Full Council - 25-04-2016
7:00 pm
Agenda:
Cyngor Llawn / Full Council – COFNODION / MINUTES
25.4.2016
Penderfyniad / Gweithred
Resolution / Action
Yn bresennol:
Cyng. Endaf Edwards (Cadeirydd)
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Martin Shewring
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Wendy Morris
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Kevin Roy Price
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Alun Williams
Cyng. Jeff Smith
Cyng. Mark Strong
Cyng. Mererid Jones
Cyng. Ceredig Davies
Yn mynychu:
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Delyth Davies (cyfieithydd)
Chris Betteley (Cambrian News)
Present:
Cllr. Endaf Edwards (Chair)
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Martin Shewring
Cllr. Brendan Somers
Cllr. Wendy Morris
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Kevin Roy Price
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Alun Williams
Cllr. Jeff Smith
Cllr. Mark Strong
Cllr. Mererid Jones
Cllr. Ceredig Davies
In attendance:
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
Delyth Davies (translator)
Chris Betteley (Cambrian News)
Ymddiheuriadau:
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Aled Davies
Apologies:
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Aled Davies
178
Datgan Diddordeb:
Cyng. Mark Strong – Cynllunio
Declaration of interest:
Cllr Mark Strong – Planning
179
Cyfeiriadau Personol:
1. Croesawyd Delyth Davies, y cyfieithydd a Chris Betteley, Cambrian News
2. Croesawyd Gweneira Raw-Rees fel y Clerc newydd
3. Diolchwyd i’r Maer am ei dymor llwyddiannus
Personal References:
1) Delyth Davies, translator and Chris Betteley, Cambrian News were welcomed
2) Gweneira Raw-Rees was welcomed as the new Clerk
3) The Mayor was thanked for his successful term of office
180
Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer: Dosbarthwyd yn y cyfarfod
Mayoral Activity Report: Distributed at the meeting
181
Cofnodion o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Fawrth, 29 Mawrth 2016 i gadarnhau cywirdeb:
Cywiriadau:
165: Diwrnod Elusen y Maer; Guezennec yw’r sillafiad cywir;
167/168/169: rhannau yn y Gymraeg yn unig
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gyda’r newidiadau
Minutes of Full Council held on Tuesday, 29 March 2016 to confirm accuracy:
Corrections:
165: the Mayor’s Charity Day; correct spelling: Guezennec;
167/168: sections in Welsh only
It was RESOLVED to accept the minutes with changes
Gwneud y cywiriadau
Make the corrections
182
Materion yn codi o’r Cofnodion:
· Tabernacle: Roedd y Cyng. Ceredig Davies wedi cysylltu gydag Adran Gynllunio y Cyngor Sir ond nid oedd wedi derbyn ymateb eto. Awgrymwyd y dylid danfon llythyr ffurfiol.
· Baw ci: dylid gwahodd ysgolion i gymryd rhan mewn cystadleuaeth dylunio poster, gyda gwobr i’r gorau. Llythyr templed ar gael.
Matters arising from the Minutes:
· Tabernacle: Cllr Ceredig Davies had contacted the County Council’s Planning Department but there was no news as yet.It was suggested that a formal letter might get a response.
· Dog fouling: schools to be invited to participate in a poster competition, with a prize for the best. Template letter available.
Danfon manylion y gystadleuaeth at ysgolion y fro.
Send competition details to local schools.
183
Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun, 4 Ebrill 2016:
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH TOWN COUNCIL
Cofnodion o Gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty ar nos Lun 4 Ebrill 2016
Presennol:
Cyngh. Jeff Smith (Cadeirydd)
Cyngh. Lucy Huws
Cyngh. Martin W. Shewring
Cyngh. Brendan Somers
Cyngh. Endaf Edwards
Cyngh. Steve Davies
Cyngh. Brian Davies
Cyngh. Mair Benjamin
Cyngh. Sue Jones-Davies
Ymddiheuriadau:
Cyngh. Kevin Roy Price
Cyngh. Talat Chaudhri
Datgan Buddiannau
Dim
Gohebiaeth
Cafwyd llythyr gan Mrs Anjuli Davies, Adran Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion. Nodwyd mai hwn yw’r llythyr diwethaf mewn cyfres o ohebiaeth rhyngddi â’r Cyngor Tref ynglŷn â sut mae newidiadau yn y farchnad tai leol yn gallu cael effaith ar y Cynllun Datblygu Lleol.
Nodwyd bod llawer o dai gwag yn y dref, a bod y datblygiad Fferm Penglais newydd gael ei hadeiladu; cwestiynwyd felly’r targed o gael 1,877 o anheddau newydd yn ardal Aberystwyth erbyn 2022.
Nodwyd fod niferoedd o fyfyrwyr wedi disgyn yn sylweddol ers i’r cynllun cael ei fabwysiadu yn 2010, ac mae hyn wedi amharu ar y galw am lety myfyrwyr. Serch hynny, nodwyd bod yn bosib i’r Brifysgol ddenu mwy o fyfyrwyr yn y dyfodol ac mae niferoedd myfyrwyr o reidrwydd yn newid trwy amser o dan y system marchnad bresennol. Nodwyd hefyd fod toriadau yn y Llyfrgell Genedlaethol a’r Ysbyty yn amharu ar y farchnad tai.
Nododd sawl aelod fod cynnydd mawr yn y nifer o dai sydd ar werth yn eu wardiau.
Pwysleisiwyd bod angen i isadeiledd newydd gael ei gyflwyno ar yr un pryd a thai newydd, ond dydy hyn ddim yn digwydd: does dim gwasanaethau, parcio ac ati yn dod gyda’r tai newydd.
PENDERFYNWYD bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio yn ysgrifennu nôl at Mrs Anjuli Davies yn nodi’r sylwadau uchod.
Ystyried Ceisiadau Cynllunio
A160143: Estyniad i glwb bocsio Penparcau: Dim gwrthwynebiad. Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn croesawu’r cais ar sail y cyfraniad bydd yn gwneud i’r gymuned.
