynodi twristiaeth a phwysigrwydd y fasnach dwristiaeth i’r dref.
Tŵr Castell Aberystwyth.
Mae’r ysgub wenith yn dynodi pwysigrwydd y dref fel canolfan farchnad a’i dibyniaeth ar y gefnwlad amaethyddol.
Mae’r llongau herodrol yn cofnodi pwysigrwydd Aberystwyth yn y gorffennol fel porthladd a diwydiant adeiladu llongau.
Mae’r llyfr agored yn cynrychioli agweddau academaidd ar fywyd y dref gyda Phrifysgol Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol. 1277 yw dyddiad y Siarter wreiddiol a gyflwynodd Edward y 1af i’r dref.
Codwyd y llew du o Arfbais Teulu’r Pryse o Gogerddan ger Aberystwyth, a chwaraeodd ran bwysig ym mywyd y Dref a Sir Aberteifi.