Planning
05/10/2026 at 6:30 pm
Minutes:
| 1 | Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Lucy Huws Cyng. Julien Brun Cyng. Saman Bashir Cyng. Talat Chaudhri
Yn mynychu: Cyng. Mark Strong Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau) Carol Thomas (Cyfieithydd) Kylie Steadman (Aelod o’r cyhoedd) Rachel Scurlock (Aelod o’r cyhoedd) Shân Jones (Aelod o’r cyhoedd) Shân Davies (Aelod o’r cyhoedd) Emrys Jones (Aelod o’r cyhoedd) |
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Lucy Huws Cllr. Julien Brun Cllr. Saman Bashir Cllr. Talat Chaudhri
In attendance: Cllr. Mark Strong Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer) Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer) Carol Thomas (Translator) Kylie Steadman (Member of the public) Rachel Scurlock (Member of the public) Shân Jones (Member of the public) Shân Davies (Member of the public) Emrys Jones (Member of the public) |
|
| 2 | Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:
Yn absennol gydag ymddiheuriadau: · Cyng. Nishant Chandolia
Yn absennol heb ymddiheuriadau: · Cyng. Emlyn Jones |
Apologies and Absences:
Absent with apologies: · Cllr. Nishant Chandolia
Absent without apologies: · Cllr. Emlyn Jones
|
|
| 3 | Datgan Diddordeb
8.2. A260586: Madryn, 2 Bryn Ardwyn: Datganodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands fuddiant personol a rhagfarnus, gan ei fod yn byw ger safle’r cais.
|
Declaration of interest:
8.2. A260586: Madryn, 2, Bryn Ardwyn: Cllr. Dylan Lewis-Rowlands declared a personal and prejudicial interest, due to residing near the application site.
|
|
| 4 | Cyfeiriadau Personol:
· Llongyfarchodd yr Aelodau y Cyng. Nishant Chandolia a’r Cyng. Julien Brun ar gwblhau pedwar copa Cadair Idris wrth gario baner yr RNLI i godi arian i’r elusen. |
Personal references:
· Members congratulated Cllr. Nishant Chandolia and Cllr. Julien Brun on completing the four peaks of Cadair Idris while carrying the RNLI flag to raise funds for the charity.
|
|
| 5 | Sesiwn cyfranogiad Cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda
Croesawodd y Cadeirydd aelodau o’r cyhoedd yn ffurfiol a’u gwahodd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda:
· Holodd aelod o’r cyhoedd ynghylch rôl y Cyngor Tref mewn perthynas â chais cynllunio Aldi. Eglurodd y Cadeirydd mai ymgynghorai yw’r Cyngor Tref ac mai Cyngor Sir Ceredigion sydd â’r penderfyniad terfynol. · Nodwyd bod y cynnig presennol yn gais newydd a’i fod wedi’i ddiwygio yn dilyn yr ymgynghoriad cyn ymgeisio. · Mynegwyd cefnogaeth gan y cyhoedd i’r datblygiad, gan gyfeirio at fwy o ddewis i drigolion, lleihau’r angen i deithio i lefydd eraill, a’r effaith gadarnhaol o greu tua 40 o swyddi yn Aberystwyth. |
Public participation session for members of the public to raise questions or make comments on the agenda
The Chair formally welcomed members of the public and invited them to raise questions or make comments on the agenda:
· A member of the public questioned the Town Council’s role in relation to the Aldi planning application. The Chair clarified that the Town Council is a consultee and that the final decision rests with Ceredigion County Council. · It was noted that the current proposal was a new application and had been amended following the pre-application consultation. · Support was expressed from the public for the development, with reference to increased choice for residents and reducing the need to travel elsewhere, and the positive impact of creating approximately 40 jobs in Aberystwyth.
|
|
| PENDERFYNWYD diwygio trefn y busnes er mwyn trafod Eitem 8.1 yn syth ar ôl Eitem 5. | It was RESOLVED to amend the order of business to discuss Item 8.1 immediately after Item 5. | ||
| 8.1 | A260570: Tir ar hen Safle Kwik Save, Coedlan y Parc
Mae’r Cyngor Tref yn CEFNOGI’R cais ac yn croesawu’r ymateb cadarnhaol i’r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyn ymgeisio.
