Finance and Establishment - 20-11-2023
6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau (hybrid)
Minutes of the Finance and Establishments Committee (hybrid)
20.11.2023
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd) Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Emlyn Jones Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Brian Davies Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Mark Strong Cyng. Jeff Smith Cyng. Mathew Norman Cyng. Alun Williams
Yn mynychu Gweneira Raw-Rees (Clerc) Will Rowlands (Clerc Dan Hyfforddiant) |
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair) Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Emlyn Jones Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Brian Davies Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Mark Strong Cllr. Jeff Smith Cllr. Mathew Norman Cllr. Alun Williams
In attendance Gweneira Raw-Rees (Clerk) Will Rowlands (Trainee Clerk) |
|
2 | Ymddiheuriadau
Cyng. Owain Hughes Cyng. Sienna Lewis
|
Apologies
Cllr. Owain Hughes Cllr. Sienna Lewis
|
|
3 | Datgan buddiannau:
6. Mae’r Cynghorwyr Emlyn Jones a Kerry Ferguson yn gyfarwyddwyr Menter Aberystwyth
6. Mae’r Cynghorwyr Maldwyn Pryse, Mathew Norman a Mark Strong yn gynrychiolwyr y Cyngor Tref ar Fenter Aberystwyth
|
Declarations of interest:
6. Cllrs Emlyn Jones and Kerry Ferguson are directors of Menter Aberystwyth
6. Cllrs Maldwyn Pryse, Mathew Norman and Mark Strong are Town Council representatives on Menter Aberystwyth
|
|
4 | Cyfeiriadau Personol:
Dim |
Personal references:
None
|
|
5
|
Cyfrifon Mis Hydref
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon
|
October accounts
It was RECOMMENDED that the accounts be approved.
|
|
6 | Cyllideb 2024-25
Dosbarthwyd cyllideb ddrafft. • Rhandiroedd: i’w gostwng i £6,000. • Nadolig: i aros ar £40,000 fel ar gyfer 2023-24. • Wifi Tref: llinell cyllideb i’w ychwanegu, gyda £3,000 wedi’i ddyrannu. • Celf stryd: llinell cyllideb i’w ychwanegu, i gynnwys placiau a murluniau, a £3,000 wedi’i ddyrannu. • Marchnad ffermwyr: Y dyraniad i’w ystyried yn dilyn trafodaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion. • Costau staffio: y dyraniad i’w gynyddu gan gostau blynyddol y ddwy swydd newydd a grëwyd drwy grant y Gronfa Ffyniant Cyffredin. Y gyllideb ddrafft diwygiedig i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf. Gadawodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands y cyfarfod. |
Budget 2024-25
A draft budget was circulated. · Allotments: to be reduced to £6,000. · Christmas: to remain at £40,000 as for 2023-24. · Town Wifi: budget heading to be added, with £3,000 allocated. · Street art: budget heading to be added, to include plaques and murals, and £3,000 allocated. · Farmer’s market: The allocation to be considered following discussion with Ceredigion County Council. · Staffing costs: the allocation to be increased by the annual costs of the two new posts created via the Shared Prosperity Fund grant. The amended draft budget to be considered at the next meeting. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands left the meeting. |
|
7 | Arwyddion Aberystwyth
ARGYMHELLWYD cymeradwyo gwariant o hyd at £12,000 ar gyfer prynu a gosod tri arwydd porth tref newydd yn lle’r arwyddion presennol ym Mhenglais, St Brieuc Boulevard a Rhydyfelin.
Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyfran o’r costau yn cael ei thalu gan y cronfeydd grant Ffyniant Cyffredin.
