Planning - 13-05-2024
7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion Pwyllgor Cynllunio (Hybrid)
Minutes of the Planning Committee (Hybrid)
13.5.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Lucy Huws Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Kerry Ferguson (cofnodion)
Yn mynychu: Cyng. Emlyn Jones Cyng. Alun Williams Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Lucy Huws Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Kerry Ferguson (minutes)
In attendance: Cllr. Emlyn Jones Cllr. Alun Williams Carol Thomas (Translator)
|
|
2 | Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Mair Benjamin Cyng. Mathew Norman Cyng. Mark Strong Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Owain Hughes Cyng. Bryony Davies
Yn absennol heb ymddiheuriadau:
Dim
|
Apologies and Absences:
Absent with apologies: Cllr. Mair Benjamin Cllr. Mathew Norman Cllr. Mark Strong Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Owain Hughes Cllr. Bryony Davies
Absent without apologies:
None
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
6. Gorchymyn Cadw Coed Cyngor Sir Ceredigion 2024 Rhif 6: 9 o goed yn Llwyn Afallon: Mae’r Cyng. Alun Williams yn byw yn yr ardal yr effeithiwyd arni |
Declaration of interest:
6. Ceredigion County Council Tree Preservation Order 2024 Number 6: 9 trees in Llwyn Afallon: Cllr. Alun Williams is a resident of the area affected.
|
|
4 | Cyfeiriadau Personol:
· Diolchwyd i Gyngor Sir Ceredigion am chwifio Baner Ewrop i ddathlu Diwrnod Ewrop. · Dymunwyd yn dda i’r Cyng. Mathew Norman, oedd yn yr ysbyty. Byddai cerdyn yn cael ei anfon. · Nodwyd, yn siomedig, fod Toni Schiavone wedi colli ei apêl yn erbyn One Parking Solutions. Awgrymwyd bod y Cyngor Tref yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn mynegi ei siom; i’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. |
Personal references:
· Thanks were extended to Ceredigion County Council for flying the European Flag to celebrate Europe Day. · Best wishes were extended to Cllr. Mathew Norman, who was in hospital. A card would be sent. · It was noted, disappointingly, that Toni Schiavone had lost his appeal against One Parking Solutions. It was suggested that the Town Council write to the Welsh Government expressing its disappointment; to be discussed by General Management Committee.
|
Anfon cerdyn Send card
Agenda RhC GM Agenda |
5 | Ceisiadau Cynllunio
|
Planning Applications
|
|
5.1 | A240208: Barclays, 26 Ffordd y Môr
DIM GWRTHWYNEBIAD gan Gyngor Tref Aberystwyth i’r cais cynllunio hwn. |
A240208: Barclays, 26 Ffordd y Môr
Aberystwyth Town Council has NO OBJECTION to this planning application.
|
Ymateb
Respond |
5.2 | A240208: Barclays, 26 Ffordd y Môr
DIM GWRTHWYNEBIAD gan Gyngor Tref Aberystwyth i’r cais cynllunio hwn. |
A240208: Barclays, 26 Ffordd y Môr
Aberystwyth Town Council has NO OBJECTION to this planning application.
|
Ymateb
Respond |
5.3 | A240279: 67 Rhodfa’r Gogledd
Mae Cyngor Tref Aberystwyth YN GWRTHWYNEBU’r cais cynllunio hwn oherwydd diffyg gwybodaeth ynglŷn â deunyddiau ar gyfer yr estyniad er ei fod mewn ardal cadwraeth.
Rydym hefyd yn nodi: · Pryder ynghylch gorddatblygu a cholli mannau awyr agored · Croesewir gwelliannau i fannau byw fel mantais i les tenantiaid · Dylid gosod safle storio gwastraff a beiciau yng nghefn yr eiddo
Awgrymwyd cysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i drafod trwyddedu tai amlfeddiannaeth yn gyffredinol; i’w drafod yn y cyfarfod nesaf. |
A240279: 67 Rhodfa’r Gogledd
Aberystwyth Town Council OBJECTS to this planning application due to the lack of information regarding materials for the extension, despite being in a conservation area.
