Full Council - 28-01-2019
7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cyfarfod Cyngor Llawn
Meeting of Full Council
28.1.2019
COFNODION / MINUTES
127
Yn bresennol:
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Alun Williams
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Mark Strong
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Mari Turner
Cyng. Claudine Young
Cyng. David Lees
Yn mynychu:
George Jones (cyfieithydd)
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Meinir Jenkins (Dirprwy glerc)
Present:
Cllr. Talat Chaudhri (Chair)
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Alun Williams
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Mark Strong
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Mari Turner
Cllr. Claudine Young
Cllr. David Lees
In attendance:
George Jones (translator)
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
128
Ymddiheuriadau:
Cyng. Steve Davies
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Alex Mangold
Cyng. Brendan Somers
Apologies:
Cllr. Steve Davies
Cllr. Mair Benjamin
Cllr/ Brenda Haines
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Alex Mangold
Cllr. Brendan Somers
129
Datgan Diddordeb: Dim
Declaration of interest: None
130
Cyfeiriadau Personol:
Estynnwyd cydymdeimlad i deulu Adam Dewulf-Peters.
Personal References:
Condolences were extended to the family of Adam Dewulf-Peters
131
Cyflwyniad: Cyclefest – Shelley Childs
Cynhelir y Cyclefest 18-27 o Fai 2019
Nid oedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau cefnogaeth ariannol eto
Gofynnwyd i Cyclefest ystyried gydymffurfio gyda polisi di-blastic tref Aberystwyth
Gofynnwyd hefyd am ddeunyddiau hyrwyddo dwyieithog
Gofynnwyd am gyfraniad o £8,000 oddi wrth Cyngor Tref Aberystwyth. Cefnogaeth ariannol i’w drafod yn y Pwyllgor Cyllid nesaf
Presentation: Cyclefest – Shelley Childs
Cyclefest was due to be held 18-27 May 2019
Ceredigion County Council had not yet confirmed financial support
Cyclefest were asked to reduce usage of single use plastics in line with the plastic-free status of Aberystwyth Town.
Bilingual promotional materials were also requested.
Financial assistance of £8,000 was requested from Aberystwyth Town Council. Financial support to be discussed in the next Finance Committee
Eitem agenda Pwyllgor Cyllid
Finance Committee agenda item
132
Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer:
Cyflwynwyd adroddiad ar lafar
Mayoral Activity Report:
A verbal report was presented
133
Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar Ddydd Llun 17 Rhagfyr 2018.
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gydag un newid bach gramadegol
Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 17 December 2018.
It was RESOLVED to approve the minutes with one small grammatical correction.
134
Materion yn codi o’r Cofnodion:
1: derbynfa i fyfyrwyr meddygol i’w gynnal ar 25.2.2019 am 5.45pm.
7: Cynrychiolydd y Cyngor Tref ar Grŵp Llywio’r Cynllun Lle fyddai’r Cyng Brendan Somers
Matters arising from the Minutes:
1: reception for student doctors to be held on 25.2.2019 at 5.45pm.
7: Cllr Brendan Somers would be the Town Council’s representative on the Place Plan Steering Group
135
Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun, 7 Ionawr 2019
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
Materion yn codi:
Erthygl 4 i’w gynnwys ar agenda’r Pwyllgor Cynllunio nesaf
Minutes of the Planning Committee held on Monday, 7 January 2019
It was RESOLVED to approve the minutes.
Matters arising:
Article 4 to be included on the next Planning Committee agenda
Eitem agenda Pwyllgor Cynllunio
Planning Committee agenda item
136
Cofnodion y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun, 14 Ionawr 2019
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
Materion yn codi:
Coed stryd: cynhaliwyd cyfarfod gyda Chyngor Sir Ceredigion a’r Asiantaeth Cefnffyrdd. Awgrymwyd rhai lleoliadau (Ffordd Penparcau ac ar hyd ochr Matalan) a threfnwyd ymweliad safle gyda CSC a fyddai’n edrych hefyd ar goedlannau Penparcau.
Minutes of the General Management Committee held on Monday, 14 January 2019
It was RESOLVED to approve the minutes and all recommendations.
