Finance and Establishment - 16-09-2024
6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty
Minutes of the Finance Committee meeting held remotely and at the Council Chambers, 11 Baker Street
16.9.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd) Cyng. Brian Davies Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Alun Williams Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Jeff Smith Cyng. Emlyn Jones Cyng. Owain Hughes
Yn mynychu Cyng. Mair Benjamin Cyng. Glynis Somers Cyng. Mark Strong Cyng. Lucy Huws Will Rowlands (Clerc) Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau) Carol Thomas (Cyfiethydd) |
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair) Cllr. Brian Davies Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Alun Williams Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Jeff Smith Cllr. Emlyn Jones Cllr. Owain Hughes
In attendance Cllr. Mair Benjamin Cllr. Glynis Somers Cllr. Mark Strong Cllr. Lucy Huws Will Rowlands (Clerk) Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer) Carol Thomas (Translator)
|
|
2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Yn absennol efo ymddiheuriadau: · Dim
Yn absennol heb ymddiheuriadau: · Dim
|
Apologies and Absences
Absent with apologies: · None
Absent without apologies: · None |
|
3 | Datgan diddordebau:
· 10. Noson tan gwyllt flynyddol: Mae’r Cyng. Kerry Ferguson yn aelod o Rotary Ardal Aberystwyth. (diddordeb sy’n rhagfarnu) · 12. Gŵyl cerdd dant 2025: mae’r Cyng. Kerry Ferguson yn aelod o’r bwyllgor trefnu. (diddordeb sy’n rhagfarnu) |
Declarations of interest:
· 10. Annual fireworks display: Cllr. Kerry Ferguson is a member of Rotary Ardal Aberystwyth. (prejudicial interest) · 12. Gwyl cerdd dant 2025: Cllr. Kerry Ferguson is a member of the organising committee. (prejudicial interest)
|
|
4 | Cyfeiriadau Personol:
· Diolchwyd i’r staff am eu gwaith ar Ŵyl y Castell, a fu’n llwyddiant ysgubol. · Cydymdeimlwyd â’r Cyng. Umer Aslam, yr oedd ei dad wedi marw. Cerdyn i’w anfon. |
Personal references:
· Thanks were extended to staff for their work on Gŵyl y Castell, which was a huge success. · Condolences were extended to Cllr. Umer Aslam, whose father had passed away. A card to be sent.
|
Anfon cerdyn
Send card |
5 | Ystyried cyfrifon mis Gorffennaf
Codwyd y cwestiynau canlynol: 1101 Costau staffio: tanwariant posibl i’w drafod gan y Pwyllgor Staffio.
1127 Llety: Ni fyddai rhent bellach yn daladwy ar ôl symud swyddfa, felly byddai gweddill y pennawd cyllideb hwn yn cael ei ddefnyddio tuag at drethi busnes y swyddfa newydd.
1225 Regalia, byrddau a phortreadau: Angen diweddaru byrddau a phortreadau maerol. I’w ddiweddaru o fewn y flwyddyn ariannol.
1936 Nadolig: I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol i gadarnhau cynlluniau ar gyfer 2024.
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon. |
Consider July Accounts
The following questions were raised: 1101 Staffing costs: potential underspend to be discussed by Staffing Committee.
1127 Accommodation: Rent would no longer be payable after moving offices, so the remainder of this budget heading would be used towards business rates of the new office.
1225 Regalia, boards & portraits: Mayoral boards and portraits needed updating. To be updated within the financial year.
1936 Christmas: To be discussed by General Management Committee to confirm plans for 2024.
It was RECOMMENDED to approve the accounts.
|
Agenda RhC GM Agenda |
6 | Ystyried cyfrifon mis Awst
Awgrymwyd y dylai’r Pwyllgor Cyllid hefyd ystyried gwariant misol lle bo modd.
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon. |
Consider August Accounts
It was suggested that the Finance Committee should also consider monthly expenditure where possible.
