Full Council - 07-10-2024

6:30 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd o bell ac yn Tŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr

Meeting of the Full Council meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road

 

7.10.2024

 

COFNODION / MINUTES

 

157 Yn bresennol:

 

Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd)

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Alun Williams

Cyng. Umer Aslam

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Glynis Somers

Cyng. Brian Davies

Cyng. Mark Strong

Cyng. Owain Hughes (eitem 165.3 yn unig)

 

Yn mynychu:

 

Cyng. Endaf Edwards (Cyngor Sir Ceredigion)

Cyng. Shelley Childs (Cyngor Sir Ceredigion)

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Maldwyn Pryse (Chair)

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Alun Williams

Cllr. Umer Aslam

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Glynis Somers

Cllr. Brian Davies

Cllr. Mark Strong

Cllr. Owain Hughes (item 165.3 only)

 

In attendance:

 

Cllr. Endaf Edwards (Ceredigion County Council)

Cllr. Shelley Childs (Ceredigion County Council)

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

 

 
158 Ymddiheuriadau ac absenoldeb:

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Cyng. Emlyn Jones

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Cyng. Connor Edwards

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Carl Worrall

Cyng. Mari Turner

 

Apologies and absence:

 

Absent with apologies:

Cllr. Emlyn Jones

 

Absent without apologies:

Cllr. Connor Edwards

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Carl Worrall

Cllr. Mari Turner

 

 
159 Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

Dim

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

 

None

 

 
160 Cyfeiriadau Personol

 

·         Diolchwyd i’r staff am eu gwaith yn symud y swyddfeydd.

·         Derbyniwyd gwahoddiad i gynghorwyr ymweld â stiwdio newydd Radio Bronglais ar ddydd Mawrth 15 Hydref. Mynychwyr i gadarnhau i’r Clerc erbyn dydd Iau 10 Hydref.

Personal References

 

·         Thanks were extended to staff for their work in moving the offices.

·         An invitation had been received for councillors to visit Radio Bronglais’ new studio on Tuesday 15 October. Attendees to confirm to Clerk by Thursday 10 October.

 

 
161 Neuadd Gwenfrewi

 

PENDERFYNWYD cynnal cyfarfod agored i Gynghorwyr drafod Neuadd Gwenfrewi yn gyffredinol ar ddydd Sul 13 Hydref 2024 am 2pm. Cyfarfod i’w gynnal yn Nhŷ’r Offeiriad.

Neuadd Gwenfrewi

 

It was RESOLVED to hold an open meeting for Councillors to discuss Neuadd Gwenfrewi generally on Sunday 13 October 2024 at 2pm. Meeting to be held at The Presbytery.

 

 
161.1 Siambr y Cyngor

 

PENDERFYNWYD y byddai Tŷ’r offeiriad yn addas yn y tymor byr. Roedd disgwyl i waith i wneud yr hen Eglwys yn addas fel man cyfarfod gael ei gwblhau tua diwedd mis Hydref.

Council Chamber

 

It was RESOLVED that the Presbytery would be suitable in the short term. Works to make the former Church suitable as a meeting space were expected to be complete around the end of October.

 

 
162 Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion: Cynllun amddiffyn yr arfordi Aberystwyth

 

PENDERFYNWYD ymateb i’r ymgynghoriad gan godi’r pwyntiau a ganlyn:

·         Yr angen i ystyried llifogydd arfordirol ac afonol gyda’i gilydd.

·         Pwysigrwydd effeithiau neu gyfleoedd economaidd a thwristiaeth y cynigion.

·         Potensial y morglawdd bwriedig i greu cerrynt rhwyg peryglus.

·         Gwrthwynebiad i’r bwriad i gael gwared ar y jeti pren heb ddewis amgen addas, oherwydd:

o   Ei bwysigrwydd fel ail bwynt angori i’r RNLI, pan fo tywydd garw yn eu hatal rhag angori yn yr harbwr.

o   Gwerth amwynder a thwristiaeth y jeti fel tirnod defacto Aberystwyth. Fe’i gwelir yn aml ar ddeunyddiau hyrwyddo ar gyfer y dref.

o   Gwerth masnachol y jeti.

o   Y ffaith ei fod yn cael ei atgyweirio ar hyn o bryd, sy’n golygu y byddai’r deunyddiau’n dal yn gymharol newydd ac mewn cyflwr da.

