Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau (hybrid)
Minutes of the Finance and Establishments Committee (hybrid)
- 12.2022
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 |
Presennol
Cyng. Sienna Lewis (Cadeirydd) Cyng. Jeff Smith Cyng. Mathew Norman Cyng. Alun Williams Cyng. Brian Davies Cyng. Maldwyn Pryse
Yn mynychu Gweneira Raw-Rees (Clerc) Cyng. Connor Edwards |
Present
Cllr. Sienna Lewis (Chair) Cllr. Jeff Smith Cllr. Mathew Norman Cllr. Alun Williams Cllr. Brian Davies Cllr. Maldwyn Pryse
In attendance Gweneira Raw-Rees (Clerk) Cllr Connor Edwards
|
|
2 |
Ymddiheuriadau Cyng. Steve Davies Cyng. Kerry Ferguson
|
Apologies Cllr. Steve Davies Cllr. Kerry Ferguson
|
|
3 |
Datgan buddiannau:
Dim |
Declarations of interest:
None
|
|
4 |
Cyfeiriadau Personol:
Roedd y Clerc a'r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau wedi cael ymweliad llwyddiannus â Kronberg ar ran y Cyngor. Roedd Cyngor a Phartneriaeth Gefeillio Kronberg, yn ogystal â Phartneriaeth Gefeillio Aberystwyth, wedi gwerthfawrogi eu presenoldeb yn fawr.
|
Personal references:
The Clerk and the Events and Partnerships officer had had a successful visit to Kronberg on behalf of the Council. Their presence had been greatly appreciated by both Kronberg Council and Twinning Partnership as well as the Aberystwyth Twinning Parntership.
|
|
5
|
Cyfrifon Mis Tachwedd
ARGYMHELLWYD cymeradwyo cyfrifon Mis Tachwedd |
November accounts
It was RECOMMENDED that the November accounts be approved.
|
|
6 |
Santes Dwynwen 21.1.2023
Cyflwynwyd y costau canlynol:
Hysbyseb cau’r ffordd £49.00 Rheoli traffig £400.00 Twmpath Dawns (amgueddfa) £150.00 Twmpath Dawns (band) £250.00 Band y Parêd (Samba Agogo) £250.00 Pyped Santes Dwynwen £850.00
Cyfanswm £1949 ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r costau. |
Santes Dwynwen 21.1.2023
The following costs were presented:
Road closure notice £49.00 Traffic management £400.00 Twmpath Dawns (museum) £150.00 Twmpath Dawns (band) £250.00 Parade band (Samba Agogo) £250.00 Puppet – Santes Dwynwen £850.00
Total £1949 It was RECOMMENDED that the costs be approved.
|
|
7 |
Cytundeb Peninsula
Roedd disgwyl i’r contract gael ei adnewyddu ar 28 Rhagfyr 2022 neu byddai’n parhau am gyfnod arall o bum mlynedd. ARGYMHELLWYD cysylltu â chwmnïau Cyfraith Cyflogaeth eraill i gael dyfynbrisiau erbyn cyfarfod nesaf y Cyngor Llawn |
Peninsula contract
The contract was due for renewal on 28 December 2022 or it would continue for another five year period. It was RECOMMENDED that other Employment Law companies be contacted for quotes by the next Full Council meeting
|
|
8 |
Cyllideb 2023-24
Cyflwynwyd cyllideb ddrafft i'w thrafod a gydag ychwanegiad o £3000 ar gyfer wifi i’r dref ARGYMHELLWYD cymeradwyo'r gyllideb gyda phraesept o £578,990 yn cynrychioli cywerth Band D o £141.98 y flwyddyn (£11.83 y mis / £2.73 yr wythnos).
|
Budget 2023-24
The draft budget was presented for discussion and with the addition of £3000 for the town wifi it was RECOMMENDED that the budget be approved with a precept of £578,990 representing a Band D equivalent of £141.98 per annum (£11.83 per month / £2.73 per week)
|
|
9 |
Wifi i’r dref
ARGYMHELLWYD y dylai'r Cyngor Tref fabwysiadu'r cyfrifoldeb am wi-fi'r dref, gan ddefnyddio'r isadeiledd a gyflwynwyd gan Aberystwyth ar y Blaen, a chynhwyswyd £3000 yn y gyllideb. |
Town wifi
It was RECOMMENDED that the Town Council should adopt responsibility for the town wifi, utilising infrastructure introduced by Advancing Aberystwyth, and £3000 was included in the budget .
|
|
10 |
Digwyddiad Nadolig Penparcau
Roedd digwyddiad y Nadolig bellach yn ddigwyddiad llai a byddid yn edrych ar adnewyddu’r danffordd yn y Flwyddyn Newydd. |
Penparcau Hub Christmas event
The Christmas event was now a smaller event and refurbishment of the underpass would be looked at in the New Year.
|
|
11 |
Gohebiaeth
Dim |
Correspondence
None
|
|