Full Council - 25-09-2023

7:00 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cyfarfod y Cyngor Llawn (hybrid)

Meeting of Full Council (hybrid)

 

25.9.2023

 

 

COFNODION / MINUTES

 

89 Yn bresennol:

 

Cyng. Kerry Ferguson (Cadeirydd)

Cyng. Alun Williams

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Owain Hughes

  1. Cyng. Carl Worrall
  2. Cyng. Mair Benjamin
  3. Cyng. Brian Davies
  4. Cyng. Mark Strong
  5. Cyng. Mari Turner

 

 

 

Yn mynychu:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Will Rowlands (Clerc dan hyfforddiant)

Carol Thomas (cyfieithydd)

Present:

 

Cllr. Kerry Ferguson (Chair)

Cllr. Alun Williams

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Carl Worrall

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Brian Davies

Cllr. Mark Strong

Cllr. Mari Turner

 

In attendance:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Will Rowlands (Trainee Clerk)

Carol Thomas (translator)

 

 
90 Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Mathew Norman

Cyng. Bryony Davies

 

Apologies:

 

Cllr. Mathew Norman

Cllr. Bryony Davies

 

 
91 Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

Dim

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

 

None

 

 
92 Cyfeiriadau Personol

 

  • Estynnwyd croeso i’r holl fyfyrwyr newydd a’r myfyrwyr sy’n dychwelyd. Atgoffwyd cynghorwyr am ddigwyddiad Diwrnod Sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth ar 13.10.2023.
  • Llongyfarchwyd y Cyng. Connor Edwards ar lwyddiant ei waith yn codi dros £600 i Mencap.
  • Llongyfarchwyd Ffiona Evans ar 17 mlynedd lwyddiannus yn chwarae i Glwb Pêl-droed Merched Tref Aberystwyth. Cytunwyd i anfon cerdyn ati.
Personal References

 

  • Welcome was extended to all new and returning students. Councillors were reminded about the Aberystwyth University Founders Day event on 13.10.2023.
  • Congratulations were extended to Cllr. Connor Edwards on his successful fundraising of over £600 for Mencap.
  • Congratulations were extended to Ffiona Evans on 17 successful years playing for Aberystwyth Town Women’s Football Club. It was agreed to send her a card.

 

 
93 Adroddiad y Maer

 

Roedd adroddiad ysgrifenedig wedi’i ddosbarthu cyn y cyfarfod.

 

Mayoral report

 

A written report had been circulated prior to the meeting.

 

 
94 Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 24 Gorffennaf 2023 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion.

 

Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 24 July 2023 to confirm accuracy.

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 
95 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

  1. Ardal Gadwraeth: dylid cysyllltu gyda’r Comisiwn Brenhinol.

 

  1. Cyfeillgarwch Yosano: I’w drafod yn y cyfarfod Rheolaeth Cyffredinol nesaf.
Matters arising from the Minutes:

 

  1. Conservation Area: the Royal Commission to be contacted.

 

  1. Yosano friendship: To be discussed at the next General Management meeting

 

Agenda RhC

GM Agenda

96 Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 10 Gorffennaf 2023

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion.

 

Minutes of the General Management Committee held on Monday 11 September 2023

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 
97 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

  1. Canmlwyddiant y gofeb rhyfel: roedd fideo wedi’i gynhyrchu gan Scott Waby Aerial Photography, i gyd-fynd â cherdd Eurig Salisbury. Cerdyn o ddiolch i’w anfon at Scott Waby. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant a diolchwyd i bawb a gymerodd ran.

 

  1. Brandio / Nwyddau’r Cyngor Tref: Cynhelir y cyfarfod ar 19 Hydref.

 

  1. Digwyddiad Santes Dwynwen 2024: i’w drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid.

 

Matters arising from the minutes:

 

  1. War memorial centenary: a video had been produced by Scott Waby Aerial Photography, to accompany Eurig Salisbury’s poem. A thank you card to be sent to Scott Waby. The event was a success and thanks were extended to all involved.

 

  1. Town Council Branding / merchandise: the meeting to be held on 19 October.

 

  1. Santes Dwynwen event 2024: to be discussed in the next Finance Committee meeting.
Agenda Cyllid

Finance Agenda

98 Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 18 Medi 2023

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion a’r argymhellion.

 

Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday 18 September 2023

 

It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.