Croesawodd yr Aelodau yn arbennig y cynnydd yn nifer y coed a blennir, y mannau parcio beiciau ychwanegol, y ddarpariaeth gwefru cerbydau trydan, y cyfleusterau hygyrch, yr arwyddion dwyieithog a’r posibilrwydd o greu cyflogaeth leol.
Mae’r Cyngor yn croesawu ymrwymiad yr ymgeisydd i’r Gymraeg, ond byddai’n croesawu rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd yr ymrwymiadau hyn yn cael eu gweithredu, yn enwedig mewn perthynas â staff sy’n siarad Cymraeg a darpariaeth Gymraeg yn y siop.
Mae’r Cyngor hefyd yn gofyn: · Bod mesurau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu a chadw coed iach ac aeddfed ar y safle lle bo hynny’n bosibl. · Bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu cyfleusterau toiled hygyrch ychwanegol, pe bai digon o le o fewn y datblygiad.
Ar y cyfan, croesawodd yr Aelodau’r cais a’r ymgysylltiad cadarnhaol a ddangoswyd gan yr ymgeisydd wrth ymateb i’r materion a godwyd gan y Cyngor Tref yn ystod yr ymgynghoriad cyn ymgeisio.
Felly, mae’r Cyngor Tref yn CEFNOGI’R cais. |
A260570: Tir ar hen Safle Kwik Save, Coedlan y Parc
The Town Council SUPPORTS the application and welcomes the positive response to matters raised during the pre-application consultation.
Members particularly welcomed the increased tree planting, additional cycle parking, electric vehicle charging provision, accessible facilities, bilingual signage and the potential creation of local employment.
The Council welcomes the applicant’s commitment to the Welsh language but would welcome greater detail regarding how these commitments will be delivered, particularly in relation to Welsh-speaking staff and Welsh language provision within the store.
The Council also requests that: · Appropriate measures are taken to protect and retain healthy and mature trees on the site wherever possible. · Consideration is given to providing additional accessible toilet facilities, should space within the development allow.
Overall, Members welcomed the application and the positive engagement shown by the applicant in responding to matters raised by the Town Council during the pre-application consultation.
The Town Council therefore SUPPORTS the application.
|
|
| 6 | Cyngor Sir Ceredigion: Cynigion Gwelliannau Tref Balchder Bro
Ystyriodd y Pwyllgor gynigion Gwella Tref Balchder Bro a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Ceredigion.
Croesawodd yr Aelodau’r cynigion, yn enwedig y gwaith plannu coed ychwanegol a’r mesurau i wella bioamrywiaeth.
Codwyd pryderon ynghylch hygyrchedd, nifer a lleoliad y bolardiau, a pheryglon baglu posibl o amgylch coed a dodrefn stryd. Awgrymodd yr Aelodau y dylid ystyried canllawiau RNIB ac y byddai ymgysylltu ag arbenigwyr hygyrchedd yn fuddiol.
Cwestiynodd yr Aelodau gywirdeb y delweddau a gynhyrchwyd gan AI a gynhwyswyd yn y cynigion, gan nodi nad oedd rhai ohonynt yn ymddangos fel pe baent yn cynrychioli Y Ffordd Haearn yn gywir, bod Lôn Cambria wedi’i hepgor yn gyfan gwbl, ac nad oedd elfennau a ddangoswyd yn y delweddau yn cyfateb i’r disgrifiadau dylunio ysgrifenedig.
Gofynnodd yr Aelodau i ddyluniad y planwyr a’r meinciau arfaethedig gael ei ailystyried er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r dodrefn stryd presennol ac yn briodol i gymeriad yr Ardal Gadwraeth. Mynegodd yr Aelodau ffafriaeth glir am blanwyr Glas y Gorfforaeth.
