General Management - 14-10-2024

6:30 pm

Minutes:

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd o bell ac yn Ty’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi

Minutes of the General Management Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi

 

14.10.2024

 

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1 Presennol

 

Cyng. Emlyn Jones (Cadeirydd)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Alun Williams

 

Yn mynychu:

Cyng. Glynis Somers

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

Sam Bannon (Heddwch ar Waith) (Eitemau 1-5 yn unig)

Prof. Jon Timmis (Prifysgol Aberystwyth) (Eitemau 1-6 yn unig)

Steve Thomas (Prifysgol Aberystwyth) (Eitemau 1-6 yn unig)

Gerald Morgan (Aelod o’r Cyhoedd) (Eitemau 1-9 yn unig)

 

Present

 

Cllr. Emlyn Jones (Chair)

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Alun Williams

 

In attendance:

Cllr. Glynis Somers

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

Sam Bannon (Heddwch ar Waith) (Items 1-5 only)

Prof. Jon Timmis (Aberystwyth University) (Items 1-6 only)

Steve Thomas (Aberystwyth University) (Items 1-6 only)

Gerald Morgan (Member of the Public) (Items 1-9 only)

 

 
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Brian Davies

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Dim

Apologies & asbsences

 

Absent with apologies:

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Brian Davies

 

Absent without apologies:

None

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

5. Llysgennad Heddwch: Mae’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn ffrindiau gyda Sam Bannon.

 

10. Ymgynghoriad codi tâl am barcio ar y promenâd yn Aberystwyth: Mae’r Cyng. Alun Williams yn uwch Gynghorydd Sir Ceredigion

 

Declarations of interest:

 

5. Peace Ambassador: Cllr. Dylan Lewis-Rowlands is friends with Sam Bannon.

 

10. Aberystwyth promenade parking charges consultation: Cllr. Alun Williams is a senior Ceredigion County Councillor

 

 
4 Cyfeiriadau personol:

 

·         Cydymdeimlwyd â’r Cyng. Mark Strong ar golli ei fam.

·         Diolchwyd i’r Cyng. Emlyn Jones am gadeirio’r cyfarfod ar y funud olaf.

·         Byddai’r Cyng. Gwion Jones yn ymddangos ar y teledu, yn Gogglebocs Cymru nos Fercher am 21:00.

Personal references:

 

·         Condolences were extended to Cllr. Mark Strong on the loss of his mother.

·         Thanks were extended to Cllr. Emlyn Jones for chairing the meeting last minute.

·         Cllr. Gwion Jones would be appearing on television, in Gogglebocs Cymru on Wednesday evening at 21:00.

 

 
5 Llysgennad Heddwch

 

Cafwyd cyflwyniad gan Sam Bannon o Heddwch ar Waith. Roedd ei gyflwyniad yn canolbwyntio ar hanes a chysylltiad agos Cymru ac Aberystwyth â mudiadau heddwch rhyngwladol, a phwysigrwydd a gwerth penodi Llysgennad Heddwch.

 

Cynigwyd gan y Cyng. Kerry Ferguson ac eiliwyd gan y Cyng. Talat Chaudhri, ARGYMHELLWYD penodi’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands fel Llysgennad Heddwch.

 

Cynigwyd gan y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands ac eiliwyd gan y Cyng. Alun Williams, ARGYMHELLWYD penodi’r Cyng. Kerry Ferguson yn Ddirprwy Lysgennad Heddwch.

 

Gadawodd Sam Bannon y cyfarfod.

Peace ambassador

 

A presentation was given by Sam Bannon from Heddwch ar Waith. His presentation focused on Wales and Aberystwyth’s history and close involvement with international peace movements, and the importance and value of appointing a Peace Ambassador.

 

Proposed by Cllr. Kerry Ferguson and seconded by Cllr. Talat Chaudhri, it was RECOMMENDED to appoint Cllr. Dylan Lewis-Rowlands as Peace Ambassador.

 

Proposed by Cllr. Dylan Lewis-Rowlands and seconded by Cllr. Alun Williams, it was RECOMMENDED to appoint Cllr. Kerry Ferguson as deputy Peace Ambassador.

 

Sam Bannon left the meeting.