We also note: · Concern about over development and loss of outdoor space · Improvement to living spaces is welcomed as a benefit to tenant wellbeing · Allocation should be made for waste and bicycle storage to the rear of the property
It was suggested to contact Ceredigion County Council to discuss HMO licencing generally; to be discussed at next meeting.
|
Ymateb
Respond
Agenda Cynllunio Planning Agenda |
5.4 | A240280: Specsavers, 30 Y Stryd Fawr
DIM GWRTHWYNEBIAD gan Gyngor Tref Aberystwyth i’r cais cynllunio hwn. |
A240280: Specsavers, 30 Y Stryd Fawr
Aberystwyth Town Council has NO OBJECTION to this planning application.
|
Ymateb
Respond |
5.5 | A240281: Specsavers, 30 Y Stryd Fawr
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn GWRTHWYNEBU’N GRYF i’r cais hwn, oherwydd y defnydd o sloganau/disgrifiadau uniaith Saesneg. Dylai pob slogan/disgrifiad fod yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), gyda blaenoriaeth i’r Iaith Gymraeg (h.y. uchod neu i’r chwith). Mae defnyddio uniaith Saesneg yn groes i’r canllawiau cynllunio atodol ychwanegol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer blaenau siopau yn Aberystwyth a Cheredigion.
Rydym hefyd yn GWRTHWYNEBU oherwydd diffyg gwybodaeth am oleuo mewnol yr arwydd. Ni ddylai arwyddion gael eu goleuo’n fewnol mewn ardaloedd cadwraeth. |
A240281: Specsavers, 30 Y Stryd Fawr
Aberystwyth Town Council STRONGLY OBJECTS to this application, due to the use of English only slogans/descriptions. All slogans/descriptions should be bilingual (Welsh & English), with priority given to the Welsh Language (i.e. above or to the left). The use of single language English is contrary to Ceredigion County Council’s additional supplementary planning guidance for shop fronts in Aberystwyth & Ceredigion.
We also OBJECT due to the lack of information on internal illumination of the sign. Signs should not be internally illuminated in conservation areas.
|
Ymateb
Respond |
5.6 | A240235: NatWest, 2-4 Rhodfa’r Gogledd
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn CEFNOGI’N GRYF y cais hwn, a hoffai ganmol NatWest ar adferiad cydymdeimladol i adeilad rhestredig pwysig mewn ardal gadwraeth.
Byddem yn gobeithio y bydd y deunyddiau a ddefnyddir yn dod o Gymru. |
A240235: NatWest, 2-4 Rhodfa’r Gogledd
Aberystwyth Town Council STRONGLY SUPPORTS this application, and would like to praise NatWest on the sympathetic restoration of an important listed building in a conservation area.
We would hope that materials used are sourced in Wales.
|
Ymateb
Respond |
5.7 | A240298: Clwb Cymdeithas y Llynges Frenhinol, 3 Stryd y Farchnad
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn GWRTHWYNEBU’r cais hwn oherwydd diffyg gwybodaeth am ddimensiynau pob fflat, gyda phryder arbennig bod Fflat 3 yn rhy fach, ac oherwydd diffyg trefniadau ar gyfer storio gwastraff a beiciau.
Pan dynnir paneli pren oddi ar y waliau, dylid cadw unrhyw nodweddion gwreiddiol yr adeilad rhestredig.
Dylid gosod amod i atal fflatiau rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau neu ail gartrefi.
Rydym yn croesawu dod â’r eiddo yn ôl yn fyw, a bob amser yn croesawu llety o safon yn cael ei ddarparu i drigolion Aberystwyth. |
A240298: Royal Naval Association Club, 3 Stryd y Farchnad
Aberystwyth Town Council OBJECTS to this application due to lack of information on dimensions for each flat, with particular concern that Flat 3 is too small, and due to the lack of arrangements for storage of waste and bicycles.
When wood panelling is removed from the walls, any original features of the listed building should be retained.
A condition should be placed to prevent flats being used as holiday accommodation or second homes.
We welcome the property being brought back to life, and always welcome quality accommodation being provided to residents in Aberystwyth.
|
Ymateb
Respond |
5.8 | A240299: Clwb Cymdeithas y Llynges Frenhinol, 3 Stryd y Farchnad
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn GWRTHWYNEBU’r cais hwn oherwydd diffyg gwybodaeth am ddimensiynau pob fflat, gyda phryder arbennig bod Fflat 3 yn rhy fach, ac oherwydd diffyg trefniadau ar gyfer storio gwastraff a beiciau.
Pan dynnir paneli pren oddi ar y waliau, dylid cadw unrhyw nodweddion gwreiddiol yr adeilad rhestredig.
Dylid gosod amod i atal fflatiau rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau neu ail gartrefi.
Rydym yn croesawu dod â’r eiddo yn ôl yn fyw, a bob amser yn croesawu llety o safon yn cael ei ddarparu i drigolion Aberystwyth. |
A240299: Royal Naval Association Club, 3 Stryd y Farchnad
Aberystwyth Town Council OBJECTS to this application due to lack of information on dimensions for each flat, with particular concern that Flat 3 is too small, and due to the lack of arrangements for the storage of waste and bicycles.
