Aberystwyth Council

 

Cyngor Tref     ABERYSTWYTH   Town Council

 

 

Cofnodion Cyfarfod o’r Cyngor Llawn (o bell oherwydd Covid19)

Minutes of the Meeting of Full Council (remote due to Covid19)

 

21.6.2021

 

 

COFNODION – MINUTES

 

19

Yn bresennol:

 

Cyng. Alun Williams (Cadeirydd)

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Mari Turner

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Mark Strong

Cyng. Lucy Huws

Cyng. David Lees

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Steve Davies

 

Yn mynychu:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Chris Betteley (Cambrian News)

 

Heather McClure – Bwyd Dros Ben Aber

Sian Stacey – O’r Mynydd i’r Môr

Alice Briggs – creadigol annibynnol

 

Susanna Kenyon – Argyfwng yr Hinsawdd

 

 

Present:

 

Cllr. Alun Williams (Chair)

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Mari Turner

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Mark Strong

Cllr. Lucy Huws

Cllr. David Lees

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Steve Davies

 

In attendance:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Chris Betteley (Cambrian News)

 

Heather McClure – Aber Food Surplus

Sian Stacey – Summit to Sea

Alice Briggs – freelance creative

 

Susanna Kenyon – Climate Emergency

 

20

Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Brendan Somers

Cyng. Danny Ardeshir

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Claudine Young

Cyng. Sue Jones-Davies

Cyng. Alex Mangold

 

Apologies:

 

Cllr. Brendan Somers

Cllr. Danny Ardeshir

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Claudine Young

Cllr. Sue Jones-Davies

Cllr. Alex Mangold

 

 

 

21

Datgan diddordeb:

 

33: Roedd y Cynghorwyr Endaf Edwards a Mari Turner yn cynrychioli’r Cyngor Tref ar Fwrdd Prosiect yr Hen Goleg

Declaration of interest:

 

33: Cllrs Endaf Edwards and Mari Turner represented the Town Council on the Old College Project Board

 

 

 

22

Cyfeiriadau personol:

 

  • Darparodd y Maer adroddiad gweithgaredd byr. Ei elusen am y flwyddyn yw Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl Gorwelion.
  • Profedigaeth: bu farw mab y Cynghorydd Brendan Somers a Glynis Somers yn ddiweddar. Byddai'r Maer a'r Dirprwy Faer yn cysylltu â nhw.
  • Diolchodd y Cynghorydd Lucy Huws i'r Brifysgol am anrhydeddu cyfraniad ei diweddar ŵr gyda mainc goffa.

Personal references:

 

  • The Mayor provided a brief activity report. His charity for the year is Gorwelion Mental Health Resource Centre.
  • Bereavement: Cllr Brendan Somers and Glynis Somers’s son had recently passed away. The Mayor and Deputy Mayor would contact them.
  • Cllr Lucy Huws thanked the University for honouring her late husband’s contribution with a memorial bench.

 

 

23

Ceisiadau grant

Grant applications

 

 

23.1

Canolfan Argyfwng yr Hinsawdd

 

Rhoddodd Susanna Kenyon drosolwg o'r cais ac yn benodol yr angen am ofod mewn adeilad eu hunain er mwyn annog cyfranogiad cymunedol. Cynlluniwyd gweithgareddau awyr agored hefyd i blant a rhieni i annog ymgysylltiad â natur.

 

PENDERFYNWYD rhoi iddynt y dyraniad grant y cytunwyd arno o £1000.

Climate Emergency Centre

 

Susanna Kenyon provided an overview of the application and in particular the need for their own building space in order to encourage community involvement.  Outdoor activities were also planned for children and parents to encourage engagement with nature.

 

It was RESOLVED to give them the agreed grant allocation of £1000.

 

 

23.2

Digwyddiad ‘ Glannau’r Rheidol’

 

Rhoddodd Heather McClure drosolwg o ddigwyddiad diwylliannol canol y dref i annog cysylltiadau rhwng cymunedau gwledig ac Aberystwyth, gyda chyfraniadau ychwanegol gan Sian Stacey ac Alice Briggs. Roeddent yn chwilio am arian cyfatebol ar gyfer grant Cyngor Celfyddydau Cymru o £31,700 a fyddai’n arwain o bosibl at brosiect dilynol o ddwy flynedd.