A160211: Garej dwbl i Broneirian, Ffordd Llanbadarn: Dim gwrthwynebiad cyn belled â nad yw/na all y garej cael ei drosi i lety preswyl.
A160227: Newidiadau i’r system aerdymheru, Gwesty’r Bae: Dim gwrthwynebiad, mae hyn yn welliant ar y cynlluniau blaenorol. Serch hynny, nodwn mai cais ôl-weithredol yw hyn.
PENDERFYNWYD hefyd bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio yn ysgrifennu at yr Awdurdod Cynllunio i ofyn am eglurhad am beth yn union sydd yn cyfrif fel cais ôl-weithredol a’r drefn am ymddelio â’r fath geisiadau. Bydd y llythyr yn cynnwys y cwestiwn, a yw’n cyfeirio at waith sydd ar y gweill neu waith sydd wedi cael ei gwblhau yn barod?
A160231: Ystafell wydr, 5 Bryn Ardwyn: Dim gwrthwynebiad
A160233: Offer aerdymheru, Ysbyty Bronglais: Dim gwrthwynebiad. Serch hynny, hoffem weld sbigynnau i atal gwylanod rhag eu defnyddio.
Unrhyw Fater Arall
Gofynnwyd beth yw’r sefyllfa gyda’r cynlluniau i gael mwy o gyfathrebu gyda’r Awdurdod Cynllunio. Eglurwyd bod hyn yn dilyn y trafodaethau am gynllun lleoedd, a bod hyn ar y gweill ar hyn o bryd.
Newidiadau / Materion sy’n codi o’r cofnodion
1. Ymateb i geisiadau: nid oedd sylwadau wedi cael eu cyflwyno oddiwrth y Cyngor Tref ym mis Ebrill
2. Tai gwag: mae’n bwysig adrodd nôl i’r Cyngor Sir. Dylid trafod yn y Pwyllgor Cynllunio ee Diva mewn lle blaenllaw.
3. Ceisiadau Cynllunio ôl-weithredol: nodwyd y gall rhain ddigwydd oherwydd camgymeriadau dilys. Nodwyd gan y Cadeirydd fod y Cyngor Tref yn cadw’r hawl i wrthwynebu ciesiadau ôl-weithredol lle maent yn ceisio osgoi y broses cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion
Minutes of the Planning Committee held on Monday, 4 April 2016:
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH TOWN COUNCIL
Minutes of a Meeting of the Planning Committee held in Council Chamber, 11 Baker Street on Monday 4 April 2016
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair)
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Martin W. Shewring
Cllr. Brendan Somers
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Steve Davies
Cllr. Brian Davies
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Sue Jones-Davies
Apologies:
Cllr. Kevin Roy Price
Cllr. Talat Chaudhri
Declarations of Interest
None
Correspondence
A letter was received from Mrs Anjuli Davies, Ceredigion County Council Planning Department. It was noted that this was the latest letter in a series of correspondence between her and the Town Council regarding how changes in the local housing market can impact the Local Development Plan.
It was noted that there were many empty houses in the town and that the new Fferm Penglais development was under construction; therefore, the target of 1,877 new dwellings in the Aberystwyth area by 2022 was questioned.
It was noted that the number of students had declined significantly since the plan was adopted in 2010, and this had affected the demand for student accommodation. Nonetheless, it was noted that the University could possibly attract more students in the future and, inevitably, the number of students varies constantly under the existing market system. It was noted that cuts to the National Library and the Hospital affect the housing market.
Several members noted that there had been an increase in the number of houses for sale in their wards.
It was stressed that a new infrastructure needed to be introduced at the same time as new houses, but this did not happen: no services, parking etc. accompanied the new houses.
It was RESOLVED that the Chair of the Planning Committee would write to Mrs Anjuli Davies noting the aforementioned observations.
To Consider Planning Applications
A160143: Extension to Penparcau boxing club: No objection. Aberystwyth Town Council welcomes the application on grounds of the contribution it will make to the community.
A160211: Double garage for Broneirian, Llanbadarn Road: No objection provided that the garage is not/cannot be converted into residential accommodation.
A160227: Changes to the air-conditioning system, Bay Hotel: No objection, this is an improvement on the previous plans. Nonetheless, we note that this is a retrospective application.
It was also RESOLVED that the Chair of the Planning Committee will write to the Planning Authority to ask for an explanation regarding what exactly counts as a retrospective application and the procedure for dealing with such applications. The letter will contain the question, does it refer to work which is underway or work which has already been completed?
A160231: Conservatory, 5 Bryn Ardwyn: No objection
A160233: Air Handling Unit Plant, Bronglais Hospital: No objection. Nonetheless, we would like to see spikes to prevent seagulls from using them.
Any Other Business
There was a question regarding the plans to ensure more communication with the Planning Department. It was explained that this followed the discussions about a place plan, and that this was currently underway.
Alterations / Matters arising from the Minutes
1) Planning application response: the Town Council had made no response in April
2) Empty properties: feedback to the County Council is important and should be discussed in the Planning Committee eg Diva in a prime location.
3) Retrospective planning applications: it was noted that these can happen as a result of genuine mistakes. But the Chair noted that the Town Council reserves the right to object to retrospective applications where they are an attempt to circumnavigate the planning process.
