Planning - 06-02-2023

7:00 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion Pwyllgor Cynllunio (Hybrid)

Minutes of the Planning Committee (Hybrid)

 

  1. 2.2023

 

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1 Yn bresennol:

 

Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd)

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Mathew Norman

 

 

Yn mynychu:

 

Donald Kane, Cadeirydd CP Aberystwyth

Cyng. Alun Williams

Cyng. Mark Strong

Cyng. Connor Edwards

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

 

Present:

 

Cllr. Jeff Smith (Chair)

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Mathew Norman

 

 

In attendance:

 

Donald Kane Chairman of Aberystwyth FC

Cllr. Alun Williams

Cllr. Mark Strong

Cllr. Connor Edwards

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 
2 Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Sienna Lewis

Cyng. Kerry Ferguson

 

Apologies:

 

Cllr. Sienna Lewis

Cllr. Kerry Ferguson

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

Dim

Declaration of interest:

 

None

 

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

Dim

Personal references:

 

None

 

 
5 Ceisiadau Cynllunio

 

Planning Applications

 

 
5.1 A220777: Clwb Pêl Droed Aberystwyth

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr ynghylch y cynllun cyffredinol ar gyfer y Clwb Pêl-droed, rhoddodd Donald Kane, Cadeirydd CPD Aberystwyth drosolwg o’r datblygiadau a oedd yn cynnwys darparu ystafelloedd newid addas, yn enwedig o ystyried y diddordeb gan chwaraewyr benywaidd – mae gan y clwb ar hyn o bryd 180 o ferched yn cymryd rhan.

 

Roedd y cae 4G yn ased enfawr ac wedi cynyddu oriau chwarae i 55 yr wythnos. Roedd timau Ewropeaidd wedi chwarae yn Aberystwyth oherwydd y cae pob tywydd.

 

Esboniodd fod unrhyw ddatblygiad yn amodol ar gyllid gan arwain at ddull cam wrth gam. Y cam cyntaf oedd adeiladu’r ystafelloedd newid (roedd UEFA yn buddsoddi llawer o arian mewn pêl-droed merched) ac yna newid y stadiwm a oedd yn 137 mlwydd oed. Byddai’r cynllun i godi mwy o fflatiau yn ariannu’r stadiwm newydd. Holwyd os fyddai clwb a bar caffi teras cyhoeddus yn edrych dros yr afon yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau ac os y byddai’r fflatiau arfaethedig yn cael eu cynnig ar werth – gan y byddent yn ddelfrydol fel opsiynau i bobl hŷn o ran symud i le llai of faint er enghraifft.

 

Eglurodd Donald Kane fod materion fel newid y llifoleuadau am rai mwy synhwyrol hefyd yn amodol ar gyllid.

 

Y nod yn y pen draw oedd rhedeg clwb pêl-droed llwyddiannus a rhoi Aberystwyth ar y map. Roedd tîm pêl-droed Aberystwyth eisoes yn y gynghrair orau yng Nghymru.

 

Roedd y berthynas gyda’r Brifysgol hefyd yn bwysig i’r clwb.

 

A220777: Aberystwyth Football Club

 

In response to councillor questions regarding the overall plan for the Football Club, Donald Kane the Chairman of Aberystwyth FC provided an overview of developments which included providing suitable changing rooms, especially in view of interest from female players – the club currently has 180 participating girls.

 

The 4G pitch was a huge asset increasing play hours to 55 per week. European teams had played at Aberystwyth due to the all weather pitch.

 

He explained that any development was subject to funding resulting in a step by step approach. The first step was building the changing rooms (UEFA were investing a lot of money in women’s football) and then replacing the stadium which was 137 years old. The plan to build more flats would fund the new stadium. Councillors inquired whether a clubhouse and public terrace cafe bar overlooking the river would be included in the plans and whether the proposed flats would be offered for sale – as they would be ideal as downsizing options for older people.

 

Donald Kane explained that issues such as changing the floodlights for more discreet ones was also subject to funding.

 

The ultimate aim was to run a successful football club and put Aberystwyth on the map. The Aberystwyth football team was already in the best league in Wales.

 

The relationship with the University was also important to the club.

 

 
5.2 Ysgol Gymraeg

 

Mae’r Cyngor Tref yn llwyr gefnogi adeiladu bloc dosbarth newydd a dymchwel yr unedau dros dro presennol, fodd bynnag:

 

  • A allai’r datblygiad newydd gael ei godi’n uwch i greu ardal chwarae awyr agored dan do ar lefel y llawr gwaelod?
  • A allai’r to fod â goleddf mwy serth i leihau problemau mynediad dŵr yn y dyfodol
  • Hoffai’r Cyngor weld 2 goeden frodorol yn cael eu plannu ar gyfer pob coeden a gollir.
Ysgol Gymraeg – Pre planning consultation

 

The Town Council fully support the building of a new classblock and the demolition of the existing temporary units however:

 

  • Could the new development be elevated to create a covered open air play area at ground floor level?
  • Could the roof have a steeper pitch to minimise water ingress problems in the future
  • The Council would like to see 2 native trees planted for each tree lost.