Finance and Establishment - 15-07-2024

6:30 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty

Minutes of the Finance Committee meeting held remotely and at the Council Chambers, 11 Baker Street

15.7.2024

COFNODION / MINUTES
1 Presennol

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Brian Davies

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Alun Williams

Cyng. Jeff Smith

Yn mynychu

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Mark Strong

Chris Simpson (Gefeillio Aberystwyth a Kronberg) (eitemau 1-4, 11 yn unig)

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfiethydd)

Present

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Brian Davies

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Alun Williams

Cllr. Jeff Smith

In attendance

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Mark Strong

Chris Simpson (Aberystwyth Kronberg Twinning) (items 1-4, 11 only)

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

2 Ymddiheuriadau

Cyng. Maldwyn Pryse

Apologies and Absences

Cllr. Maldwyn Pryse

 

3 Datgan diddordebau:

Datganwyd y diddordebau a ganlyn:

Cyng. Kerry Ferguson:

·         6. Neuad Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad: diddordeb busnes (rhagfarnol)

·         11. Gefeillio Aberystwyth a Kronberg – cais am gyllid: diddordeb busnes (rhagfarnol)

 

Cyng. Emlyn Jones:

·         6. Neuad Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad: diddordeb busnes (rhagfarnol)

·         10. Taliadau Cynghorwyr 2024-25: Dirpwy Faer (rhagfarnol)

·         11. Gefeillio Aberystwyth a Kronberg – cais am gyllid: diddordeb busnes (rhagfarnol)

 

Cyng. Jeff Smith:

·         10. Taliadau Cynghorwyr 2024-25: Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio (rhagfarnol)

 

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands:

·         10. Taliadau Cynghorwyr 2024-25: Cadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol (rhagfarnol)

 

Cyng. Talat Chaudhri:

·         10. Taliadau Cynghorwyr 2024-25: Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid (rhagfarnol)

 

Declarations of interest:  

The following interests were declared:

Cllr. Kerry Ferguson:

·         6. Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment: business interest (prejudicial)

·         11. Aberystwyth Kronberg Twinning – funding request: business interest (prejudicial)

 

Cllr. Emlyn Jones:

·         6. Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment: business interest (prejudicial)

·         10. Councillor payments 2024-25: Deputy mayor (prejudicial)

·         11. Aberystwyth Kronberg Twinning – funding request: business interest (prejudicial)

 

Cllr. Jeff Smith:

·         10. Councillor payments 2024-25: Chair of Planning Committee (prejudicial)

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands:

·         10. Councillor payments 2024-25: Chair of General Management Committee (prejudicial)

 

Cllr. Talat Chaudhri:

·         10. Councillor payments 2024-25: Chair of Finance Committee (prejudicial)

4 Cyfeiriadau Personol:

·         Estynnwyd dymuniadau pen-blwydd i’r Cyng. Mark Strong

·         Estynnwyd dymuniadau pen-blwydd i’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

·         Roedd Bardd y Dref, Eurig Salisbury, wedi cael gwahoddiad i fynychu Gŵyl Farddoniaeth yn yr Iseldiroedd ym mis Medi. Disgwylid cais am gymorth ariannol i fynychu.

Personal references:

·         Birthday wishes were extended to Cllr. Mark Strong

·         Birthday wishes were extended to Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

·         The Town Bard, Eurig Salisbury, had been invited to attend a Poetry Festival in the Netherlands in September. A request for funding assistance to attend was expected.

 

 

 

 

 

Agenda Cyngor Llawn

Full Council Agenda

  PENDERFYNWYD diwygio trefn y busnes a symud eitem 11 i’w thrafod yn syth ar ôl eitem 4. It was RESOLVED to amend the order of business and move item 11 to be discussed immediately after item 4.  
5 Ystyried cyfrifon mis Mehefin

Cafwyd eglurhad o bennawd cyllideb 1955: adnewyddu Neuadd Gwenfrewi gan y Clerc. Roedd y pennawd cyllideb hwn i’w weld eisoes wedi gorwario, ond roedd hyn oherwydd bod yn rhaid cynnwys costau cytundeb adnewyddu Tŷ’r Offeiriad o fewn cronfa’r flwyddyn gyfredol. Roedd y costau hyn mewn gwirionedd yn cael eu talu gan gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer y contract, er na fyddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cyfrifon tan ddiwedd y flwyddyn.

