Full Council - 27-09-2021
6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
Cofnodion Cyfarfod o’r Cyngor Llawn (o bell)
Minutes of the Meeting of Full Council (remote)
27.9.2021
COFNODION – MINUTES
|
|||
86 | Yn bresennol:
Cyng. Alun Williams (Cadeirydd) Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Nia Edwards-Behi Cyng. Jeff Smith Cyng. Dylan Wilson-Lewis Cyng. Endaf Edwards Cyng. Lucy Huws Cyng. Mair Benjamin Cyng. Charlie Kingsbury Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Mari Turner Cyng. Danny Ardeshir Cyng. Mark Strong
Yn mynychu:
Gweneira Raw-Rees (Clerc) Chris Betteley (Cambrian News) Will Davies (Profiad gwaith)
|
Present:
Cllr. Alun Williams (Chair) Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Nia Edwards-Behi Cllr. Jeff Smith Cllr. Dylan Wilson-Lewis Cllr. Endaf Edwards Cllr. Lucy Huws Cllr. Mair Benjamin Cllr. Charlie Kingsbury Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Mari Turner Cllr. Danny Ardeshir Cllr. Mark Strong
In attendance:
Gweneira Raw-Rees (Clerk) Chris Betteley (Cambrian News) Will Davies (work experience)
|
|
87 | Ymddiheuriadau:
Cyng. Sue Jones-Davies Cyng. Alex Mangold Cyng. Steve Davies Cyng. Claudine Young
|
Apologies:
Cllr. Sue Jones-Davies Cllr. Alex Mangold Cllr. Steve Davies Cllr. Claudine Young
|
|
88 | Datgan diddordeb:
Dim
|
Declaration of interest:
None |
|
89 | Cyfeiriadau personol:
Dim |
Personal references
None
|
|
90 | Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer
Darparodd y Maer adroddiad llafar ar ei bresenoldeb yn:
|
Mayoral Activity Report
The Mayor provided a verbal report on his attendance at:
|
|
91 | Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 13 Medi 2021 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion
|
Minutes of the Meeting of Full Council held Monday 13 September 2021 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes
|
|
92 | Materion yn codi o’r cofnodion
Dim |
Matters arising from the minutes
None |
|
93 | Cofnodion o Gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd nos Lun 20 Medi 2021 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion |
Minutes of the Finance and Establishments Committee meeting held Monday 20 September 2021 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes |
|
94 | Materion yn codi o’r cofnodion:
Dim
|
Matters arising from the minutes:
None |
|
95 | Ystyried cyfrifon Mis Awst
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon.
Roedd yr heddlu wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio swyddfa’r Neuadd Goffa ac roeddent bellach yn cynnal cyfarfodydd yn yr Hwb. Roeddent wedi ymrwymo i gael presenoldeb ym Mhenparcau.
Dylid anfon llythyr at Neuadd Goffa yn diolch iddynt am ddefnyddio’r swyddfa
|
Consider August accounts
It was RESOLVED to approve the accounts.
The police had stopped using the Neuadd Goffa office and were now holding meetings in the Hub. They were committed to having a presence in Penparcau.
A letter should be sent to Neuadd Goffa thanking them for the use of the office
|
Anfon llythyr o ddiolch Send letter of thanks
|
96 | Ystyried gwariant Mis Awst
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.
|
Consider August expenditure
It was RESOLVED to approve the expenditure.
|
|
97 | Ceisiadau Cynllunio
A210767: 5 Ffordd Alexandra.
DIM GWRTHWYNEBIAD. Mae’r Cyngor yn croesawu busnes a fydd yn cyfrannu at leihau plastig. |
Planning applications
A210767: 5 Alexandra Road.
