Full Council - 27-03-2023

7:00 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cyfarfod Cyngor Llawn (hybrid)

Meeting of Full Council (hybrid)

 

27.3.2023

 

COFNODION / MINUTES

 

224 Yn bresennol:

 

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Alun Williams

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Brian Davies

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Carl Worrall

Cyng. Mark Strong

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Mari Turner

Cyng. Connor Edwards

Cyng. Mair Benjamin

 

Yn mynychu:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Carol Thomas (cyfieithydd)

Felix Mobes (Cambrian News)

Nathan Goss (eitem 228 only)

 

Present:

 

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Alun Williams

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Brian Davies

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Carl Worrall

Cllr. Mark Strong

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Mari Turner

Cllr. Connor Edwards

Cllr. Mair Benjamin

 

In attendance:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Carol Thomas (translator)

Felix Mobes (Cambrian News)

Nathan Goss (Item 228 only)

 

 
225 Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Steve Davies

Cyng. Matthew Norman

Cyng. Sienna Lewis

 

Apologies:

 

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Steve Davies

Cllr. Matthew Norman

Cllr. Sienna Lewis

 

 
226 Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

Dim

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

 

None

 

 
227 Cyfeiriadau Personol

 

Roedd eitem dda ar Brifysgol Aberystwyth wedi bod ar Countryfile.

 

Personal References

 

Aberystwyth University had been featured well on Countryfile.

 

 
228

 

Eitem caeedig: Penodi pensaer ar gyfer prosiect Neuadd Gwenfrewi

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad gwerthuso tendrau PENDERFYNWYD penodi’r pensaer a oedd yn cynrychioli gwerth gorau.

 

Closed item: Appoint an architect for the Neuadd Gwenfrewi project.

 

Following consideration of the tender evaluation report it was RESOLVED to appoint the architect that represented best value.

 

 
229 Adroddiad y Maer

 

Cyflwynwyd adroddiad llafar gan y Maer. Yn ogystal â chyfarfodydd Dinas Llên UNESCO, roedd wedi mynychu Parêd Gŵyl Dewi, agoriad Canolfan Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol ac angladd y Cynghorydd Ben Davies, Llanbadarn, a oedd hefyd yn ddathliad o’i fywyd a’i gyfraniad i’r gymuned.

 

Mayoral report

 

A verbal report was presented by the Mayor. In addition to UNESCO City of Literature meetings, he had attended the St David’s Day Parade, the opening of the Wales Broadcasting Centre at the National Library and the funeral of Cllr Ben Davies, Llanbadarn, which was also a celebration of his life and contribution to the community.

 
230 Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 27 Chwefror 2023 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion

 

Minutes of the meeting of Full Council held on Monday, 27 February 2023 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes

 
231 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the Minutes:

 

None

 

 
232 Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 6 Mawrth 2023

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion

 

Minutes of the Planning Committee held on Monday 6 March 2023

 

It was RESOLVED to approve the minutes

 
233 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the Minutes:

 

None

 

 
234 Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 13 Mawrth 2023

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion.

Minutes of the General Management Committee held on Monday 13 March 2023

 

It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.

 

 
235 Materion yn codi o’r Cofnodion

 

  • Rheoli Traffig: Roedd y Rheolwr Cyfleusterau yn mynychu’r hyfforddiant a’r gobaith oedd y byddai’n gallu rhoi mwy o eglurder gan fod yr ymateb gan Geredigion yn rhy amwys : ‘Mater i chi yw bodloni eich hun a’r Cyngor bod eich sefydliad yn gymwys’.
  • Mannau Tyfu: Roedd y Cyngor Tref bellach wedi derbyn y brydles a roedd y gwaith o baratoi’r safle wedi dechrau. Byddai lle yn cael ei ddarparu ar gyfer ffoaduriaid. Roedd y Cyng Mair Benjamin wedi cysylltu â’r eglwysi ac roedd erthygl wedi’i chynnwys yn eu cylchlythyr. Dylid cysylltu â’r capeli a’r Brifysgol.
  • Cŵn yn Baeddu: Roedd Ceredigion wedi son eu bod am ddarparu mwy o arwyddion. Nodwyd bod Sir Benfro wedi rhoi Gwasanaethau Gorfodi ar gyfer troseddau amgylcheddol allan i dendr. Cysylltir â Cheredigion ynghylch eu sefyllfa.
  • Canmlwyddiant y Gofeb Ryfel: Gwirfoddolodd y cynghorwyr canlynol i eistedd ar y gweithgor: Y Cynghorwyr Jeff Smith, Lucy Huws, Dylan Lewis-Rowlands, Talat Chaudhri.