Matters arising:
Street trees: a meeting had been held with Ceredigion County Council and the Trunk Road Agency. Some locations had been suggested (Penparcau Rd and alongside Matalan) and a site visit with CCC was arranged which would also look at Penparcau Avenues.
137
Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 21 Ionawr 2019
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion, gydag un newid bach gramadegol, a phob argymhelliad ag eithrio Eitem 7 (Eisteddfod Ceredigion) a ohiriwyd er mwyn cael eglurhad ar y prosesau cyfrifyddu.
Finance & Establishments Committee held on Monday, 21 January 2019
It was RESOLVED to approve the minutes, with one small grammatical correction, and all recommendations except for Item 7 (Ceredigion Eisteddfod) which was postponed in order to clarify the accounting processes.
138
Ceisiadau Cynllunio:
Planning Applications:
138.1
A181189: Belair 49 Morfa Mawr
Mae’r Cyngor yn GWRTHWYNEBU ail osod ffenestri pren gyda ffenestri UPVC am fod yr adeilad o fewn yr ardal gadwraeth. Mae’r Cyngor yn argymell ffenestri sash pren neu o leiaf ffenestri newydd sy’n cyd-fynd ag arddull draddodiadol yr ardal gadwraeth.
A181189: Belair 49 Queens Road
The Council OBJECTS to the replacement of timber windows with UPVC Windows as the building is within the conservation area. Council recommends wooden sash windows or at the very least replacement windows that are in keeping with the traditional style of the conservation area.
Anfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to the County Council
138.2
A181191: Deva 33-34 Glanymor
DIM GWRTHWYNEBIAD i’r cynlluniau ar gyfer y ffenestri bwa ond dylid cadw tri drws blaen ar gyfer y tri tŷ.
A181191: Deva 33-34 Marine Terrace
The council has NO OBJECTION to the plans for the bay windows but three front doors should be retained for the three houses.
139
Cwestiynau sy’n ymwneud â materion o fewn cylch gorchwyl Cyngor Aberystwyth YN UNIG:
Dim
Questions relating ONLY to matters in Aberystwyth Council’s remit:
None
140
Cyllid – ystyried gwariant
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant a chaniatáu i’r Clerc lofnodi sieciau gyda’r Cyng Alun Williams yn absenoldeb y llofnodwyr eraill.
Finance – to consider expenditure
It was RESOLVED to approve the expenditure and to allow the Clerk to sign cheques with Cllr Alun Williams in the absence of the other signatories.
141
Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â Chyngor Aberystwyth YN UNIG:
Cyng Endaf Edwards:
Murlyn Côr y Castell: roedd partneriaeth rhwng adrannau Economi ac Adfywio a Gwasanaethau Ieuenctid y Cyngor Sir wedi creu murlyn lliwgar yno gyda phlant ysgol gan ddefnyddio paent a fyddai’n rhwystro graffiti. Roedd digwyddiad lansio ar y gweill.
Cyng Mark Strong:
Gweithgor Craffu Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth: Roedd y gweithgor yn agored i’r cyhoedd. Dylid ei hysbysebu mor eang â phosib.
Neuadd Alexandra: roedd cyfarfod yn cael ei gynnal gyda’r Cyngor Sir i edrych ar dacluso’r ardal.
Cyng Alun Williams:
Ffoaduriaid: hwn oedd trydedd flwyddyn y cynllun ac roedd 13 arall i fod i ddod yn y ddwy flynedd nesaf. Roedd Cymorth Aber wedi cynnal teulu ychwanegol. Roedd yn anodd ddod o hyd i lety yn y sector rhentu preifat oherwydd y bwlch rhwng yr arian a dderbynnir gan y Swyddfa Gartref (£480 y mis) a chyfraddau rhent gwirioneddol.
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to Aberystwyth Council:
Cllr Endaf Edwards:
Côr y Castell shelter mural: a partnership between the County Council’s Economic and Regeneration department and Youth Services had worked with school pupils to create a colourful mural using anti-graffiti paint. A launch event was planned
Cllr Mark Strong:
Mid Wales Healthcare Co-operative Scrutiny Working Group: The working group was open to the public. It should be advertised as widely as possible.
Alexandra Hall: a meeting was being held with the County Council to look at tidying up the area.
