Finance and Establishment - 17-10-2022
7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau (hybrid)
Minutes of the Finance and Establishments Committee (hybrid)
17.10.2022
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Jeff Smith Cyng. Mathew Norman Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Alun Williams Cyng. Brian Davies
Yn mynychu Gweneira Raw-Rees (Clerc)
|
Present
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Jeff Smith Cllr. Mathew Norman Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Alun Williams Cllr. Brian Davies
In attendance Gweneira Raw-Rees (Clerk)
|
|
2 | Ymddiheuriadau
Cyng. Sienna Lewis Cyng. Steve Davies Cyng. Kerry Ferguson
|
Apologies
Cllr. Sienna Lewis Cllr. Steve Davies Cllr. Kerry Ferguson
|
|
3 | Datgan buddiannau:
Dim |
Declarations of interest:
None
|
|
4 | Cyfeiriadau Personol:
Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Bryony Davies ar enedigaeth ei merch. Roedd cerdyn wedi’i anfon. |
Personal references:
Best wishes were extended to Cllr Bryony Davies on the birth of her daughter. A card had been sent.
|
|
5
|
Cyfrifon Mis Medi
ARGYMHELLWYD cymeradwyo cyfrifon Mis Medi |
September accounts
It was RECOMMENDED that the September accounts be approved.
|
|
6 | Costau man pwrpasol i gŵn
Darparwyd dadansoddiad o’r costau:
Cyfanswm o £4,140
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r prosiect peilot hwn yn amodol fod tanwariant ar gael. Bydd mwy o wybodaeth am yr arian sydd ar gael yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf. |
Dog run costs
A breakdown of costs was provided:
Total £4,140
It was RECOMMENDED that this pilot project be approved subject to available underspend. Further information on available funds to be provided at the next meeting.
|
Agenda cyllid
Finance agenda |
7 | Estyn cytundeb y Cynorthwyydd Amgylcheddol
Darparwyd dadansoddiad o’r costau:
(15 awr yr wythnos)
(20 awr yr wythnos)
ARGYMHELLWYD cyflogi’r Cynorthwy-ydd Amgylcheddol yn ystod cyfnod y gaeaf ac os na fyddai tanwariant ar gael y dylai’r arian ddod allan o’r arian wrth gefn.
|
Environmental Assistant contract extension
A breakdown of costs was provided:
(20 hours per week)
It was RECOMMENDED that the Environmental Assistant be employed during the winter period and that should there be no available underspend the money should come out of reserves.
|
|
8 | Costau peiriant brwsio a golchi strydoedd
Darparwyd dadansoddiad o’r costau:
Cyfanswm costau y Gwasanaethau Stryd (gan gynnwys Cynorthwy-ydd Amgylcheddol) £53,544
Diolchwyd i’r Rheolwr Asedau a Chyfleusterau am y dadansoddiad o’r costau. ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r prosiect mewn egwyddor ond:
|
Street washer and sweeper costs
A breakdown of costs was provided:
Total Street Scene costs (including Environmental Assistant) £53,544
The Assets and Facilities Manager was thanked for the breakdown of costs. It was RECOMMENDED that the project be approved in principle but that:
|
Darparu costau
Provide costings |
9 | Costau chwarae meddal
Darparwyd dadansoddiad o’r costau:
Cyfanswm o £10,359
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r prosiect mewn egwyddor ar gyfer cyfnod y gaeaf yn amodol ar y tanwariant sydd ar gael ac i’w ychwanegu at gyllideb 2023-24. Dylid ymchwilio ymhellach i anghenion storio’r offer ac i weithio mewn partneriaeth gyda’r Cyngor Sir. |
Soft play costs
A breakdown of costs was provided:
Total £10,359
It was RECOMMENDED that the project be approved in principle for the winter period subject to available underspend and to be added to the 2023-24 budget. Storage of equipment and partnership working with Ceredigion Council to be investigated.
|
Ymchwilio
Investigate |
10 | Cyllideb 2023-24
Cyflwynwyd cyllideb ddrafft i’w thrafod. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf ond rhoddwyd ystyriaeth i rai penawdau cyllideb a gynyddwyd megis yswiriant, lwfans aelodau a hyfforddiant, parciau a chynnal a chadw tiroedd, tra bod eraill wedi eu lleihau megis rhandiroedd, costau gwelyau blodau a phlannu coed. Teimlai’r cynghorwyr na ddylid lleihau’r gronfa argyfwng a dylai aros ar £10,000. Diolchwyd i’r Clerc am ei gwaith.
Roedd y cynghorwyr wedi’u calonogi bod y cynnydd yn y praesept yn is na chwyddiant. |
Budget 2023-24
A draft budget was presented for discussion. This would be discussed further at the next meeting but consideration was given to some budget headings that had been increased such as insurance, members allowance and training, parks and grounds maintenance, whilst others had been reduced such as allotments, flower bed costs and tree planting. Councillors felt that the emergency fund should not be reduced and should remain at £10,000. The Clerk was thanked for her work.
Councillors were encouraged that the increase in the precept was below inflation.
|
Agenda cyllid
Finance agenda |
11 | Adroddiad Blynyddol Draft Panel Annibynol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Chwefror 2023
D49: Lwfans presenoldeb i aelodau. ARGYMHELLWYD na ddylid mabwysiadu hyn.
D51: Taliad i’r Dirprwy Faer. ARGYMHELLWYD mabwysiadu hyn. |
Independent Remuneration Panel Annual draft report – February 2023
D49: Attendance allowance for members. It was RECOMMENDED that this should not be adopted.
D51: Payment to the Deputy Mayor. It was RECOMMENDED that this should be adopted.
|
|
12 | Defnydd y Siambr gan gyrff allanol
ARGYMHELLWYD y dylid ond caniatáu i grwpiau ddefnyddio’r Siambr os:
Er budd diogelwch y swyddfa, ARGYMHELLWYD y dylid rhoi allwedd y Siambr mewn sêff allweddi y tu allan i’r Siambr.
ARGYMHELLWYD caniatáu i Gymdeithas yr Iaith ddefnyddio’r Siambr gyda’r Cyng Jeff Smith yn noddwr. |
Use of Council chamber by outside bodies
It was RECOMMENDED that groups should only be allowed to use the Chamber if:
In the interest of office security it was RECOMMENDED that the Chamber key should be put in a key safe outside the Chamber.
It was RECOMMENDED that Cymdeithas yr Iaith be allowed to use the Chamber with Cllr Jeff Smith as sponsor.
|
Trefnu
Organise |
13 | Mabwysiadu meinciau Penglais a Trefechan (x3)
ARGYMHELLWYD mabwysiadu ac adnewyddu’r meinciau. Lleoliadau ar gyfer y meinciau i’w cadarnhau ond nodwyd eu bod yn cael llawer o ddefnydd. |
Adoption of Penglais and Trefechan benches (x3)
It was RECOMMENDED that the benches be adopted and refurbished. Locations for the benches to be confirmed but it was noted that they were well used.
|
|
14 | Gohebiaeth
I’w ystyried yn y cyfarfod nesaf
|
Correspondence
To be considered at the next meeting
|
Agenda Cyllid
Finance agenda |