Nodwyd bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cynnig y dylai’r Cyngor Tref gymryd cyfrifoldeb am gostau cynnal a chadw parhaus y planwyr a’r coed. Cytunodd yr Aelodau y dylai’r goblygiadau ariannol a chynnal a chadw gael eu hystyried ymhellach gan y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.
Nododd yr Aelodau hefyd nad oedd Penparcau ac ardaloedd eraill o’r dref wedi’u cynnwys yn y cynigion ac ailadroddwyd y pryderon a godwyd yn flaenorol ynghylch hyn.
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn croesawu’r cynigion, yn amodol ar y pryderon a godwyd uchod, a bod y gwaith cynnal a chadw a’r costau cysylltiedig â’r planwyr a’r coed arfaethedig yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol i’w hystyried ymhell. |
Ceredigion County Council: Pride in Place Town Improvement proposals
The Committee considered the Pride in Place Town Improvement proposals received from Ceredigion County Council.
Members welcomed the proposals, particularly the additional tree planting and measures to improve biodiversity.
Concerns were raised regarding accessibility, the number and positioning of bollards, and potential trip hazards around trees and street furniture. Members suggested that RNIB guidance should be taken into account and that engagement with accessibility specialists would be beneficial.
Members questioned the accuracy of the AI-generated images included within the proposals, noting that some did not appear to accurately represent Y Ffordd Haearn, and that Lon Cambria had been omitted altogether, and that elements shown within the images did not correspond with the written design descriptions.
Members requested that the design of the proposed planters and benches be reconsidered to ensure that they complement the existing street furniture and are appropriate to the character of the Conservation Area. Members expressed a clear preference for Corporation Blue planters.
It was noted that Ceredigion County Council had proposed that the Town Council take responsibility for the ongoing maintenance costs of the planters and trees. Members agreed that the financial and maintenance implications should be considered further by the General Management Committee.
Members also noted that Penparcau and other areas of the town were not included within the proposals and reiterated concerns previously raised regarding this.
It was RECOMMENDED that the Council welcome the proposals, subject to the concerns raised above, and that the maintenance and associated costs of the proposed planters and trees be referred to the General Management Committee for further consideration.
|
Agenda Pwyllgor RhC GM Agenda
|
| 7 | Datblygiad newydd: ‘Maes yr Awen’, Penparcau
Ystyriodd y Pwyllgor yr enw arfaethedig ‘Maes yr Awen’ ar gyfer y datblygiad newydd ym Mhenparcau.
Nododd yr Aelodau’r wybodaeth a dderbyniwyd yn dilyn y cais blaenorol am ymchwil pellach i enwau hanesyddol yn yr ardal. Trafodwyd ‘Tan y Gaer’ fel dewis arall, gan adlewyrchu lleoliad y datblygiad islaw Pendinas.
Fodd bynnag, mynegodd yr Aelodau ffafriaeth am ‘Maes yr Awen’, gan nodi ei gysylltiad â Maes Gwenallt gerllaw ac ystyried bod yr enw yn cyd-fynd â’r ardal leol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r enw ‘Maes yr Awen’ ar gyfer y datblygiad newydd. |
New development: ‘Maes yr Awen’, Penparcau
The Committee considered the proposed name ‘Maes yr Awen’ for the new development in Penparcau.
Members noted the information received following the previous request for further research into historical names in the area. ‘Tan y Gaer’ was discussed as an alternative, reflecting the development’s location below Pendinas.
Members, however, expressed a preference for ‘Maes yr Awen’, noting its connection with the nearby Maes Gwenallt and considering the name to be in keeping with the local area.
It was RESOLVED to approve the name ‘Maes yr Awen’ for the new development. |
Swyddfa I ebostio Barcud Office to email Barcud |
| 8 | Ystyried Ceisiadau Cynllunio
|
To consider Planning Applications
|
|
| 8.2 | A260586: Madryn, 2, Bryn Ardwyn
Datganodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands fuddiant a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei thrafod.
Croesawodd yr Aelodau osod paneli solar, gan nodi eu cyfraniad cadarnhaol tuag at fwy o gynaliadwyedd ac amcanion hinsawdd.