Trafodwyd hefyd y posibilrwydd o gael arwydd ar y ffin â Llanbadarn Fawr. |
Aberystwyth signs
It was RECOMMENDED to approve the expenditure of up to £12,000 for the purchase and installation of three new town gateway signs to replace the current signs at Penglais, Saint Brieuc Boulevard and Rhydyfelin. Consideration would be given to a portion of the costs being covered by the Shared Prosperity grant funds. The possibility of a sign on the border with Llanbadarn Fawr was also discussed. |
|
8 | Gefeillio Aberystwyth a Kronberg – cais am gyllid
ARGYMHELLWYD cyfrannu £1,500 i’r bartneriaeth. Yn anffodus, er eu bod yn grŵp gefeillio gweithredol iawn, nid oedd y Cyngor mewn sefyllfa i ddarparu’r swm llawn y gofynnwyd amdano oherwydd cynnydd mewn gweithgarwch o fewn y partneriaethau gefeillio eraill. |
Aberystwyth Kronberg Twinning – request for funding
It was RECOMMENED to donate £1,500 to the partnership. Unfortunately, even though they are a very active twinning group, the Council was not in a position to provide the full amount requested due to increased activity within the other twinning partnerships. |
Ymateb
Respond |
9 | Ymweliad gan Arklow
Roedd cytundeb mewn egwyddor i wahodd cynrychiolwyr o Arklow i Aberystwyth ym mis Mawrth 2024, ar gyfer penwythnos Dydd Gŵyl Dewi. Manylion penodol a chostau i’w trafod ymhellach. |
Arklow visit
There was agreement in principle to invite representatives from Arklow to Aberystwyth in March 2024, for the St David’s day weekend. Specific details and costs to be discussed further. |
|
10 | Ymgynghoriad: Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru
ARGYMHELLWYD y polisi canlynol: Byddai’r taliad blynyddol ychwanegol o £52 ar gyfer nwyddau traul swyddfa yn cael ei brosesu fel taliad sengl cyfradd unffurf. Byddai unrhyw gynghorydd sy’n dymuno gwrthod y taliad yn gwneud hynny’n ysgrifenedig i’r Clerc. Byddai ffurflen yn cael ei datblygu i gasglu manylion banc ond hefyd i ymrwymo i ddychwelyd unrhyw arian nas defnyddiwyd i’r Cyngor Tref. |
Consultation: Independent Remuneration Panel draft Annual Report
The following policy was RECOMMENDED: The additional annual payment of £52 for office consumables would be processed as a flat rate single payment. Any councillor wishing to decline the payment would do so in writing to the Clerk. A form would be developed to capture bank details but also to commit to returning any unused funding to the Town Council. |
|
11 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
11.1 | Cyngor Sir Ceredigion: ynghylch dyfodol y Farchnad Ffermwyr (gweler eitem 6 uchod) | Ceredigion County Council: regarding the future of the Farmer’s Market (see item 6 above)
|
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street
Aberystwyth SY23 2BJ |
council@aberystwyth.gov.uk
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Kerry Ferguson
14.11.2023
Annwyl Cynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau yn y Siambr, 11 Stryd y Popty ac o bell ar nos Lun 20.11.2023 am 6.30pm.
You are invited to a meeting of the Finance and Establishments Committee to be held in the Chamber, 11 Baker Street and remotely on Monday 20.11.2023 at 6.30pm.
AGENDA
|
||
1 | Yn bresennol
|
Present
|
2 | Ymddiheuriadau
|
Apologies
|
3 | Datgan Diddordeb | Declarations of interest
|
4 | Cyfeiriadau Personol | Personal references
|
5 | Ystyried cyfrifon Mis Hydref
|
Consider October accounts |
6 | Cyllideb 2024-25
|
Budget 2024-25 |
7 | Arwyddion Aberystwyth | Aberystwyth signs
|
8 | Gefeillio Aberystwyth a Kronberg – cais am gyllid
|
Aberystwyth Kronberg Twinning – request for funding |
9 | Ymweliad gan Arklow | Arklow visit
|
10 | Ymgynghoriad: Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru
|
Consultation: Independent Remuneration Panel draft Annual Report |
11 | Gohebiaeth
|
Correspondence
|
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Gweneira Raw-Rees, Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details