Codwyd y cwestiynau canlynol:

1109: Costau cyflogres – Roedd y pennawd hwn yn ymddangos mewn gwarged. Roedd hyn oherwydd croniad a wnaed ar ddiwedd 2023-24, gan na dderbyniwyd anfoneb am y gwasanaeth. Roedd yr anfoneb wirioneddol wedyn yn llai na’r ffigwr a gronnwyd.

1127: Llety – Roedd hyn yn ymddangos yn orwariant ar gyfer mor gynnar yn y flwyddyn ariannol, ond roedd hyn oherwydd bod rhent swyddfa yn cael ei dalu’n chwarterol ymlaen llaw.

1128: Costau TG Swyddfa – Roedd yn ymddangos bod hyn wedi gorwario ar gyfer mor gynnar yn y flwyddyn ariannol, ond roedd hyn oherwydd talu am drwyddedau Microsoft Office yn flynyddol ymlaen llaw.

1101: Costau staff – Byddai’r gyfradd gwariant presennol yn golygu tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn, fodd bynnag roedd hyn oherwydd lwfans yn y gyllideb ar gyfer aelod ychwanegol o staff.

Nodwyd pe byddai angen 20% o arian cyfatebol ar gyfer y cais am grant i adfer Neuadd Gwenfrewi, byddai’r arian wrth gefn cyffredinol yn cael ei leihau’n sylweddol.

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon.

Consider June Accounts

An explanation of budget heading 1955: Neuadd Gwenfrewi refurbishment was provided by the Clerk. This budget heading appeared overspent already, however this was due to costs of the Presbytery refurbishment contract having to be included within the current year fund. These costs were actually being paid for by reserves earmarked for the contract, although this would not be reflected in the accounts until the year end.

The following questions were raised:

1109: Payroll costs – This heading appeared in surplus. This was due to an accrual made at the end of 2023-24, as no invoice had been received for the service. The actual invoice was then less than the figure accrued.

1127: Accommodation – This appeared overspent for this early in the financial year, however this was due to office rent being paid quarterly in advance.

1128: Office IT Costs – This appeared overspent for this early in the financial year, however this was due to paying for Microsoft Office licences annually in advance.

1101: Staff costs – The current expenditure rate would mean an underspend at year end, however this was due to a budgeted allowance for an additional staff member.

It was noted that if 20% match funding was needed for the grant application to restore Neuadd Gwenfrewi, general reserves would be depleted significantly.

It was RECOMMENDED to approve the accounts.

 
  Yn unol â Rheol Sefydlog 10a(xi), PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer eitemau 6-8, oherwydd natur fasnachol sensitif y busnes i’w drafod. In accordance with Standing Order 10a(xi), it was RESOLVED to exclude the press and public for items 6-8, due to the commercially sensitive nature of business to be discussed.  
6 Neuadd Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad

Datganwyd diddordebau gan y Cyng. Kerry Ferguson ac Emlyn Jones, a gadawsant y siambr.

Dosbarthwyd dyfynbrisiau ar gyfer gwaith gosod rhwydwaith a ffôn. ARGYMHELLWYD symud ymlaen gyda’r contractwr oedd yn cynrychioli gwerth gorau.

Nodwyd y byddai angen ystyried Siambr y Cyngor; i’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.

Pleidleisiodd y Cyng. Brian Davies yn erbyn hyn.

Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment

Cllrs. Kerry Ferguson and Emlyn Jones each declared interests and left the chamber.

Quotations for network and telephone installation work were circulated. It was RECOMMENDED to proceed with the contractor that represented best value.

It was noted that the Council Chamber would need to be considered; to be discussed by General Management Committee.

Cllr. Brian Davies voted against this.

 
7

 

TCC

ARGYMHELLWYD bwrw ymlaen â gosod llwybryddion efelychu IP sefydlog i gamerâu i alluogi defnyddio cardiau SIM cyffredin, am gost untro o £185.25 y camera a chost fisol o £12.50 y camera wedi hynny.

CCTV

It was RECOMMENDED to proceed with installing fixed IP emulating routers to cameras to enable ordinary SIM cards to be used, at a one-off cost of £185.25 per camera and a monthly cost of £12.50 per camera thereafter.

 
8 Chwynnu strydoedd

Dosbarthwyd costau amcangyfrifedig ar gyfer llogi contractwr allanol i chwynnu’r dref. Cytunwyd bod y rhain yn anfforddiadwy, yn enwedig o ystyried nad oedd wedi ei gyllidebu ar gyfer eleni. Nodwyd bod Cynorthwy-ydd Amgylcheddol y Cyngor Tref eisoes yn chwynnu cymaint â phosibl.

