General Management - 01-02-2020

7:00 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol

General Management Committee

 

  1. 2.2020

 

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1 Presennol

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Mari Turner

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Michael Chappell

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. Sue Jones-Davies

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Brendan Somers

Cyng. Mark Strong

Cyng. Claudine Young

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. David Lees

Yn mynychu:

 

Cyng. Alun Williams

Cyng. Endaf Edwards

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

Present

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Mari Turner

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Michael Chappell

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Sue Jones-Davies

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Brendan Somers

Cllr. Mark Strong

Cllr. Claudine Young

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. David Lees

In attendance:

 

Cllr. Alun Williams

Cllr. Endaf Edwards

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 
2 Ymddiheuriadau

 

Cyng. Steve Davies

Cyng. Brenda Haines

 

Apologies

 

Cllr. Steve Davies

Cllr. Brenda Haines

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

Dim

 

Declaration of Interest:

 

None

 
4 Cyfeiriadau personol:

 

Dim

Personal references:

 

None

 

 
5 Meinciau:

 

  1. Meinciau plastig wedi’i ailgylchu: o ran lleoliadau sy’n addas ar gyfer plastig wedi’i ailgylchu, dylid dewis deunyddiau yn unol â’r ardal gadwraeth a chydfynd gyda meinciau presennol. Gellid defnyddio plastig wedi’i ailgylchu ar gyfer meinciau newydd y tu allan i’r ardal gadwraeth.

 

  1. Mainc Stryd y Popty: cytunwyd y dylai’r fainc aros yn yr ail leoliad wrth ymyl y rac beicio.

 

Benches:

 

  1. Recycled plastic benches: in terms of locations suitable for recycled plastic, materials should be chosen in accordance with the conservation area and co-ordination with existing benches. Recycled plastic could be used for new benches outside of the conservation area.

 

  1. Baker St bench: it was agreed that the bench should stay in the alternative location next to the cycle-rack.

 

 

 

 

 
6 Meysydd Chwarae:

 

Derbyniwyd trydydd dyfynbris ar gyfer uwchraddio’r maes chwarae ym Mhenparcau a byddai’r tendrau’n cael eu trafod yn y Pwyllgor Cyllid.

 

Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i fynediad i bobl anabl o fewn y gwelliannau arfaethedig ac ARGYMHELLWYD y dylai’r Cyngor ddatblygu polisi ffurfiol ar ‘feysydd chwarae cynhwysol’. Byddai hyn yn cael ei gynnwys fel eitem agenda’r Cyngor Llawn

Playgrounds:

 

A third quotation for the upgrade of the playground in Penparcau had been received and the tenders would be discussed in the Finance Committee.

 

Consideration was being given to disability access within the proposed improvements and it was RECOMMENDED that the Council develop a formal ‘inclusive playgrounds’ policy.  This would be included as a Full Council agenda item

 

Agenda Cyllid

Finance agenda

 

 

 

 

Agenda Cyngor Llawn

Full Council agenda

7 Neuadd y Farchnad

 

Roedd deiliaid stondinau Neuadd y Farchnad wedi codi rhai problemau gyda chynghorwyr ynghylch opsiynau ar gyfer cynyddu nifer yr ymwelwyr i neuadd y farchnad, megis gwell arwyddion, a pharcio hefyd yn Upper Great Darkgate Street.

 

Roedd y Cyngor Tref yn y broses o baentio’r arwyddion bys ac ARGYMHELLWYD y dylid anfon llythyr at Gyngor Ceredigion ynghylch diffyg rheolaeth ar y Stryd Fawr Uchaf o ran mynediad i gerbydau a pharcio anghyfreithlon.

 

Byddai cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn yn cael ei gynnal cyn y Pwyllgor Cyllid am 6.15pm i drafod yr ymateb gwrth Asiaidd i’r firws Corona

Market Hall

 

Market Hall stall holders had raised some issues with councillors regarding options for increasing footfall to the market hall, such as improved signage, and also parking in Upper Great Darkgate Street.

 

 

The Town Council was in the process of painting the finger posts and it was RECOMMENDED that a letter be sent to Ceredigion Council regarding the lack of management of Upper Great Darkgate Street in terms of vehicle access and illegal parking.