It was RESOLVED to accept the minutes
184
Cofnodion Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun, 11 Ebrill 2016:
Yn bresennol:
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)
Cyng. Martin Shewring
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Wendy Morris
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Kevin Roy Price
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Alun Williams
Cyng. Jeff Smith
Cyng. Steve Davies
Yn mynychu:
Cyng. Mark Strong
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Mererid Jones
Dr Rhodri Llwyd Morgan
Athro. John Grattan
Mared Llywelyn (+2 fyfyriwr arall)
Ymddiheuriadau: dim
Datgan Diddordeb: dim
Cyflwyniad gan yr Athro John Grattan, Is Ganghellor Dros Dro a Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth:
Roedd y Brifysgol wedi dioddef yn sgil derbyn mwy o geisiadau na nifer y lleoedd oedd ar gael gan (500) fyfyrwyr cyn cyflwyno ffioedd a oedd wedyn wedi cael effaith fwrw ymlaen ar fodlonrwydd myfyrwyr. Er mwyn ceisio gwneud iawn am y cyfraddau gwael, mae buddsoddiad wedi’i wneud mewn cyfleusterau megis theatrau, llyfrgelloedd a llety ac yn ansawdd yr addysgu. Yn gyffredinol, mae’r sector yn profi heriau ariannol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid rhedeg y Brifysgol fel busnes. Bydd yn canolbwyntio ar dri maes – recriwtio, enw da a chynaliadwyedd.
Serch hynny, mae’r Brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd y gymuned ac yn gobeithio y bydd yr Hen Goleg yn chwarae rhan ganolog. Mae cynlluniau ar gyfer Pantycelyn hefyd yn cael eu hystyried gyda disgwyl adroddiad gan Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin.
Cwestiynau / Sylwadau:
• A yw Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi ymgyrch rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin?
Athro JG: Bydd y Brifysgol yn cefnogi unrhyw ddatblygiad cadarnhaol
• Cyswllt Tref a Phrifysgol – ymgynghoriad eang yn gam cadarnhaol
• Yr angen i ail-feithrin ymddiriedaeth rhwng y dref a’r Brifysgol, angen am dryloywder a chyswllt â’r dref.
Athro JG: y gymuned yw ased mwyaf y Brifysgol. Bydd angen gwneud penderfyniad anodd.
• O ystyried enw da rhyngwladol yr adrannau daearyddiaeth a gwleidyddiaeth, beth yw’r ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg?
Athro JG: Mae’r Brifysgol wedi cyhoeddi polisi dwyieithog gyda chyfleoedd i astudio’r Gymraeg a phedwar maes pwnc a gyflwynir trwy gyfrwng y Gymraeg, gan hynny yn cynnal enw da Aberystwyth fel y lle i astudio’r Gymraeg.
• O ran yr amserlen pedair blynedd ar gyfer Pantycelyn, dengys adroddiadau y gellir ei gyflawni mewn dwy. Pa mor fforddiadwy yw’r llety newydd i fyfyrwyr Cymreig? A yw’r Brifysgol yn gyflogwr teg (e.e. cytundebau oriau sero) gyda chyfleoedd gwaith o ansawdd i bobl leol? Ffynhonnell ariannu campws Mauritius?
Athro JG: Fforddiadwyedd wedi’i drafod gan y Bwrdd Prosiect. Nid yw’n ymwybodol, ac ni fyddai’n cefnogi, strategaeth oriau sero. Talwyd am gampws Mauritius gan y partner ym Mauritius, Aberystwyth sy’n cyflenwi’r addysgu. Mae datblygu campysau tramor yn duedd gyfredol i fodloni anghenion myfyrwyr tramor e.e. o Affrica, Asia ayyb. Mae’r flwyddyn gyntaf wedi bod yn llwyddiannus a disgwylir elw o fewn 3 blynedd.
• Ymrwymiad JG i bleidlieisio o blaid argymhellion Bwrdd Prosiect Pantycelyn?
Athro JG: Roedd Cyngor y Brifysgol yn bwriadu ei ailagor mewn 4 mlynedd (adroddiad Mehefin)
• Effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Brifysgol Aberystwyth?
Athro JG: 1000 o geisiadau myfyrwyr Ewropeaidd ac ariannu Ewropeaidd – rhaid i’r DU aros. Mae’r Brifysgol yn derbyn cannoedd o filiynau o bunnoedd drwy’r Undeb Ewropeaidd.
• Darpariaeth cyrsiau yn y dyfodol? Caerdydd ac Abertawe yn fygythiad?
Athro JG: Anelu at sicrhau hygyrchedd a darpariaeth briodol. Byddai sgwrs a chwmpasu yn y dyfodol yn fuddiol. Mae’n farchnad gystadleuol gydag unrhyw ddatblygiadau newydd megis campysau ayyb yn cael eu hariannu trwy arian wedi’i fenthyca.
• Cyswllt myfyrwyr a Chyngor Tref Aberystwyth?
Athro JG/ Dr RLM: Beth am drefnu cyfarfod ar y campws? Hefyd mae croeso i Gyngor Tref ymweld â’r datblygiadau newydd ar y campws. Mae gweithio mewn partneriaeth yn nodwedd allweddol. Mae hanner y myfyrwyr yn dal i fyw yn y dref.
Byrddau anrhydedd a lluniau: gwaith ar y gweill i gasglu’r holl ddogfennau.
Fframio Cytundeb Arklow: angen cytundeb.
Dathliadau Pen-blwydd y Frenhines: adroddiad ysgrifenedig ar gostau a gweithgarwch i’w ddarparu.
Mynediad i’r swyddfa: Papur a chynnig ysgrifenedig (wedi’i ddosbarthu trwy e-bost cyn y cyfarfod) wedi’i gyflwyno gan Cyng. Talat Chaudhri. Roedd hyn yn cynnig:
1. Dyrannu allweddi i’w dirprwyo i Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol yn amodol ar oruchwyliaeth gan y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol. Deiliaid allweddi i gynnwys Maer, Dirprwy Faer, Cadeirydd y Panel Staffio, Cadeiryddion Pwyllgorau, staff swyddfa ac ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddeiliaid allweddi brys.
2. Bydd dyraniadau allweddi yn cael eu nodi mewn llyfr sy’n cael ei gadw yn y swyddfa gyda llofnodion y deiliad allwedd a Chadeirydd Rheolaeth Gyffredinol neu’r Is-gadeirydd (yn absenoldeb y Cadeirydd). Bydd y Clerc yn trefnu copïau o’r allweddi (neu Gadeirydd Rheolaeth Gyffredinol neu’r Is-gadeirydd yn absenoldeb y Clerc).