 

Matters arising from the Minutes:

 

  • Traffic Management: The Facilities Manager was attending the training and would hopefully be able to provide greater clarity as the response from Ceredigion was too ambiguous: ‘It is up to you to satisfy yourself and the Council that your organisation is competent’.
  • Growing spaces: The Town Council had now received the lease and work to prepare the site had started. A space would be provided for refugees. Cllr Mair Benjamin had contacted the churches and an article had been featured in their newsletter. The chapels and University to be contacted.

 

  • Dog Fouling: Ceredigion had indicated they were going to provide more signage. It was noted that Pembrokeshire had put Enforcement Services for environmental crimes out to tender. Ceredigion would be contacted regarding their position.
  • 11War Memorial centenary: The following councillors volunteered to sit on the working group: Cllrs Jeff Smith, Lucy Huws, Dylan Lewis-Rowlands, Talat Chaudhri.
 
236 Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 20 Mawrth 2023

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion.  

 

Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 20 March 2023

 

It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.

 

 
237 Materion yn codi o’r Cofnodion

 

  • Bandstand: Roedd Ceredigion wedi ymateb i ddweud y byddai’r rhent yn cael ei godi am y pris llawn. Byddai camau gweithredu’r Cyngor Tref yn cael eu trafod ymhellach yn y Pwyllgor Cyllid.
  • 1 Cynnal y Cardi: roedd y cais am arian ar gyfer marchnad beilot yn Hen Dref Aberystwyth wedi bod yn llwyddiannus. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith.
  • Costau etholiad: ni fyddai’r rhain yn cael eu talu nes bod mwy o eglurder.
Matters arising from the Minutes:

 

  • Bandstand: Ceredigion had responded to say that the rent would be charged at full price. The Town Council’s course of action would be discussed further in the Finance Committee.
  • 1 Cynnal y Cardi: the funding application for a pilot Old Town Aberystwyth market had been successful. Officers were thanked for their work.
  • Election costs: these would not be paid until there was further clarity.

 

Agenda Cyllid

Finance agenda

238 Cyllid – ystyried gwariant Mis Mawrth

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant

Finance – to consider the March expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

 
239 Cymeradwyo cyfrifon Mis Chwefror

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon. Roedd y Cyngor wedi derbyn hysbysiad gan Archwilio Cymru bod archwiliad 2022-22 yn ddiamod. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith.

To approve the February accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts. The Council had received notification from Audit Wales that the 2022-22 audit was unqualified. Officers were thanked for their work.

 

 
240 Cymeradwyo’r Rheoliadau Ariannol

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Rheoliadau Ariannol diwygiedig

To approve the Financial Regulations

 

It was RESOLVED to approve the amended Financial Regulations

 

 
241 Cymeradwyo’r Gofrestr Asedau

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Gofrestr Asedau

To approve the Asset Register

 

It was RESOLVED to approve the Asset Register

 

 
242 Cymeradwyo’r Gofrestr Risg

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Gofrestr Risg diwygiedig

To approve the Risk Register

 

It was RESOLVED to approve the amended Risk Register

 

 
243 Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG

 

Dim

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

None

 

 
244 Ceisiadau Cynllunio

 

Planning applications  
244.1 A230148: Y Pier

 

Ni chymerodd y Cynghorwyr Alun Williams, Mark Strong na Carl Worrall ran yn y trafodaethau.

