Finance and Establishment - 22-11-2022

7:00 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau (hybrid)

Minutes of the Finance and Establishments Committee (hybrid)

 

  1. 11.2022

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1 Presennol

 

Cyng. Sienna Lewis (Cadeirydd)

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mathew Norman

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Alun Williams

Cyng. Brian Davies

Cyng. Kerry Ferguson

 

Yn mynychu

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Emlyn Jones

 

Present

 

Cllr. Sienna Lewis (Chair)

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mathew Norman

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Alun Williams

Cllr. Brian Davies

Cllr. Kerry Ferguson

 

In attendance

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Cllr. Dylan Lewis- Rowlands

Cllr. Emlyn Jones

 

 
2 Ymddiheuriadau

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Steve Davies

 

Apologies

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Steve Davies

 

 
3 Datgan buddiannau:

 

7: Roedd y Cyng. Brian Davies dros 65 mlwydd oed

Declarations of interest:  

 

7: Cllr Brian Davies was over 65

 

 

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

Dim

Personal references:

 

None

 

 

 

 

5

 

Cyfrifon Mis Hydref

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo cyfrifon Mis Hydref

October accounts

 

It was RECOMMENDED that the October accounts be approved.

 

 
6 Ymgynghoriad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

 

ARGYMHELLIR yr ymateb canlynol i’r Cyngor Llawn:

Mewn ymateb i gwestiwn yr ymgynghoriad ynghylch y taliad o £52 am nwyddau traul swyddfa, cytunwyd bod hyn i’w groesawu ond y byddai gweithredu fel swm ar wahân yn ychwanegu at faich gweinyddol y staff. Dylid rhoi’r rhyddid i gynghorau weinyddu’r taliad ym mha bynnag ffordd sydd fwyaf addas.

 

Dylai’r Panel gyflwyno mecanwaith o adennill arian.

Independent Remuneration Panel consultation

The following response is RECOMMENDED to Full Council:

In answer to the consultation question regarding the payment of £52 for office consumables it was agreed that this was welcome but that implementation as a separate amount would add to the administrative burden of staff.  Councils should be given the freedom to administer the payment in whichever way suits best.

 

The Panel should present a mechanism of recovering money.

 

 
7 Cinio Nadolig yr Henoed

 

Gadawodd y Cyng Brian Davies y siambr

 

Cymeradwywyd pris tocyn o £5. ARGYMHELLWYD na ddylai unrhyw aelod o staff y Cyngor Tref dalu am ginio. Pe na bai ysgol Llwyn yr Eos yn gallu perfformio byddai’r Swyddog Digwyddiadau yn cael pwerau dirprwyedig i drefnu adloniant amgen.

Seniors Christmas lunch

 

Cllr Brian Davies left the chamber

 

The ticket price of £5 was approved. It was RECOMMENDED that noTown Council staff member should pay for lunch.  If Llwyn yr Eos school were unable to perform the Events Officer to be given delegated powers to organise alternative entertainment

 

 
8 Neuadd Gwenfrewi

 

Teimlwyd bod y gost amcangyfrifedig o £240,000 ar gyfer adfer yr henaduriaeth yn rhesymol iawn ac oherwydd cyflwr yr adeilad ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn bwrw ymlaen â’r gwaith adfer cyn gynted â phosibl yn ogystal â chwilio cyllid ar gyfer yr holl ddatblygiad. Byddai arian wrth gefn y Cyngor naill ai’n cael ei ddefnyddio i ariannu’r gwaith adfer neu fel arian cyfatebol ar gyfer y prosiect mwy yn dibynnu ar ba opsiynau ariannu oedd ar gael.

Neuadd Gwenfrewi

 

The estimated cost of £240,000 for restoration of the presbytery was felt to be very reasonable and due to the building’s condition it was RECOMMENDED that Council proceeds with the restoration as soon as possible as well as the sourcing of funding for the whole development. Council reserves would either be used to fund the restoration or as match funding for the wider restoration project depending on what funding options were available.