·         Pwysigrwydd bod yn rhagweithiol wrth gyfathrebu â phreswylwyr ynghylch unrhyw ymyrraeth.

·         Awgrym y gallai morglawdd ar y môr fod yn fwy addas ar gyfer pen gogleddol y promenâd, yn hytrach na chreigiau ar hyd y traeth.

·         Dylid ailfodelu cynigion yn erbyn lefelau môr arfaethedig, yn hytrach na’u seilio ar lefelau presennol y môr.

·         Bod angen eglurhad ar effaith cynigion ar y pwll tywod ger y Pier Brenhinol; derbyniwyd datganiadau gwrthgyferbyniol gan Gyngor Sir Ceredigion ar wahanol achlysuron. Roedd Cynghorwyr wedi cael gwybod y byddai’n cael ei gadw fel pwll tywod, a hefyd y byddai’n cael ei adfer fel pwll padlo.

Ceredigion County Council consuiltation: Aberystwyth coastal defence scheme

 

It was RESOLVED to respond to the consultation, raising the following points:

·         The need to consider coastal and fluvial flooding together.

·         The importance of economic and tourism impacts or opportunities of the proposals.

·         The potential of the proposed breakwater to create a dangerous rip current.

·         Objection to proposed removal of the timber jetty without a suitable alternative, due to:

o   Its importance as a secondary mooring point for the RNLI, when inclement weather prevents them from mooring in the harbour.

o   The jetty’s amenity and torusim value as a defacto Aberystwyth landmark. It is frequently featured on promotional materials for the town.

o   Commercial value of the jetty.

o   The fact that it was currently undergoing repairs, meaning the materials would still be relatively new and in good condition.

·         The importance of being proactive in communicating with residents regarding any disruption.

·         Suggestion that a breakwater at sea may be more suitable for the Northern end of the promenade, rather than rocks along the beach.

·         Proposals should be remodelled against proposed sea levels, rather than based on current sea levels.

·         Clarification was needd on the impact of proposals on the sandpit near the Royal Pier; contradictory statements had been received from Ceredigion County Council on different occasions. Councillors had been advised both that it would be retained as a sandpit, and also that it would be reinstated as a paddling pool.

 

Ymateb

Respond

163 Ymgynghoriad: Newidiadau arfaethedig i orchymyn lleoedd parcio oddi ar y stryd Cyngor Sir Ceredigion

 

PENDERFYNWYD ymateb i’r ymgynghoriad gan groesawu’r ymdrechion a wneir i gynyddu’r ddarpariaeth parcio. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ynghylch effaith newidiadau i faes parcio Maes yr Afon ar berygl llifogydd yn yr ardal honno; ar hyn o bryd mae’r maes parcio ar lethr naturiol, gan ddarparu rhywfaint o amddiffynfa naturiol rhag llifogydd. Dylid cwblhau asesiad risg llifogydd llawn, i gynnwys yr effaith ar yr holl strydoedd cyfagos. Byddai’r pwyntiau canlynol hefyd yn cael eu codi:

·         Pam fod maes parcio Coedlan y Parc Isaf yn dal yn ddrytach na meysydd parcio eraill?

·         Pe bai prisiau tocynnau tymor yn gostwng, a fyddai’r rhai sydd eisoes wedi prynu un yn cael ad-daliad?

·         Byddai tocynnau tymor ar gael ar gyfer maes parcio Ffordd y Gogledd ar gyfer trigolion ardal benodol, ond nid oedd map o’r ardal honno wedi ei ddarparu. Pa mor fawr fyddai’r ardal hon?

·         A ellid ystyried trwyddedau parcio ar gyfer cymudwyr a’r rhai sy’n gweithio yn Aberystwyth?

Consultation: Proposed changes to the Ceredigion County Council off street parking places order

 

It was RESOLVED to repsond to the consultation, welcoming the efforts being made to increase parking provision. However, concerns were raised over impact of changes to Maes yr Afon car park on flood risk in that area; the car park currently sloped naturally, providing some natural flood defence. A full flood risk assessment should be completed, to include the impact on all nearby streets. The following points would also be raised:

·         Why was Lower Park Avenue car park still more expensive than other car parks?

·         If season ticket prices would be reduced, would those who have already purchased one received a refund?

·         Season tickets would be available for North Road car park for residents of a specified area, however the map of that area had not been provided. How large would this area be?

·         Could parking permits be considered for commuters and those who work in Aberystwyth?

