Planning - 07-02-2022

7:00 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion Pwyllgor Cynllunio (O bell)

Minutes of the Planning Committee (Remote)

 

  1. 2.2022

 

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1 Yn bresennol:

 

Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd)

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Alun Williams

Cyng. Sue Jones-Davies

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Mair Benjamin

 

Yn mynychu:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

 

Present:

 

Cllr. Jeff Smith (Chair)

Cllr Lucy Huws

Cllr. Alun Williams

Cllr Sue Jones-Davies

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Mair Benjamin

 

In attendance:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 
2 Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Mari Turner

Cyng. Danny Ardeshir

Cyng. Steve Davies

Cyng. Nia Edwards-Behi

 

Apologies:

 

Cllr. Mari Turner

Cllr. Danny Ardeshir

Cllr. Steve Davies

Cllr. Nia Edwards-Behi

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

Ni fyddai’r Cynghorydd Endaf Edwards yn gwneud sylw ar geisiadau cynllunio yn ward Rheidol.

Declaration of interest:

 

Cllr Endaf Edwards would not be commenting on planning applications in Rheidol ward.

 

 

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

Dim

 

Personal references:

 

None

 

 

 

5 Ceisiadau Cynllunio

 

Planning Applications

 

 
5.1 A211116: Brynmarian 11 Coedlan y Parc

 

Mae’r Cyngor yn GWRTHWYNEBU oherwydd y canlynol:

 

  • Mae’n cynrychioli gorddatblygiad o’r safle a cholli cartref teuluol arall yn Aberystwyth. Mae llawer o fflatiau eraill yn cael eu datblygu yn Aberystwyth a ni ddylid caniatáu mwy na 3 fflat
  • Nid yw ansawdd y fflatiau o ran gofod yn cydymffurfio â nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ddarparu tai o safon. Mae’n cynrychioli gormodedd o lety
  • Diffyg storfa sbwriel
  • Diffyg lle storio beiciau
  • Diffyg parcio – byddai hyd yn oed lefel is o 3 fflat yn dal i greu problemau parcio yn yr ardal hon
A211116: Brynmarian 11 Park Avenue

 

Council OBJECTS because of the following:

 

  • It represents overdevelopment of the site and a loss of another family home in Aberystwyth. Aberystwyth has many other flats being developed and no more than 3 flats should be allowed.
  • The quality of the housing in terms of space does not conform to the Wellbeing and Future Generations goals to provide quality housing. It represents cramming of accommodation
  • Lack of refuse storage
  • Lack of bike storage
  • Lack of parking – even a reduced level of 3 flats would still create parking issues in this area.

 

 

 

Ymateb

Respond

 

5.2 A211129: ‘Gas showroom’ Coedlan y Parc

 

Mae’r Cyngor yn GWRTHWYNEBU arwyddion uniaith Saesneg (ac eithrio’r enw brand). Dylai arwyddion fod yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf neu i’r chwith.

 

Dylid cymryd gofal hefyd i warchod yr hen arwydd gwaith brics wrth osod arwyddion newydd.

 

A211129: Gas Showroom Park Avenue

 

Council OBJECTS to signage in English only (excluding the brand name). Signage should be bilingual with Welsh first or to the left.

 

Also care should be taken to protect the old brickwork sign when erecting new signage.

 

 
5.3 A211141: Yr Hen Lyfrgell

 

DIM GWRTHWYNEBIAD cyn belled a bod tystiolaeth o newidiadau arfaethedig ee gwaith brics allanol sydd angen ei warchod gan y cladin pren arfaethedig.

 

Mae’r Cyngor yn croesawu’r gwaith adfer sy’n gweddu i hen adeilad

 

A211141: The Old Library

 

NO OBJECTION as long as proposed changes are evidenced eg external brickwork needing protection from the proposed wooden cladding

 

Council welcomes the sympathetic restoration

 

 
5.4 A211149: Pets at Home, Uned  D Parc Ystwyth

 

Yn unol â’r Canllawiau Atodol, mae’r Cyngor yn GWRTHWYNEBU:

 

  • arwyddion uniaith Saesneg (ac eithrio’r enw brand). Dylai arwyddion fod yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf neu i’r chwith.

