Finance and Establishment - 17-06-2024

6:30 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty

Minutes of the Finance Committee meeting held remotely and at the Council Chambers, 11 Baker Street

 

17.6.2024

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1 Presennol

 

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Brian Davies

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Alun Williams

 

Yn mynychu

 

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Mark Srong

Will Rowlands (Clerc) (Ar lein)

Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau)

Carol Thomas (Cyfiethydd)

Present

 

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Brian Davies

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Alun Williams

 

In attendance

 

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Mark Stong

Will Rowlands (Clerk) (Online)

Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer)

Carol Thomas (Translator)

 
2 Ymddiheuriadau

 

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Owain Hughes

 

Apologies

 

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Owain Hughes

 

 
3 Datgan buddiannau:

 

Dim

 

Declarations of interest:  

 

None

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

·         Diolchwyd i’r Clerc am fynychu’r cyfarfod ar-lein yn ystod salwch.

·         Diolchwyd i’r staff am baratoi adroddiadau ar gyllid adnewyddu Tŷ’r Offeiriad.

·         Byddai cerdyn yn cael ei anfon at Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cyng. Bryan Davies, oedd wedi colli ei dad yn ddiweddar.

Personal references:

 

·         The Clerk was thanked for attending the meeting online during illness.

·         Staff were thanked for preparing reports on the Presbytery refurbishment’s finances.

·         A card would be sent to Leader of Ceredigion County Council, Cllr. Bryan Davies, who had recently lost his father.

 

 

5 Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau 2024/25:

 

Hunan-enwebwyd y Cyng. Talat Chaudhri ac eiliwyd gan y Cyng. Brian Davies.

Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill a PHENDERFYNWYD ethol y Cyng. Talat Chaudhri yn Gadeirydd.

Elect a Chair of the Finance & Establishments Committee for 2024-25:

 

Cllr. Talat Chaudhri self-nominated and was seconded by Cllr. Brian Davies.

 

There were no other nominations and it was RESOLVED to elect Cllr. Talat Chaudhri as Chair.

 
6 Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau 2024/25:

Enwebwyd y Cyng. Kerry Ferguson gan y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands ac eiliwyd gan y Cyng. Maldwyn Pryse.

 

Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill a PHENDERFYNWYD ethol y Cyng. Kerry Ferguson yn Is-Gadeirydd.

Elect Vice Chair of the Finance & Establishments Committee 2024/25:

 

Cllr. Kerry Ferguson was nominated by Cllr. Dylan Lewis-Rowlands and seconded by Cllr. Maldwyn Pryse.

 

There were no other nominations and it was RESOLVED to elect Cllr. Kerry Ferguson as Vice Chair.

 

 
7

 

Neuadd Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad

 

Mae’r gwaith yn symud ymlaen yn dda a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf.

 

Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment

 

Works were progressing well and expected to be completed by the end of July.

 

 
8 Neuadd Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad – cynydd ariannol

 

Dosbarthwyd taenlenni yn manylion ar gyllid y prosiect trwy e-bost. Oherwydd salwch y Clerc, byddai Cynghorwyr yn anfon unrhyw gwestiynau dros e-bost.

Dywedodd y Cyng. Lucy Huws, gyda chostau cynyddol, fod y contractwr wedi gwneud yn dda i gadw o fewn y gyllideb.

Costau diogelwch a systemau larwm i’w hadolygu cyn gosod.

Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment – financial progress

 

Spreadsheets detailing the finances of the project were circulated via email. Due to the Clerk’s illness, Councillors would send any questions over email.

 

Cllr. Lucy Huws noted that with rising costs, the contractor had done well to stay within budget.

 

Security and alarm systems costs to be reviewed prior to installation.

 

 
9 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2023-24

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r adroddiad Archwilio Mewnol, a mabwysiadu ei argymhellion fel y ganlyn:

 

·         Ymchwilio i’r angen am system arian mân neu gerdyn debyd.

·         Y gofrestr asedau wedi’i dyddio adeg yr adolygiad, ac yn cael ei hadolygu’n flynyddol ar gyfer asedau darfodedig.

·         Diweddaru dyddiad adolygu’r gofrestr risg

 

Awgrymwyd adolygu’r polisi ar gyfer gor-gyllideb gwariant.

 

Diolchwyd i’r staff am eu gwaith.

Internal Audit Report 2023-24

It was RECOMMENDED to approve the Internal Audit report, and to adopt it’s recommendations as follows:

 

·         Investigate need for a petty cash or debit card system.

·         Asset register dated at review, and reviewed annually for obsolete assets.

·         Review date of risk register updated

 

It was suggested that policy for spending over-budget be reviewed.

 

Staff were thanked for their work.

 

 
10 Ffurflen Flynyddol 2023-24

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol.

 

Annual Return 2023-24

It was RECOMMENDED that the Annual Return be approved.

 

 
11 Yswiriant y Cyngor

Gwnaethwyd cytundeb tair blynedd sefydlog yn 2023-24, felly roedd y Cyngor Tref yn rhwym i’r un yswiriwr. Roedd premiwm adnewyddu ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu, er bod hyn oherwydd bod mwy o yswiriant yn cael ei ddarparu gan fod asedau newydd (gan gynnwys coed Nadolig metel a Mannau Tyfu Plascrug) wedi’u cynnwys yn y polisi.

ARGYMHELLWYD cymeradwyo gwariant o £14,078.68 i adnewyddu polisi yswiriant y Cyngor.

ARGYMHELLWYD cymeradwyo gwariant o £367.36 i adnewyddu polisi yswiriant seibr y Cyngor.

