General Management
07/04/2025 at 6:30 pm
Minutes:
|
COFNODION / MINUTES
|
|||
| 1 | Presennol
Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Cadeirydd) Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Emlyn Jones Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Brian Davies Cyng. Lucy Huws Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Alun Williams Cyng. Mair Benjamin Cyng. Glynis Somers Cyng. Jeff Smith Cyng. Umer Aslam (Eitem 6 ymlaen) Cyng. Mark Strong (Eitem 8 ymlaen)
Yn mynychu: Cyng. Shelley Childs (Cyngor Sir Ceredigion) (Eitem 11 ymlaen) Will Rowlands (Clerc) Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Cyfieithydd) |
Present
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Chair) Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Emlyn Jones Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Brian Davies Cllr. Lucy Huws Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Alun Williams Cllr. Mair Benjamin Cllr. Glynis Somers Cllr. Jeff Smith Cllr. Umer Aslam (Item 6 onwards) Cllr. Mark Strong (Item 8 onwards)
In attendance: Cllr. Shelley Childs (Cyngor Sir Ceredigion) (Item 11 onwards) Will Rowlands (Clerk) Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer) Carol Thomas (Translator) |
|
| 2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Absennol gyda ymddiheuriadau: Dim
Absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Owain Hughes |
Apologies & absences
Absent with apologies: None
Absent without apologies: Cllr. Owain Hughes
|
|
| 3 | Datgan Diddordeb:
Dim
|
Declarations of interest:
None
|
|
| 4 | Cyfeiriadau personol:
Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn-Gynghorydd Ceri Meehan a fu farw yn ddiweddar. Cynhaliwyd munud o dawelwch.
|
Personal references:
Condolences extended to the family of former Cllr. Ceri Meehan who had recently passed away. A minute’s silenced was held.
|
|
| 5 | Ymgyrch i gynyddu Balchder Bro
Cylchredwyd ail daflen ddrafft. ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r daflen ddrafft gyda’r awgrymiadau canlynol:
· Bod gwybodaeth am waith parhaus Cyngor y Dref, yn ogystal â mwy o bwyslais ar y cyfrifoldebau y mae wedi’u cymryd gan Gyngor Sir Ceredigion, yn cael eu cynnwys yn y pecynnau. · Dewiswyd lliwiau’r testun yn y daflen i sicrhau hygyrchedd i unigolion â namau ar eu golwg.
Cytunwyd y byddai’n well dosbarthu’r pecynnau gwybodaeth ledled Aberystwyth drwy’r Post Brenhinol.
Nodwyd y byddai ymgyrch o’r fath yn ymgymeriad sylweddol a byddai’n gofyn am ymrwymiad a chyfranogiad parhaus gan yr holl gynghorwyr a staff er mwyn paratoi’r pecynnau a bod yn llwyddiannus.
Awgrymwyd i gynnwys yr Ymgyrch fel rhan o’r Maer ddydd Sadwrn.
Ymunodd y Cyng. Umer Aslam â’r cyfarfod.
|
Campaign to increase Civic Pride
A second draft leaflet was circulated. It was RECOMMENDED to approve the draft leaflet with the following suggestions:
· Information about the Town Council’s ongoing work, as well as greater emphasis on the responsibilities it has assumed from Ceredigion County Council, to be included. · The colours of text in the leaflet were selected to ensure accessibility for individuals with visual impairments. It was agreed that distributing the information packs throughout Aberystwyth via Royal Mail would be preferred.
It was noted that such a campaign would be a significant undertaking and would require ongoing commitment and participation by all councillors and staff in order to prepare the packs and be successful.
It was suggested to include the Campaign as part of the Mayor Saturday.
Cllr. Umer Aslam joined the meeting.
|
|
| 6 | Toiledau cyhoeddus: diweddariad
ARGYMHELLWYD parhau i bwyso am berchnogaeth rhydd-ddaliad.
Ataliodd y Cyng. Alun Williams rhag pleidleisio. |
Public toilets: update
It was RECOMMENDED to continue to press for freehold ownership.
Cllr. Alun Williams abstained from voting.
|
|
| 7 | Mater yswiriant: niwed damweiniol
Darparwyd diweddariad ar ddifrod damweiniol a achoswyd trwy ddefnyddio cerbyd y Cyngor; roedd gwybodaeth wedi cael ei gylchredeg ymlaen llaw trwy e-bost. Roedd y mater mewn llaw ac yn cael ei ddatrys heb gynnwys yswiriant.
Ymunodd y Cyng. Mark Strong â’r cyfarfod.
|
Insurance matter: accidental damage
An update was provided on accidental damaged caused through use of the Council’s vehicle; information had been circulated prior via email. The matter was in hand and was being resolved without involving insurance.
Cllr. Mark Strong joined the meeting.
|
|
| 8 | Materion gefeillio Kronberg
PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a’r cyhoedd, oherwydd natur bersonol sensitif busnes i’w drafod.