 

Ymateb

Respond

164 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Ymchwiliad i rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r pwer i’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ymateb ar ran y Cyngor.

Welsh Government consultation: Inquiry into the role, governance and accountability of the community and town council sector

 

It was RESOLVED to delegate power to the General Management Committee to respond on behalf of the Council.

 

Agenda RhC

GM Agenda

165 Gohebiaeth

 

Correspondence  
165.1 Hyfforddiant Cod Ymddygiad: Cynnig gan Gyngor Sir Ceredigion i gynnal hyfforddiant wyneb yn wyneb ar y Cod Ymddygiad ar gyfer cynghorwyr tref a chymuned. Ymateb gan fynegi diddordeb yn y sesiynau hyfforddi. Code of Conduct training: Offer from Ceredigion County Council to hold in person training on the Code of Conduct for town & community councillors. To respond expressing interest in the training sessions. Ymateb

Respond

165.2 Costau Parcio Promenâd Aberystwyth: Agorwyd ymgynghoriad â rhanddeiliaid. PENDERFYNWYD dirprwyo’r pwer i’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ymateb ar ran y Cyngor. Aberystwyth Promenade Parking Charges: Stakeholder consultation opened. It was RESOLVED to delegate power to the General Management Committee to respond on behalf of the Council. Agenda RhC

GM Agenda

165.3 Datganiad i’r wasg ar waith adfywio’r promenâd: Derbyniwyd datganiad i’r wasg drafft gan Gyngor Sir Ceredigion. PENDERFYNWYD cymryd rhan mewn datganiad i’r wasg ar y cyd, gyda’r dyfyniad a ganlyn yn cael ei roi gan y Cyng. Maldwyn Pryse:

“Er yn bryderus ynghylch y diffyg ymgynghori priodol ynglŷn â’r datblygiad, rydym yn derbyn bod y gwaith o’r diwedd yn dechrau. Mae gwelliannau cadarnhaol i’r dref o’r buddsoddiad hwn yn enwedig gan y dylai’r ddwy bont yn y castell fod yn eu lle erbyn y Nadolig eleni. Wrth symud ymlaen, byddaf yn gwthio’n galed am bartneriaeth gryf gyda’r Cyngor Sir i sicrhau ein bod yn ymgysylltu’n llawn ac yn cydweithio ar y cyfleoedd a ddaw o hyn i wella ein tref ymhellach.”

Promenade revitalisation works press release: A draft press release had been received from Ceredigion County Council. It was RESOLVED to participate in a joint press release, with the following quote being provided from Cllr. Maldwyn Pryse:

“Whilst concerned by the lack of proper consultation regarding the development, we accept that the works are finally getting underway. There are positive enhancements to the town from this investment especially since the two bridges in the castle should be in place by Christmas this year. Moving forward, I will be pushing hard for a strong partnership with the County Council to ensure that we are fully engaged and work together on the opportunities that will come out of this to further improve our town.”

 

Ymateb

Respond

 

Agenda:

      Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

11 Stryd y Popty / Baker Street

Aberystwyth

SY23 2BJ

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

                      Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse

2.10.2024

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gelwir i fynychu Cyfarfod Arbennig o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ac yn Tŷ’r Offeiriad, Morfa Mawr, ar Nos Lun 7.10.2024 am 18:30.

 

You are summoned to attend a Extraordinary Meeting of FULL COUNCIL to be held remotely and at The Presbytery, Queen’s Road, on Monday 7.10.2024 at 18:30.

 

Agenda

 

157 Presennol Present

 

158 Ymddiheuriadau Apologies

 

159 Datgan diddordeb Declaration of Interest

 

160 Neuadd Gwenfrewi Neuadd Gwenfrewi

 

160.1 Siambr y Cyngor Council Chamber

 

161 Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion: Cynllun amddiffyn yr arfordir Aberystwyth Ceredigion County Council consultation: Aberystwyth coastal defence scheme

 

162 Ymgynghoriad: Newidiadau arfaethedig i orchymyn lleoedd parcio oddi ar y stryd Cyngor Sir Ceredigion Consultation: Proposed changes to the Ceredigion County Council off street parking places order

 

163 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Ymchwiliad i rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned Welsh Government consultation: Inquiry into the role, governance and accountability of the community and town council sector

 

 

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

…………………………………………

 

Gall y cyhoedd fynychu’r Cyngor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Council by contacting the Town Council Office for details