 

 
99 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

  1. 8. Roedd ymchwil yn cael ei wneud i gamera cylch cyfyng i’r swyddfa

 

Matters arising from the minutes:

 

  1. 8. A CCTV camera for the office was being investigated

 

 
100 Ystyried gwariant Awst a Medi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.

 

Nodwyd fod y cytundeb ar gyfer rhentu’r peiriant ffrancio wedi cael ei ganslo oherwydd camgymeriadau gweinyddu’r cwmni a gwerth am arian.

 

To consider August and September expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

The Clerk reported that the contract for rental of the franking machine had been cancelled due to the company’s administrative errors and value for money.

 
101 Cymeradwyo cyfrifon Gorffennaf ac Awst

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon.

To approve July & August accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts.

 

 
102 Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.

 

Dim

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

None

 

 
103 Ceisiadau cynllunio

 

Planning applications

 

 
103.1 A230590 Eglwys y Bedyddwyr, Maes Alfred

 

Mae’r Cyngor Tref yn cefnogi’r addasiadau anabledd a hygyrchedd. Fodd bynnag, ni all ystyried y cais oherwydd nad oes datganiad treftadaeth adeilad rhestredig. Gofynnir am gais cyflawn.

 

A230590 Baptist’s Church, Alfred Place

 

The Town Council supports the disability and accessibility adaptations. However, it is unable to consider the application due to there being no listed building heritage statement. A complete application to be requested.

Ymateb

Respond

103.2 A230641: 4 Maes Lowri

 

DIM GWRTHWYNEBIAD

A230641: 4 Laura Place

 

NO OBJECTION

 

Ymateb

Respond

103.3 A230592: Tir Gwag, Bryn Ardwyn

 

I’w drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio.

 

A230592: Vacant Land, Bryn Ardwyn

 

To be discussed at the next Planning Committee meeting.

Agenda Cynllunio

Planning Agenda

104 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

Dosbarthwyd adroddiad ar gyfarfodydd Llywodraethwyr Ysgol Penweddig ac Ysgol Gymraeg. Atgoffwyd cynghorwyr fod adroddiadau o’r fath yn gyfrinachol.

 

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies

 

A report on School Governors’ meetings of Penweddig and Ysgol Gymraeg was circulated. Councillors were reminded that such reports were confidential.

 

 
105 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

Cyng Carl Worrall:

  • Roedd disgwyl toriadau sylweddol i wasanaethau bysiau lleol oherwydd cyfyngiadau cyllidebol o fewn y Cyngor Sir.

 

  1. Alun Williams:
  • Llongyfarchwyd y Cyng. Elfed Wyn (Trawsfynydd) ar gwblhau ei daith 250 milltir i gefnogi rheilffordd o’r Gogledd i’r De. Dylid anfon llythyr o ddiolch.

 

  • Ymgynghoriadau Cyngor Ceredigion: Premiymau Treth y Cyngor ail gartrefi ac eiddo gwag, Newid darpariaeth iaith mewn ysgolion cynradd a Rheolaeth Harbyrau Ceredigion. Trafodir rhain yn y cyfarfod nesaf.
  • Gwerthusiad Ardal Gadwraeth Aberystwyth i’w drafod yn y Pwyllgor Cynllunio nesaf. Dylid gofyn am estyniad i’r dyddiad cau.
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

 

Cllr Carl Worrall:

  • Significant cuts were expected to local bus services due to budget constraints within the County Council.

 

 

  1. Alun Williams:
  • Congratulations were extended to Cllr. Elfed Wyn (Trawsfynydd) on completing his 250 mile walk in support of a North-South railway. A letter of thanks would be sent.
  • Ceredigion Council consultations: Second home and empty property Council Tax premiums, Change of language provision in primary schools and Ceredigion Harbours Management. These to be discussed in the next meeting.
  • Aberystwyth Conservation Area appraisal to be discussed in the next Planning Committee. An extension to the deadline to be requested.

 

Agenda Cynllunio

Planning Agenda

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Anfon llythyr

Send letter

106 Cyngor ar Bopeth Ceredigion

 

Cais am gyllid i dalu am ofod swyddfa i’w rentu yn wythnosol yng Nghanolfan Fethodistaidd St Paul i ddarparu sesiynau galw heibio. Nodwyd bod cyllid eisoes wedi’i ddarparu yn gynharach yn y flwyddyn. Byddid yn cysylltu â St Paul’s ynghylch costau rhentu.

