Aberystwyth Council

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion Pwyllgor Cynllunio (Hybrid)

Minutes of the Planning Committee (Hybrid)

 

  1. 7.2023

 

 

COFNODION /   MINUTES

 

1

Yn bresennol:

 

Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Matthew Norman

Cyng. Mark Strong

Cyng. Owain Hughes

 

Yn mynychu:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

 

Present:

 

Cllr. Jeff Smith (Chair)

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Matthew Norman

Cllr. Mark Strong

Cllr. Owain Hughes

 

In attendance:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 

2

Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Lucy Huws

 

Apologies:

 

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Lucy Huws

 

 

 

3

Datgan Diddordeb:

 

Dim

Declaration of interest:

 

None

 

 

4

Cyfeiriadau Personol:

 

Mewn ymateb i erthygl negyddol yn y Cambrian News, mynegodd y Cyng Dylan Lewis-Rowlands ei gefnogaeth i staff y Cyngor Tref.

Personal references:

 

In response to a negative article in the Cambrian News, Cllr Dylan Lewis-Rowlands expressed his support for the Town Council staff.

 

 

5

Ceisiadau Cynllunio

 

Planning Applications

 

 

5.1

A230419: 9 Dan Dre

 

DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor

 

Mae'r Cyngor yn croesawu'r defnydd o le busnes gwag

A230419: 9 Mill Street

 

The Council has NO OBJECTION

 

The Council welcomes the use of an empty business premises

 

Cysylltu gyda’r Cyngor Sir

Contact CCC

5.2

A230427: Heddle,   Ffordd Llanbadarn

 

DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor

 

A230427: Heddle, Llanbadarn Road

 

The Council has NO OBJECTION

 

 

 

6

Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth ac Archwiliad o Adeiladau Rhestredig Gwag

 

Ymateb y Cyngor Tref:

 

Mae Aberystwyth yn arbennig oherwydd ei thwf graddol o’r castell dros gyfnod hir o amser. Mae’n dref unigryw oherwydd harddwch ac amrywiaeth y bensaernïaeth hanesyddol – carreg, brics, tyrau, mosaigau, blaenau siopau traddodiadol, tafarndai hanesyddol, ffenestri, drysau, gwydr lliw, rheiliau, palmentydd llechi, coblau, enwau lleoedd Cymraeg ac ati.

 

Ffin yr ardal gadwraeth: dylid cynnwys y Pier yn yr ardal gadwraeth

 

Adeiladau arbennig i'w gwarchod:

  • Yr Hen Goleg
  • 'Hen Dref Aberystwyth' (Maes Lowri a'r strydoedd cyfagos ar dop y dref cyn belled â Stryd y Bont a Tan y Cae), Hen Neuadd y Farchnad, Eglwys Mihangel Sant
  • Y tafarndai – Ship & Castle, Y Llew Du, Gwesty’r Castell , Rummers, Bank Vaults, Y Cŵps ayb.
  • Y castell a’i dir a’i lochesi (y Wal Sibrwd a Chôr y Castell)
  • Y promenâd yn ei gyfanrwydd
  • Craig Glais, rheilffordd y graig a'r orsaf.
  • Yr orsaf drenau
  • Hen Swyddfa Bost
  • Heol y Gogledd (gan gynnwys gerddi blaen) a Morfa Mawr
  • Yr Ysgol Gelf a'i chyffiniau
  • Tai’r Porth gyda chlos oddi ar Y Porth Bach
  • Hen Lyfrgell y dref a Rhes Crynfryn
  • Llyfrgell newydd y dref
  • Adeiladau’r Hen Ysgol
  • Capeli ac eglwysi.

 

Mannau gwyrdd i'w gwarchod:

  • Coedlan Plas Crug
  • Maes Gwenfrewi a'r ardaloedd amwynder cyfagos
  • yr holl lawntiau poced a borderi ledled y dref gan gynnwys y lawntiau o flaen Llyfrgell y Dref
  • dir y castell
  • coed stryd ledled y dref
  • gerddi blaen – yn hytrach na cael eu defnyddio fel lle i storio biniau neu parcio ceir

 

Materion sy'n effeithio ar yr ardal gadwraeth:

  • esgeuluso adeiladau hanesyddol
  • diffyg gorfodaeth
  • defnyddio UPVC yn lle deunyddiau cynaliadwy (yn aml heb ganiatâd)
  • colli nodweddion hanesyddol fel y rhestrwyd uchod (ffenestri, gwydr lliw, mosaigau, rheiliau haearn, drysau, goleuadau, palmentydd llechi a choblau, enwau tai/lleoedd Cymraeg ac ati)
  • Colli gerddi blaen – yn aml fe’u defnyddir fel storfa biniau neu ar gyfer parcio ceir
  • Dylid gwarchod enwau lleoedd Cymraeg
  • diffyg cynnal a chadw gan landlordiaid
  • Diffyg ymgynghori ac ymgysylltu ystyrlon ynghylch newidiadau a datblygiadau
  • Glendid tref a diffyg trefn lanhau
  • Diffyg dehongliad

 

Gwella'r ardal:

  • Fe ddylai gwelliannau warchod yr holl nodweddion a restrir uchod
  • Dylai datblygwyr a landlordiaid fod yn atebol am ddileu neu ddifrodi nodweddion hanesyddol (fel y rhestrir uchod)
  • Dylai’r broses gorfodi fod yn fwy effeithiol
  • Dylid cyflwyno telerau cadwraeth cryfach fel rhan o'r broses ceisiadau cynllunio yn ogystal â'r broses drwyddedu ar gyfer llety ar rent

 

Adeiladau Rhestredig masnachol gwag:

  • Belle Vue
  • Neuadd y Sir
  • Yr hen DIVA ar rhodfa’r môr
  • Claire gynt - 37 Y Stryd Fawr
  • Yr Hen Ysgol - 2 uned
  • Costa
  • Porth y Gogledd
  • Furniture Cave
  • Hen Swyddfa Bost (yn dod yn wag yn fuan o bosib)
  • Gas Showroom
  • Siop y Prom
  • Neuadd Buarth

 

Conservation Area Appraisals and Vacant Listed Building Audit

 

The Town Council’s response:

 

Aberystwyth is special because of its gradual growth from the castle over a long period of time.It is an unique town because of the beauty and variety of the historic architecture – stone, brick, towers, mosaics, traditional shop fronts, historic public houses, windows, doors, stained glass, railings, slate pavements, cobbles, Welsh place names etc

 

Conservation area boundary: the Pier should be included in the conservation area

 

Special buildings to be protected:

  • Old College
  • ‘Old Town Aberystwyth’ (Laura Place and surrounding streets at the top of town as far as Bridge Street and South Road), Old Market Hall, St Michael’s church
  • the public houses – Ship & Castle, Black Lion, Castle Hotel, Rummers, Bank Vaults, Y Cŵps etc.
  • The castle and its grounds and shelters (Whispering Wall and Côr y Castell)
  • The promenade in its entirety
  • Constitution Hill, cliff railway and station
  • The train station
  • Old Post Office
  • North Road (including front gardens) and Queen’s Road
  • The School of Art and its environs.
  • The houses with a courtyard off Eastgate Street (Tai y Porth).
  • The old town Library and Crynfryn Row
  • The new Town Library
  • The Old School complex
  • Chapels and churches.

 

Green spaces to be protected:

  • Plas Crug Avenue
  • Maes Gwenfrewi and adjacent amenity areas
  • all existing greens and borders throughout town including the greens in front of the Town Library
  • the castle grounds
  • street trees throughout the town
  • front gardens - as opposed to being used as bin stores and car parking

 

Issues affecting the conservation area:

  • neglect of historic buildings
  • lack of enforcement
  • use of UPVC instead of sustainable materials (often without permission,
  • loss of historic features as listed above (windows, stained glass, mosaics, iron railings, doors, lights, slate pavements and cobbles etc
  • Loss of front gardens – often they are used as bin stores or for car parking
  • Loss of Welsh house/place names
  • lack of maintenance by landlords.
  • Lack of meaningful consultation and engagement regarding changes and developments.
  • Town cleanliness and lack of cleaning regime
  • Lack of interpretation

 

 

To improve the area:

  • Improvements should protect all the features and characteristics listed above.
  • Developers and landlords should be accountable for removal of / or damage to historic features (as listed above)
  • Enforcement process should be more effective
  • Stronger conservation conditions should be introduced as part of the planning application process as well as the licensing process for rented accommodation

 

 

Vacant commercial Listed Buildings:

  • Belle Vue
  • County Hall
  • Former DIVA on the sea front
  • Former Claire’s - 37 Great Darkgate Street
  • The Old School - 2 units
  • Costa
  • Northgate St
  • Furniture Cave
  • Old Post Office (possibly becoming vacant shortly)
  • Gas Showroom
  • Siop y Prom
  • Buarth Hall

 

 

7

Gohebiaeth

 

Dim

Correspondence

 

None