General Management - 13-11-2023
6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol (hybrid)
General Management Committee (hybrid)
13.11.2023
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Emlyn Jones Cyng. Lucy Huws Cyng. Alun Williams Cyng. Brian Davies Cyng. Owain Hughes Cyng. Mark Strong Cyng. Carl Worrall
Yn mynychu:
Gweneira Raw-Rees (Clerc) Will Rowlands (Clerc dan hyfforddiant) |
Present
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Emlyn Jones Cllr. Lucy Huws Cllr. Alun Williams Cllr. Brian Davies Cllr. Owain Hughes Cllr. Mark Strong Cllr. Carl Worrall
In attendance:
Gweneira Raw-Rees (Clerk) Will Rowlands (Trainee Clerk) |
|
2 | Ymddiheuriadau
Cyng. Jeff Smith Cyng. Mathew Norman Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Bryony Davies
|
Apologies
Cllr. Jeff Smith Cllr. Mathew Norman Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Bryony Davies
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
Dim
|
Declaration of Interest:
None
|
|
4 | Cyfeiriadau personol:
· Llongyfarchwyd gwraig y Cyng. Carl Worrall, Pam, a oedd wedi cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Pysgota Môr y Byd ac a orffennodd yn bedwerydd. · Diolchwyd i John Davies am oleuo’r gofeb rhyfel ar gyfer Sul y Cofio. |
Personal references:
· Congratulations were extended to Cllr. Carl Worrall’s wife, Pam, who had represented Wales at the Sea Angling World Championships and finished fourth. · Thanks were extended to John Davies for the lighting of the war memorial for Remembrance Sunday.
|
|
5 | Sul y Cofio – trefniadau’r dyfodol
Byddai adolygiad yn cael ei gynnal a chyfarfod yn cael ei drefnu gyda changen Aberystwyth o’r Lleng Prydeinig Brenhinol ym mis Ionawr.
Diolchwyd i’r staff am eu gwaith. |
Remembrance Sunday – future arrangements
A review would be held and a meeting arranged with the Aberystwyth branch of the Royal British Legion in January.
Staff were thanked for their work.
|
Trefnu cyfarfod
Arrange meeting |
6 | Cynllun hyfforddiant
Cytunwyd i ddiweddaru’r cynllun hyfforddiant presennol i gynnwys hyfforddiant hanfodol y dylai cynghorwyr gymryd fel gofyniad sylfaenol.
Pwyllgorau i benderfynu eu gofynion hyfforddi hanfodol eu hunain ar gyfer aelodau. |
Training plan
It was agreed to update the current training plan to include essential training that councillors should undertake as a basic requirement.
Committees to determine their own essential training requirements for members.
|
Update
Diweddaru |
7 | Plac Yosano – y geiriad
ARGYMHELLWYD diwygio a chadw’r hen blac, ynghyd â phrynu plac newydd i goffau’r cytundeb cyfeillgarwch newydd a arwyddwyd ar 9 Tachwedd 2023.
Bu ymweliad diweddar Maer Yosano yn llwyddiant mawr, a gwerthfawrogwyd gwaith y Cyngor. Diolchwyd i’r staff am eu gwaith. |
Yosano plaque – wording
It was RECOMMENDED that the old plaque be amended and kept, along with the purchase of a new plaque to commemorate the new friendship agreement signed on 9 November 2023.
The recent visit by the Yosano Mayor had been a great success, and the Council’s work had been appreciated. Staff were thanked for their work.
|
|
8 | Brandio’r Cyngor tref a nwyddau
Cafwyd adroddiad ar lafar gan y Clerc ar drafodaethau’r grŵp gwaith brandio. Gofynnwyd i gynghorwyr i ystyried sut a phryd y dylid defnyddio arfbais y Cyngor Tref a logo Aberystwyth. Nodwyd bod y Cyngor Tref yn cael ei ariannu gan arian cyhoeddus, ac felly roedd gwelededd a chydnabyddiaeth o waith y Cyngor yn bwysig.
Cyflwynwyd syniadau amrywiol ar gyfer nwyddau fforddiadwy e.e. bagiau siopa papur, matiau diod, darnau arian troli, sticeri, beiros a phensiliau |
Town Council branding/merchandise
A verbal report was provided by the Clerk on the discussions of the branding working group. Councillors were asked to consider how and when the Town Council crest and Aberystwyth logo should be used. It was noted that the Town Council was funded by public money, and as such visibility and recognition of the Council’s work was important.
Various ideas for affordable merchandise were presented e.g. paper carrier bags, coasters, trolley coins, stickers, pens and pencils
|
|
13 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
13.1 | Digwyddiad parc sglefrio:
Derbyniwyd cais i ddefnyddio Parc Kronberg i gynnal gweithdy sgiliau sglefrfyrddio i bobl ifanc. Croesawyd hyn ar yr amod bod gan yr ymgeisydd yswiriant digonol ac asesiad risg. |
Skatepark event:
A request had been received to use Parc Kronberg to hold a skateboarding skills workshop for young people. This was welcomed, subject to the applicant having sufficient insurance cover and a risk assessment.
|
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street Aberystwyth SY23 2BJ |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Kerry Ferguson
8.11.2023
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ac yn Siambr y Cyngor Nos Lun, 13.11.2023 am 6.30pm
You are invited to a hybrid meeting of the General Management Committee meeting at 6.30pm in the Council Chamber on Monday evening 13.11.2023
AGENDA
|
||
1 | Presennol
|
Present
|
2 | Ymddiheuriadau
|
Apologies
|
3 | Datgan Diddordeb
|
Declaration of Interest
|
4 | Cyfeiriadau personol
|
Personal references
|
5 | Sul y Cofio – trefniadau’r dyfodol | Remembrance Sunday – future arrangements
|
6 | Cynllun hyfforddiant | Training plan
|
7 | Plac Yosano – y geiriad | Yosano plaque – wording
|
8 | Brandio’r Cyngor Tref a nwyddau | Town Council branding/merchandise
|
9 | Gohebiaeth | Correspondence
|
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Gweneira Raw-Rees – Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details