Council Insurance

A fixed three year agreement was made in 2023-24, so the Town Council was bound to the same insurer. Renewal premium for 2024-25 had increased, although this was due to more cover being provided as new assets (including metal Christmas trees and Plascrug Growing Spaces) had been included in the policy.

It was RECOMMENDED to approve expenditure of £14,078.68 to renew the Council’s insurance policy

It was RECOMMENDED to approve expenditure of £367.36 to renew the Council’s cyber insurance policy.

 
12 Gefeillio a’r dull ariannu grwpiau a gweithgareddau

ARGYMHELLWYD ysgrifennu strategaeth glir ar gyfer y modd y dosberthir arian Gefeillio. Pwyllgor Rheoli Cyffredinol i drafod. Byddai grwpiau allanol perthnasol yn cymryd rhan lle bo angen.

Twinning and the way groups and activities are funded

It was RECOMMENDED that a clear strategy be written for the way Twinning funds are distributed. General Management Committee to discuss. Relevant outside groups would be involved where necessary.

Agenda RhC

GM Agenda

13 Gefeillio a Kronberg – 30 mlwyddiant (1997-2027)

Nodwyd y byddai 2027 hefyd yn nodi 750 o flynyddoedd ers i siarter Aberystwyth gael ei chaniatáu ym 1277, a byddai angen i unrhyw ddathliad fod yn gysylltiedig â hynny. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.

Kronberg Twinning – 30 year anniversary (1997 – 2027)

It was noted that 2027 would also mark 750 years since the Aberystwyth charter was granted in 1277, and any celebration would need to be tied in with that. To be discussed by General Management Committee.

 

Agenda RhC

GM Agenda

14 Ysgol Penweddig – cystadlaeuaeth terfynol Ewropeaidd Menter yr Ifanc yn Sisili

Y Maer i ysgrifennu i longyfarch Penweddig ar y gamp hon.

ARGYMHELLWYD darparu £250 i gynorthwyo gyda chostau teithio, o’r gyllideb Dathliadau a Derbyniadau.

Ysgol Penweddig – Young Enterprise European finals in Sicily

The Mayor to write congratulating Penweddig for this achievement.

It was RECOMMENDED to provide £250 to assist with travel costs, from the Celebrations & Receptions budget.

 
15 Mainc ar Pendinas (Cyng. Alun Williams)

Darparwyd costau amcangyfrifedig o £800 i’w brynu a £200 i osod mainc seddi plastig wedi’i ailgylchu. ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r gwariant hwn.

Roedd ymholiadau ar agor gyda Chyngor Sir Ceredigion ynghylch y lleoliad, oherwydd ei fod yn safle archeolegol.

Bench on Pendinas (Cllr Alun Williams)

 

Estimated costs were provided of £800 to purchase and £200 to install a recycled plastic seating bench. It was RECOMMENDED to approve this expenditure.

Enquiries were open with Ceredigion County Council as to location, due to it being an archaeological site.

 
16 Plac Pantyfedwen (Cyng. Maldwyn Pryse)

 

Nid oedd unrhyw gostau wedi’u darparu hyd yn hyn. I’w drafod yn y cyfarfod nesaf.

Pantyfedwen Plaque (Cllr. Maldwyn Pryse)

 

No costs had been provided as yet. To be discussed at next meeting.

Agenda Cyllid

Finance Agenda

17 Gohebiaeth

 

Correspondence  
17.1 Gwyl David Ivon Jones: cais i gefnogi’r ŵyl yn ffurfiol a phlac. I’w drafod ar ôl y cyfnod cyn yr etholiad. David Ivon Jones Festival: request to formally support the festival and a plaque. To be discussed after the pre-election period.  

 

Agenda:

Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

    11 Stryd y Popty / Baker Street

Aberystwyth

SY23 2BJ

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

                                  Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse

12.6.2024

 

 

Annwyl Cynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau y gynhelir o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, ar Nos Lun, 17.6.2024 am 18:30.

 

You are invited to a hybrid meeting of the Finance and Establishments Committee to be held remotely and at the Council Chamber, 11 Baker Street, on Monday 17.6.2024 at 18:30.

 

 

 

AGENDA 

 

 

1 Yn bresennol Present
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies and absences
3 Datgan Diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau Personol Personal references
5 Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Cyllid ar gyfer 2024-25 Elect a Chair of the Finance Committee for 2024-25
6 Ethol is-Gadeirydd i’r Pwyllgor Cyllid ar gyfer 2024-25 Elect a Vice Chair of the Finance Committee for 2024-25
7 Neuadd Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment
8 Neuadd Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad – cynnydd ariannol Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment – financial progress
9 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2023-24 Internal Audit report 2023-24
10 Ffurflen Flynyddol 2023-24 Annual Return 2023-24
11 Yswiriant y Cyngor Council insurance
12 Gefeillio a’r dull ariannu grwpiau a gweithgareddau Twinning and the way groups and activities are funded
13 Gefeillio a Kronberg – 30 mlwyddiant (1997-2027) Kronberg twinning – 30 year anniversary (1997-2027)
14 Ysgol Penweddig – cystadleuaeth terfynol Ewropeaidd Menter yr Ifanc yn Sisili Ysgol Penweddig – Young Enterprise European finals in Sicily
15 Mainc ar Pendinas (Cyng. Alun Williams) Bench on Pendinas (Cllr. Alun Williams)
16 Plac Pantyfedwen (Cyng. Maldwyn Pryse) Pantyfedwen plaque (Cllr. Maldwyn Pryse)
17 Gohebiaeth

 

Correspondence

 

 

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely   

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

…………………………………………

Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details