 

 
6 Cyflwyniad gan yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

 

Anerchwyd y cyfarfod gan yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Roedd ei sgwrs yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y brifysgol i economi a lle Aberystwyth, prosiect yr Hen Goleg a sefyllfa ariannol y brifysgol. Roedd rhai pwyntiau allweddol a godwyd yn cynnwys:

·         Roedd recriwtio myfyrwyr domestig i fyny eleni, a oedd yn groes i’r duedd genedlaethol.

·         Roedd cwrs nyrsio milfeddygol newydd wedi ei gychwyn; Prifysgol Aberystwyth oedd yr unig un yng Nghymru i gynnig cwrs o’r fath.

·         Roedd y brifysgol yn wynebu pwysau ariannol sylweddol, gyda diffyg o £15 miliwn eleni. Roedd hyn yn bennaf oherwydd marweidd-dra ffioedd dysgu, anhawster i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol oherwydd newidiadau i ddeddfwriaeth mewnfudo, a chwyddiant cyffredinol. Nid oedd hyn yn unigryw i Brifysgol Aberystwyth, ac roedd prifysgolion ar draws y wlad yn wynebu problemau tebyg.

·         Roedd prosiect yr Hen Goleg yn dasg enfawr, a disgwylir iddo agor yn 2026.

·         Pwysigrwydd y brifysgol fel sefydliad dinesig a’i heffaith ar greu lle, yn enwedig yr Hen Goleg.

·         Pwysigrwydd cydweithio rhwng y brifysgol a’r Cyngor Tref, a meithrin a thyfu partneriaeth gref.

 

Diolchwyd i’r Athro Timmis a Steve Thomas am eu hamser ac am ddod i’r cyfarfod yn bersonol.

 

Gadawodd yr Athro Jon Timmis a Steve Thomas y cyfarfod

 

Presentation from Prof. Jon Timmis, Vice Chancellor of Aberystwyth University

 

Prof. Jon Timmis, Vice Chancellor of Aberystwyth University addressed the meeting. His talk focussed on the importance of the university to the economy and place of Aberystwyth, the Old College project and the university’s financial situation. Some key points raised included:

·         Domestic student recruitment was up this year, which was contrary to the national trend.

·         A new veterinary nursing course had been started; Aberystwyth University was the only in Wales to offer such a course.

·         The university was facing significant financial pressures, with a shortfall of £15 million this year. This was largely due to stagnation of tuition fees, difficulty in recruiting international students due to immigration legislation changes, and general inflation. This was not unique to Aberystwyth University, and universities al across the country were facing similar problems.

·         The Old College project was a massive undertaking, and expected to open in 2026.

·         The importance of the university as a civic institution and its impact on placemaking, especially the Old College.

·         The importance of cooperation between the university and the Town Council, and to foster and grow a strong partnership.

 

Prof. Timmis and Steve Thomas were thanked for their time and for attending the meeting in person.

 

Prof. Jon Timmis and Steve Thomas left the meeting.

 

 
7 Adborth gweithgor Neuadd Gwenfrewi

 

Cyfarfu’r gweithgor ddydd Sul 13 Hydref. Roedd adborth yn cynnwys:

·         Yr angen i’r adeilad fod yn ddefnyddiadwy cyn gynted â phosibl.

·         Byddai rhai defnyddiau yn dibynnu ar gyrraedd y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol.

·         Byddai angen mynd i’r afael â’r eiddew a’r gwteri i’r wal ddeheuol fel blaenoriaeth, er mwyn helpu i fynd i’r afael â lleithder ar y wal honno.

·         Roedd gan ardd Tŷ’r Offeiriad lawer o botensial a dylid paratoi cynlluniau sy’n cynnwys defnydd posibl ar gyfer digwyddiadau. Gallai gwirfoddolwyr helpu gyda gwaith garddio.

·         Dylid cael prisiau ar gyfer sandio a staenio lloriau pren yr eglwys.

·         Yr angen i gadw ac ymchwilio i atgyweiriadau i’r organ.

·         Angen symud ymlaen i sicrhau cyllid grant ar gyfer adfer yr eglwys yn llawn.

 

Neuadd Gwenfrewi working group feedback

 

The working group met on Sunday 13 October. Feedback included:

·         The need for the building to be useable as soon as possible.

·         Some uses would be dependent on attaining the General Power of Competence.