Cllr Alun Williams:
Refugees: this was the third year of the scheme and another 13 were due to come in the next couple of years. Aber Aid had hosted an additional family. Finding accommodation within the private rented sector was difficult due to the gap between funding received from the Home Office (£480 per month) and actual rent rates.
142
Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol:
Dim
WRITTEN reports from representatives on outside bodies:
None
143
Cynnig: Cerdyn Adnabod UE (Cyng Lucy Huws)
I ysgrifennu at y Swyddfa Gartref:
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn galw ar y Swyddfa Gartref i dynnu’n ôl yr angen i ymgeisio am statws sefydlog ar gyfer gwladolion yr UE sy’n byw yn y DU ar hyn o bryd a hyd at y dyddiad ymadawiad gan yr UE
PENDERFYNWYD yn unfrydol gefnogi’r cynnig ac i anfon llythyr at y Swyddfa Gartref gyda phob cynghorydd yn ei lofnodi. Byddai cyhoeddusrwydd yn cael ei roi i hyn hefyd trwy anfon llythyr at y Cambrian News ac ati yn cadarnhau fod croeso i bawb yn Aberystwyth.
Motion: EU Identity Card (Cllr Lucy Huws)
To write to the Home Office:
Aberystwyth Town Council calls on the Home Office to withdraw the need to apply for settled status for EU nationals currently residing in the UK and up to the date of departure from the EU
It was unanimously RESOLVED to support the motion and to send a letter to the Home Office signed by all councillors. This would also be publicised by sending a letter to the Cambrian News etc and stressing that everyone is welcome in Aberystwyth.
Anfon llythyr a threfnu cyhoeddusrwydd
Send letter and organise publicity
144
Gohebiaeth:
Correspondence:
144.1
Y Diosg Mawr: 10.30am -2.30pm 2.2.2019 yn archfarchnad Tesco
Mass unwrap: 10.30am -2.30 pm 2.2.2019 at the Tesco supermarket
144.2
Argyfwng yn yr Hinsawdd:
Mewn ymateb i’r ddeiseb, ac o ystyried nad yw llawer o’r camau a ofynnir gan y ddeiseb o fewn cyfrifoldebau cyfreithiol y Cyngor, PENDERFYNODD y Cyngor weithredu i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â hinsawdd a bioamrywiaeth o fewn ei feysydd cyfrifoldeb yn unig:
drafftio llythyr agored i San Steffan, Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Sir i ddatgan ei gydnabyddiaeth o’r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth a gofyn iddynt ymateb yn llwyr ac i gymryd camau priodol i fynd i’r afael â’r argyfwng.
cynllunio cyfres o gyfarfodydd i ymgysylltu â phreswylwyr y dref i ddatblygu cynllun gweithredu ac i roi cyhoeddusrwydd i’r hyn y mae’r Cyngor Tref yn ei wneud.
Climate Emergency:
In response to the petition, and given that many of the actions requested by the petition are not within the legal responsibilities of the Council, the Council RESOLVED to take action to address climate and biodiversity issues only within its areas of responsibility:
to draft an open letter to Westminster, the Welsh Government and the County Council to declare its recognition of the climate change and biodiversity emergency and to ask them to respond to it fully and to take proper action to combat the emergency.
to plan a series of meetings to engage with the residents of the town to develop a plan of action and to publicise what the Town Council is doing.
Cyhoeddusrwydd
Publicity
Anfon llythyr
Send letter
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cynllunio / Planning Committee
4.2.2019
COFNODION / MINUTES
1
Yn bresennol:
Cyng. Lucy Huws (Cadeirydd)
Cyng. Sue Jones-Davies
Cyng. Mari Turner
Yn mynychu:
Cyng. Alun Williams
Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)
Gan nad oedd gan y cyfarfod cworwm, byddai’r Cadeirydd yn defnyddio pwerau dirprwyedig i ymateb i’r cais cynllunio. Trafodwyd yr holl faterion eraill yn anffurfiol
Present:
Cllr. Lucy Huws (Chair)
Cllr. Sue Jones-Davies
Cllr. Mari Turner
In attendance:
Cllr. Alun Williams
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
As the meeting was not quorate the Chair would use delegated powers to respond to the planning application. All other matters were discussed informally.