 

 
9 Cyllideb 2023-24

 

Cyflwynwyd cyllideb ddrafft i’w thrafod. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf ond rhoddwyd ystyriaeth i rai penawdau cyllideb a gynyddwyd megis:

 

  • Lwfans Aelodau: i ymgorffori cynigion y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol
  • cynnal a chadw parciau a thiroedd: er mwyn ymgorffori gwasanaethau ychwanegol
  • Strydlun: i ymgorffori costau cyflogi Cynorthwy-ydd Amgylcheddol ychwanegol
  • Grantiau cymunedol: roedd y rhain wedi aros ar yr un lefel ers rhai blynyddoedd
  • Neuadd Gwenfrewi: i wneud cynnydd gyda’r gwaith adfer ac i osgoi dibyniaeth lwyr ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor
  • Hyfforddiant staff: i’w adolygu er mwyn ymgorffori hyfforddiant Cilca ar gyfer y Clerc dan hyfforddiant.

 

Roedd penawdau cyllideb eraill wedi’u lleihau megis plannu coed a rhandiroedd.

 

Budget 2023-24

 

The draft budget was presented for discussion.  This would be discussed further at the next meeting but consideration was given to some budget headings that needed to be increased such as:

  • Members allowance: to incorporate Independent Remuneration Panel proposals
  • parks and grounds maintenance: in order to incorporate additional services
  • Street scene: to incorporate the costs of employing an additional Environmental Assistant
  • Community grants: these had remained at the same level for some years
  • Neuadd Gwenfrewi: to achieve progress with the restoration and to avoid complete dependance on the Council’s reserves
  • Staff training: to be reviewed in order to incorporate Cilca training for trainee Clerk.

 

Other budget headings had been reduced such as tree planting and allotments.

 

Agenda cyllid

Finance agenda

10 Cysgodfan i’r safle tacsi

 

Cyflwynwyd dau opsiwn lloches a chostau ond byddai hyn yn cael ei ystyried ymhellach yn y pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol yn dilyn ymgynghoriad gyda gyrwyr tacsis ac Athro Lounge.

Taxi rank shelter

 

Two shelter options and costs were presented but this would be considered further at the General Management committee following consultation with taxi drivers and Athro Lounge.

 

 

Agenda Rheolaeth Cyffredinol

GM agenda

11 Ceisiadau am gyllid

 

Ffurflenni cais am grant i’w hanfon at bob ymgeisydd. Oherwydd eu dyddiad cau tynn dylid gwahodd HAHAV (11.3) i’r Cyngor Llawn nesaf, a dylid darparu costau paent ar gyfer dathliadau nadolig Penparcau (11.5) hefyd erbyn hynny.

Funding requests

 

Grant application forms to be sent to all applicants.  Due to their tight deadline HAHAV to be invited to the next Full Council, and costs of paint for the Penparcau christmas celebrations also to be presented by Monday.

 

Agenda Cyngor Llawn

Full Council agenda

12 Cynnig: Aros yn aelod o Bwyllgor Cyswllt Trafnidiaeth Gyhoeddus y Cambrian (Cyng. Jeff Smith)

 

ARGYMHELLWYD derbyn y cynnig a ganlyn:

 

Bydd Cyngor Tref Aberystwyth yn parhau i anfon cynrychiolydd i’r cyfarfodydd. Fel gall hyn ddigwydd, bydd y Cyngor Tref yn talu £10 y flwyddyn am aelodaeth.

 

Motion: Remain a member of the Cambrian Public Transport Liaison Committee (Cllr Jeff Smith)

It was RECOMMENDED that the following motion be adopted:

Aberystwyth Town Council will continue to send a representative to the meetings. To allow this to happen, the Town Council will pay £10 annually for membership

 

 
13 Gohebiaeth

 

Correspondence  
13.1 LlC – Adran 137: dyrennir yr arian hwn at ddibenion nad oes gan y Cyngor unrhyw bwerau penodol ar eu cyfer, ond a fydd yn dod â budd uniongyrchol i’r gymuned neu at ddibenion elusennol. Y swm priodol a ddyrannwyd fesul etholwr ar gyfer 2023-24 yw £9.93. WG – Section 137: this money is allocated for purposes for which the Council has no specific powers, but that will bring direct benefit to the community or for charitable purposes. The appropriate sum allocated per elector for 2023-24 is £9.93.

 

 
13.2 Prosiect Portalis: 6.30pm 24.11.2022 – cyflwyniad yn Amgueddfa Ceredigion Portalis project: 6.30pm 24.11.2022  – a presentation at Ceredigion Museum

 

 
13.3 Sioe Deithiol Cyngor CAB: yn Aberystwyth ddydd Gwener 2 Rhagfyr a chais am gyllid. Anfonwyd ffurflen gais am grant. CAB advice road show: in Aberystwyth on Friday 2 December and a funding request. A grant application form had been sent.