·         Ivy and guttering to the South wall would need to be addressed as a priority, to help tackle dampness on that wall.

·         The Presbytery garden had lots of potential and plans should be prepared, incorporating possible use for events. Volunteers could help with gardening work.

·         Prices should be obtained for sanding and staining of the wooden floors in the church.

·         The need to preserve and investigate repairs to the organ.

·         Need to proceed with securing grant funding for full restoration of the church.

 

 
8 Adborth gweithgor blodau

 

Roedd y gweithgor wedi cyfarfod ddydd Llun 14 Hydref. Roedd adborth yn cynnwys:

·         Gwelodd rhai dolydd blodau gwyllt Oxeye Daisies yn cystadlu’n well na blodau eraill, gan achosi diffyg amrywiaeth. Mae’n bosibl goresgyn hyn drwy leihau ffrwythlondeb y pridd.

·         Roedd bylbiau cennin pedr yn cael eu plannu yn barod ar gyfer y Gwanwyn, gyda phedwar math o gennin pedr.

·         Roedd y cynllun plannu yn cynnwys blodau sy’n blodeuo ddiwedd yr haf yn bennaf, a gwnaed awgrymiadau ar gyfer blodau ychwanegol i flodeuo yn gynnar yn yr haf.

·         Yr angen am welyau blodau newydd ar bromenâd y De i gynnwys Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SDTC).

·         Roedd cynlluniau ar y gweill i osod basgedi rhwystr ar ben y Stryd Fawr.

·         Pwysigrwydd a gwerth cydweithio ag arbenigwyr lleol sy’n gallu rhoi gwybodaeth ac awgrymiadau amgen.

·         Pwysigrwydd hyrwyddo gwaith y Cyngor.

 

Byddai’r Clerc yn ysgrifennu nodiadau cryno o’r cyfarfod ac yn eu dosbarthu.

 

Flowers working group feedback

 

The working group had met on Monday 14 October. Feedback included:

·         Some wildflower meadows saw Oxeye Daisies outcompeting other flowers, causing a lack of variety. This could potentially be overcome by reducing soil fertility.

·         Daffodil bulbs were being planted ready from Spring, with four varieties of daffodil.

·         Planting scheme included mainly late summer blooming flowers, and suggestions were made for additional flowers to bloom early summer.

·         The need for new flower beds on the South promenade to include Sustainable Urban Drainage Systems (SUDS).

·         Plans were underway to fit barrier baskets at the top of Great Darkgate Street.

·         The importance and value of cooperating with local experts who can give knowledge and alternative suggestions.

·         The importance of promoting the Council’s work.

 

The Clerk would write summary notes of the meeting and circulate.

 

Cylchrhedeg nodiadau

Circulate notes

9 Nadolig 2024

 

ARGYMHELLWYD gosod goleuadau ychwanegol ar hyd Y Porth Bach, Heol y Wig a’r Stryd Newydd eleni. Costau i’w trafod gan y Pwyllgor Cyllid.

 

Ychwanegiadau pellach ar gyfer blynyddoedd dilynol i’w trafod fel rhan o ystyriaethau cyllidebol.

 

Gadawodd Gerald Morgan y cyfarfod.

Christmas 2024

 

It was RECOMMENDED to install additional lights along Eastgate, Pier Street and New Street this year. Costs to be discussed by Finance Committee.

 

Further additions for subsequent years to be discussed as part of budget considerations.

 

Gerald Morgan left the meeting.

 

Agenda Cyllid

Finance Agenda

10 Ymgynghoriad codi tâl am barcio ar y promenâd yn Aberystwyth

 

Ni chymerodd Cyng Alun Williams ran yn y trafodaethau.

 

Gyda pwer dirprwyedig i ymateb a roddwyd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 7.10.2024, PENDERFYNWYD ymateb i’r ymgynghoriad gan godi’r pwyntiau a ganlyn:

1.    Cefnogi mewn egwyddor lleihau amseroedd parcio ar y promenâd yn unig, er mwyn cynyddu trosiant traffig. Byddai hyn ar yr amod bod ystyriaeth yn cael ei roi i barcio ar gyfer trigolion a busnesau, nad yw’n effeithio’n negyddol arnynt.