It was RECOMMENDED to approve the accounts.
|
|
7 | Neuadd Gwenfrewi | Neuadd Gwenfrewi | |
7.1 | Adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad: cyffyrddiadau terfynol
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r canlynol: · Farneisio pob llawr i orffeniad sglein llyfn. Amcangyfrif o’r gost o £950. · Ail-darmacio llwybrau allanol, gan gynnwys ymestyn y llwybr i’r cefn ac ailosod gwaith haearn. Amcangyfrif o’r costau o £7,900. · Gosod ffens a giât mynediad i gefn yr adeilad. Amcangyfrif o’r gost o £3,500. · Gosod bleindiau drwyddi draw. Amcangyfrif o’r gost o £1,740.
Gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi. Pleidleisiodd yr aelodau canlynol o blaid y cynigion: · Cyng. Talat Chaudhri · Cyng. Kerry Ferguson · Cyng. Owain Hughes · Cyng. Emlyn Jones · Cyng. Maldwyn Pryse · Cyng. Jeff Smith · Cyng. Alun Williams
Pleidleisiodd yr aelodau canlynol yn erbyn y cynigion: · Cyng. Brian Davies · Cyng. Dylan Lewis-Rowlands
Nid oedd neb yn ymatal.
|
Presbytery refurbishment: finishing touches
It was RECOMMENDED to approve the following: · Varnishing of all floors to a smooth gloss finish. Estimated cost of £950. · Re-tarmacking exterior paths, including extending the path to the rear and re-setting of ironworks. Estimated costs of £7,900. · Installation of fencing and access gate to the rear of the building. Estimated cost of £3,500. · Fitting of blinds throughout. Estimated cost of £1,740.
A recorded vote was requested. The following members voted in favour of the proposals: · Cllr. Talat Chaudhri · Cllr. Kerry Ferguson · Cllr. Owain Hughes · Cllr. Emlyn Jones · Cllr. Maldwyn Pryse · Cllr. Jeff Smith · Cllr. Alun Williams
The following members voted against the proposals: · Cllr. Brian Davies · Cllr. Dylan Lewis-Rowlands
There were no abstentions.
|
|
7.2 | Dodrefn a symud swyddfeydd
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r canlynol: · Cost amcangyfrifedig o £1,500 ar gyfer adleoli swyddfeydd proffesiynol. · Prynu oergell · Prynu microdon
Byddai asesiad Offer Sgrin Arddangos yn cael ei gynnal ar gyfer yr holl staff, a byddai’r costau amcangyfrifedig ar gyfer prynu cadeiriau swyddfa yn cael eu darparu i’r Cyngor Llawn.
Dosbarthwyd opsiynau contract band eang ac ARGYMHELLWYD symud ymlaen gyda’r contractwr lleol, am gost fisol o £34.95.
Ataliodd y Cyng. Brian Davies ei bleidlais.
|
Furniture & moving offices
It was RECOMMENDED to approve the following: · Estimated cost of £1,500 for professional relocation of offices. · Purchase of refrigerator · Purchase of microwave
A Display Screen Equipment assessment would be carried out for all staff, and estimated costs for purchase of office chairs provided to Full Council.
Broadband contract options were circulated and it was RECOMMENDED to proceed with the local contractor, at a monthly cost of £34.95.
Cllr. Brian Davies abstained from voting.
|
|
7.3 | Siambr y Cyngor
ARGYMHELLWYD cymeradwyo cyfanswm gwariant amcangyfrifedig o rhwng £3,500 a £4,000 i wneud y gwaith a ganlyn er mwyn defnyddio’r hen Eglwys fel Siambr y Cyngor: · Tynnu hen baent ar ddwy wal brif y neuadd, gosod seliwr a phaentio. Paneli gre dros dro i’r mannau mwyaf llaith i ganiatáu ar gyfer sychu. · Gwaith trydanol i ddarparu trydan yn yr hen Eglwys. · Ymestyn y seilwaith band eang i ganiatáu darpariaeth yn yr hen Eglwys.
Pleidleisiodd y Cyng. Brian Davies yn erbyn hyn. Ataliodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands ei bleidlais. Gadawodd y Cyng. Alun Williams y cyfarfod. |
Council chamber
It was RECOMMENDED to approve estimated total expenditure of between £3,500 and £4,000 to carry out the following works in order to use the former Church as the Council Chamber: · Stripping of old paint on two main hall walls, application of sealant and painting. Temporary stud panelling to dampest areas to allow for drying. · Electrical works to provide electricity in the former Church. · Extension of broadband infrastructure to allow provision in the former Church.
Cllr. Brian Davies voted against this. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands abstained from voting. Cllr. Alun Williams left the meeting.
|
|
8
|
Toiledau cyhoeddus: diweddariad
Cafwyd diweddariad gan y Maer a’r Clerc, yn dilyn cyfarfod gyda swyddogion Cyngor Sir Ceredigion. Roedd tri opsiwn wedi’u cyflwyno ar gyfer rheoli toiledau cyhoeddus Aberystwyth yn y dyfodol, ynghyd â ffigurau ar gyfer costau gweithredu. I’w drafod gan y Cyngor Llawn. |
Public toilets: update
An update was provided by the Mayor and Clerk, following a meeting with Ceredigion County Council officers. Three options had been presented for the future management of Aberystwyth’s public toilets, along with figures for the costs of operating. To be discussed by Full Council.
|
Agenda Cyngor Llawn
Full Council Agenda |
PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tan 21:45. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting to 21:45. | ||
9 | Ymweliad a Yosano Hydref 2024 | Visit to Yosano October 2024 | |
9.1 | Cynnig: Defnydd o lwfans y Maer (Cyng. Maldwyn Pryse)
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cynnig.
Gadawodd y Cyng. Mair Benjamin y cyfarfod. Gadawodd Carol Thomas y cyfarfod. |
Motion: use of Mayor’s allowance (Cllr. Maldwyn Pryse)
It was RECOMMENDED to approve the motion.
Cllr. Mair Benjamin left the meeting. Carol Thomas left the meeting.
|
|
9.2 | Anrhegion
Roedd Bardd y Dref wedi’i gomisiynu i ysgrifennu cerdd cyn yr ymweliad, y gellid ei fframio fel anrheg i Faer Yosano.
ARGYMHELLWYD cymeradwyo gwariant o hyd at £100 ar gyfer hyn a rhoddion amrywiol eraill.
Gadawodd y Cyng. Owain Hughes y cyfarfod. |
Gifts
The Town Bard had been commissioned to write a poem ahead of the visit, which could be framed as a gift for the Mayor of Yosano.
It was RECOMMENDED to approve expenditure of up to £100 for this and other miscellaneous gifts.
Cllr. Owain Hughes left the meeting. |
|
9.3 | Cadwyn y Maer: diweddariad prisiad
Cafwyd diweddariad gan y Clerc, yn dilyn mynychu prisiad elusennol a gynhaliwyd gan HAHAV. ARGYMHELLWYD prisio’r gadwyn yn broffesiynol, a diwygio yswiriant yn unol â hynny.
Gadawodd y Cyng. Kerry Ferguson y cyfarfod. Gadawodd Wendy Hughes y cyfarfod. |
Mayoral chain: valuation update
An update was provided by the Clerk, following attending a charity valuation held by HAHAV. It was RECOMMENDED to have the chain professionally valued, and to amend insurance accordingly.
Cllr. Kerry Ferguson left the meeting. Wendy Hughes left the meeting.
|
|
10 | Noson tan gwyllt flynyddol: cais am gyllid (Rotary Ardal Aberystwyth)
Ni chymerodd y Cyng. Emlyn Jones ran yn y trafodaethau.
ARGYMHELLWYD darparu £500 o’r pennawd cyllideb 1762, dathliadau a derbyniadau.