 

PENDERFYNWYD rhoi'r swm o £2975 iddynt a ofynnwyd amdano. Byddai’r arian yn dod o'r gyllideb digwyddiadau.

 

‘Verges of the Rheidol’ event

 

Heather McClure provided an overview of the town centre cultural event to encourage connections between rural communities and Aberystwyth, with additional contributions from Sian Stacey and Alice Briggs. They were looking for match-funding for an Arts Council of Wales grant of £31,700 which would lead potentially to a subsequent two-year project.

 

It was RESOLVED to give them the sum of £2975 as requested. The money would come from the events budget.

 

 

24

Cofnodion o Gyfarfod  Blynyddol y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 24 Mai 2021 i gadarnhau cywirdeb

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion

 

Minutes of the Annual Meeting of Full Council held Monday 24 May 2021to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 

25

Materion yn codi o’r cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the minutes:

 

None

 

 

26

Ystyried gwariant Mis Mehefin

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant

Consider June expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure

 

 

 

 

27

Ystyried cyfrifon Ebrill a Mai

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon

 

Consider April and May accounts 2020-21

 

It was RESOLVED to approve the accounts

 

28

Ystyried Adroddiad yr Archwilydd Mewnol 2020-21

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad

 

Consider Internal Auditor’s Report 2020-21

 

It was RESOLVED to approve the report

 

29

Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol 2020-21

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol

 

Approve 2020-21 Annual Return

 

It was RESOLVED to approve the Annual Return

 

 

30

Cymeradwyo Cynllun Lles 2020-21

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Lles. Diolchwyd i’r Clerc am ei gwaith.

Approve the 2020-21 Wellbeing Plan

 

It was RESOLVED to approve the Wellbeing Plan. The Clerk was thanked for her work.

 

31

Cofnodion o Gyfarfod  y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun 7 Mehefin 2021 i gadarnhau cywirdeb

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhelliad

Minutes of the Planning Committee meeting held Monday 7 June 2021 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes and recommendation.

 

32

Materion yn codi o’r cofnodion:

 

Dim

 

Matters arising from the minutes:

 

None

 

33

Ceisiadau Cynllunio

 

A210459: Hen Goleg

 

Mae'r Cyngor Tref yn llwyr gefnogi datblygiad yr Hen Goleg ond dylid nodi bod yr Hen Goleg yn adeilad unigryw rhestredig Gradd 1 o bwysigrwydd hanesyddol ac y dylid ei ddiogelu yn yr un modd ag adeiladau tebyg mewn mannau eraill fel Coleg Iesu, Rhydychen.

 

 

Llongyfarchodd cynghorwyr y Brifysgol ar eu sylw i fanylion ynglŷn ag atgynhyrchu'r lliwiau paent gwreiddiol ond codwyd amryw bryderon hefyd:

 

  1. Fflamadwyedd deunyddiau yn ystod y broses adeiladu. Dylid cymryd gofal i osgoi trychineb tebyg i'r un a ddigwyddodd i Ysgol Gelf Glasgow.
  2. Tynnu'r grisiau troellog. Dyma un o brif elfennau dylunio'r adeilad gwreiddiol a dylid ystyried yn ofalus cyn ei symud.
  3. Mae dymchwel cymaint o’r waliau gwreiddiol yn ymddangos yn ormodol
  4. Defnyddio gwydr yn lle drysau traddodiadol

 

Roedd angen mwy o drafod a byddai cyfarfod anffurfiol yn cael ei gynnal i edrych ymhellach ar y manylion.

Planning applications

 

A210459: Old College

 

The Town Council fully support the development of the Old College but it should be noted that the Old College is a Grade 1 listed building of historic importance and should be safeguarded in the same way as similar buildings elsewhere such as Jesus College, Oxford.