ARGYMHELLWYD y canlynol fel ffordd ymlaen:

1.    Defnyddio tynnu chwyn â llaw, yn hytrach nag unrhyw chwistrellu chwynladdwr.

2.    Offer fel hoes, brwshys a berfâu i fod ar gael i Gynghorwyr neu grwpiau cymunedol sy’n dymuno eu defnyddio i chwynnu.

3.    Prosiect Aber i edrych ar y posibilrwydd o gyflogi aelod o staff tymhorol i gyflawni dyletswyddau chwynnu.

4.    Rhoi ystyriaeth i ddyraniad y gyllideb ar gyfer chwynnu stryd y flwyddyn nesaf.

Ystyriaeth i’w roddi i ymarferoldeb chwynnu Penparcau.

Street weeding

Estimated costs for hiring an external contractor to weed the town were circulated. It was agreed that these were unaffordable, especially given that it had not been budgeted for this year. It was noted that the Town Council’s Environmental Assistant already undertook as much weeding as possible.

The following was RECOMMENDED as a way forward:

1.    Manual weed removal be used, rather than any herbicide spraying.

2.    Equipment such as hoes, brushes and wheelbarrows be made available for Councillors or community groups that wish to use them for weeding.

3.    Prosiect Aber to look at the possibility of employing a seasonal member of staff to undertake weeding duties.

4.    Consideration be given to budget allocation for street weeding next year.

Consideration to be given into the practicality of weeding Penparcau.

9 Top y dre – arwyddion

Roeddid yn dal i geisio costau ar gyfer baner ac arwydd parhaol.

ARGYMHELLWYD bod arwydd yn darllen ‘Hen Dref Aberystwyth’ yn y Gymraeg yn unig.

Top of town – signage

Costings were still being sought for both a banner and a permanent sign.

It was RECOMMENDED that a sign read ‘Hen Dref Aberystwyth’ in Welsh only.

  PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tan 21:30. It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting to 21:30.
10 Taliadau Cynghorwyr 2024-25

Datganwyd diddordebau gan y Cyng. Jeff Smith, Dylan Lewis-Rowlands ac Emlyn Jones, a gadawsant y siambr.

Datganodd y Cyng. Talat Chaudhri ddiddordeb, ond arhosodd i gadeirio’r cyfarfod ac ni chymerodd ran mewn trafodaethau.

Dosbarthwyd papur yn amlinellu’r taliadau gofynnol a dewisol a bennwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Roedd gan bob Cynghorydd hawl i daliadau o £156 a £52 y flwyddyn. Roedd y ddau yn daliadau gorfodol y mae’n rhaid eu talu oni bai eu bod yn cael eu gwrthod yn ysgrifenedig; roedd ffurflen wedi’i pharatoi i gynorthwyo gyda gweinyddu hyn a byddai angen i bob Cynghorydd lenwi un ar gyfer cofnodion archwilio.

ARGYMHELLWYD talu’r taliadau dewisol canlynol:

·         £1500 taliad y Maer

·         £500 taliad y Dirpwy Faer

·         £500 taliadau rôl uwch i Gadeiryddion y Pwyllgorau canlyno, oherwydd dyblygu cadeiryddion eleni l:

o   Cynllunio

o   Rheolaeth Cyffredinol

o   Cyllid

Ataliodd y Cyng. Talat Chaudhri ei bleidlais.

Councillor payments 2024-25

Cllrs. Jeff Smith, Dylan Lewis-Rowlands and Emlyn Jones each declared interests and left the chamber.

Cllr. Talat Chaudhri declared an interest, but remained to chair the meeting and did not partake in discussions.

A paper was circulated outlining the required and optional payments set by the Independent Remuneration Panel for Wales.

Every Councillor was entitled to payments of £156 and £52 per year. These were both mandatory payments that must be paid unless refused in writing; a form had been prepared to assist the administration of this and every Councillor would need to complete one for audit records.

It was RECOMMENDED to pay the following optional payments:

·         £1500 Mayor’s payment

·         £500 Deputy mayor’s payment

·         £500 senior role payments to the Chairs of the following Committees, due to duplication of chairs this year:

o   Planning

o   General Management

o   Finance

Cllr. Talat Chaudhri abstained from voting.

11 Gefeillio Aberystwth a Kronberg – cais am gyllid

Datganwyd diddordebau gan y Cyng. Kerry Ferguson ac Emlyn Jones, a gadawsant y siambr.