Nid oes gan y Cyngor Tref DIM WRTHWYNEBIAD i’r cais. |
A260586: Madryn, 2, Bryn Ardwyn
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands declared an interest and left the meeting for the duration of this item.
Members welcomed the installation of solar panels, noting their positive contribution towards greater sustainability and climate objectives.
The Town Council has NO OBJECTION to the application.
|
Ymateb (staff)
Respond (staff) |
| 8.3 | A260486: Leeswood, Ffordd Trefor
Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’R cais ar y sail bod y defnydd arfaethedig o ffenestri codi uPVC yn amhriodol o fewn yr Ardal Gadwraeth ac nad yw’n cyd-fynd â dewis y Cyngor am ddeunyddiau traddodiadol.
Croesawodd yr Aelodau’r newid i ffenestri arddull codi fel gwelliant i’r cynnig, ond roeddent o’r farn y byddai ffenestri pren yn fwy priodol ac yn fwy cydnaws â chymeriad yr eiddo teras o amgylch.
Er eu bod yn cydnabod y gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â ffenestri pren, roedd yr Aelodau o’r farn ei bod yn bwysig parhau’n gyson ag agwedd y Cyngor tuag at geisiadau o fewn yr Ardal Gadwraeth a chefnogi’r defnydd o ddeunyddiau traddodiadol lle bynnag y bo modd.
|
A260486: Leeswood, Ffordd Trefor
The Town Council OBJECTS to the application on the grounds that the proposed use of uPVC sash windows is inappropriate within the Conservation Area and is not in keeping with the Council’s preference for traditional materials.
Members welcomed the change to sash-style windows as an improvement to the proposal, but considered that timber windows would be more appropriate and consistent with the character of the surrounding terraced properties.
Whilst acknowledging the additional cost associated with timber windows, Members considered it important to remain consistent with the Council’s approach to applications within the Conservation Area and to support the use of traditional materials wherever possible
|
Ymateb (staff)
Respond (staff) |
| 8.4 | A260605 – The Mill, Dan Dre
Nododd yr Aelodau fod y cynnig yn ymwneud â throsi’r adeilad, sydd yn wag ar hyn o bryd, yn dair fflat breswyl.
Fodd bynnag, nid oedd dogfennau pwysig a pherthnasol, gan gynnwys cynlluniau wedi’u diweddaru, ar gael ar Borth Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion. Gwnaed ymdrechion i gysylltu â’r Swyddog Cynllunio am eglurhad, ond ni dderbyniwyd ymateb.
Roedd yr Aelodau o’r farn y byddai’n amhriodol gwneud sylwadau ar y cais heb gael mynediad at y dogfennau llawn a chyfredol.
Cytunwyd gohirio ystyried y cais hyd nes y bydd y dogfennau perthnasol ar gael, a gofyn am estyniad amser er mwyn galluogi’r Aelodau i ystyried y cais yn llawn. |
A260605 – The Mill, Dan Dre
Members noted that the proposal related to the conversion of the currently vacant building into three residential flats.
However, important and relevant documents, including updated plans, were not available on the Ceredigion County Council Planning Portal. Attempts had been made to contact the Planning Officer for clarification, but no response had been received.
Members considered that it would be inappropriate to comment on the application without having access to the full and current documentation.
It was agreed to defer consideration of the application until the relevant documents are available and to request an extension of time to allow Members to consider the application fully.
|
Ymateb (staff)
Respond (staff) |
| 8.5 | A360601: 7 Y Ro Fawr
Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch y wal wydr arfaethedig a’i heffaith bosibl o fewn yr Ardal Gadwraeth.
Roedd y Cyngor Tref o’r farn nad oedd digon o wybodaeth ar gael i asesu’r cynnig yn llawn a gofynnodd am ddarparu Asesiad o’r Effaith ar Dreftadaeth, o ystyried lleoliad yr eiddo o fewn yr Ardal Gadwraeth.
Cytunwyd gofyn am estyniad amser er mwyn caniatáu i’r wybodaeth ychwanegol gael ei darparu cyn i’r Cyngor Tref ystyried y cais ymhellach. |
A360601: 7 Y Ro Fawr
Members raised concerns regarding the proposed glass wall and its potential impact within the Conservation Area.
