Full Council - 25-11-2019
7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cyfarfod Cyngor Llawn
Meeting of Full Council
25.11.2019
COFNODION / MINUTES
107
Yn bresennol:
Cyng. Mari Turner (Cadeirydd)
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Dylan Wilson-Lewis
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Steve Davies
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Mark Strong
Cyng. Alun Williams
Cyng. David Lees
Cyng. Lucy Huws
Yn mynychu:
Carol Thomas(cyfieithydd)
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)
Anthony Gedge: Gohebydd y Cambrian News
Mathew Leeman a chynrhychiolwyr: Beiciau Gwaed Aberystwyth
Jeremy Moore a chynrhychiolwyr: Gwrthryfel Difodiant
Present:
Cllr. Mari Turner (Chair)
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Brendan Somers
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Dylan Wilson-Lewis
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Steve Davies
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Mark Strong
Cllr. Alun Williams
Cllr. David Lees
Cllr. Lucy Huws
In attendance:
Carol Thomas (translator)
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
Anthony Gedge: Cambrian News reporter
Mathew Leeman and representatives: Blood Bikes Aberystwyth
Jeremy Moore and representatives: Extension Rebellion
108
Ymddiheuriadau:
Cyng. Nia Edwards-Behi
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Alex Mangold
Cyng. Claudine Young
Apologies:
Cllr. Nia Edwards-Behi
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Alex Mangold
Cllr. Claudine Young
109
Datgan Diddordeb: Dim
Declaration of interest: None
110
Cyfeiriadau Personol: Dim
Personal References: None
111
Cyfarfodydd ar y cyd Gwrthryfel Difodiant a Chyngor Tref
PENDERFYNWYD y byddai cynrychiolwyr y Cyngor a Gwrthryfel Difodiant yn cyfarfod am 6pm ddydd Iau 5 Rhagfyr i drafod cyfarfodydd yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD hefyd y dylai’r Cynghorydd Talat Chaudhri fynychu’r hyfforddiant deuddydd ‘Sgiliau Llythrennedd Dim Carbon’ ym Machynlleth ar 4 a 5 Rhagfyr.
Extinction Rebellion and Town Council joint meetings
It was RESOLVED that Council and Extinction Rebellion representatives would meet at 6pm on Thursday 5 December to discuss future meetings.
It was also RESOLVED that Cllr Talat Chaudhri should attend the two day ‘Zero Carbon Literacy Skills’ training in Machynlleth on 4 and 5 December.
112
Beiciau gwaed Aberystwyth
Rhoddodd Mathew Leeman drosolwg o’r gwasanaeth cludo meddygol am ddim a’r personél yr oedd eu hangen i’w redeg. Roedd beicwyr, rheolwyr a chodwyr arian i gyd yn wirfoddolwyr ac ystyriwyd bod Aberystwyth yn gosod y safon.
Diolchwyd iddynt am eu gwaith gwerthfawr.
Blood bikes Aberystwyth
Mathew Leeman provided an overview of the free medical courier service and the personnel needed to run it. Riders, controllers and fundraisers were all volunteers and Aberystwyth was considered to be setting the standard.
They were thanked for their valuable work.
113
Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer:
Cyflwynwyd adroddiad ar lafar.
Mayoral Activity Report:
A verbal report was presented.
124
Cynnig: Trafodaeth mewn cyfarfodydd (Cyng Steve Davies)
Cytunwyd y gellid trafod eitemau 124 a 125 ar yr agenda yn gynharach oherwydd bod cynghorwyr yn gorfod gadael yn gynnar.
Nod y cynnig oedd cyfyngu areithiau i hyd at 2 funud a chyfyngu ar y nifer o weithiau y gallai cynghorydd siarad ar bwnc penodol.
PENDERFYNWYD newid y cynnig i:
‘Dylid cyfyngu hyd areithiau cynghorydd i 2 funud yn eu cyfanrwydd’.
Motion: Discussion at meetings (Cllr Steve Davies)
It was agreed that agenda items 124 and 125 could be discussed earlier due to councillors having to leave early.
The motion aimed to restrict speeches to up to 2 minutes and to restrict the number of times a councillor could speak on a particular topic.
It was RESOLVED to amend the motion to:
‘The length of speeches from a councillor should be limited to 2 minutes overall’.
125
Cynnig: Dathliadau hanner canmlwyddiant Adran Gyfrifiaduron y Brifysgol
PENDERFYNWYD cefnogi’r cynnig i gefnogi’r dathliadau mewn egwyddor ond i’w drafod yn fanwl yn y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol
Motion: University Computer Department 50th anniversary celebrations
It was RESOLVED to support the motion to support the celebrations in principle but to discuss it in detail at the General Management Committee
Agenda RhC
GM agenda
114
Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 28 Hydref 2019 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda chywiriadau:
103: dylid nodi manylion yr ychwanegiad at y cynnig yn y cofnodion: ‘Byddai adfer y llinellau hyn yn cysylltu Cymru o’r Gogledd i’r De yn gynaliadwy ac yn sicrhau gwytnwch ar adegau llifogydd (fel yr amlygwyd yn ddiweddar pan cauwyd llinell Amwythig – De Cymru rhwng Henffordd a Chasnewydd oherwydd llifogydd). ‘
104: newid ‘Trindod’ i Neuadd Buarth
106.1: dylid nodi bod y Cynghorydd Endaf Edwards wedi gadael cyn i’r eitem hon gael ei thrafod ac na chymerodd ran yn y bleidlais
Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 28 October 2019 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes with corrections:
103: the detail of the addition to the motion should be noted in the minutes: ‘The reinstatement of these lines would sustainably connect Wales from North to South and ensure resilience during times of flooding (as highlighted by the recent closure of the Shrewsbury – South Wales line between Hereford and Newport due to flooding).’
104: amend ‘Trinity’ to Buarth Hall
1: it should be noted that Cllr Endaf Edwards had left before this item was discussed and did not participate in the vote
115
Materion yn codi o’r Cofnodion: Dim
Matters arising from the Minutes: None
116
Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun, 4 Tachwedd 2019
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda chywiriadau:
7: Yr amser cywir ar gyfer y Switch On oedd 5pm
9: Dylid ychwanegu eglurhad: ‘bod y Cyng. Alun Williams yn ymateb yn ysgrifenedig i gadarnhau bod y Cyngor Tref yn hapus i fabwysiadu’r orsaf’
PENDERFYNWYD cymeradwyo pob argymhelliad
Minutes of the General Management Committee held on Monday, 4 November 2019
It was RESOLVED to approve the minutes with corrections:
7: The correct time for the Switch On was 5pm
9: Explanation to be added ‘that Cllr Alun Williams responds in writing to confirm that ATC are happy to adopt the Station’
It was RESOLVED to approve all recommendations
117
Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun, 11 Tachwedd 2019
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion
Minutes of the Planning Committee held on Monday, 11 November 2019
It was RESOLVED to approve the minutes.
118
Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 18 Tachwedd 2019
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda newidiadau:
6: Dylai’r coed sy’n cymryd lle’r coed ynn fod yn rhywogaethau sy’n wydn yn enetig – fe ddylai hwn fod yn eitem ar agenda Rheolaeth Cyffredinol
11: sillafiad cywir – ‘Chaudhri’
PENDERFYNWYD cymeradwyo pob argymhelliad.
Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 18 November 2019
It was RESOLVED to approve the minutes with amendments:
6: Ash tree replacements should be genetically resilient species – this should be added as a General Management agenda item
11: correct spelling – ‘Chaudhri’
It was RESOLVED to approve all recommendations.
Gweithredu’r argymhellion
Action resolutions
119
Ceisiadau Cynllunio: Dim
Planning Applications: None
120
Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor Hwn YN UNIG.
Y tŷ addurnedig Nadolig gorau: PENDERFYNWYD dyrannu hanner y wobr ariannol tuag at gyhoeddusrwydd os oedd angen
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit.
Best Christmas decorated house: it was RESOLVED to allocate half the prize money towards publicity if necessary.
121
Cyllid – ystyried gwariant mis Tachwedd
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant
Finance – to consider the November expenditure
It was RESOLVED to approve the expenditure.
122
Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
Cyng Mark Strong
Yng Ngrŵp Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Canolbarth a De-orllewin Cymru a gynhaliwyd ym Mhenparcau, trafodwyd newidiadau i unedau trawma ond rhoddodd Steve Moore ymateb cadarnhaol ynghylch cynnal gwasanaethau trawma ym Mronglais. Dylid cysylltu ag ef ynghylch materion parcio sy’n ymwneud â’r ysbyty.
Roedd pobl ag anghenion cymhleth yn byw mewn pebyll mewn gwahanol leoliadau yn Aberystwyth. PENDERFYNWYD gwahodd tîm Opsiynau Tai Ceredigion i siarad â’r Cyngor Tref
Cyng Alun Williams
Lansiwyd yr Oergell Gymunedol ar 25.11.2019 yng nghanolfan y Ffynnon Haearn
Roedd Prifysgol Aberystwyth wedi cynnig i LlC ar gyfer lleoedd gradd nyrsio ac iechyd meddwl gan ddechrau Medi 2022. Cydnabu’r Cyngor Tref fod hwn yn gam pwysig
Roedd y Strategaeth ar gyfer Bronglais yn cael ei chyflwyno i’r Bwrdd Iechyd ar 28.11.2019
Roedd CCB Parc Natur Penglais yn cael ei gynnal yn eglwys Sant Paul ar 27.11.2019
Roedd Goleuadau’r Nadolig yn cael eu troi ymlaen am 5.30pm. Byddai’r orymdaith yn cychwyn o Mihangel Sant am 5pm a’r stiwardiaid yn cael cyfarwyddid yno am 4.15pm
Cyng Endaf Edwards
Roedd arwydd i’r harbwr wedi’i osod ar ddiwedd Heol y Wig. Roedd angen caniatâd yr Asiantaeth Cefnffyrdd ar ail arwydd a osodwyd ar gornel Dan Dre a Heol y Bont yn pwyntio i lawr Tan y Cae.
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
Cllr Mark Strong
At the Mid & SW Wales Health and Social Care Scrutiny Group held in Penparcau, changes to trauma units were discussed however Steve Moore gave a positive response regarding maintaining trauma services at Bronglais. He should be contacted regarding parking issues involving the hospital.
People with complex needs were living in tents in various locations in Aberystwyth. It was RESOLVED to invite Ceredigion’s Housing Options team to talk to the Town Council
Cllr Alun Williams
The Community Fridge had been launched on 25.11.2019 at the centre in Chalybeate Street
Aberystwyth University had bid to WG for nursing and mental health degree places commencing September 2022. The Town Council acknowledged this as an important step
The Strategy for Bronglais was being presented to the Health Board on 28.11.2019
The Parc Natur Penglais AGM was being held in St Paul’s on 27.11.2019
The Christmas Lights ‘Switch On’ was being held at 5.30pm. The parade would start from St Michael’s at 5pm and stewards briefed there at 4.15pm
Cllr Endaf Edwards
A sign to the harbour had been placed at the end of Pier Street. A second sign placed at the corner of Mill Street and Bridge Street pointing down South Road needed permission from the Trunk Road Agency.
Gwahodd swyddogion Tai y Cyngor Sir
Invite CCC Housing officers
123
Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol:
Cynhadledd Flynyddol Un Llais Cymru 5.10.2019 (y Cynghorydd Mair Benjamin)
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
One Voice Wales Annual Conference 5.10.2019 (Cllr Mair Benjamin)
124
Cynnig: Trafodaeth mewn cyfarfodydd
(gweler uchod)
Motion: Discussion at meetings
(see above)
125
Cynnig: Dathliadau hanner canmlwyddiant Adran Gyfrifiaduron y Brifysgol
(gweler uchod)
Motion: University Computer Department 50th anniversary celebrations
(see above)
126
Ad-drefnu’r pwyllgorau
Yn dilyn yr arbrawf dros tri mis PENDERFYNWYD dychwelyd i’r drefn flaenorol.
Committee reorganisation
Following the three-month trial, it was RESOLVED to return to the previous order.
127
Gefeillio Sant Brieuc
Oherwydd nifer isel yr aelodaeth, roedd y Pwyllgor Gefeillio eisiau i’r Cyngor Tref arwain partneriaeth Gefeillio St Brieuc o Ebrill 2020.
PENDERFYNWYD trefnu cyfarfod gyda’r holl Bartneriaethau Gefeillio a Chyfeillgarwch i edrych ar syniadau ac atebion, gan gynnwys dulliau cyfathrebu, ac i drafod hyn yn fwy manwl yn y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.
St Brieuc Twinning
Due to low membership numbers, the Twinning Committee wanted the Town Council to lead the St Brieuc Twinning partnership from April 2020.
It was RESOLVED to organise a meeting with all the Twinning and Friendship Partnerships to look at ideas and solutions, including communication methods, and to discuss this in more detail at the General Management Committee.
Agenda RhC
GM agenda
128
Mainc Stryd y Popty
Er mwyn lleihau effaith ysmygwyr ar fusnesau cyfagos PENDERFYNWYD symud y fainc tuag at gatiau’r capel
Baker Street bench
To minimise the impact of smokers on neighbouring businesses, it was RESOLVED to move the bench towards the chapel gates
129
Ymgynghoriad: Cwympo Castanwydden, Ffordd Alexandra
PENDERFYNWYD anfon yr ymateb canlynol:
Dylai’r goeden newydd fod yn frodorol, mor aeddfed â phosib, a dylai dyfu i’r un maint â’r goeden heintiedig bresennol gyda chanopi tebyg.
Consultation: Chestnut tree felling, Alexandra Road
It was RESOLVED to send the following response:
The replacement tree should be native, as mature as possible, and should grow to the same size as the existing diseased tree with a similar canopy.
130
Ymgynghoriad: Cynlluniau a blaenoriaethau y Cyngor Iechyd Cymuned
I’w drafod yn y cyfarfod Rheoli Cyffredinol nesaf
Consultation: Community Health Council plans and priorities
To be discussed at the next General Management meeting
Agenda RhC
GM agenda
131
Ymgyrch ynni cymunedol genedlaethol
I’w drafod yn y cyfarfod Rheoli Cyffredinol nesaf
National community energy campaign
To be discussed at the next General Management meeting
Agenda RhC
GM agenda
132
Gohebiaeth
Correspondence
Gan nad oedd cworwm bellach, byddai’r eitemau gohebiaeth yn weddill yn cael eu trafod yn y Pwyllgor priodol nesaf
As the meeting was no longer quorate, remaining items of correspondence to be discussed at the next appropriate Committee
Agenda Pwyllgor
Committee agenda
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cynllunio
Planning Committee
2.12.2019
COFNODION / MINUTES
1
Yn bresennol:
Cyng. Michael Chappell (Cadeirydd)
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Mari Turner
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Nia Edwards-Behi
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Claudine Young
Yn mynychu:
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Alun Williams
Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)
Present:
Cllr. Michael Chappell (Chair)
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Mari Turner
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Nia Edwards-Behi
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Claudine Young
In attendance:
Cllr Brendan Somers
Cllr. Alun Williams
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
2
Ymddiheuriadau:
Cyng. Steve Davies
Apologies:
Cllr. Steve Davies
3
Datgan Diddordeb:
1 Meddygfa Borth a Ystwyth: Cyng Alun Williams
Declaration of interest:
1 Borth and Ystwyth Surgeries: Cllr Alun Williams
4
Cyfeiriadau Personol: Dim
Personal references: None
5
Ceisiadau Cynllunio
Planning Applications
5.1
A190958: 11 Ffordd Y Bryn
DIM GWRTHWYNEBIAD – Mae ffenestri pren neu aluminiwm yn well ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru.
A190958: 11 Edgehill Road
NO OBJECTION – Wood or aluminium windows are preferred in accordance with Planning Wales Policy
Cysylltu â’r adran Gynllunio.
Contact Planning dept.
6
Adroddiad Pwyllgor Rheoli Datblygu: Heb ei dderbyn
Development Control Committee report: Had not been received
7
Gohebiaeth:
Correspondence:
7.1
Meddygfa Borth a Ystwyth: nodwyd y cais i newid y ffîn.
Borth and Ystwyth Surgeries: the boundary change application was noted.
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau
Finance and Establishments committee
12.2019
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Charlie Kingsbury (Cadeirydd)
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Alun Williams
Cyng. Mark Strong
Cyng. Mari Turner
Cyng. Nia Edwards-Behi
Yn mynychu:
Cyng. Mair Benjamin
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present
Cllr. Charlie Kingsbury (Chair)
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Alun Williams
Cllr. Mark Strong
Cllr. Mari Turner
Cllr. Nia Edwards-Behi
In attendance:
Cllr. Mair Benjamin
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. David Lees
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Dylan Wilson-Lewis
Cyng. Steve Davies
Cyng. Alex Mangold
Cyng. Brendan Somers
Apologies
Cllr David Lees
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Dylan Wilson-Lewis
Cllr. Steve Davies
Cllr. Alex Mangold
Cllr. Brendan Somers
3
Datgan buddiannau: Dim
Declarations of interest: None
4
Cyfeiriadau Personol: Dim
Personal references: None
5
Ystyried cyfrifon mis Tachwedd
Byddai’r cyfrifon misol yn cael eu hystyried gan y Cyngor Llawn gan nad oedd y datganiadau banc wedi’u derbyn eto oherwydd amseriad cynharach y Pwyllgor
Consider Monthly accounts for November
The monthly accounts would be considered by Full Council as the bank statements had not yet been received due to the earlier timing of the Committee
Agenda Cyngor Llawn
Full Council agenda
6
Ariannu Gwyl Feic 2020
Byddai’r trefnwyr yn cael eu gwahodd i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ym mis Ionawr.
Cyclefest 2020 sponsorship
The organisers would be invited to the January Finance Committee meeting.
Agenda Cyllid
Finance agenda
7
Medal y Cyn Faer
Derbyniwyd dau ddyfynbris ac amlinelliad dylunio gydag un arall i ddod i mewn. I’w ystyried yn llawn yn y cyfarfod nesaf.
Past Mayor Medal
Two quotes and design outlines had been received with another one due to come in. To be considered fully in the next meeting.
Agenda Cyllid
Finance genda
8
Cyllideb 2020-21
Darparwyd cyllideb ddrafft 2020-21 i’w ystyried ac ARGYMHELLWYD y newidiadau canlynol:
Gostyngwyd:
Cyflogau a phensiynau staff – £80,000 (- £5000)
Hysbysebu – £1750 (- £250)
Cyfieithu – £2000 (- £400)
Lwfans Maer a Dirprwy Faer – £3000 (- £1000)
Lwfans Aelodau – £1500 (- £2150)
Hyfforddiant aelodau – £1500 (- £780)
Wedi cynyddu
Costau hyfforddi a chyfarfodydd staff – £1000 (+ £500)
Cyflenwadau Deunydd Swyddfa – £700 (+ £200)
Tanysgrifiadau – £2200 (+ £300)
Cyfalaf Parciau a Thiroedd – £35,000 (+ £5000)
Dodrefn stryd – £8000 (+ £4000)
Plannu coed – £20,000 (+ £5000)
Nadolig: y costiau i gyd – £30,000 (+ £5000)
Sul y Cofio – £650 (+ £400)
Incwm: Llog – £300 (+ £270)
Yn seiliedig ar gyfanswm gwariant o £393,100 (minws amcangyfrif o incwm o £2343 = £390,757.00) y cynnydd canrannol yw 2.10%
2020-21 Budget
A draft 2020-21 budget was provided for consideration and the following amendments to last year’s budget were RECOMMENDED:
Reduced:
Staff salaries and pensions – £80,000 (-£5000)
Advertising – £1750 (-£250)
Translation – £2000 (-£400)
Mayor & Deputy Mayor allowance – £3000 (-£1000)
Members Allowance – £1500 (-£2150)
Members training – £1500 (-£780)
Increased
Staff training & meeting costs – £1000 (+£500)
Stationary & Office Supplies – £700 (+ £200)
Subscriptions – £2200 (+ £300)
Parks & Grounds Capital – £35,000 (+£5000)
Street furniture – £8000 (+£4000)
Tree planting – £20,000 (+£5000)
Christmas: all costs – £30,000 (+ £5000)
Remembrance Sunday – £650 (+£400)
Income: Interest – £300 (+£270)
Based on a total spend of £393,100 (minus an estimated income of £2343 = £390,757.00) the percentage increase is 2.10%