 

PENDERFYNWYD rhoi pwerau dirprwyedig i’r Pwyllgor Cyllid wneud penderfyniad.

 

Ceredigion Citizens Advice

 

A request for funding to cover a weekly rented office space at St Paul’s Methodist Centre to provide drop-in sessions. It was noted that funding had already been provided earlier in the year. St Paul’s would be contacted regarding rental costs.

 

It was RESOLVED to give Finance Committee delegated powers to make a decision.

 

Agenda Cyllid

Finance Agenda

107 Ras Dau Gopa

 

PENDERFYNWYD darparu cefnogaeth o £200 ar yr amod bod unrhyw ddeunyddiau (baneri ayyb) yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn cael ei blaenoriaethu, a ‘Noddir gan Gyngor Tref Aberystwyth’ yn cael ei arddangos.

Byddai’r trefnwyr yn cael eu hatgoffa bod grantiau’r Cyngor yn cael eu dyfarnu’n flynyddol ym mis Ebrill. Roedd eithriad yn cael ei wneud oherwydd amseriad y ras a’r ffaith nad oedd wedi’i chynnal ers 2019 (Covid).

 

Twin Peaks Race

 

It was RESOLVED to provide £200 support on the condition that any materials (flags etc.) were bilingual, with Welsh prioritised, and ‘Sponsored by Aberystwyth Town Council’ displayed.

The organisers would be reminded that the Council’s grants are awarded annually in April. An exception was being made due to the timing of the race and the fact that it had not been held since 2019 (Covid).

 

 
108 EGO Aberystwyth

 

Nid oedd EGO bellach yn cynhyrchu fersiwn argraffedig ac roedd y Cyngor wedi cael cynnig dwy erthygl ddigidol yn lle’r un erthygl brintiedig a oedd yn weddill. Cymeradwywyd hyn.

 

Aberystwyth EGO

 

EGO was no longer producing a printed version and the Council had been offered two digital articles instead of the one printed article outstanding. This was approved.

 

 
109 Cynllun Hyfforddiant

 

I’w drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.

Training Plan

 

To be discussed at the next General Management Committee meeting.

 

Agenda RhC

GM Agenda

110 Cynnig: Jeti Pren (Cyng. Jeff Smith)

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig, gyda mân newidiadau i’r geiriad, ac ysgrifennu at Gyngor Ceredigion yn mynegi pryderon ynghylch sylwadau diweddar ynglŷn â dymchwel y jeti, ac yn annog Ceredigion i atgyweirio a chynnal a chadw’r jeti, tra hefyd yn cynnig cymorth o ran chwilio am gyllid.

Motion: Wooden Jetty (Cllr. Jeff Smith)

 

It was RESOLVED to approve the motion, with minor amendments to the wording, and to write to Ceredigion Council expressing concerns about recent comments regarding the demolition of the jetty, and urging Ceredigion to repair and maintain the jetty, whilst also offering support in seeking funding.

 

 
111 Cynnig: Coed Stryd y Popty – Cyng. Mark Strong

 

PENDERFYNWYD mynd at Gapel Bethel a Chyngor Ceredigion i holi am y posibilrwydd o blannu coed stryd yn Stryd y Popty ac ar dir y Capel.

Motion: Stryd y Popty trees – Cllr. Mark Strong

 

It was RESOLVED to approach Bethel Chapel and Ceredigion Council to enquire about the possibility of planting street trees in Stryd y Popty and the Chapel grounds.

 

 
112 Gohebiaeth Correspondence

 

 
112.1 Archwiliad Blynyddol 2022-23: roedd y Cyngor Tref wedi derbyn archwiliad diamod unwaith eto; diolchwyd i staff am eu gwaith.

 

Annual Audit 2022-23: The Town Council had received an unqualified audit once again; staff were thanked for their work.  
112.2 Diwrnod agored y gymdeithas rhandiroedd: i’w gynnal ar 7 Gorffennaf 2024 o 1pm tan 5pm.

 

Allotment association open day: to be held 7 July 2024 – 1pm until 5pm.

 

 
112.3 Eitem caeedig: Neuadd Gwenfrewi – contractiwr adfer tŷ’r offeriad

 

Byddai cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal i drafod y tendrau cyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio nesaf.

Closed item: Neuadd Gwenfrewi – presbytery restoration contractor

 

An extraordinary meeting would be held to discuss the tenders ahead of the next Planning Committee meeting.

 

Cyfarfod Arbennig

Extraordinary Meeting