3. Bydd angen llofnodi i mewn ac allan o’r swyddfa.
4. Mynediad gan gynghorwyr i fodloni dyletswyddau eu ward: rhaid benthyg allweddi gan ddeiliaid allweddi cyhyd â’u bod yn cael eu dychwelyd yn brydlon. Unrhyw broblemau i fod yn gyfrifoldeb ar y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol yn unol â Gorchmynion Sefydlog.
5. Bydd rheolaeth ymarferol ar allweddi a mynediad i’r swyddfa yn rhan o Orchmynion Sefydlog y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol i’w datblygu yn ôl cytundeb y Cadeirydd, Is-gadeirydd, Maer ac aelodau ychwanegol o’r Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol (i sicrhau cynrychiolaeth y ward) ac i’w gadarnhau gan gynnig pellach i’w wneud gan y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol pan fydd y broses wedi’i chwblhau.
Yn dilyn trafodaeth, ar faterion protocol; mynediad a chyfrifoldeb dros ddiogelwch swyddfa (roedd angen rhoi gwybod i’r heddlu o’r deiliaid allweddi o dan delerau’r brydles); a nodwyd y cynnydd sydd wedi’i wneud gan yr Is-Bwyllgor Gorchmynion Sefydlog, PENDERFYNWYD ar gynnig o sylwedd gan y Cyng Brendan Somers o ran y dylai’r cynnig gael ei ystyried gan yr Is-Bwyllgor Gorchmynion Sefydlog. PENDERFYNWYD hefyd ar y cynnig gwreiddiol gan y Cyng. Talat Chaudrhi.
Rhandiroedd:
Cyflwynodd y Cyng. JS gynnig ysgrifenedig:
1. Trefnu clirio Plot 27 yn broffesiynol (gan gadw’r gwelyau uchel). Bydd y costau yn cael eu cyflwyno yn y Pwyllgor Cyllid nesaf.
2. Ail-ddyrannu’r 3.5 o blotiau gwag i’r nesaf ar y rhestr aros a chaniatáu trin y tir ar unwaith. Os yw’r rheini ar y rhestr eisiau plot llawn yna dylai’r hanner plot fynd i’r nesaf ar y rhestr sydd eisiau hanner plot.
3. Cysylltu â’r Pwyllgor Cymdeithas Rhandiroedd i drefnu cyfarfod cyn gynted â phosibl.
PENDERFYNWYD ar y cynnig.
Hysbysodd Cyng Alun Williams y Pwyllgor mai amcangyfrif y costau i droi’r ail Grîn Bowlio yn rhandiroedd a darparu dŵr yw £6,000 – £7000.
Unrhyw Fater Arall:
1. Grantiau CTA: cafwyd peth dryswch yn ymwneud â’r dyddiad cau.
2. Roedd caniatâd yn cael ei geisio i blannu helygen wylofus ym Mhenparcau ger y rhandiroedd yng Nghoedlan Pump. Ni chafwyd gwrthwynebiad.
Newidiadau / Materion sy’n codi o’r cofnodion
1. Pantycelyn: Roedd y cwestiwn ynglŷn â dyfodol Pantycelyn yn gofyn am ymroddiad yr Is Ganghellor Gweithredol ac nid ymroddiad y Brifysgol.
2. Effaith gadael yr UE: dylid cynnwys yn yr ymateb y sylw fod cannoedd ar filiynau o bunnoedd o arian Ewrop wedi cael ei dderbyn.
3. Eitem 8 pwynt 5: mae’r cynnig yn cael ei ystyried gan yr Is-bwyllgor (nid Pwyllgor) Rheolau Sefydlog. Bydd y Rheolau Sefydlog wedyn yn cael eu danfon at Un Llais Cymru am adborth. Mae’r cynnig wedi cael ei gynnwys yn Nghylch Gorchwyl y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol (nid Rheolau Sefydlog sydd gan Bwyllgor) ac mi fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn yn dilyn adborth gan Un Llais Cymru.
4. Taliadau rhandiroedd: mae angen eu trafod yn y Pwyllgor Cyllid
5. Penblwydd y Frenhines: cwestiwn ynglŷn ag argaeledd y Bandstand. Dylai’r Cyng. Mair Benjamin gysylltu gyda Mair Eldridge yn y Cyngor Sir.
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gyda’r cywiriadau uchod (1,2,3)
Minutes of the General Management Committee held on Monday, 11 April 2016:
Present:
Cllr. Talat Chaudhri (Chair)
Cllr. Martin Shewring
Cllr. Brendan Somers
Cllr. Wendy Morris
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Kevin Roy Price
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Alun Williams
Cllr. Jeff Smith
Cllr. Steve Davies
In attendance:
Cllr. Mark Strong
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Mererid Jones
Dr Rhodri Llwyd Morgan
Prof. John Grattan
Mared Llywelyn (+2 other students)
Apologies: none
Declaration of interest: none
Presentation by Prof. John Grattan, Acting Vice Chancellor and Dr Rhodri Llwyd Morgan, Pro Vice Chancellor, Aberystwyth University:
The University had suffered from the oversubscription (500) of students prior to the introduction of fees which subsequently had a knock on effect on student satisfaction. To counteract poor ratings, investment has been made in facilities such as theatres, libraries and accommodation and in quality teaching. The sector generally, is experiencing financial challenges. This means that the University has to be run like a business. It will focus on three areas – recruitment, reputation and sustainability.
However, the University acknowledges the importance of the community and aims for the Old College to play a central part. Plans for Pantycelyn are also being considered with a report due from the University Council in June.
Questions / Comments:
• Aberystwyth University support for the Aberystwyth to Carmarthen rail campaign?