9
Praesept 2020-21
Yn seiliedig ar gynnydd canrannol o 2.10% bydd yr hyn sy’n cyfateb i Fand D yn cynyddu o £104.17 i £104.45
2020-21 Precept
Based on a percentage increase of 2.10% the Band D equivalent will increase from £104.17 to £104.45
10
Gohebiaeth
Correspondence
10.1
Ymgynghoriad praesept Heddlu Dyfed-Powys: Y Clerc i gylchredeg yr ymgynghoriad i’r aelodau
Dyfed-Powys Police precept consultation: The Clerk to circulate consultation to members
Cylchredeg
Circulate
10.2
Y Gymdeithas Gofal: cais am roddion. ARGYMHELLWYD y dylid eu gwahodd i Gyngor Llawn mis Ionawr
The Care Society: request for donations. It was RECOMMENDED that they be invited to the January Full Council
Gwahodd
Invite
10.3
Biniau Penparcau (y Cyng Alex Mangold): Roedd Ceredigion yn gosod bin yn lle un o’r ddau fin a gafodd ei symud oherwydd problem gyda gwastraff domestig. Roedd tîm Parciau a Gerddi Ceredigion yn cadw llygaid ar finiau roced y maes chwarae o ran y lefel a’r math o ddefnydd.
Penparcau bins (Cllr Alex Mangold): Ceredigion were replacing one of the two bins that had been removed due to an issue with domestic waste. The playground rocket bins were being monitored by Ceredigion’s Parks and Gardens team in terms of level and type of use .
Asesu
Monitor
10.4
Cais Ecodyfi am arian Gweithredu dros yr Hinsawdd: cais am gefnogaeth mewn egwyddor.
Dylid cynnwys hyn fel eitem ar agenda’r Cyngor Llawn.
Ecodyfi Climate Action funding application: a request for support in principle.
This should be included as a Full Council agenda item.
Eitem agenda Cyngor Llawn
Full Council agenda item
10.5
Ymholiad am Plac Siapan yn Sgwâr y Frenhines: y Clerc i siarad â’r Cyng Ceredig Davies
Query regarding the Japan plaque in Queens Square: the Clerk to speak to Cllr Ceredig Davies
Holi Cyng C Davies
Contact Cllr C Davies
10.6
Cyllid ar gyfer ardaloedd chwarae: dylid ymchwilio ymhellach
Funding for play areas: to be investigated further
Ymchwilio
Investigate
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
General Management Committee
12.2019
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)
Cyng. Mari Turner
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Nia Edwards-Behi
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Claudine Young
Yn mynychu:
Alun Williams
Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair)
Cllr. Mari Turner
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Nia Edwards-Behi
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Brendan Somers
Cllr. Claudine Young
In attendance:
Cllr. Alun Williams
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Dylan Wilson-Lewis
Cyng. Steve Jones
Cyng. Mark Strong
Apologies
Cllr. Dylan Wilson-Lewis
Cllr. Steve Jones
Cllr. Mark Strong
3
Datgan Diddordeb: Dim
Declaration of Interest: None
4
Cyfeiriadau personol: Dim
Personal references: None
5
Ymgynghoriad: Cynlluniau a blaenoriaethau y Cyngor Iechyd Cymuned
ARGYMHELLWYD bod y Dirprwy Glerc yn cylchredeg yr holiadur i’r aelodau
Consultation: Community Health Council plans and priorities
It was RECOMMENDED that the Deputy Clerk circulates the questionnaire to members
Gweithredu
Action
6
Gohebiaeth
Correspondence
6.1
Ymgynghoriad: Cynlluniau a blaenoriaethau y Cyngor Iechyd Cymuned :
Roedd trigolion lleol wedi cysylltu â rhai Cynghorwyr ynghylch dyfodol y GIG
ARGYMHELLWYD bod y Dirprwy Glerc yn cylchredeg yr holiadur i’r aelodau
Consultation: Community Health Council plans and priorities:
Some Councillors had been approached by local residents about the future of the NHS
It was RECOMMENDED that the Deputy Clerk circulates the questionnaire to members
Gweithredu
Action