Gadawodd y Cyng. Glynis Somers y cyfarfod. |
Annual fireworks display: request for funding (Rotary Ardal Aberystwyth)
Cllr. Emlyn Jones did not participate in discussions.
It was RECOMMENDED to provide £500 from budget heading 1762 celebrations & receptions.
Cllr. Glynis Somers left the meeting.
|
|
11 | Kronberg partnerschaftsabend Rhagfyr 2024
Dosbarthwyd amcangyfrif o’r costau ar gyfer mynychu’r noson bartneriaeth Nadolig flynyddol ar awyren ac ar drên.
Byddai’r Maer, Cymar, Clerc a Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau yn mynychu ac ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r gwariant cysylltiedig.
Cyflwynwyd dau gynnig ar y dull o deithio. Gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi.
Cynnig 1: Pob cynrychiolydd i deithio ar y trên. Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid y cynnig: · Cyng. Dylan Lewis-Rowlands · Cyng. Jeff Smith
Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn yn erbyn y cynnig: · Cyng. Brian Davies · Cyng. Emlyn Jones · Cyng. Maldwyn Pryse
Ataliodd y Cyng. Talat Chaudhri rhag pleidleisio.
Cynnig 2: Pob cynrychiolydd i benderfynu ar eu dull teithio eu hunain (trên neu awyren). Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid y cynnig: · Cyng. Brian Davies · Cyng. Emlyn Jones · Cyng. Maldwyn Pryse
Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn yn erbyn y cynnig: · Cyng. Dylan Lewis-Rowlands
Ataliodd yr aelodau canlynol eu pleidlais: · Cyng. Talat Chaudhri · Cyng. Jeff Smith
ARGYMHELLWYD caniatáu i bob cynrychiolydd ddewis a ydynt yn teithio ar drên neu awyren.
|
Kronberg partnerschaftsabend December 2024
Estimated costs for attending the annual Christmas partnership evening via both plane and train were circulated.
The Mayor, Consort, Clerk and Events & Partnerships Officer would be attending and it was RECOMMENDED to approve the associated expenditure.
Two motions were presented on the means of travel. A recorded vote was requested.
Motion 1: All representatives to travel by train. The following members voted in favour of the motion: · Cllr. Dylan Lewis-Rowlands · Cllr. Jeff Smith
The following members voted against the motion: · Cllr. Brian Davies · Cllr. Emlyn Jones · Cllr. Maldwyn Pryse
Cllr. Talat Chaudhri abstained from voting.
Motion 2: Each representative to decide their own mode of transport (train or plane). The following members voted in favour of the motion: · Cllr. Brian Davies · Cllr. Emlyn Jones · Cllr. Maldwyn Pryse
The following members voted against the motion: · Cllr. Dylan Lewis-Rowlands
The following members abstained from voting: · Cllr. Talat Chaudhri · Cllr. Jeff Smith
It was RECOMMENDED to allow representatives to each choose whether they travel by train or plane. |
|
12 | Gŵyl cerdd dant 2025: cais am gyllid
Roedd cefnogaeth i’r digwyddiad mewn egwyddor ac ARGYMHELLWYD ystyried cynnwys cefnogaeth ariannol i’r digwyddiad yn y gyllideb ar gyfer 2025-26. Byddai cynrychiolwyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno i’r Cyngor. |
Gwyl cerdd dant 2025: request for funding
There was support for the event in principle and it was RECOMMENDED to consider including financial support for the event in the budget for 2025-26. Representatives would be invited to present to Council.
|
Cyllideb
Budget |
13 | Cadeiriau mawr glan y môr
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r dull newydd arfaethedig o gynhyrchu slingiau’r cadeiriau, gydag uchafswm cost fesul sling o £200. |
Giant deckchairs
It was RECOMMENDED to approve the proposed new method of manufacturing deck chair slings, with a maximum cost per sling of £200.