Prof JG: The University will support any positive development
• Town and Gown link – broad consultation a positive step
• The need to rebuild trust between the town and the University, a need for transparency and engagement with the town.
Prof JG: the community is the University’s biggest asset. Difficult decision will have to be made.
• In view of the international reputation of the geography and politics departments, what is the commitment to raise awareness of the Welsh language?
Prof JG: The University has a publicised bilingual policy with opportunities to study Welsh and four subject areas delivered through the medium of Welsh, thus maintaining the reputation of Aberystwyth as the place to study Welsh.
• In view of the four year timescale for Pantycelyn, reports show that it could be achieved in two. How affordable is the new accommodation for Welsh students? Is the University a fair employer (eg zero hours contracts) with quality work opportunities for local people? Source of Mauritius campus funding?
Prof JG: Affordability discussed by Project Board. Not aware of, and would discourage, zero hours strategy. Mauritius campus paid for by the partner in Mauritius, Aberystwyth supplies the teaching. Development of overseas campuses a current trend to meet the needs of overseas students eg from Africa, Asia etc. The first year has been successful and a profit is expected within 3 years.
• The commitment of JG to vote in favour of the Pantycelyn Project Board recommendations?
Prof JG: The University Council intend to re-open it in 4 years (June report)
• Effect of leaving the EU on Aberystwyth University?
Prof JG: A 1000 European student applications and European funding – the UK must stay. The University receives hundreds of millions of pounds through the European Union.
• Future course provision? Cardiff and Swansea a threat?
Prof JG: Aim to ensure accessibility and appropriate provision. Dialogue and future scoping would be beneficial. It is a competitive market place with any new developments such as campuses etc being funded by borrowed money.
• Student engagement with Aberystwyth Town Council?
Prof JG/ Dr RLM: Why not organise a meeting on campus? Also the Town Council is welcome to visit the new developments on campus. Partnership working is key to the future. Half of students still live in the town.
Honours boards and pictures: work underway to gather all documents
Arklow Agreement Framing: agreement is needed.
Queen’s Birthday Celebrations: written report on costings and activity to be provided.
Office access: Written paper and proposal (disseminated by email prior to the meeting) presented by Cllr Talat Chaudhri. This proposed that:
1) The allocation of keys to be delegated to the GM Committee Chair subject to oversight by GM Committee. Key holders to include the Mayor, Deputy Mayor, Chair of Staffing Panel, Committee Chairs, office staff and consideration given to emergency key-holders.
2) Key allocations will be noted in a book kept in the office with signatures of both key-holder and GM Chair or Vice Chair (in Chair’s absence). The Clerk will organise copies of keys (or GM Chair or Vice Chair in the Clerk’s absence).
3) Signing in and out of the office will be a requirement.
4) Access by councillors to fulfil duties to their wards: keys may be lent by the key-holders provided they are returned promptly. Any issues to be GM Committee responsibility in accordance with Standing Orders.
5) Practical management of keys and access to offices will become part of GM Committee Standing Orders to be developed as agreed by the Chair, Vice Chair, Mayor and additional members of GM Committee (to ensure ward representation) and to be confirmed by a further resolution to be made by GM Committee when the process is complete
Following discussion, where issues of protocol; access and responsibility for office security (the police needed to be informed of key-holders under the terms of the lease); and the progress made by the Standing Orders Sub-Committee were noted, a substantive proposal by Cllr Brendan Somers was RESOLVED to the effect that the proposal should be considered by the Standing Orders Sub-Committee. The original proposal by Cllr. Talat Chaudrhi was also RESOLVED.
Allotments:
Cllr JS presented a written proposal:
1) To organise professional clearance of Plot 27 (retaining the raised beds). Costings to be presented at next Finance Committee.
2) Re-allocate the 3.5 empty plots to the next on the waiting list and allow immediate cultivation. If all those on the list want a full plot the half-plot will go to the next on the list wanting a half plot.
3) Contact the Allotments Association Committee to arrange a meeting as soon as possible.
The proposal was RESOLVED.
Cllr Alun Williams informed the Committee that costs to turn the second Bowling Green into allotments and providing water had been estimated at £6,000 – £7000.
AOB:
1) ATC Grants: there was some confusion regarding closing date.
2) ATC Grants: Permission was being sought to plant a weeping willow in Penparcau near the allotments in Fifth Avenue. No objection raised
Amendments / Matters Arising from the Minutes
1) Pantycelyn: The question regarding saving Pantycelyn was about the Acting Vice Chancellor’s commitment and not the University’s.
2) Effect of leaving the EU: the response should have included the comment that hundreds of millions of pounds of EU funding had been received.
3) Item 8 point 5: the proposal is to be included in the considerations of the Standing Orders Sub-committee (not Committee) after which the Standing Orders will be sent to One Voice Wales for their feedback. The proposal has been included in the General Management Committee Terms of Reference (a Committee does not have Standing Orders) and will be presented to Full Council following feedback from One Voice Wales.
4) Allotment fees: needs to be discussed in the Finance Committee
5) Queen’s Birthday: issues regarding the Bandstand availability. Cllr Mair Benjamin should contact Mair Eldridge in the County Council.
It was RESOLVED to accept the minutes with the above corrections (1,2,3).
Trefnu cyfarfod CTA ar y campws
Trefnu ymweliad CTA
Arrange ATC meeting on campus
Arrange ATC visit
Mair Benjamin i baratoi adroddiad.
Mair Benjamin to provide report.
Is-Bwyllgor Gorchmynion Sefydlog i ystyried y cynnig.
Rhoi rhestr i’r heddlu o’r deiliaid allweddi penodol
Standing Orders Sub-Committee to consider the proposal.
Provide the police with named key-holders
PENDERFYNWYD ar y Cynnig. Cyng. JS i gyflwyno i’r Pwyllgor Cyllid nesaf.
The Proposal was RESOLVED. Cllr JS to present at next Finance Committee.