Roedd anghydfod personol wedi codi rhwng aelodau o’r Partnerschaftsverein (PSV) yn Kronberg. Nodwyd nad oedd Cyngor Tref Aberystwyth wedi gwneud sylwadau ar y pwnc hwn ac ARGYMHELLWYD na ddylid gwneud unrhyw sylwadau. Mynegwyd gwerthfawrogiad i bawb oedd yn ymwneud â’r bartneriaeth. |
Kronberg twinning matters
It was RESOLVED to exclude the press and the public, due to the personally sensitive nature of business being discussed.
A personal dispute had arisen between members of the Partnerschaftsverein (PSV) in Kronberg. It was noted that Aberystwyth Town Council had not commented on this subject and it was RECOMMENDED that no comments be made. Appreciation was expressed for everyone involved in the partnership.
|
|
| 9 | Agoriad ac arwyddion Man Tyfu Plascrug
Roedd yr agoriad swyddogol yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 12 Ebrill 2025 am 13:30, a byddai’n ddigwyddiad ar y cyd â Chlwb Bowlio Aberystwyth.
Roedd dau opsiwn ar gyfer cywiro’r arwyddion yn cael eu hystyried a’u prisio: un metel ac un pren. Ffafriwyd pren yn gyffredinol. Byddai prosesau mewnol yn cael eu hadolygu er mwyn osgoi gwallau tebyg yn digwydd eto. |
Plascrug Growing Space opening & signage
The official opening was being held on Saturday 12 April 2025 at 13:30, and would be a joint event with Aberystwyth Bowling Club.
Two options for correcting the signs were being considered and priced: one metal and one wood. Wood was generally preferred. Internal process would be reviewed to avoid similar errors happening again.
|
|
| 10 | Geiriad placiau | Plaque wordings
|
|
| 10.1 | Olive Gail
Roedd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands wedi paratoi geiriad drafft.
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r geiriad, gyda’i fformatio i gyd-fynd â phlaciau blaenorol.
|
Olive Gale
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands had prepared a draft wording.
It was RECOMMENDED to approve the wording, with it being formatted to match previous plaques.
|
|
| 10.2 | Margaret Jones
Roedd y Cyng. Talat Chaudhri wedi paratoi geiriad drafft.
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r geiriad, gyda’i fformatio i gyd-fynd â phlaciau blaenorol a bod ymgynghori â’r teulu i sicrhau eu bod yn hapus â’r geiriad. |
Margaret Jones
Cllr. Talat Chaudhri had prepared a draft wording.
It was RECOMMENDED to approve the wording, with it being formatted to match previous plaques and that the family be consulted to ensure they were satisfied with the wording. |
|
| 11 | Ymgynghoriad ar y cynnig i gael gwared ar ffôn talu cyhoeddus (BT)
Ymunodd y Cyng. Shelley Childs â’r cyfarfod.
ARGYMHELLWYD ymateb i’r ymgynghoriad heb unrhyw wrthwynebiad i gael gwared ar y ffôn talu cyhoeddus, fodd bynnag, gydag awgrym bod BT yn darparu a chynnal diffibriliwr yn ei le. |
Consultation on proposed removal of public payphone (BT)
Cllr. Shelley Childs joined the meeting.
It was RECOMMENDED to respond to the consultation with no objection to removing the public payphone, however with a suggestion that BT provided and maintained a defibrillator be in its place.
|
|
| 12 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
| 12.1 | Llywodraethwyr Ysgolion: Roedd tymor y Cyng. Mari Turner fel llywodraethwr ysgol cynrychioliadol ar gyfer Ysgol Gymraeg yn dod i ben.
|
School Governors: Cllr. Mari Turner’s term as a representative school governor for Ysgol Gymraeg was coming to an end. | |
| 12.2 | Llywodraethwyr Ysgolion: Roedd tymor y Cyng. Kerry Ferguson fel llywodraethwr ysgol gynrychioliadol ar gyfer ysgol Plascrug yn dod i ben. | School Governors: Cllr. Kerry Ferguson’s term as a representative school governor for Plascrug school was coming to an end. | |
| 12.3 | Sedd Wag Achlysurol Penparcau: Nid oedd unrhyw is-etholiad wedi cael ei ofyn amdano, felly byddai cyfethol yn cael ei hysbysebu.
|
Penparcau Casual Vacancy: No byelection had been requested, therefore co-option would be advertised. |
Daeth y cyfarfod i ben am 19:45 The meeting was closed at 19:45
Agenda:
| AGENDA
|
||
| Presennol | Present | |
| Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences | |
| Datganiadau diddordeb | Declarations of interest | |
| Cyfeiriadau personol | Personal references | |
| Ymgyrch i gynyddu Balchder Bro | Campaign to increase Civic Pride | |
| Toiledau cyhoeddus: diweddariad | Public toilets: update | |
| Mater yswiriant: niwed damweiniol | Insurance matter: accidental damage | |
| Materion gefeillio Kronberg | Kronberg twinning matters | |
| Agoriad ac arwyddion Man Tyfu Plascrug | Plascrug Growing Space opening & signage | |
| Geiriad placiau | Plaque wordings | |
| Olive Gale | Olive Gale | |
| Margaret Jones | Margaret Jones | |
| Ymgynghoriad ar y cynnig i gael gwared ar ffôn talu cyhoeddus (BT) | Consultation on proposed removal of public payphone (BT) | |
| Gohebiaeth | Correspondence |