Dosbarthwyd cais am gyllid ac adroddiad blynyddol grŵp Gefeillio Aberystwyth a Kronberg. ARGYMHELLWYD darparu grant o £4,970, a oedd yn cynnwys yr holl geisiadau ac eithrio costau mynychu dathliadau 30 mlynedd yn Porto Recanati, yr Eidal. Roedd hyn oherwydd nad oedd yn dymuno gosod cynsail o ariannu gweithgareddau gyda threfi heb eu gefeillio ag Aberystwyth.

Nododd rhai aelodau bryderon ynghylch cymorthdaliadau hedfan, ac anogwyd y grŵp i ystyried mwy o ddulliau trafnidiaeth amgylcheddol yn y dyfodol. Cawsant eu hannog hefyd i ystyried dulliau eraill o godi arian i leihau dibyniaeth ar y Cyngor Tref.

Pleidleisiodd y Cyng Dylan Lewis-Rowlands yn erbyn hyn.

Ataliodd y Cyng Talat Chaudhri rhag pleidleisio.

Aberystwyth Kronberg Twinning – funding request

Cllrs. Kerry Ferguson and Emlyn Jones each declared interests and left the chamber.

Aberystwyth Kronberg Twinning’s funding request and annual report were circulated. It was RECOMMENDED to provide a grant of £4,970, which included all requested except for costs of attending 30th anniversary celebrations in Porto Recanati, Italy. This was due to not wishing to set a precedent of funding activities with towns not twinned with Aberystwyth.

Some members noted concerns surrounding flight subsidies, and the group were encouraged to consider more environmental means of transport in future. They were also encouraged to consider other means of fundraising to lessen reliance on the Town Council.

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands voted against this.

Cllr. Talat Chaudhri abstained from voting.

12 Gardd goffa rhoddwr organau Penparcau – gwasanaethu bin

ARGYMHELLWYD cymeradwyo gwariant o £429 y flwyddyn i fabwysiadu cyfrifoldeb am wasanaethu’r bin. Roedd hyn yn cynnwys gwagio wythnosol yn yr Haf, a gwagio bob yn ail wythnos yn y Gaeaf.

Pleidleisiodd y Cyng. Alun Williams a Mark Strong yn erbyn hyn.

Penparcau organ donor memorial garden – bin servicing

It was RECOMMENDED to approve expenditure of £429 per year to adopt responsibility for servicing the bin. This included weekly emptying in the Summer, and bi-weekly emptying in the Winter.

Cllrs. Alun Williams and Mark Strong voted against this.

 

13 Gohebiaeth Correspondence
13.1 Meinciau coffa: Cais i osod mainc goffa yn y Castell. Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi i lunio polisi ar gyfer meinciau coffa. Memorial benches: Request to install a memorial bench at the Castle. Standing Orders & Policy Committee to devise a policy for memorial benches.
13.2 Murlun stryd y farchnad: Gwaith ar y murlun yn cael ei gychwyn yn fuan. Market street mural: Work on the mural being started imminently.
13.3 Parc sglefrio: Cais am gyllid a defnydd tir i gynnal gweithdai sglefrfyrddio ym Mharc Kronberg. I’w ystyried gan y Cyngor Llawn. Skatepark: Request for funding and use of land to hold skateboarding workshops in Parc Kronberg. To be considered by Full Council.    

 

 

Agenda:

    11 Stryd y Popty / Baker Street

Aberystwyth

SY23 2BJ

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

                                  Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse

10.7.2024

Annwyl Cynghorydd / Dear Councillor

Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau y gynhelir o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, ar Nos Lun, 15.7.2024 am 18:30.

You are invited to a hybrid meeting of the Finance and Establishments Committee to be held remotely and at the Council Chamber, 11 Baker Street, on Monday 15.7.2024 at 18:30. 

 

AGENDA 

1 Yn bresennol Present
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies and absences
3 Datgan Diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau Personol Personal references
5 Ystyried cyfrifon mis Mehefin Consider June accounts
6 Neuadd Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment
7 TCC CCTV
8 Chwynnu strydoedd Street weeding
9 Top y Dre – arwyddion Top of town – signage
10 Taliadau cynghorwyr 2024-25 Councillor payments 2024-25
11 Gefeillio Aberystwyth a Kronberg – cais am gyllid Aberystwyth Kronberg Twinning – funding request
12 Gardd goffa rhoddwr organau Penparcau – biniau Penparcau organ donor memorial garden – bin servicing
13 Gohebiaeth

 

Correspondence

 

 

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely   

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

…………………………………………

Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details