 

An extraordinary meeting of Full Council would be held prior to the Finance Committee at 6.15pm to discuss the anti Asian reaction to the Corona virus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Anfon llythyr at y Cyngor Sir

Send letter to CCC

 

 

 

Trefnu cyfarfod arbennig

Organise extraordinary meeting

 

8 Parc Ffordd y Gogledd

 

 

Cyflwynwyd adroddiad ar yr ymgynghoriad diweddaraf. Roedd 40 o bobl wedi ymateb gan gynnwys un a oedd yn cynrychioli ymateb grŵp (Aberystwyth Gwyrddach). Roedd y mwyafrif eisiau man gwyrdd bioamrywiol ar gyfer pob oedran. Nid oedd pobl eisiau gwelyau blodau ffurfiol nac offer chwarae. Roedd hyn yn unol â’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr holiadur cyntaf ac yn y gweithdy. Byddai’r Clerc yn coladu’r holl adroddiadau ymgynghori hyd yn hyn.

 

ARGYMHELLWYD y dylid mabwysiadu canfyddiadau’r ymgynghoriad a gwahodd arbenigwr i ddarparu syniadau dylunio. Dylai’r plannu cynlluniedig o’r clawdd cymysg brodorol a’r coed gael ei wneud cyn gwneud unrhyw newidiadau pellach.

 

North Road Park

 

A report was presented on the most recent consultation. 40 people had responded including one which represented a group response (Greener Aberystwyth). The majority wanted a biodiverse green space for all ages.  People didn’t want formal flower beds or play equipment. This was in keeping with the views expressed in the first questionnaire and in the workshop. The Clerk would collate all the consultation reports to date.

 

It was RECOMMENDED that the consultation findings be adopted and that an expert be invited to provide design ideas.  The scheduled planting of the mixed native hedge and trees should be carried out before any further changes were made.

 

 

 
9 Coed stryd

 

Roedd y goeden ceirios yn Iorwerth Avenue wedi’i phlannu. Roedd y Cynghorydd Alun Williams wedi cynnal ymweliad safle â thrigolion a phwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng plannu coed a’r angen am barcio.

 

Roedd y Cynghorydd Mark Strong wedi cyfarfod â swyddogion Priffyrdd i drafod cynlluniau a lleoliadau posib. Byddai’r swyddogion yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod o’r Cyngor.

 

Byddai angen trafod unrhyw gynnydd yn y gyllideb plannu coed, er galluogi cynlluniau plannu coed stryd mwy, yn y Pwyllgor Cyllid

 

 

Street trees

 

The cherry in Iorwerth Avenue had been planted.  Cllr Alun Williams had held a site visit with residents and stressed the importance of achieving a balance between tree planting and the need for parking.

 

Cllr Mark Strong had met with Highways officers to discuss possible schemes and locations.  The officers would be invited to attend a Council meeting.

 

Any increase in the tree planting budget to enable larger street tree planting schemes would need to be discussed at the Finance Committee

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwahodd swyddogion yr Adran Briffyrdd

Invite Highways officers

10 Gohebiaeth Correspondence 

 

 
10.1 Eglwys Gwenfrewi:

 

Derbyniwyd ymateb anfoddhaol gan yr Esgobaeth a ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn mynnu bod Adran Cynllunio Ceredigion yn cyhoeddi Gorchymyn Adran 215 ar yr eiddo ac yn gweithredu o dan y ddeddfwriaeth Cartrefi Gwag. Byddai llythyr arall yn mynd at Esgobaeth a Llysgennad y Fatican i’r DU.

St Winefride’s Church:

 

An unsatisfactory response had been received from the Diocese and it was RECOMMENDED that the Council demands that Ceredigion Planning Department issue a Section 215 Order on the property and takes action under the Empty Homes legislation. Another letter would go to the Diocese and the Vatican’s Ambassador to the UK.

 

Anfon llythyron

Send letters

10.2 Asesiad Seilwaith Gwyrdd Ceredigion

 

Cyfarfod i’w gynnal ym Mhenmorfa rhwng 1pm-4pm 27.2.2020 a sesiwn galw heibio rhwng 6pm-9pm ar 26.2.2020

Ceredigion Green Infrastructure Assessment

 

A meeting to be held in Penmorfa between 1pm-4pm 27.2.2020 and a drop in session between 6pm-9pm on 26.2.2020

 

 
10.3 Cyfarfod Blynyddol Tai Wales & West: 11.30am 11.6.2020 yng Nghaerdydd a chynadledda fideo yng Nghastell Newydd Emlyn Wales & West Housing AGM: 11.30am 11.6.2020 in Caerdydd and video conferencing in Castell Newydd Emlyn

 

Gweithredu

Action

10.4 Ap lleol i gefnogi siaradwyr Cymraeg wrth siopa a bwyta allan:

 

ARGYMHELLWYD y dylid gosod hwn fel eitem ar agenda’r Cyngor Llawn

 

 

Local app to support Welsh speakers whilst shopping and dining out:

 

It was RECOMMENDED that this be placed as a Full Council agenda item

 

Agenda Cyngor llawn

Full Council agenda