2
Ymddiheuriadau:
Cyng Talat Chaudhri
Cyng. Steve Davies
Cyng. David Lees
Apologies:
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Steve Davies
Cllr. David Lees
3
Datgan Diddordeb:
Nodwyd o fewn yr eitem ar yr agenda
Declaration of interest:
Noted within the agenda item
4
Cyfeiriadau Personol: Dim
Personal references: None
5
Ceisiadau Cynllunio:
Planning Applications:
5.1
A180923: Llyfrgell Genedlaethol – Gwaith i’r tô ac i ffenestri’r tô
DIM GWRTHWYNEBIAD
A180923: National Library – Work to roof coverings and roof lights
NO OBJECTION
6
Adroddiad Pwyllgor Rheoli Datblygu 9.1.2019
Cylchredwyd er gwybodaeth.
Development Control Committee report 9.1.2019
Circulated for information.
7
Erthygl 4
Cyng Lucy Huws i ymchwilio ymhellach
Article 4
Cllr Lucy Hughes to make further enquiries
ymchwilio ymhellach
further enquiries
8
Gohebiaeth
Correspondence:
8.1
Hyfforddiant Cymorth Cynllunio Cymru: i’w gynnal yn Siambr y Cyngor 19 Chwefror. Tri cynrychiolydd o’r Cyngor i fynychu: Cyng Lucy Huws, Cyng Mari Turner ac un arall.
Planning Aid Wales training: To be held 19 February in the Council Chamber. Three Council representatives to attend: Cllr Lucy Huws, Cllr Mari Turner and one other.
8.2
Tesco ac M&S :
Mae angen sylw ar y coed.
Mae llygredd golau o’r maes parcio.
Cyng Sue Jones-Davies i gysylltu gyda Tesco ac M&S
Tesco and M&S:
The trees require attention.
There is a light pollution issue from the car park
Cllr Sue Jones-Davies to contact Tesco and M&S
8.3
Cynllunio Aspri: Er gwybodaeth. Cyhoeddusrwydd ac ymgynghoriad cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn yr Hen Goleg
Aspri Planning: For information. Publicity and consultation before applying for planning permission at the Old College
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
General Management Committee
2.2019
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng Brendan Somers (Cadeirydd)
Cyng. Mark Strong
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. David Lees
Yn mynychu:
Cyng. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present
Cllr Brendan Somers (Chair)
Cllr. Mark Strong
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. David Lees
In attendance:
Cllr. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Steve Davies
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Claudine Young
Cyng. Mari Turner
Apologies
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Steve Davies
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Claudine Young
Cllr. Mari Turner
3
Datgan Diddordeb: Dim
Declaration of Interest: None
4
Cyfeiriadau personol: Dim
Personal references: None
5
Aberystwyth ar y Blaen: Rhoddodd Matthew Newbold – Swyddog Datblygu, a Mark Joseph – Cadeirydd drosolwg o brosiectau.
Roedd sylwadau’r Cyngor yn ymdrin â materion fel:
Mwy o ddefnydd o’r traeth ee llogi cadeiriau dec
Lleihau deunydd pacio plastig
Lleoliad y gwifren zip arfaethedig a’r posibilrwydd o aflonyddwch
Llygredd golau a sŵn o Tesco cyn belled â’r Buarth
Costau cynnal a chadw’r pwll bracso
Sgriniau cyffwrdd – anawsterau cychwynnol a dwyieithrwydd
Pa fath o Aberystwyth sy’n cael ei hyrwyddo a pha fath o dwristiaid sy’n cael eu denu
Lazers i atal gwylanod – i’w ystyried fel menter ar y cyd
Goleuadau Nadolig – cyd-bwyllgor
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn cefnogi sefydlu Pwyllgor Goleuadau Nadolig ar y Cyd.
Advancing Aberystwyth: Matthew Newbold – Development Officer and Mark Joseph – Chairman provided an overview of projects.
Council comments covered issues such as:
Greater use of the beach eg deck chair hire
Reducing plastic take-away packaging
Location of, and potential disturbance from, the proposed zip wire
Light and noise pollution from Tesco as far as the Buarth
Paddling pool maintenance costs
Touch screens – teething difficulties and bilingualism
What kind of Aberystwyth is being promoted and what type of tourist is being attracted
Lazers to deterr seagulls – to be looked at as a joint venture
Christmas lights – joint committee
It was RECOMMENDED that Council supports the proposed setting up of the Joint Christmas Lights Committee.