2.    Gwrthwynebu codi unrhyw tâl.

3.    Gofyn i drwyddedau parcio ar draws Aberystwyth gael eu harchwilio ar gyfer trigolion a busnesau, yn enwedig ar gyfer ardaloedd dan bwysau megis o gwmpas Ysbyty Bronglais.

 

Pleidleisiwyd ar bob un o’r pwyntiau uchod yn unigol, a chynhaliwyd pleidlais wedi’i chofnodi ar bwynt 2.

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid y cynnig bod y Cyngor yn erbyn codi tâl:

·         Cyng. Mair Benjamin

·         Cyng. Talat Chaudhri

·         Cyng. Emlyn Jones

·         Cyng. Gwion Jones

·         Cyng. Maldwyn Pryse

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn yn erbyn y cynnig bod y Cyngor yn erbyn codi tâl:

·         Cyng. Kerry Ferguson

·         Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

 

Ataliodd yr aelodau canlynol eu pleidlais:

·         Cyng. Lucy Huws

·         Cyng. Jeff Smith

·         Cyng. Alun Williams

 

Nodwyd ymhellach pe byddai’r cynigion hyn yn cael eu gweithredu er gwaethaf gwrthwynebiadau, bod yr amseroedd a gynigir yn rhy hir ac angen eu diwygio. Byddai angen adolygu parcio ar gyfer beiciau modur hefyd, fel eu bod yn cael eu trin yr un fath ag unrhyw gerbyd arall. Pe bai tâl yn cael ei godi, yna dylai’r Cyngor Tref dderbyn 10% o’r refeniw a gynhyrchir, fel sy’n gyffredin mewn siroedd eraill.

 

Aberystwyth promenade parking charges consultation

 

Cllr. Alun Williams did not participate in discussions.

 

With delegated power to respond given by the Full Council meeting on 7.10.2024, it was RESOLVED to respond to the consultation raising the following points:

1.    To support in principle the reduction of parking times on the promenade only, to increase traffic turnover. This would be on the condition that consideration is given to parking for residents and businesses, that does not negatively impact them.

2.    To oppose any charges.

3.    To request that parking permits across Aberystwyth be investigated for residents and businesses, especially for areas under pressure such as around Bronglais Hospital.

 

Each of the above points was voted on individually, and a recorded vote was held on point 2.

 

The following members voted for the motion that the Council is against charges:

·         Cllr. Mair Benjamin

·         Cllr. Talat Chaudhri

·         Cllr. Emlyn Jones

·         Cllr. Gwion Jones

·         Cllr. Maldwyn Pryse

 

The following members voted against the motion that the Council is against charges:

·         Cllr. Kerry Ferguson

·         Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

 

The following members abstained from voting:

·         Cllr. Lucy Huws

·         Cllr. Jeff Smith

·         Cllr. Alun Williams

 

It was further noted that if these proposal were to be implemented despite objections, the times proposed were too long and need to be amended. Parking for motorcycles would also need to be reviewed, such that they are treated the same as any other vehicle. If charges were to be implemented, then the Town Council should receive 10% of the revenue generated, as is common in other counties.

 

Ymateb

Respond

  PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tan 21:45. It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting to 21:45.  
11 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Ymchwiliad i rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned

 

Gyda pwer dirprwyedig i ymateb a roddwyd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 7.10.2024, PENDERFYNWYD ymateb i’r ymgynghoriad gan godi’r pwyntiau a ganlyn:

·         Bod Cynghorau Tref a Chymuned yn cymryd mwy o rôl yn gyson, o ystyried y pwysau ariannol ar Gynghorau Sir.

·         Mae Cynghorau Tref a Chymuned yn lefel gost-effeithiol o lywodraeth, yn aml yn gallu darparu gwasanaethau’n fwy effeithiol ac am lai o gost nag awdurdodau eraill.

·         Dylid mynd ati i ddatganoli, gan roi mwy o bwerau i Gynghorau Tref a Chymuned.

·         Byddai datganoli pwerau i Gynghorau Tref a Chymuned yn fuddiol, ond byddai angen datganoli cyllid er mwyn bod yn effeithiol.

 

Roedd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands wedi paratoi ymateb drafft, a fyddai’n cael ei ddiwygio yn unol â’r uchod.

 

Gadawodd y Cyng. Kerry Ferguson a Gwion Jones y cyfarfod.