 

Councillors congratulated the University on their attention to detail regarding replication of the original paint colours but also raised various concerns:

 

  1. Flammability of materials during the build process. Care should be taken to avoid a similar disaster to the one which befell the Glasgow School of Art.
  2. Removal of the spiral staircases. These are one of the main design elements of the original building and careful consideration should be given before removal.
  3. The knocking through of original walls seems excessive
  4. Use of glass instead of traditional doors

 

More discussion was needed and an informal meeting would be convened to look further at the details.

 

 

34

Eglwys Santes Gwenfrewi

St Winefride’s Church

 

 

34.1

Byddai'r pryniant wedi'i gwblhau gyda'r taliad olaf ar gyfer Treth Tir a ffioedd cyfreithwyr.

 

Y flaenoriaeth gyntaf fyddai sicrhau bod y safle'n ddiogel ac yna mynd i'r afael â tho'r porth sy'n gollwng a wal anniogle yr henaduriaeth.

 

Byddai angen cynnal rhestr o arteffactau a dodrefn er mwyn cadw eitemau'n ddiogel a chytuno ar eu storio a gweithredu ymhellach. Byddai ymweliad safle yn cael ei drefnu i asesu'r gwaith hwn ac unrhyw anghenion garddio.

 

Byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd ac roedd angen rheolwr prosiect i wneud ceisiadau am gyllid ac ati.

The purchase would be complete with the final payment for Land Tax and solicitors fees. 

 

The first priority would be to make the site secure and then to address the leeking porch roof and the unsafe presbytery wall. 

 

An inventory of artefacts and furniture would be needed in order to keep items safe and agree their storage and further action. A site visit would be arranged to assess this work and any gardening needs.

 

Planning permission would be needed for change of use and a project manager was needed to seek funding etc.

 

Eitem agenda

Agenda item

 

 

 

 

 

Trefnu ymweliad safle

Organise site visit

34.2

Byddai enw newydd ar gyfer yr adeiladau yn cael ei roi ar agenda'r cyfarfod nesaf i ganiatáu mwy o amser i’w ystyried. Awgrymwyd ‘Canolfan Santes Gwenfrewi’ a ‘Neuadd Gwenfrewi’ fel enwau gyda chyswllt hanesyddol i’w ystyried.

A new name for the buildings would be put on the agenda of the next meeting to allow more time for consideration.  ‘Canolfan Santes Gwenfrewi’ and ‘Neuadd Gwenfrewi’ were put forward for consideration as names with a historic link.

 

 

Eitem agenda

Agenda item

35

Parc Ffordd y Gogledd

 

  • Roedd cynllun manwl yn hanfodol i wahodd dyfynbrisiau ar gyfer elfennau o'r gwaith grant. Derbyniwyd dau ddyfynbris er y cysylltwyd â dau gwmni arall hefyd. PENDERFYNWYD, gan fod costau ac argaeledd y ddau gwmni yn debyg iawn, i gomisiynu'r cwmni a oedd wedi darparu'r cynllun braslun ar gyfer y cais am y grant.
  • Byddai ymweliad safle yn cael ei drefnu i esbonio'r cynlluniau.
  • Byddai enw newydd ar gyfer y parc yn cael ei roi ar agenda'r cyfarfod nesaf i ganiatáu mwy o amser i’w ystyried. Awgrymwyd ‘Maes Gwenfrewi’.

North Road Park

 

  • A detailed plan was essential to invite quotes for elements of the grant works. Two quotes had been received although two other companies had also been contacted. It was RESOLVED, as costs and availability of both companies were very similar, to commission the company who had provided the sketch plan for the grant application.
  • A site visit would be arranged to explain the plans.
  • A new name for the park would be put on the agenda of the next meeting to allow more time for consideration. ‘Maes Gwenfrewi’ was suggested.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Trefnu ymweliad safle

Organise site visit

 

Eitem agenda

Agenda item

 

36

Meysydd Chwarae

Playgrounds

 

36.1

Cylchdro Plas crug – un newydd hygyrch

 

(eitem gytundebol gaeëdig)

 

PENDERFYNWYD  bwrw ymlaen â’r gwaith yn amodol ar adborth cadarnhaol gan ofalwyr plant sy'n byw gydag anableddau. Dewiswyd cwmni o'r tri dyfynbris a ddarparwyd ond byddai’r gwaith yn ddibynnol ar yr adborth.