When wood panelling is removed from the walls, any original features of the listed building should be retained.
A condition should be placed to prevent flats being used as holiday accommodation or second homes.
We welcome the property being brought back to life, and always welcome quality accommodation being provided to residents in Aberystwyth.
|
Ymateb
Respond |
5.9 | A240312: Pencae, Ffordd Llanbadarn
Nid yw pryderon gwreiddiol Cyngor Tref Aberystwyth wedi’u bodloni ac mae ein safbwynt yr un fath â’r ddau gais blaenorol (A230673 ac A240062). Rydym yn GWRTHWYNEBU ar y sail ganlynol: · Mae’n cynrychioli gor-estyniad. · Byddai’n arwain at golli mannau gwyrdd. · Byddai’n amharu ar olygfa’r tai arddull traddodiadol gerllaw.
Hoffem ofyn i Gyngor Sir Ceredigion archwilio cyflwr y goeden llwyfen. |
A240213: Pencae, Ffordd Llanbadarn
Aberystwyth Town Council’s original concerns have not been met and our position remains the same as with the previous two applications (A230673 & A240062). We OBJECT on the following basis: · It represents over-extension · It would result in a loss of green space. · It would impair the view of the traditional style houses nearby.
We would like to request that Ceredigion County Council inspect the condition of the elm tree.
|
Ymateb
Respond |
6 | Gorchymyn Cadw Coed Cyngor Sir Ceredigion 2024 Rhif 6: 9 o goed yn Llwyn Afallon
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn CEFNOGI’N GRYF y Gorchymyn Cadw Coed hwn, ac yn nodi bod coed stryd yn cael effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd, bywyd gwyllt, iechyd meddwl a lles ac atal llifogydd. |
Ceredigion County Council Tree Preservation Order 2024 Number 6: 9 trees in Llwyn Afallon
Aberystwyth Town Council STRONGLY SUPPORTS this Tree Preservation Order, and notes that street trees have positive effects on the environment, wildlife, mental health & wellbeing and flood prevention.
|
Ymateb
Respond |
7 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
Pwyllgor Moeseg a Safonau Cyngor Sir Ceredigion: Roedd lle gwag o hyd ar gyfer aelod o gynghorau Tref a Chymuned; roedd y dyddiad cau wedi’i ymestyn i 31 Mai 2024. | Ceredigion County Council Ethics & Standards Committee: There was still a vacancy for a Town & Community council member; the deadline had been extended to 31 May 2024.
|
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street Aberystwyth SY23 2BJ |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Kerry Ferguson
8.5.2024
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Siambr y Cyngor nos Lun, 13.5.2024 am 7:00pm
You are invited to a hybrid meeting of the Planning Committee meeting to be held remotely and in the Council Chamber at 7:00pm on Monday 13.5.2024
AGENDA
1 | Yn bresennol | Present |
2 | Ymddiheuriadau | Apologies |
3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
5 | Ystyried Ceisiadau Cynllunio | To consider Planning Applications |
5.1 | A240208: Barclays, 26 Ffordd y Môr | A240208: Barclays, 26 Ffordd y Môr |
5.2 | A240209: Barclays, 26 Ffordd y Môr | A240209: Barclays, 26 Ffordd y Môr |
5.3 | A240279: 67 Rhoddfa’r Gogledd | A240279: 67 Rhoddfa’r Gogledd |
5.4 | A240280: Specsavers, 30 Y Stryd Fawr | A240280: Specsavers, 30 Y Stryd Fawr |
5.5 | A240281: Specsavers, 30 Y Stryd Fawr | A240281: Specsavers, 30 Y Stryd Fawr |
5.6 | A240235: NatWest, 2-4 Rhoddfa’r Gogledd | A240235: NatWest, 2-4 Rhoddfa’r Gogledd |
5.7 | A240298: Clwb Cymdeithas y Llynges Frenhinol, 3 Stryd y Farchnad | A240298: Royal Naval Association Club, 3 Stryd y Farchnad |
5.8 | A240299: Clwb Cymdeithas y Llynges Frenhinol, 3 Stryd y Farchnad | A240299: Royal Naval Association Club, 3 Stryd y Farchnad |
5.9 | A240312: Pencae, Ffordd Llanbadarn | A240312: Pencae, Ffordd Llanbadarn |
6 | Gorchymyn Cadw Coed Cyngor Sir Ceredigion 2024 Rhif 6: 9 o goed yn Llwyn Afallon | Ceredigion County Council Tree Preservation Order 2024 Number 6: 9 trees in Elysian Grove |
7 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details