Welsh Government consultation: Inquiry into the role, governance and accountability of the community and town council sector

 

With delegated power to respond given by the Full Council meeting on 7.10.2024, it was RESOLVED to respond to the consultation raising the following points:

·         That Town and Community Councils were consistently taking a greater role, given financial pressures on County Councils.

·         Town and Community Councils are a cost effective level of government, often able to provide services more effectively and at less cost than other authorities.

·         Decentralisation should be pursued, with greater powers given to Town and Community Councils.

·         Devolution of powers to Town and Community Council would be beneficial, but would require devolution of funds in order to be effective.

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands had prepared a draft response, which would be amended accordingly.

 

Cllrs. Kerry Ferguson and Gwion Jones left the meeting.

 

Ymateb

Respond

12 Gofal cymdeithasol

 

Nodwyd bod yna argyfwng yn y sector yng Ngheredigion ac yn genedlaethol. Byddai cynrychiolwyr o fwrdd iechyd Hywel Dda a Chyngor Sir Ceredigion yn cael eu gwahodd i gyflwyno ar y mater.

 

Dylai’r rhai sydd â diddordeb yn y mater anfon unrhyw gwestiynau at y Clerc, fel y gellir eu hanfon ymlaen at y cynrychiolwyr perthnasol.

Social care

 

It was noted that there was a crisis in the sector in Ceredigion and nationally. Representatives from Hywel Dda health board and Ceredigion County Council would be invited to present on the matter.

 

Those interested in the matter should send any questions to the Clerk, so that they could be forwarded to the relevant representatives.

 

Gwahodd

Invite

13 Gohebiaeth Correspondence

 

 
13.1 Cwympiadau creigiau: Pryderon trigolion am rannau o bromenâd y De a Phen yr Angor lle’r oedd perygl i greigiau ddisgyn ar y ffordd. I’w drafod gan y Cyngor Llawn. Rock falls: Resident’s concerns about sections of the South promenade and Pen yr Angor where there was danger of rocks falling onto the road. To be discussed by Full Council. Agenda Cyngor Llawn

Full Council Agenda

13.2 Rali Ceredigion: Pryderon trigolion ynghylch y Rali yn cau mynediad i draeth y De a phryderon ecolegol am effaith amgylcheddol y rali. Ymateb gan egluro nad oes gan y Cyngor Tref unrhyw ran yn y gwaith o drefnu’r Rali. Rali Ceredigion: Resident’s concerns over the Rali closing access to South beach and ecological concerns over the rali’s environmental impact. To respond explaining that the Town Council has no involvement in organising the Rali. Ymateb

Respond

13.3 Radio Bronglais: Ymweliad â’u stiwdios ddydd Mawrth 15 Hydref am 18:00. Radio Bronglais: Visit to their studios on Tuesday 15 October at 18:00.  
13.4 Hen Goleg: Taith o amgylch yr Hen Goleg dydd Mercher 16 Hydref am 16:30. Old College: Tour of the Old College on Wednesday 16 October at 16:30.  

 

Agenda:

                Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

Ty’r Offeiriad / The Presbytery

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr / Queen’s Road

Aberystwyth

SY23 2HS

 

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse

9.10.2024

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol y gynhelir o bell ac yn Tŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, ar Nos Lun, 14.10.2024 am 18:30.

 

You are invited to a hybrid meeting of the General Management Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, on Monday 14.10.2024 at 18:30.

 

AGENDA

 

1 Presennol Present
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies and absences
3 Datganiadau diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau personol Personal references
5 Llysgennad heddwch Peace ambassador
6 Cyflwyniad gan yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Presentation from Prof. Jon Timmis, Vice Chancellor of Aberystwyth University
7 Adborth gweithgor Neuadd Gwenfrewi Neuadd Gwenfrewi working group feedback
8 Adborth gweithgor blodau Flowers working group feedback
9 Nadolig 2024 Christmas 2024
10 Ymgynghoriad codi tâl am barcio ar y promenâd yn Aberystwyth Aberystwyth promenade parking charges consultation
11 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Ymchwiliad i rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned Welsh Government consultation: Inquiry into the role, governance and accountability of the community and town council sector
12 Gofal cymdeithasol Social care
13 Gohebiaeth Correspondence

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely

 

 

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

 

Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details