Plas crug Roundabout – an accessible replacement

(closed contractual item)

 

It was RESOLVED to proceed with works subject to positive feedback from carers of children living with disabilities.  A company was chosen from the three quotes provided but the work would be subject to the feedback.

Trefnu

Organise

36.2

Glaswellt Penparcau a thwmpath chwarae

 

PENDERFYNWYD derbyn y dyfynbris a ddarparwyd ac y dylai'r gwaith o dacluso'r tywarch a chreu'r twmpath fynd yn ei flaen.

Penparcau grass and play mound

 

It was RESOLVED to accept the quote provided and that the work of tidying up the turf and creating the mound should proceed.

 

 

37

Rhandiroedd

 

Allotments

 

37.1

Cais am grant

Roedd cais am grant wedi'i gyflwyno am ychydig dros £12,000 i brynu sied, cloddio pwll, a chyflenwi cafnau dalgylch dŵr glaw ac offer ar gyfer pob llain. Ni dderbyniwyd penderfyniad eto.

Grant application

A grant application had been submitted for just over £12,000 to buy a shed, dig a pond, and supply rainwater catchment troughs and equipment for each plot. A decision had not yet been received.

 

 

37.2

Gwastraff gardd

Cysylltwyd â Ceredigion ynghylch materion ehangu gerddi i’r berllan ac roedd angen anfon llythyr at ddeiliaid y tai ynghylch hyn a dympio gwastraff gardd.

Garden waste

Ceredigion had been contacted regarding issues of encroachment at the orchard and a letter needed to be sent to householders regarding encroachment and the dumping of garden waste.

 

Anfon llythyr

Send letter

 

PENDERFYNWYD atal y Rheolau Sefydlog ac i ymestyn y cyfarfod o 15 munud

It was RESOLVED to suspend Standing Orders and to extend the meeting by 15 minutes

 

38

Plannu coed

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mair Benjamin i dair coeden ffrwythau gael eu plannu ar ochr clawdd y llwybr beicio ym maes parcio Ceredigion wrth ymyl y Clwb Pêl-droed. Nodwyd hefyd bod angen ailosod coed ym Mharc Kronberg a Boulevard Sant Brieuc.

 

PENDERFYNWYD cysylltu â Chyngor Ceredigion i weld a fyddai hyn yn bosibl.

Tree planting

 

Cllr Mair Benjamin asked that three fruit trees by planted on the cycleway bank in the Ceredigion car park next to the Football Club. It was also noted that replacement trees were needed in Parc Kronberg and Boulevard St Brieuc.  

 

It was RESOLVED to contact Ceredigion Council to see if this would be possible.

 

Cysylltu gyda’r Cyngor Sir

Contact CCC

39

Blodau gwyllt

Wildflowers

 

 

39.1

Polisi strimio’r Cyngor Sir

 

PENDERFYNWYD ysgrifennu at Ceredigion i ofyn iddynt beidio â strimio ymylon a banciau ac ati ym mis Mai i annog blodau gwyllt

Ceredigion Council’s strimming policy

 

It was RESOLVED to write to Ceredigion to ask them not to strim verges and banks etc in May to encourage wildflowers.

 

Ysgrifennu at y Cyngor Sir

Write to CCC

39.2

Polisi chwynladdwr y Cyngor Sir

 

Mae gwasgaru chwynladdwyr yn aml yn achosi difrod i blanhigion eraill cyfagos a mae’r chwyn gwywedig yn edrych yn anniben. PENDERFYNWYD ysgrifennu at Gyngor Ceredigion i drafod dewisiadau trin chwyn eraill a chefnogaeth posib y Cyngor Tref.

Ceredigion Council’s weedkiller policy

 

Weedkiller application often causes damage to other plants and the wilted weeds are unsightly. It was RESOLVED to write to Ceredigion Council to discuss other weed treatment options and possible Town Council support.

 

Ysgrifennu at y Cyngor Sir

Write to CCC

40-41.2

Yr eitemau hyn ar yr agenda i’w dwyn ymlaen i'r cyfarfod nesaf

 

These agenda items to be carried forward to the next meeting

Eitemau agenda

Agenda items