 

  • arwyddion wedi’u goleuo’n fewnol

 

A211149: Pets at Home, Unit D Ystwyth Park

 

In line with the Supplementary Guidance, Council OBJECTS to:

 

  • signage in English only (excluding the brand name). Signage should be bilingual with Welsh first or to the left.

 

  • internally illuminated signage

 

 
6 Ymgynghoriadau: Consultations:  

 

 
6.1 Llywodraeth Cymru: Newid defnydd: creu dosbarthau cynllunio ar gyfer ail dai a llety gwyliau (dyddiad cau: 22 Chwefror 2022).

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Jeff Smith am baratoi ymateb drafft i’w ystyried.

 

Roedd sylwadau pellach i’w ychwanegu yn cynnwys:

 

  • bod ail gartrefi a chartrefi gwyliau hefyd yn effeithio ar bobl hŷn sy’n dymuno symud i gartref llai.
  • Roedd pryderon ynghylch gosodiadau gwyliau’n cael eu defnyddio gan gangiau ar gyfer gweithgarwch llinellau sirol

ARGYMHELLWYD anfon llythyr a chais Rhyddid Gwybodaeth (RhG) at Gomisiynydd yr Heddlu a’r Uwch Swyddog yn Aberystwyth am ystadegau ar weithgarwch yn y dref.

 

Welsh Government: Change of use: creation of planning classifications for second properties and holiday accommodation (closing date: 22 February 2022).

 

Cllr Jeff Smith was thanked for preparing a draft response for consideration.

 

Further comments to be added included:

 

  • that older people wishing to downsize were also affected by second and holiday homes.
  • There were concerns regarding holiday lets being used by gangs for county lines activity

It was RECOMMENDED that a letter and Freedom of Information (FoI) request be sent to the Police Commissioner and Senior Officer at Aberystwyth for statistics on activity in the town

 

Anfon ymateb

Send response

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennu

Write

6.2 Llywodraeth Cymru: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg

 

Roedd y Cyng Jeff Smith wedi mynychu cyfarfod o Bwyllgor Tai’r Senedd ar ran y Cyngor Tref.

 

Roedd rhai o syniadau Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • sefydlu cwmnïau tai cydweithredol ond nid oedd y £11 miliwn arfaethedig yn ddigon i Gymru gyfan
  • cynllun gwirfoddol gyda gwerthwyr tai yn cynnig eiddo yn lleol yn gyntaf – a fyddai’n annhebygol o weithio gan eu bod yn cael eu hysgogi’n ariannol

 

Ni fyddai’r syniadau hyn yn mynd i’r afael â’r problemau. Roedd angen cymorth ar bobl o bob oed i brynu eu cartref cyntaf.

ARGYMHELLWYD y dylid gwahodd arbenigwr ariannol o sefydliad moesegol i gyfarfod yn y dyfodol i roi syniadau ar sut i wireddu hyn.

 

Welsh Government: Welsh Communities Housing Strategy

 

Cllr Jeff Smith had attended a meeting of the Senedd Housing Committee on behalf of the Town Council.

 

Some Welsh Government ideas included:

  • setting up housing co-operatives but the proposed £11 million was not enough for the whole of Wales
  • a voluntary scheme with estate agents offering properties locally first – which would be unlikely to work as they were financially driven

 

 

These ideas would not address the problems. People of all ages needed help to buy their first home.

It was RECOMMENDED that a financial expert from an ethical institution should be invited to a future meeting to provide ideas on how this could be realised

 

 

Anfon ymateb

Send response

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwahodd arbenigwr

Invite expert

 

7 Gohebiaeth:

 

Dim

Correspondence:  

 

None