The Town Council considered that there was insufficient information available to fully assess the proposal and requested that a Heritage Impact Assessment be provided, given the property’s location within the Conservation Area.
It was agreed to request an extension to allow the additional information to be provided before the Town Council considers the application further.
|
Ymateb (staff)
Respond (staff) |
| 9 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
| 9.1 | Goleuadau’r Parc Sglefrio: Derbyniwyd gohebiaeth gan aelod o’r cyhoedd ynghylch y diffyg goleuadau yn y parc sglefrio. | Skate Park Lighting: Correspondence received from a member of the public regarding the lack of lighting at the skate park. | Agenda Pwyllgor RhC
GM Agenda
|
| 9.2 | Neuadd Gwenfrewi – Tŷ Bowldro CIC: Derbyniwyd gohebiaeth gan Tŷ Bowldro CIC ynghylch partneriaeth gymunedol bosibl a defnyddio Neuadd Gwenfrewi fel canolfan ddringo a bowldro dan do. | Neuadd Gwenfrewi – Tŷ Bowldro CIC: Correspondence received from Tŷ Bowldro CIC regarding a potential community partnership and use of Neuadd Gwenfrewi as an indoor climbing and bouldering centre. | Gwahodd nhw i’r Eglwys ac I gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor RhC.
Invite them to the Church and to present at the GM Committee meeting. |
| 9.3 | Trafod Tref: Derbyniwyd gohebiaeth ynghylch digwyddiad nesaf Trafod Tref, gan ganolbwyntio ar barodrwydd cymunedol ar gyfer tywydd eithafol, a gwahodd cyfranogiad y Cyngor Tref. | Trafod Tref: Correspondence received regarding the next Trafod Tref event, focusing on community preparedness for extreme weather, and inviting Town Council involvement. | Swyddfa
Office |
| 9.4 | Gyda’n Gilydd yn Erbyn Casineb: Derbyniwyd gohebiaeth ynghylch sesiwn ryngweithiol “Gyda’n Gilydd yn Erbyn Casineb” a gynhelir ar 7 Hydref yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb. | Together Against Hate: Correspondence received regarding an interactive “Together Against Hate” session taking place on 7 October during Hate Crime Awareness Week. | |
| 9.5 | Merched y Wawr: Derbyniwyd adroddiad yn amlinellu sut y defnyddiwyd cyllid y Grant Cymunedol. | Merched y Wawr: Report received outlining how the Community Grant funding had been used. |
Daeth y cyfarfod i ben am 19:59 The meeting was closed at 19:59
Agenda:
Fe’ch gwahoddir i fynychu gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr, am 18:30 ar nos Lun 5.10.2026.
You are invited to attend a meeting of the Planning Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road, at 18:30 on Monday 5.10.2026.
AGENDA
| 1 | Yn bresennol | Present |
| 2 | Ymddiheuriadau | Apologies |
| 3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
| 4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
| 5 | Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda | Public participation session for members of the public to raise questions or make comments on the agenda |
| 6 | Cyngor Sir Ceredigion: Cynigion Gwelliannau Tref Balchder Bro | Ceredigion County Council: Pride in Place Town Improvement proposals |
| 7 | Datblygiad newydd: ‘Maes yr Awen’, Penparcau | New development: ‘Maes yr Awen’, Penparcau |
| 8 | Ystyried Ceisiadau Cynllunio | To consider Planning Applications |
| 8.1 | A260570: Tir ar hen Safle Kwik Save, Coedlan y Parc | A260570: Land at the former Kwik Save Site, Coedlan y Parc |
| 8.2 | A260586: Madryn, 2, Bryn Ardwyn | A260586: Madryn, 2, Bryn Ardwyn |
| 8.3 | A260486: Leeswood, Ffordd Trefor | A260486: Leeswood, Ffordd Trefor |
| 8.4 | A260605 – The Mill, Dan Dre | A260605: The Mill, Dan Dre |
| 9 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely