Planning - 01-07-2024
7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty
Minutes of the Planning Committee meeting held remotely and at the Council Chambers, 11 Baker Street
1.7.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Emlyn Jones Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Bryony Davies Cyng. Lucy Huws Cyng. Mair Benjamin
Yn mynychu: Cyng. Alun Williams Will Rowlands (Clerc) Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Emlyn Jones Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Bryony Davies Cllr. Lucy Huws Cllr. Mair Benjamin
In attendance: Cllr. Alun Williams Will Rowlands (Clerk) Carol Thomas (Translator)
|
|
2 | Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Dim
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Owain Hughes
|
Apologies and Absences:
Absent with apologies: None
Absent without apologies: Cllr. Owain Hughes
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
6.5: Mae’r Cyng. Jeff Smith yn cael ei gyflogi gan y Llyfrgell Genedlaethol.
|
Declaration of interest:
6.5: Cllr. Jeff Smith is employed by the National Library |
|
4 | Cyfeiriadau Personol:
· Diolchwyd i’r Cyng. Talat Chaudhri, Maldwyn Pryse a Jeff Smith am fynychu’r ŵyl David Ivon Jones. · Byddai gwesteion gefeillio o Kronberg yn ymweld ag Aberystwyth dros benwythnos 5ed i 8fed Gorffennaf. Gwahoddwyd cynghorwyr i bryd gyda’r nos gyda gwesteion ar ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf 2024. |
Personal references:
· Thanks were extended to Cllrs. Talat Chaudhri, Maldwyn Pryse and Jeff Smith for attending the David Ivon Jones festival. · Twinning guests from Kronberg would be visiting Aberystwyth over the weekend 5th to 8th July. Councillors were invited to an evening meal with guests on Saturday 6 July 2024.
|
|
5 | Ceisiadau Cynllunio
|
Planning Applications
|
|
5.1 | A240413: Y Cambria, Glan y Môr
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref sy’n croesawu cadw asedau hanesyddol, fel y llefydd tân, ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu ail-ddefnyddio yn yr adeilad. Nodwn fod gan yr adeilad hefyd doiledau oes Fictoria hanesyddol, y dylid eu cadw hefyd os ydynt yn dal yn bresennol. Dylid cofnodi unrhyw nodweddion gwreiddiol (gyda ffotograffau) i sicrhau eu bod yn cael eu cadw.
|
A240413: The Cambria, Glan y Môr
The Town Council has NO OBJECTION and welcomes the retention of historic assets, such as the fireplaces, and looks forward to seeing them re-used in the building. We note that the building also had historic Victorian-era toilets, which should also be retained if still present. Any original features should be recorded (with photos) to ensure they are retained.
|
Ymateb
Respond |
5.2 | A240414: Y Cambria, Glan y Môr
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref sy’n croesawu cadw asedau hanesyddol, fel y llefydd tân, ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu ail-ddefnyddio yn yr adeilad. Nodwn fod gan yr adeilad hefyd doiledau oes Fictoria hanesyddol, y dylid eu cadw hefyd os ydynt yn dal yn bresennol. Dylid cofnodi unrhyw nodweddion gwreiddiol (gyda ffotograffau) i sicrhau eu bod yn cael eu cadw.
|
A240414: The Cambria, Glan y Môr
The Town Council has NO OBJECTION and welcomes the retention of historic assets, such as the fireplaces, and looks forward to seeing them re-used in the building. We note that the building also had historic Victorian-era toilets, which should also be retained if still present. Any original features should be recorded (with photos) to ensure they are retained.
|
Ymateb
Respond |
5.3 | A240424: Ysbyty Bronglais
Mae’r Cyngor Tref yn CEFNOGI’r cais hwn, er yn dymuno gweld mwy o sicrwydd tymor hir. Rydym yn croesawu’r buddsoddiad parhaus yn Ysbyty Bronglais, sy’n hynod bwysig i’r gymuned leol. |
A240424: Bronglais Hospital
The Town Council SUPPORTS this application, although would like to see more long-term security. We welcome the continued investment into Bronglais Hospital, which is incredibly important to the local community.
|
Ymateb
Respond |
6 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
6.1 | Datblygiad tai newydd: Roedd datblygwyr wedi derbyn yr enw awgrymwyd gan y Cyngor Tref, Maes Gwenallt | New housing development: Developers had accepted the Town Council’s suggested name of Maes Gwenallt.
|
|
6.2 | Cerflun Americanaidd Brodorol Ffordd y Môr: Cwyn gan breswylydd am gerflun sarhaus o Americanwr Brodorol ar Ffordd y Môr. Cyng. Dylan Lewis-Rowlands i gysylltu i drafod. | Native American statue Terrace Road: Complaint from a resident about an offensive statue of a Native American on Terrace Road. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands to contact to discuss.
|
|
6.3 | Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 2025: Cais am gefnogaeth ariannol. I’w drafod gan y Pwyllgor Cyllid. | Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 2025: Request for funding support. To be discussed by Finance Committee. | Agenda Cyllid
Finance Agenda |
6.4 | Grant Canolfan Cymunedol Penparcau: Cais i newid defnydd o grant cymunedol y Cyngor Tref. I’w drafod gan y Pwyllgor Cyllid. | Penparcau Community Forum Grant: Request to change use of Town Council community grant. To be discussed by Finance Committee.
|
Agenda Cyllid
Finance Agenda |
6.5 | Maes parcio’r Llyfrgell Genedlaethol: Roedd mannau parcio wedi’u labelu’n ‘EV Charging’ yn Saesneg yn unig, er bod y cynlluniau gwreiddiol yn ddwyieithog. Clerc i ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion, CADW a’r Llyfrgell Genedlaethol. | National Library car park: Car parking bays had been labelled ‘EV Charging’ in English only, despite original plans being bilingual. Clerk to write to Ceredigion County Council, CADW and the National Library. |
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street Aberystwyth SY23 2BJ |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
26.6.2024
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i fynychu gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, nos Lun, 1.7.2024 am 7:00pm
You are invited to attend a hybrid meeting of the Planning Committee to be held remotely and in the Council Chamber, 11 Baker Street, at 7:00pm on Monday 1.7.2024
AGENDA
14 | Yn bresennol | Present |
15 | Ymddiheuriadau | Apologies |
16 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
17 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
18 | Ystyried Ceisiadau Cynllunio | To consider Planning Applications |
18.1 | A240413: Y Cambria, Glan y Môr | A240413: The Cambria, Glan y Môr |
18.2 | A240414: Y Cambria, Glan y Môr | A240414: The Cambria, Glan y Môr |
18.3 | A240424: Ysbyty Bronglais | A240424: Bronglais Hospital |
19 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details