Ychwanegu at agenda’r Pwyllgor Cyllid
Add to Finance Committee agenda
Gwneud y cywiriadau
Make the corrections
185
Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd nos Lun,18 Ebrill 2016:
Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd)
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Wendy Morris
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Alun Williams
Cyng. Mark Strong
Cyng. Mererid Jones
Cyng. Ceredig Davies
Cyng. Brian Davies
Yn mynychu:
Cyng. Lucy Huws
Ymddiheuriadau: dim
Datgan Diddordeb: Cynghorwyr Mair Benjamin, Wendy Morris, Brendan Somers, Talat Chaudhri, Brenda Haines, Mererid Jones a Lucy Huws.
Cyfeiriadau Personol: PENDERFYNWYD brynu anrheg (gwin Cymreig) a cherdyn gwerth £40 i Fritz o Kronberg a oedd yn dathlu ei benblwydd yn 80.
Ceisiadau Grant:
Yn dilyn trafodaeth fanwl PENDERFYNWYD cynnig y grantiau canlynol:
1. Kronberg; Esquel; St Brieuc; Arklow i dderbyn £1500 yr un. Llythyr i’w ddanfon at Bwyllgor Kronberg yn gofyn iddynt gwblhau’r ffurflen ac yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith papur o ran archwilio gwaith y Cyngor.
2. Clwb Bowlio Aberystwyth: £200
3. Fforwm 50+ Aberystwyth: £200
4. Cynghrair Criced Aberystwyth a’r Cylch: £150. Y llythyr i awgrymu eu bod yn cysylltu gyda chynghorau eraill hefyd.
5. Ras yr Iaith: £300
6. Cadetiaid Môr: £1500. Y grant yn cael ei gynnig yn ffyddiog fod y cadetiaid yn lleol.
7. Cyngor ar Bopeth: £2500
8. Taith Celf Ceredigion: £500
9. Fforwm Penparcau: £3500
10. Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion: £5000 yn 2016 a £5000 yn 2017
11. Gwyl Sea2Shore: £1500
12. Gweithgor Padarn Sant: £200
13. Carnifal Aberystwyth: £4000
14. Eglwys Sant Mihangel: £2000
15. Heddlu Cymuned: dim grant ond mi fyddai trafodaethau yn fuddiol.
16. Clwb Henoed Penparcau: £300
17. FfotoAber: £750
18. Clwb Cyfeillio Aberystwyth: £300
19. Traws Link Cymru: £2500
20. Parêd Gwyl Dewi: £900
21. Band Arian Aberystwyth: £2000
22. Marchnad Fferm Aberystwyth: i’w drafod mewn cyllideb arall
Cyfrifon Mis Mawrth: CYTUNWYD
Lês Maes Chwarae Cae Bach: PENDERFYNWYD gofyn i Gyngor Ceredigion am y Lês diwygiedig ar gyfer ei drafod yng Nghyfarfod Llawn nesaf y Cyngor Tref
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion
Minutes of the Finance and Establishments Committee held on Monday, 18 April 2016:
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair)
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Brendan Somers
Cllr. Wendy Morris
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Alun Williams
Cllr. Mark Strong
Cllr. Mererid Jones
Cllr. Ceredig Davies
Cllr. Brian Davies
In attendance:
Cllr. Lucy Huws
Apologies: none
Declaration of interest: Councillors Mair Benjamin, Wendy Morris, Brendan Somers, Talat Chaudhri, Brenda Haines, Mererid Jones and Lucy Huws.
Personal References: It was RESOLVED that a gift (Welsh wine) and card to the value of £40 would be sent to Fritz from Kronberg who was celebrating his 80th birthday
Grant Applications:
Following careful discussion it was RESOLVED to offer the following grant funding:
1) Kronberg; Esquel; St Brieuc; Arklow to receive £1500 each. A letter should be sent to the Kronberg Committee to request the completed form and to highlight the importance of paperwork for auditing purposes.
2) Aberystwyth Bowling Club: £200
3) Aberystwyth 50+ Forum: £200
4) Aberystwyth & District Evening Cricket League: £150. The letter to the Cricket League to suggest that they also contact other councils.
5) Ras yr Iaith: £300
6) Sea Cadets: £1500. This amount was to be offered in good faith that the cadets were local.
7) CAB: £2500
8) Ceredigion Art Trail: £500
9) Penparcau Forum: £3500
10) Friends of Ceredigion Museum: £5000 in 2016 and £5000 in 2017
11) Sea2Shore Festival: £1500
12) Gweithgor Padarn Sant: £200
13) Aberystwyth Carnival: £4000
14) St Michael’s Church: £2000
15) Neighbourhood Policing Team: no funding but discussions going forward would be useful.
16) Penparcau Seniors Club: £300
17) FfotoAber: £750
18) Aberystwyth Friendship Group: £300
19) Traws Link Cymru: £2500
20) Pared Gwyl Dewi: £900
21) Aberystwyth Silver Band: £2000
22) Aberystwyth Farmer’s Market: to be discussed under a different budget
March Accounts: AGREED
Cae Bach Play Area Lease: it was RESOLVED that the revised Lease should be requested from Ceredigion County Council in order to be discussed at the next Full Council meeting.
It was RESOLVED to accept the minutes
Prynu anrheg a cherdyn gwerth £40
Purchase a gift and card to the value of £40
Danfon llythyr at Bwyllgor Kronberg
A letter to be sent to the Kronberg Committee
Y llythyr at y Gynghrair Criced yn awgrymu eu bod yn cysylltu gyda chynghorau eraill.
The letter to the Cricket League to suggest they contact other councils.
Gofyn i Gyngor Ceredigion am y Lês diwygiedig
Contact Ceredigion County Council to request revised Lease.
186
Ceisiadau Cynllunio:
Y Cyng. Mark Strong wedi datgan diddordeb.
1. Gwesty Premier Inn: PENDERFYNWYD y dylid darparu Arwyddion dwyieithog a gwrthwynebu yr arwyddion sydd wedi eu goleuo o’r tu mewn.
