Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion Pwyllgor Cynllunio (Hybrid)
Minutes of the Planning Committee (Hybrid)
- 1.2023
COFNODION / MINUTES
|
1 |
Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd)
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Dylan Lewis-Rowlands
Cyng. Mathew Norman
Cyng. Kerry Ferguson
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Sienna Lewis
Yn mynychu:
- Alun Williams
- Connor Edwards
- Emlyn Jones
- Maldwyn Pryse
- Brian Davies
- Carl Worrall
- Steve Davies
- Gweneira Raw-Rees (Clerc)
- Steve Williams (Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau)
- Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau)
|
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair)
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands
Cllr. Mathew Norman
Cllr. Kerry Ferguson
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Sienna Lewis
In attendance:
- Alun Williams
- Connor Edwards
- Emlyn Jones
- Maldwyn Pryse
- Cllr Brian Davies
- Carl Worrall
- Steve Davies
- Gweneira Raw-Rees (Clerk)
- Steve Williams (Facilities & Assets Manager)
- Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer)
|
|
2 |
Ymddiheuriadau:
Cyng. Bryony Davies
|
Apologies:
Cllr. Bryony Davies
|
|
3 |
Datgan Diddordeb:
- 5. Roedd y Cyng Dylan Lewis-Rowlands yn adnabod rheolwr y Ceffyl Gwyn yn bersonol
- 6. Roedd y Cyng Talat Chaudhri yn aelod o Gomisiwn Cymunedau Cymraeg
|
Declaration of interest:
- 5. Cllr Dylan Lewis-Rowlands knew the manager of the White Horse personally
- 6. Cllr Talat Chaudhri was a member of the Welsh Communities Commission
|
|
4 |
Cyfeiriadau Personol:
Dymunwyd penblwydd hapus i’r Clerc yn 65 oed |
Personal references:
The Clerk was wished a happy 65th birthday.
|
|
5 |
Ceisiadau Cynllunio
|
Planning Applications
|
|
|
A220899 Y Ceffyl Gwyn
Gadawodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands y Siambr
Mae’r ymateb blaenorol dal yn berthnasol:
Mae’r Cyngor Tref YN GWRTHWYNEBU’r arwyddion sydd wedi’u goleuo’n fewnol ac arwyddion uniaith Saesneg (Tŷ Traddodiadol Rhydd) – gofynnion sydd wedi cael eu nodi yng Nghanllawiau Atodol Aberystwyth. Hoffai’r Cyngor ofyn yn garedig i’r perchnogion ystyried defnyddio’r enw Cymraeg hefyd hy Y Ceffyl Gwyn. Byddai hyn yn cynrychioli cam busnes da o ran denu pobl lleol.
|
A220899 White Horse
Cllr Dylan Lewis-Rowlands left the Chamber
The previous response still applies:
The Town Council OBJECTS to the internally illuminated and English only signage (Traditional Free House) both of which are noted in the Aberystwyth Supplementary Guidance. The Council would also like to kindly request that the owners also consider using the Welsh name ie Y Ceffyl Gwyn. This would represent a good business move in attracting local customers.
|
|
6 |
Ymgynghoriad: Comisiwn Cymunedau Cymraeg
Roedd y Cyng Jeff Smith wedi paratoi ymateb llawn. Yn ystod craffu manwl a thrafodaethau, nodwyd ychwanegiadau a diwygiadau amrywiol.
- C3: mwy o gynllunio a thargedau hirdymor ar gyfer y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
- C5: arwyddion dwyieithog i’w gwneud yn orfodol. Dylid sicrhau bod grant ar gael.
- C6: angen canolfannau trochi. Byddai gwersi Cymraeg am ddim yn help yn arbennig i bobl ifanc broffesiynol. Mae’r cap tair Lefel A mewn ysgolion uwchradd lleol yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd myfyrwyr yn dewis Cymraeg ar gyfer Lefel A. Dylid cynnig cymhellion i astudio’r Gymraeg ee amlygu cyfleoedd yn y gweithle.
- C7: Enwau ffermydd Cymraeg i’w gwarchod
- C8: dylai’r farchnad rentu ddiogelu cartrefi pobl leol gydag adolygiad o’r system pwyntiau cofrestr tai. Mae cyfnewid tai cymdeithasol yn tanseilio darpariaeth deg i bobl leol. Byddai cap rhent yn helpu i atal tai anfforddiadwy. Mae llety ‘Air B+B’ wedi’u gwahardd ym Mhrâg a Barcelona.
- C9: mwy o bŵer gwneud penderfyniadau i gymunedau lleol.
- C10: Rhaid diwygio ardrethi busnes gan eu bod yn lladd busnesau bach mewn lle fel Aberystwyth lle mae nifer yr ymwelwyr yn gymharol isel. Mae’r cyfraddau’n ddrytach yma nag yng Nghaerdydd lle mae nifer yr ymwelwyr yn llawer uwch. Dylid capio rhenti busnes hefyd.
- C12: mae angen mwy o strategaethau i gynyddu defnydd o fysiau yn hytrach na therfynu gwasanaethau a danddefnyddir. Mae angen buddsoddiad. Gan nad yw gwasanaethau bws yn statudol, maent yn agored i doriadau ariannol.
- C15: cryfhau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- C18: mae data’r cyfrifiad yn dangos bod gan Aberystwyth y boblogaeth uchaf o bobl LHDT yng Nghymru
Diolchwyd i’r Cyng. Jeff Smith am ei waith.
|
Consultation: Welsh Communities Commission
Cllr Jeff Smith had prepared a full response. During detailed scrutiny and discussions, various additions and amendments were noted.
- Q3: more long-term planning and targets for the Public Service Boards
- Q5: bilingual signage to be made compulsory. A grant should be made available.
- Q6: immersion centres needed. Free Welsh lessons would help especially for young professionals. The three A Level cap in local secondary schools reduces the likelihood of students choosing Welsh for A Level. Incentives to study Welsh should be offered eg highlighting workplace opportunities.
- Q7: Welsh farm names to be protected
- Q8: the rental market should safeguard homes for local people with a review of the housing register points system. Social housing swops undermine fair provision for local people. A rent cap would help prevent unaffordable housing. Air B+Bs have been banned in Prague and Barcelona.
- Q9: more decision-making power to local communities.
- Q10: Business rates must be reformed as they are killing small businesses in a place like Aberystwyth where footfall is relatively low. The rates are more expensive here than in Cardiff where footfall is far greater. Business rents should also be capped.
- Q12: more strategies are needed to increase usage of buses as opposed to termination of under used services. Investment is required. As bus services are not statutory, they are vulnerable to financial cuts.
- Q15: strengthen the Future Generations Wellbeing Act.
- Q18: census data demonstrates that Aberystwyth has the highest population of LGBT people in Wales
Cllr Jeff Smith was thanked for his work
|
|
7 |
Gohebiaeth:
Gwahoddwyd Cadeirydd y Clwb Pêl-droed i’r cyfarfod nesaf |
Correspondence:
The Chairman of the Football Club had been invited to the next meeting
|
Eitem agenda
Agenda item |