NO OBJECTION. The Council welcomes a business that will contribute to reducing plastic.
|
|
98 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG
Derbyniwyd ymatebion gan Gyngor Ceredigion ynghylch:
|
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
Responses had been received from Ceredigion Council regarding:
|
|
99 | Cynnig: Cefnogaeth i gloddfa Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar Bendinas (Cyng. Dylan Wilson-Lewis)
PENDERFYNWYD pasio’r cynnig a ganlyn:
Mae’r cyngor hwn yn cefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed wrth ymgymryd â’r cloddfa archeolegol gyntaf (a noddwyd gan CADW) ar fryngaer oes haearn Pen Dinas ers y 1930au ac mae’n croesawu mentrau i wneud y fryngaer yn fwy hygyrch i drigolion lleol a thwristiaid.
|
Motion: Support for the Dyfed Archaelogical Trust dig on Pendinas (Cllr Dylan Wilson-Lewis)
It was RESOLVED to pass the following motion:
This council supports the work of Dyfed Archaeological Trust in undertaking the first archaeological dig (sponsored by CADW) on Pen Dinas iron-age hillfort since the 1930’s and welcomes initiatives to make the hillfort more accessible to both local residents and tourists.
|
|
100 | Cynnig: Medal Ddinesig Aberystwyth
PENDERFYNWYD pasio’r cynnig a ganlyn:
Mae’r cyngor hwn yn cefnogi cyflwyno Medal Ddinesig Aberystwyth i’w dyfarnu i gydnabod gwasanaeth eithriadol a roddir gan unigolion a sefydliadau sydd wedi bod o fudd sylweddol i’r dref a’r gymuned leol. |
Motion: Aberystwyth Civic Medal
It was RESOLVED to pass the following motion:
This council supports the introduction of an Aberystwyth Civic Medal to be awarded in recognition of exceptional service given by individuals and organisations that have significantly benefited the town and local community. |
Agenda Cyllid
Finance agenda |
101 | Cynnig Brys: Ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru i ofyn iddynt ail-ystyried eu hamserlen am gyflwyno gwasanaeth rheilffordd bob awr i Aberystwyth
(Cyng. Jeff Smith) Addawyd gwasanaeth bob awr rhwng Aberystwyth ac Amwythig ers 1999. Adeiladwyd y seilwaith i ganiatáu hyn dros ddegawd yn ôl. Dros y blynyddoedd diwethaf, addawyd i ni droeon bydd gwasanaeth bob awr erbyn diwedd 2022; roedd hyn yn rhan o’r cytundeb masnachfraint. Prynhawn dydd Gwener 24 Medi eleni, cyhoeddwyd amserlen newydd ar gyfer gwelliannau fyddai’n cynnig gwasanaeth bob awr i Aberystwyth erbyn mis Mai 2024. Hyn fydd y gwelliant olaf namyn un yn eu cyfres arfaethedig o welliannau i’r gwasanaethau.
PENDERFYNWYD pasio’r cynnig a ganlyn:
Ein bod yn ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru ac at Julie James AS i ofyn iddynt wireddi ei haddewid gwreiddiol ac i ystyried defnyddio trenau dosbarth 158 sy’n cael eu tynnu o rannau eraill o’r rhwydwaith ar gyfer trenau newydd o’r dosbarth 197. Pwysleisiwn bwysigrwydd y lein i ffyniant y dref ac ystyriaethau economaidd mewn ardal wledig a chymharol dlawd.
Ychwanegodd cynghorwyr y sylwadau canlynol:
Bydd Cyng. Jeff Smith yn codi’r pwyntiau hyn mewn cyfarfod i randdeiliaid ar 1 Hydref gan gyfeirio at benderfyniad y Cyngor.
|
Emergency Motion: Write to Transport for Wales to ask them to reconsider their timescale for introducing an hourly service to Aberystwyth
(Cllr Jeff Smith)
An hourly service between Aberystwyth and Shrewsbury has been promised since 1999. The infrastructure to allow this over a decade ago. Over the past year we were promised time and time again that an hourly service would be introduced by the end of 2022; this was part of the franchise agreement. On Friday afternoon 24 September this year, a new timetable for improvements was published which would offer an hourly service to Aberystwyth by May 2024. This would be the second to last improvement in their series of proposed improvements to services.