6
Coed stryd 2017-18 a 2018-19:
Yn dilyn y cyfarfod gyda swyddogion Ceredigion a’r Cefnffyrdd i drafod lleoliadau a chostau addas, ARGYMHELLWYD bod cymaint o’r safleoedd arfaethedig â phosibl yn cael eu plannu (yn amodol ar gyllid).
ARGYMHELLWYD hefyd y dylid anfon llythyr at yr Adran Ystadau yn cefnogi plannu coed y tu ôl i Neuadd Alexandra.
Street trees 2017-18 and 2018-19:
Following the meeting with Ceredigion and Trunk Road officers to discuss suitable locations and costs it was RECOMMENDED that as many of the proposed sites as possible were planted (subject to finance).
It was also RECOMMENDED that a letter be sent to the Estates Department supporting tree planting behind Alexandra Hall.
7
Gŵyl Agor Drysau 16-23 Mawrth
Gofynnwyd i’r Cynghorwyr:
hysbysebu digwyddiadau’r ŵyl mor eang â phosibl yn electronig a thrwy dosbarthu taflenni a phosteri
gynnig lleoliadau ar gyfer baneri gwledydd sy’n cymryd rhan
stiwardio amrywiol ddigwyddiadau
a oeddent yn mynychu’r digwyddiad lansio ar 21 Chwefror. Byddai’r Cyng.Mair Benjamin, Mark Strong, Brendan Somers ac Alun Williams yn mynychu
Opening Doors Festival 16-23 March
Councillors were asked:
to advertise the festival events as widely as possible both electronically and by distributing leaflets and posters
to suggest locations for the banners of participating countries
to steward various events
if they were attending the launch event on 21 February. Mair Benjamin, Mark Strong, Brendan Somers and Alun Williams would be attending
Anfon y llythyr at gynghorwyr
Send letter to councillors
8
Gohebiaeth
Correspondence
8.1
Parȇd Dydd Gŵyl Dewi: cymryd rhan yn ddewisol i gynghorwyr ar ddyletswyddau stiwardio
St David’s Day Parade: participation optional for councillors on stewarding duties
8.2
WASPI (Merched yn erbyn Atal Pensiwn y Wladwriaeth): ARGYMHELLWYD y byddai’r Cyngor yn cefnogi’r ymgyrch yn ffurfiol.
WASPI (Women Against State Pension Injustice): It was RECOMMENDED that Council would formally support the campaign.
8.3
Ymchwiliad Dinasoedd Diwylliannol: cytunwyd y byddai trafodaeth o’r adroddiad yn fuddiol ac yn berthnasol o ran y cais nesaf am statws dinas
Cultural Cities Enquiry: it was agreed that discussion of the report would be beneficial and relevant in terms of the next city status application
8.4
Ymweliad ‘Poppy of Honour’: Mae angen rhagor o wybodaeth
Poppy of Honour visit: More information required
More information
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau
Finance and Establishments committee
2.2019
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Charlie Kingsbury (Cadeirydd)
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Alun Williams
Cyng. Mark Strong
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Brendan Somers
Cyng. David Lees
Cyng. Mari Turner
Cyng. Alex Mangold
Yn mynychu:
Cyng Mair Benjamin
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)
Present
Cllr. Charlie Kingsbury (Chair)
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Alun Williams
Cllr. Mark Strong
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Brendan Somers
Cllr . David Lees
Cllr. Mari Turner
Cllr. Alex Mangold
In attendance:
Cllr Mair Benjamin
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Steve Davies
Apologies
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Steve Davies
3
Datgan buddiannau: Dim
Declarations of interest: None
4
Cyfeiriadau Personol: Dim
Personal references: None
5
Ystyried Cyfrifon Mis Ionawr
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn derbyn y cyfrifon
Consider Monthly Accounts for January
It was RECOMMENDED that Council approve the accounts.
6
Plannu Coed
Nid oedd y costiau wedi’u darparu eto a byddai’r Cyngor Llawn yn eu trafod.
Tree Planting
Costings had not yet been provided and would be discussed by Full Council.
