Aberystwyth Council

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau (hybrid)

Minutes of the Finance and Establishments Committee (hybrid)

 

17.10.2022

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1

Presennol

 

Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd)

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mathew Norman

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Alun Williams

Cyng. Brian Davies

 

Yn mynychu

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

 

Present

 

Cllr. Maldwyn Pryse (Chair)

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mathew Norman

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Alun Williams

Cllr. Brian Davies

 

In attendance

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 

2

Ymddiheuriadau

 

Cyng. Sienna Lewis

Cyng. Steve Davies

Cyng. Kerry Ferguson

 

Apologies

 

Cllr. Sienna Lewis

Cllr. Steve Davies

Cllr. Kerry Ferguson

 

 

3

Datgan buddiannau:

 

Dim

Declarations of interest:  

 

None

 

 

4

Cyfeiriadau Personol:

 

Dymunwyd yn dda i'r Cynghorydd Bryony Davies ar enedigaeth ei merch. Roedd cerdyn wedi'i anfon.

Personal references:

 

Best wishes were extended to Cllr Bryony Davies on the birth of her daughter. A card had been sent.

 

 

 

 

 

5

 

Cyfrifon Mis Medi

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo cyfrifon Mis Medi

September accounts

 

It was RECOMMENDED that the September accounts be approved.

 

 

6

Costau man pwrpasol i gŵn

 

Darparwyd dadansoddiad o’r costau:

 

  • Ffensio 50 metr x 30 metr £3,500
  • x2 meinciau syml pren £240
  • Arwyddion £250
  • Bin gwastraff £150

                                    Cyfanswm o £4,140

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo'r prosiect peilot hwn yn amodol fod tanwariant ar gael. Bydd mwy o wybodaeth am yr arian sydd ar gael yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.

Dog run costs

 

A breakdown of costs was provided:

 

  • Fencing 50metres x 30metres £3,500
  • x2 simple timber benches £240
  • Signage £250
  • Waste bin £150

                                                Total £4,140

 

It was RECOMMENDED that this pilot project be approved subject to available underspend.  Further information on available funds to be provided at the next meeting.

 

Agenda cyllid

Finance agenda

7

Estyn cytundeb y Cynorthwyydd Amgylcheddol

 

Darparwyd dadansoddiad o’r costau:

 

  • Cyfnod y gaeaf Hydref i Fawrth: £5,328

(15 awr yr wythnos)

  • Cyfnod yr haf Ebrill i Fedi: £7696

(20 awr yr wythnos)

 

ARGYMHELLWYD cyflogi'r Cynorthwy-ydd Amgylcheddol yn ystod cyfnod y gaeaf ac os na fyddai tanwariant ar gael y dylai'r arian ddod allan o'r arian wrth gefn.

 

Environmental Assistant contract extension

 

A breakdown of costs was provided:

 

  • Winter period October to March: £5,328 (15 hours per week)
  • Summer period April to September: £7696

(20 hours per week)

 

It was RECOMMENDED that the Environmental Assistant be employed during the winter period and that should there be no available underspend the money should come out of reserves.

 

 

8

Costau peiriant brwsio a golchi strydoedd

 

Darparwyd dadansoddiad o’r costau:

 

  • Cost prynu yw £24,000
  • Diesel         £18,720
  • Yswiriant          £1000
  • Atgyweiriadau ayb £1000
  • Gyrrwr 25 awr yr wythnos £375 (gaeaf £9000)
  • Gyrrwr 30 awr yr wythnos £450 (haf £10,800)

 

Cyfanswm costau y Gwasanaethau Stryd (gan gynnwys Cynorthwy-ydd Amgylcheddol) £53,544

 

Diolchwyd i'r Rheolwr Asedau a Chyfleusterau am y dadansoddiad o'r costau.

ARGYMHELLWYD cymeradwyo'r prosiect mewn egwyddor ond:

 

  1. Dylid darparu cynllun glanhau strydoedd yn dangos pa balmentydd y gellid ac na ellid eu golchi.
  2. Dylid darparu costau ar gyfer opsiwn trydan yn oherwydd y costau diesel uchel.

Street washer and sweeper costs

 

A breakdown of costs was provided:

 

  • Purchase costs £24,000
  • Diesel                £18,720
  • Insurance £1000
  • Servicing  £1000
  • Operator 25 hours per week £375 (winter £9000)
  • Operator 30 hours per week £450 (summer £10,800)

 

Total Street Scene costs (including Environmental Assistant)   £53,544

 

The Assets and Facilities Manager was thanked for the breakdown of costs.

It was RECOMMENDED that the project be approved in principle but that:

 

  1. a street cleaning plan be provided showing which pavements could and couldn’t be washed.
  2. Costs for an electric option be provided due to the high diesel costs.