It was RESOLVED to pass the following motion:
That we write to Transport for Wales and to Julie James MS to ask them to deliver their original promise and to consider using Class 158 trains which are being removed from other parts of the network to make way for the new class 197 trains. We emphasise the importance of the line to the prosperity of the town and the economic considerations in a rural and relatively poor area.
Councillors added the following observations:
Cllr Jeff Smith will raise these points in a stakeholder meeting on 1 October citing the Council’s resolution.
|
|
102 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
Dim |
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
None
|
|
103 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
Dim |
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
None
|
|
104 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
104.1 | Cymdeithas Iaith Gymraeg: llythyr at y Senedd ynghylch ail gartrefi ac nad yw Cymru ar Werth. PENDERFYNWYD cefnogi a llofnodi’r llythyr. | Welsh Language Society: letter to the Senedd regarding second homes and that Wales is Not for Sale. It was RESOLVED to support and sign the letter.
|
Ymateb
Respond |
104.2 | Fy nrws ffrynt: syniad gan drigolion lleol yn Heol y Wig i gadw’r stryd yn lân y tu allan i’w drws mewn partneriaeth â Cheredigion a’r Cyngor Tref. | My front door: an idea by local residents in Pier Street to keep the street clean outside their door in partnership with Ceredigion and the Town Council.
|
Eitem agenda RhC
GM agenda item |
104.3 | Caru Aber – murluniau tref: cais am arian ar gyfer mwy o furluniau | Caru Aber – town murals: request for funding for more murals | Eitem agenda RhC a Cyllid
GM & Finance agenda item
|
104.4 | Trawst laser y Pier: derbyniwyd amryw gwynion a PENDERFYNWYD cysylltu â Chyngor Ceredigion | The Pier laser beam: various complaints had been received and it was RESOLVED to contact Ceredigion Council | Ysgrifennu at y Cyngor Sir
Write to Ceredigion Council |
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street
Aberystwyth SY23 2BJ |
council@aberystwyth.gov.uk
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Alun Williams
21.9.2021
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gelwir i fynychu Cyfarfod o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ar Nos Lun, 27 Medi 2021 am 6.30pm
You are summoned to attend a Meeting of FULL COUNCIL to be held remotely on Monday 27 September 2021 at 6.30pm
Agenda
86 | Presennol
|
Present |
87 | Ymddiheuriadau
|
Apologies |
88 | Datgan Diddordeb ar faterion sy’n codi o’r Agenda
|
Declaration of Interest on Matters arising from the Agenda |
89 | Cyfeiriadau Personol | Personal References |
90 | Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer
|
Mayoral Activity Report |
91 | Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 13 Medi 2021 i gadarnhau cywirdeb
|
Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday, 13 September 2021 to confirm accuracy |
92 | Materion sy’n codi o’r Cofnodion
|
Matters arising from the minutes |
93 | Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 20 Medi 2021
|
Finance & Establishments Committee held on Monday, 20 September 2021 |
94 | Materion sy’n codi o’r Cofnodion
|
Matters arising from the minutes |
95 | Ystyried cyfrifon Mis Awst | To consider August accounts
|
96 | Ystyried gwariant Mis Medi
|
To consider September expenditure |
97 | Ceisiadau Cynllunio
|
Planning Applications |
98 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG | Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit |
99 | Cynnig: Cefnogaeth i gloddfa Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar Bendinas (y Cyng. Dylan Wilson-Lewis)
|
Motion: Support for the Dyfed Archaelogical Trust dig on Pendinas (Cllr Dylan Wilson-Lewis)
|
100 | Cynnig: Medal Ddinesig Aberystwyth | Motion: Aberystwyth Civic Medal
|
101 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
|
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council |
102 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
|
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies |
103 | Gohebiaeth
|
Correspondence |
Gweneira Raw-Rees
Clerc Cyngor Tref Aberystwyth / Aberystwyth Town Council Clerk