 

Mae’r Cyngor Tref YN GWRTHWYNEBU’R cais hwn YN GRYF oherwydd:

  • Llygredd golau
  • Nid yw hysbysebion LED modern yn gydnaws â threftadaeth y Pier na’r promenâd a byddent yn annog mwy o hysbysebion. Maent yn cynrychioli’r math gwaethaf o arwyddion. Dylid adfer y Pier i’w ogoniant blaenorol
  • Gwrthwynebiad cryf gan y gymuned
  • Effeithiau posibl ar y drudwy ac adar eraill
  • Diffyg gwybodaeth am gynnwys a chynllun yr arwyddion a’u disgleirdeb

Dylid ailgyflwyno’r cais gyda mwy o fanylion ac ymateb i’r pryderon uchod.

A230148: Pier

 

Cllrs Alun Williams, Mark Strong and Carl Worrall did not participate in discussions.

 

The Town Council STRONGLY OBJECTS to this application because of:

  • Light pollution
  • Modern LED advertisements are not in keeping with the heritage of the Pier or promenade and would encourage more advertisements. They represent the worst type of signage. The Pier should be restored to its former glory.
  • Strong community opposition
  • Possible effects on the starlings and other birds
  • Lack of information as to the content and design of the signs and their brightness

The application should be resubmitted with more detail and a response to the above concerns.

 

 
245 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

Partneriaeth Gefeillio Esquel (Cyng Maldwyn Pryse): Roedd yr adroddiad yn nodi nad oedd y Bartneriaeth angen cyllid gan y Cyngor Tref ar gyfer 2023-24

 

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies

 

 

Esquel Twinning Partnership (Cllr Maldwyn Pryse). The report noted that the Partnership did not need Town Council funding for 2023-24

 

 
246 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

Cyng Alun Williams

Roedd Parc Natur Penglais wedi defnyddio arian grant gan Gyngor Ceredigion i wella rhan o’r llwybr rhwng y Chwarel a ffordd Bryn y Môr.

 

Cyng Carl Worrall

Roedd cloddiad archeolegol Pendinas wedi dechrau.

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

Cllr Alun Williams

Parc Natur Penglais had used grant funding from Ceredigion Council to improve a section of the path between the Quarry and Bryn y Môr road.

 

Cllr Carl Worrall

The Pendinas archaeological dig had started.

 

 
247 Bardd y Dref

 

Gwirfoddolodd y cynghorwyr canlynol i eistedd ar weithgor Bardd y Dref: Cynghorwyr Emlyn Jones, Mari Turner, Talat Chaudhri, Dylan Lewis-Rowlands, Owain Hughes

Town bard

 

The following councillors volunteered to sit on the Town Bard working group: Cllrs Emlyn Jones, Mari Turner, Talat Chaudhri, Dylan Lewis-Rowlands, Owain Hughes

 

 
248 Gohebiaeth

 

Correspondence  
248.1 Aberystwyth Gwyrddach: yn mynegi gofid am gyflwr y coed yn Stryd Portland ac yn gofyn am gymorth gan y Cyngor.

I’w drafod yn y Pwyllgorau Rheolaeth Cyffredinol a Chyllid.

Greener Aberystwyth: concern regarding the state of the trees in Portland Street and asking for help from the Council. To be discussed at the General Management and Finance committees. Agenda RhC a Chyllid

GM and Finance agenda

248.2 Ffrâm coeden Nadolig fetel: i’w drafod yn y pwyllgorau Rheolaeth Gyffredinol a Chyllid. A metal Christmas tree frame: to be discussed at the General Management and Finance committees.

 

 
249 Eitem caeedig: Panel Staffio

 

Cymeradwywyd argymhellion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14.3.2023.

Closed item: Staffing Panel

 

The recommendations from the meeting held on 14.3.2023 were approved.