Planning Applications:
Cllr Mark Strong declared an interest.
· Premier Inn: It was RESOLVED that they should provide bilingual signage and that the Council was opposed to the illuminated signs
187
Cwestiynau sy’n ymwneud â Materion tu fewn cylch gorchwyl Cyngor Aberystwyth YN UNIG: Dim
Questions relating ONLY to matters in Aberystwyth Council’s remit: None
188
Cyllid – ystyried gwariant:
PENDERFYNWYD derbyn y gwariant
Finance – to consider expenditure:
It was RESOLVED to accept the expenditure
189
Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â Chyngor Aberystwyth YN UNIG:
Cyng Mark Strong:
· Bu gwirfoddolwyr Cynulliad y Werin yn brwydro yn erbyn cau Swyddfa’r Post. Dylid diolch iddynt am eu gwaith. Mae’n debyg fod WH Smiths yn trafod gyda’r Swyddfa Post.
Cyng Ceredig Davies:
· Grantiau Cymunedol White Stuff: mae cangen Aberystwyth yn gofyn am geisiadau lleol. Ffurflenni cais are gael yn Mona Lisa.
· CCTV: heb drefnu eto oherwydd fod swyddog heddlu Machynlleth ar wyliau
· Gward Rheidol: Mae’r Cyngor Sir yn trafod gwerthu rhan o’r Rheilffordd (26 Ebrill)
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to Aberystwyth Council:
Cllr Mark Strong:
· Volunteers from the People’s Assembly had fought against the Post Office closure. They should be thanked for their work. It appears that WH Smiths is in discussion with the Post Office.
Cllr Ceredig Davies:
· White Stuff community grants: the local branch want local applications. Application forms available in Mona Lisa.
· CCTV: has not been arranged yet due to the police officer in Machynlleth being on leave
· Rheidol Ward: Ceredigion Council Cabinet are discussing selling the section of railway track. (26 April
190
Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol:
1. Cymdeithas Rhandiroedd Aberystwyth a’r Cylch
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies:
2. Aberystwyth and District Allotment Association (ADAA)
191
Gohebiaeth:
Correspondence:
1.
1.Ebost oddiwrth Richard a Sarah Brown yn cyfeirio at brofiad annifyr yn ymwneud â chŵn yn rhedeg yn rhydd yn y Labyrinth, ac at faw ci yno. Nid oedd yn teimlo ei fod yn le diogel i blant.
PENDERFYNWYD gwahardd cŵn ac y dylai’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol drafod yn fwy manwl y math o arwydd gyda gwybodaeth hefyd am bwrpas y Labyrinth.
1. An email from Richard and Sarah Brown referring to an unpleasant experience involving dogs running free in the Labyrinth and to the dog fouling there. She did not feel it was a safe place for children.
It was RESOLVED that dogs would be banned and that the General Management Committee would discuss in detail the type of sign and interpretation of the purpose of the Labyrinth.
Cynnwys fel eitem agenda Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol. Danfon ymateb yn y cyfamser.
Include as General Management Committee agenda item. In the meantime send a letter of apology.
2. Ebost oddiwrth y Gymdeithas Gofal, yn datgan fod baw ci yn y maze a’r parc yn broblem iechyd ac yn gofyn am ymweliad â’r safle.
PENDERFYNWYD FEL UCHOD
2. An email from the Care Society, saying that the maze and park was a health risk due to dog fouling and requesting a site visit.
RESOLVED AS ABOVE
Fel uchod
1)
3. Llythyr oddiwrth Adran Gyfreithiol Cyngor Sir Ceredigion gyda Lês Maes Chwarae Penparcau yn gofyn am gytundeb i’r Lês.
Roedd angen fod yn glir ynglŷn â rhai materion, ee atgyweirio, cyn derbyn y Lês. Cynghorwyr Ceredig Davies a Talat Chaudrhi i drafod
3. A letter from Ceredigion CountyCouncil Legal Department requesting agreement to the Lease.
There were some issues needing clarification, such as repairs, before taking on the lease. Cllrs Ceredig Davies and Talat Chaudhri to discuss.
Cynghorwyr Ceredig Davies a Talat Chaudhri i drafod.
Cllrs Ceredig Davies and Talat Chaudhri to discuss
4. Ebost oddiwrth Jamie Mascall yn gofyn am gefnogaeth i ail-agor y Rheilffordd i Gaerfyrddin.
Cytunwyd eisoes i gefnogi hyn. PENDERFYNWYD danfon ymateb yn egluro yr hyn gafodd ei drafod a’i benderfynu.
4. Email from Jamie Mascallasking for support for reopening the rail link with Carmarthen.
It had already been agreed. It was RESOLVED to send a response explaining the Council’s previous discussions and decision.
Danfon ebost mewn ymateb
Send email response
5. Ebost oddiwrth Liz Dutch yn cynnig templed ar gyfer cwblhau Datganiad Ariannol Blynyddol i gynghorau yn defnyddio Grant Thornton fel Archwilwyr allanol.
5. Email from Liz Dutch sharing a template for completion of Annual Returns for councils using Grant Thornton as External Auditors.
6. Ebost oddiwrth Ras yr Iaith: Cynhelir y Ras ar 6,7,8 Gorffennaf ac yn Aberystwyth ar y 7fed. Y gost o noddi cilomedr yw £50.
Pwyllgor Cyllid eisoes wedi trafod eu cais am grant.
6. Email from Ras yr Iaith: It is to be held on 6,7,8 July and will be in Aberystwyth on 7th. The cost of sponsoring a km is £50.
Finance Committee had already discussed their grant application.
7. Llythyr oddiwrth Grant Thornton ynglŷn ag Archwiliad Blynyddol.
7. A letter from Grant Thornton regarding Annual Audit.
8. Ebost oddiwrth Un Llais Cymru ynglŷn â digwyddiad ar y cyd gyda SLCC yn Stadiwm Liberty Abertawe ar 22 Mehefin 2016.
PENDERFYNWYD y dylai’r Clerc fynd i’r digwyddiad.