 

Darparu costau

Provide costings

9

Costau chwarae meddal

 

Darparwyd dadansoddiad o’r costau:

 

  • Prynu’r offer  £5,000
  • Llogi bandstand 1 Rhagfyr – 31 Mawrth (46 achlysur) ond yn amodol ar drafodaeth barhaus am ostyngiad rhent  £2,944
  • Gweithiwr chwarae £2,415

                            Cyfanswm o £10,359

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo'r prosiect mewn egwyddor ar gyfer cyfnod y gaeaf yn amodol ar y tanwariant sydd ar gael ac i'w ychwanegu at gyllideb 2023-24.  Dylid ymchwilio ymhellach i anghenion storio’r offer ac i weithio mewn partneriaeth gyda’r Cyngor Sir.

Soft play costs

 

A breakdown of costs was provided:

 

  • Equipment purchase £5,000
  • Bandstand hire 1 December – 31 March (46 occasions) but subject to ongoing negotiation regarding a discounted rent £2,944
  • Play worker £2,415

                         Total £10,359

 

It was RECOMMENDED that the project be approved in principle for the winter period subject to available underspend and to be added to the 2023-24 budget. Storage of equipment and partnership working with Ceredigion Council to be investigated.

 

Ymchwilio

Investigate

10

Cyllideb 2023-24

 

Cyflwynwyd cyllideb ddrafft i'w thrafod. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf ond rhoddwyd ystyriaeth i rai penawdau cyllideb a gynyddwyd megis yswiriant, lwfans aelodau a hyfforddiant, parciau a chynnal a chadw tiroedd, tra bod eraill wedi eu lleihau megis rhandiroedd, costau gwelyau blodau a phlannu coed. Teimlai’r cynghorwyr na ddylid lleihau'r gronfa argyfwng a dylai aros ar £10,000. Diolchwyd i'r Clerc am ei gwaith.

 

Roedd y cynghorwyr wedi'u calonogi bod y cynnydd yn y praesept yn is na chwyddiant.

Budget 2023-24

 

A draft budget was presented for discussion.  This would be discussed further at the next meeting but consideration was given to some budget headings that had been increased such as insurance, members allowance and training, parks and grounds maintenance, whilst others had been reduced such as allotments, flower bed costs and tree planting.  Councillors felt that the emergency fund should not be reduced and should remain at £10,000.  The Clerk was thanked for her work.

 

Councillors were encouraged that the increase in the precept was below inflation.

 

Agenda cyllid

Finance agenda

11

Adroddiad Blynyddol Draft Panel Annibynol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Chwefror 2023

 

D49: Lwfans presenoldeb i aelodau. ARGYMHELLWYD na ddylid mabwysiadu hyn.

 

D51: Taliad i'r Dirprwy Faer. ARGYMHELLWYD mabwysiadu hyn.

Independent Remuneration Panel Annual draft report – February 2023

 

D49: Attendance allowance for members.  It was RECOMMENDED that this should not be adopted.

 

D51: Payment to the Deputy Mayor. It was RECOMMENDED that this should be adopted.

 

 

 

12

Defnydd y Siambr gan gyrff allanol

 

ARGYMHELLWYD y dylid ond caniatáu i grwpiau ddefnyddio’r Siambr os:

  1. Cawsant eu noddi gan Gynghorydd Tref a fyddai'n bresennol yn y cyfarfod ac a fyddai’n dilyn hyfforddiant diogelwch swyddfa
  2. Y noddwr i arwyddo am allweddi'r swyddfa a'u dychwelyd y diwrnod wedyn
  3. Cymeradwywyd y cais gan y Cyngor Llawn

 

Er budd diogelwch y swyddfa, ARGYMHELLWYD y dylid rhoi allwedd y Siambr mewn sêff allweddi y tu allan i'r Siambr.

 

ARGYMHELLWYD caniatáu i Gymdeithas yr Iaith ddefnyddio'r Siambr gyda'r Cyng Jeff Smith yn noddwr.

Use of Council chamber by outside bodies

 

It was RECOMMENDED that groups should only be allowed to use the Chamber if:

  1. They were sponsored by a Town Councillor who would be present at the meeting and undertake office security training
  2. The sponsor to sign for the office keys and return them the next day
  3. The application was approved by Full Council

 

In the interest of office security it was RECOMMENDED that the Chamber key should be put in a key safe outside the Chamber.

 

It was RECOMMENDED that Cymdeithas yr Iaith be allowed to use the Chamber with Cllr Jeff Smith as sponsor.

 

Trefnu

Organise

13

Mabwysiadu meinciau Penglais a Trefechan (x3)

 

ARGYMHELLWYD mabwysiadu ac adnewyddu'r meinciau. Lleoliadau ar gyfer y meinciau i'w cadarnhau ond nodwyd eu bod yn cael llawer o ddefnydd.

Adoption of Penglais and Trefechan benches (x3)

 

It was RECOMMENDED that the benches be adopted and refurbished. Locations for the benches to be confirmed but it was noted that they were well used.

 

 

14

Gohebiaeth

 

I’w ystyried yn y cyfarfod nesaf

 

Correspondence

 

To be considered at the next meeting

 

Agenda Cyllid

Finance agenda