|
|
14 | Estyniad CiLCA’r clerc:
ARGYMHELLWYD cymeradwyo gwariant o £315 ar gyfer estyniad ychwanegol o 12 mis i derfyn amser cymhwyster CiLCA y Clerc. |
Clerk’s CiLCA extension
It was RECOMMENDED to approve expenditure of £315 for an additional 12 month extension to the Clerk’s CiLCA qualification deadline.
|
|
15 | Cyfrifon banc y Cyngor
ARGYMHELLWYD cau un o gyfrifon banc wrth gefn y Cyngor oherwydd ei fod yn ddiangen ac yn talu ffioedd banc. |
Council’s bank accounts
It was RECOMMENDED to close one of the Council’s reserve bank accounts due to it being unnecessary and receiving bank charges.
|
|
16 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
16.1 | Hen Goleg: Gwahoddiad i fynychu taith o amgylch y prosiect. Cynghorwyr i gadarnhau dyddiadau addas. | Old College: Invitation to attend tour of the project. Councillors to confirm suitable dates. | |
16.2 | Gŵyl y Castell: Diolch yn swyddogol gan bennaeth Ysgol Penweddig, Clive Williams. | Gŵyl y Castell: Official thanks received from headteacher of Penweddig School, Clive Williams. | |
16.3 | Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Ceredigion: Chwilio am aelod o banel grantiau gwirfoddol. | Ceredigion Local Places for Nature: Seeking volunteer grant panel member. | |
16.4 | Cynghrair Pŵl Aberystwyth: Cais am ganiatâd i gynnal stondin ar y Stryd Fawr; i gael gwybod nad oes angen caniatâd y Cyngor Tref arnynt ac i gysylltu â’r heddlu. | Aberystwyth Pool League: Request for permission to hold stand on Great Darkgate Street; to be advised they do not require the Town Council’s permission & to contact the police. |
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street
Aberystwyth SY23 2BJ |
council@aberystwyth.gov.uk
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
11.9.2024
Annwyl Cynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau y gynhelir o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, ar Nos Lun, 16.9.2024 am 18:30.
You are invited to a hybrid meeting of the Finance and Establishments Committee to be held remotely and at the Council Chamber, 11 Baker Street, on Monday 16.9.2024 at 18:30.
AGENDA
|
||
1 | Yn bresennol | Present |
2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences |
3 | Datgan Diddordeb | Declarations of interest |
4 | Cyfeiriadau Personol | Personal references |
5 | Ystyried cyfrifon mis Gorffennaf | Consider July accounts |
6 | Ystyried cyfrifon mis Awst | Consider August accounts |
7 | Neuadd Gwenfrewi | Neuadd Gwenfrewi |
7.1 | Adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad: | Presbytery refurbishment: finishing touches |
7.2 | Dodrefn a symud swyddfeydd | Furniture & moving offices |
7.3 | Siambr y Cyngor | Council chamber |
8 | Toiledau cyhoeddus: diweddariad | Public toilets: update |
9 | Ymweliad a Yosano Hydref 2024 | Visit to Yosano October 2024 |
9.1 | Cynnig: Defnydd o lwfans y Maer (Cyng. Maldwyn Pryse) | Motion: use of Mayor’s allowance (Cllr. Maldwyn Pryse) |
9.2 | Angrhegion | Gifts |
9.3 | Cadwyn y Maer: diweddariad prisiad | Mayoral chain: valuation update |
10 | Noson tân gwyllt flynyddol: cais am gyllid (Rotary Ardal Aberystwyth) | Annual fireworks display: request for funding (Rotary Ardal Aberystwyth) |
11 | Kronberg partnerschaftsabend Rhagfyr 2024 | Kronberg partnerschaftsabend December 2024 |
12 | Gŵyl cerdd dant 2025: cais am gyllid | Gŵyl cerdd dant 2025: request for funding |
13 | Cadeiriau mawr glan y môr | Giant deckchairs |
14 | Estyniad CiLCA’r clerc | Clerk’s CiLCA extension |
15 | Cyfrifon banc y Cyngor | Council’s bank accounts |
16 | Gohebiaeth
|
Correspondence
|
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details