8. Email from One Voice Wales regarding a joint event with SLCC on 22 June 2016 in the Liberty Stadium, Swansea.
It was RESOLVED that the Clerk should attend
Clerc i archebu lle
Clerk to book a place
9. Ebost oddiwrth Adran Tai y Cyngor Sirynglŷn â gwasanaeth opsiynau tai newydd arlein a gweithdai ar 24/25 Mai.
9. Email from the Housing Dept. Ceredigion County Councilregarding a new online housing options service and workshops on 24/25 May
10. Ebost oddiwrth Un Llais Cymruynglŷn â chynigion ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol i’w derbyn cyn 1 Gorffennaf.
PENDERFYNWYD ei drafod yn y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
10. Email from One Voice Walesregarding motions for the AGM to be received before 1 July.
It was RESOLVED to discuss it in the General Management Committee
Cynnwys ar agenda Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
Include on GM Committee agenda
11. Holiadur arlein Prifysgol Caerdydd ar ddysgu fel rhan o gynllunio a chreu lle.
11. Cardiff online survey on learning in planning and place-making matters
Danfon ebost ymlaen at Gynghorwyr
Forward email to Councillors
12. Llythyr o ddiolch oddiwrth Radio Bronglais am gopïo y papur penawd
12. Letter of thanks from Radio Bronglais for letterhead copying
13. Ebost oddiwrth y Cyng. Wendy Morris yn gofyn am ddefnyddio’r swyddfeydd ar gyfer dewis brenhines y carnifal.
13. Email from Cllr Wendy Morrisrequesting use of the Council offices for the Carnival Queen selection.
14 Gwahoddiad i, a chofnodion Pwyllgor Ymgynghorol Defnyddwyr Harbwr Aberystwyth
14. Invitation to and minutes of the Harbour Users Consultative Committee
15. Datganiadau Prifysgol Aberystwyth:
· Fforwm Llenyddiaeth Ryngwladol 15/16 Ebrill 2016
· Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth – Dr Hywel Ceri Jones 20 Ebrill 2016 ‘Cymru ac Ewrop’
· Patrick McGuinness 16 Ebrill 2016
· Gwobrau Cwrs Eithriadol mewnol
· Astudiaeth ar rhewlifoedd sy’n encilio yn Chile
· Gweithdy Ffitrwydd i’r rhai dros 60 oed – 20 Ebrill
15 Aberystwyth University Press Releases:
· International Literature Forum at Aberystwyth 15/16 April 2016
· Annual International Politics Lecture – Dr Hywel Ceri Jones 20 April 2016 ‘Wales and Europe’
· Patrick McGuinness 16 April 2016
· Internal Exemplary Course Awards
· Study into receding glaciers in Chile
· Free MOT for the over 60s with Age Cymru Ceredigion – 20 April
16. Ebost gan y Cyngor Sir. Gwasanaeth Shopmobility newydd yn Aberystwyth gan y Gymdeithas Gofal yn 18 Ffordd Haearn.
01970 617176
16. Email from Ceredigion County Council. New shopmobility service provided by the Care Society in 18 Chalybeate St. 01970 617176
17. Cais am wybodaeth oddwrth Gwasanaethau Teulu a Ieuenctid Ceredigion.
17. Ceredigion Family Information Services – information request from agencies who provide services/programmes for young people
192
Carnifal Aberystwyth: Cais i ddefnyddio Trwydded Alcohol y Cyngor Tref
PENDERFYNWYD gefnogi’r cais
Aberystwyth Carnival: application to use the Town Council’s Alcohol Licence
It was RESOLVED to support the application
193
Rhandiroedd: heb dderbyn dyfynbris eto
Allotments: have not yet received a quote
194
Lês Maes Chwarae Cae Bach: Oherwydd materion yn ymwneud ag yswiriant a Rheolaeth a chostau cynnal a chadw PENDERFYNWYD y dylai’r Lês gael ei hystyried yn fwy manwl gan Bwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.
Cae Bach Play Area Lease: Due to issues such as insurance cover, maintenance management costs etc it was RESOLVED to defer to the next General Management Committee for careful scrutiny.
Cynnwys ar agenda Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
Include in General Management Committee agenda
195
Cenfogaeth technegol allanol i’r swyddfa:
PENDERFYNWYD y dylid ei drafod yn y Pwyllgor Cyllid.
Hefyd i’w drafod gan y Pwyllgor – prynu gliniadur newydd ar gyfer cymryd cofnodion yn electronig.
External technical support for the office:
It was RESOLVED that it should be discussed at the Finance Committee.
Also to be discussed by the Committee – the purchase of a new laptop for electronic minute taking.
Cynnwys y ddau eitem ar agenda y Pwyllgor Cyllid
Include both items in Finance Committee agenda
196
Refferendwm Ewrop: roedd papur gan y Cyng. Kevin Price wedi amlinellu gwerth aelodaeth i Aberystwyth. Yn dilyn trafodaeth lle mynegwyd pryderon ynglŷn â chynrychiolaeth, PENDERFYNWYD gefnogi’r cynnig y dylai y DU aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
EU Referendum: A written paper by Cllr Kevin Price outlined value to Aberystwyth. Following discussion and concerns voiced regarding representation, it was RESOLVED to support the motion that the UK should remain within the EU.
197
Materion staffio:
· Lle gwag ar y Panel Staffio: PENDERFYNWYD y byddai’r Cyng. Brenda Haines yn cymryd y lle.
· Swyddog Ariannol Cyfrifol: Mae Gweneira wedi cytuno i gyflawni’r dyletswyddau
Staffing matters:
· Staffing Panel vacancy: It was RESOLVED that CllrBrenda Haines should fill the vacancy
· Responsible Financial Officer: Gweneira had agreed to undertake the duties.