7
Gŵyl Feicio
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn darparu £8,000 ar gyfer y digwyddiad gyda’r amod bod plastig un defnydd yn cael ei leihau a bod y deunyddiau cyhoeddusrwydd yn ddwyieithog.
Cyclefest
It was RECOMMENDED that Council provides £8,000 for the event with the proviso that single use plastic is reduced and publicity materials are bilingual.
8
Gohebiaeth
Correspondence
8.1
Cais am gyllid: Treialon Rhyngwladol Cŵn Defaid. Fe’u gwahoddir i siarad â’r Cyngor
Funding request: International Sheepdog Trials. They would be invited to talk to Council
Gwahodd
Invite
8.2
Cais am gyllid: Urdd Ceredigion.
Canllawiau a ffurflenni grant i’w hanfon.
Funding request: Urdd Ceredigion.
Grant guidelines and form to be sent.
Anfon ffurflen grant
Send grant form
8.3
Cais am gyllid: CFfI Ceredigion.
Canllawiau a ffurflenni grant i’w hanfon
Funding request: YFC Ceredigion.
Grant guidelines and form to be sent
Anfon ffurflen grant
Send grant form
8.4
Cais am gyllid: Eisteddfod Llangollen.
Canllawiau a ffurflenni grant i’w hanfon
Funding request: Llangollen Eisteddfod.
Grant guidelines and form to be sent
Anfon ffurflen grant
Send grant form
8.5
Eisteddfod Ceredigion: cadarnhawyd y gallai’r Cyngor ddarparu £24,000 dros gyfnod o dair blynedd (£8,000 y flwyddyn)
Ceredigion Eisteddfod: it had been confirmed that the Council could provide £24,000 over a period of three years (£8,000 per annum)
8.6
Datganiad Polisi Pensiwn: Gan fod yr holl welliannau yn gost niwtral, ARGYMHELLWYD mabwysiadu’r datganiad.
Pension Policy Statement: As all amendments were cost neutral, it was RECOMMENDED that the statement be adopted.
Ymateb
Respond
8.7
Aelodaeth Un Llais Cymru: dylid dosbarthu’r wybodaeth yn electronig i gynghorwyr er gwybodaeth
One Voice Wales membership: distribute electronically to councillors for information
Dosbarthu
Circulate
8.8
Hyfforddiant Cadeirio: ARGYMHELLWYD bod yr hyfforddiant yn cael ei gynnal ar 12 Mawrth. Pob cynghorydd i gael ei hysbysu. Yn amodol ar rifau, dylid hysbysu cynghorau cyfagos
Chairing Training: it was RECOMMENDED that the training be held on 12 March. All councillors to be notified. Subject to numbers, neighbouring councils to be notified
Hysbysebu’r hyfforddiant
Advertise the training
8.9
Grant Cyfleoedd Chwarae: Roedd yn rhaid gwario’r £3500 erbyn diwedd mis Mawrth. Gofynnwyd i Gyngor Sir Ceredigion am ddyfynbris i adfer y fraich siglen ym Mhenparcau a gwneud y gwaith tir angenrheidiol. Roedd angen mwy o ddyfynbrisiau.
Play Opportunities grant: The £3500 had to be spent by the end of March. Ceredigion County Council had been asked for a quote to restore the swing arm in Penparcau and do the necessary ground works. More quotes were needed.
8.10
Ymweliad Fritz Pratscke: ARGYMHELLWYD darparu £500 ar gyfer derbyniad ar y cyd i Fritz er mwyn cydnabod ei waith wrth ddatblygu’r bartneriaeth gefeillio rhwng Kronberg ac Aberystwyth.
Fritz Pratscke visit: it was RECOMMENDED that £500 be provided for a jointly hosted reception for Fritz in order to acknowledge his work in developing the twinning partnership between Kronberg and Aberystwyth.
8.11
Gwersi Cymraeg: ARGYMHELLWYD bod angen o leiaf pedwar disgybl i gyfiawnhau gwario £350, ar gyfer cwrs o 10 gwers. Cynghorau cyfagos i gael gwybod am y cyfle.
Welsh lessons: it was RECOMMENDED that a minimum of four attendees were needed to justify the expenditure of £350, for a course of 10 lessons. Neighbouring councils to be informed of the opportunity
Hysbysebu gwersi
Advertise lessons