Planning

07/07/2025 at 6:30 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr

Minutes of the Planning Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road

 

7.7.2025

 

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1 Yn bresennol:

 

Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Talat Chaudhri

 

Yn mynychu:

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Mark Strong

Sarah Groves-Phillips (Cyngor Sir Ceredigion) (Eitemau 1 i 5 yn unig)

Will Rowlands (Clerc)

Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

Julien Brun (Aelod o’r cyhoedd)

Present:

 

Cllr. Jeff Smith (Chair)

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Talat Chaudhri

 

In attendance:

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Mark Strong

Sarah Groves-Phillips (Ceredigion County Council) (Items 1 to 5 only)

Will Rowlands (Clerk)

Catrin Morgan-Lewis (Office Administrator)

Carol Thomas (Translator)

Julien Brun (Member of the Public)

 
2 Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Dim

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Dim

Apologies and Absences:

 

Absent with apologies:

None

 

Absent without apologies:

None

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

6. Ymgynghoriad datblygwr cyn cynllunio: Tir Gwag Brynderw: Roedd y Cyng. Kerry Fergurson yn adnabod un o’r ymgeiswyr.

 

6. Ymgynghoriad datblygwr cyn cynllunio: Tir Gwag Brynderw: Roedd y Cyng. Mark Strong hefyd yn Gynghorydd Sir dros y ward.

Declaration of interest:

 

6. Pre-planning developer consultation: Land at Brynderw: Cllr. Kerry Fergurson knew one of the applicants.

 

6. Pre-planning developer consultation: Land at Brynderw: Cllr. Mark Strong was also County Councillor for the ward.

 

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

 

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i’r Cyng. Kerry Ferguson am drefnu noson lwyddiannus a chyffrous i godi arian ar gyfer Ysgol Sumud yn Gaza. Diolchwyd hefyd i Gyngor Tref Aberystwyth am arwain y ffordd wrth ysgrifennu at wleidyddion i alw am gadoediad yn Gaza.

·         Llongyfarchwyd Wendy Hughes a’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands am roi o’u hamser i gwrdd â phlant oedd yn ymweld o Kronberg. Diolchwyd hefyd i’r staff a’r Cynghorwyr a gefnogodd yr ymweliad

Personal references:

 

 

·         Congratulations were extended to Cllr. Kerry Ferguson for organising a successful and moving evening raising money for Sumud School in Gaza. Thanks were also extended to Aberystwyth Town Council for taking the lead in writing to politicians to call for a ceasefire in Gaza.

·         Congratulations were extended to Wendy Hughes and Cllr. Dylan Lewis-Rowlands for giving their time to meet visiting children from Kronberg. Thanks were also extended to the staff and Councillors who supported the visit.

 

 

 
5 Cyflwyniad gan Sarah Groves Phillips ar Blaenau Siopau

 

 

Mynychodd Dr Sarah Groves-Phillips, Rheolwr Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Cynllunio yng Nghyngor Sir Ceredigion y cyfarfod i roi cyflwyniad ar faterion cynllunio ac adfywio, gyda ffocws ar blaenau siopau yn Aberystwyth.

 

Rhoddodd ddiweddariadau ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), ardal gadwraeth, creu lleoedd, gorfodi cynllunio, a materion rheoli maetholion sy’n effeithio ar y ardal.

 

Ymatebodd Dr Groves-Phillips hefyd i gwestiynau gan gynghorwyr ar bolisi cynllunio, tai, defnydd eiddo masnachol, a dyfodol gwelliannau canol trefi.

Presentation by Sarah Groves Phillips on Shop Frontages

 

Dr Sarah Groves-Phillips, Corporate Manager for Planning Services at Ceredigion County Council, attended the meeting to give a presentation on planning and regeneration matters, with a focus on shop frontages in Aberystwyth.

 

She provided updates on the Local Development Plan (LDP), conservation area, placemaking, planning enforcement, and nutrient management issues affecting the region.

 

Dr Groves-Phillips also responded to questions from councillors on planning policy, housing, commercial property use, and the future of town centre improvements.

 

 
6 Ymgynghoriad datblygwr cyn cynllunio: Tir Gwag Brynderw

 

Datganodd y Cyng. Kerry Ferguson fuddiant a gadawodd y cyfarfod am hyd yr eitem hon.

 

Nodwyd bod dau ymgynghoriad datblygwr ar wahân ar agor ar hyn o bryd, yn ymwneud â datblygiadau gwahanol. Cafodd y ddau ymgynghoriad eu hystyried.

 

Cam 4 Brynderw:

Er cydnabod yr angen am dai fforddiadwy o safon yn Aberystwyth, mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’r datblygiad arfaethedig am y rhesymau canlynol:

·         Mae maint y cynnig yn cynrychioli gorddatblygiad o’r safle.

·         Byddai colled sylweddol o ofod gwyrdd, gydag effaith ecolegol a daearegol gysylltiedig, yn enwedig o ystyried lleoliad y safle ar ymyl bryn.

·         Nid oes digon o le parcio, a fyddai’n arwain at fwy o bwysau ar strydoedd cyfagos.

·         Byddai’r datblygiad yn creu gormod o draffig ar ffyrdd preswyl llai, sydd eisoes yn brysur, fel Ffordd Stanley.

·         Mae dyluniad y strwythur(au) arfaethedig yn sylweddol wahanol i eiddo cyfagos, ac nid yw’n gydnaws â nodweddion ardal gadwraeth Aberystwyth.

·         Mae diffyg eglurder ynghylch fforddiadwyedd y tai arfaethedig.

·         Yn gyffredinol, nid yw’r dull datblygu graddol a gymerwyd ar y safle hwn yn cael ei gefnogi gan y Cyngor Tref.

 

Awgrymwyd gwahodd y datblygwyr i gyfarfod â Chyngor y Dref i drafod pryderon cyn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio.

 

Tir yn Brynderw, Ffordd Stanley:

 

Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU am y rhesymau canlynol:

·         Mae’r dyluniad arfaethedig yn cynrychioli gwahaniaeth sylweddol o’i gymharu â’r cais a gymeradwywyd yn flaenorol, heb gynnydd sylweddol yn nifer yr unedau.

·         Nid oes darpariaeth ar gyfer storio sgwteri symudedd.

 

Awgrymwyd gwahodd y datblygwyr i gyfarfod â’r Cyngor Tref i drafod pryderon cyn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio.

 

Pre-planning developer consultation: Land at Brynderw 

 

Cllr. Kerry Ferguson declared an interest and left the meeting for the duration of this item.

 

It was noted that there were two separate developer consultations open, on different developments. Both consultations were considered.

 

Phase 4 Brynderw:

Whilst recognising the need for affordable, quality housing in Aberystwyth, the Town Council OBJECTS to the proposed development for the following reasons:

·         The scale of the proposal constitutes overdevelopment of the site.

·         There would be a significant loss of green space, with associated ecological and geological impact, particularly given the site’s location on the edge of a bank.

·         There is insufficient parking provision, which would lead to increased pressure on neighbouring streets.

·         The development would generate excessive traffic on smaller, already busy residential roads such as Stanley Road.

·         The design of the proposed structure(s) is substantially different to nearby properties, and not in keeping with the characteristics of the Aberystwyth conservation area.

·         There is a lack of clarity on the affordability of the housing proposed.

·         The phased approach to development that has been taken at this site is generally not supported by the Town Council.

 

It was suggested to invite the developers to meet with the Town Council to discuss concerns prior to submitting an application for planning permission.

 

Land at Brynderw, Stanley Road:

 

The Town Council OBJECTS for the following reasons:

·         The proposed design represents a substantial difference to the previously approved application, without a significant gain in the number of units.

·         There is no provision for mobility scooter storage..

 

It was suggested to invite the developers to meet with the Town Council to discuss concerns prior to submitting an application for planning permission.

 

 
7 Ystyried Ceisiadau Cynllunio

 

To consider Planning Applications

 

 
7.1 A250434: Deva, 33-34 Glan y Môr

 

Ailymunodd y Cyng. Kerry Ferguson â’r cyfarfod.

 

Mae gan y Cyngor Tref DIM GWRTHWYNEBIAD i’r cynnig, ar yr amod y cynhelir asesiad fforddiadwyedd ar gyfer y datblygiad cyfan, yn hytrach nag ar sail segmentiedig. Dylid gosod amod ar y preswylfeydd yn eu hatal rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau neu ail gartrefi.

 

A250434: Deva, 33-34 Glan y Môr

 

Cllr. Kerry Ferguson re-joined the meeting.

 

The Town Council has NO OBJECTION to the proposal, provided that. an affordability assessment be conducted for the development as a whole, rather than on a segmented basis. A condition should be placed on the dwellings preventing them from being used as used as holiday accommodation or second homes.

 

 

 

 

 

 

 

 

7.2 A250455 : WH Smith 36, Ffordd y Môr

 

Mae gan y Cyngor Tref DIM GWRTHWYNEBIAD, ar yr amod bod y cynnig yn cydymffurfio â’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar Flaenau Siopau yn Aberystwyth (2013). Byddem yn awgrymu defnyddio arwyddion traddodiadol, sy’n cydymffurfio â’r canllawiau a’r argymhellion a gyhoeddwyd yng Nghynllun Gwerthuso a Rheoli Ardal Gadwraeth Aberystwyth (2025).

 

 

A250455: WH Smith 36, Ffordd y Môr

 

The Town Council has NO OBJECTION, provided that the proposal conforms to the Supplementary Planning Guidance on Shop Fronts in Aberystwyth (2013). We would suggest that traditional signage be used, that conforms with the guidance and recommendations issued in the Aberystwyth Conservation Area Appraisal & Management Plan (2025).

 

 

7.3 A250466: TJ Davies and Sons Ltd, 11-13 Rhodfa’r Gogledd

 

Mae’r Cyngor Tref yn CEFNOGI’R cais yn GRYF. Edrychwn ymlaen at weld cais ar wahân ar gyfer blaen y siop yn y dyfodol agos.

 

A250466: TJ Davies and Sons Ltd, 11-13 Rhodfa’r Gogledd

 

The Town Council STRONGLY SUPPORTS the application. We look forward to seeing a separate application for the shop front in the near future.

 

 
8 Ehangu Parc Natur Penglais (A250314)

 

Cytunwyd y dylid cynnal trafodaethau pellach gyda Grŵp Cymorth Parc Natur Penglais cyn ystyried ymhellach.

 

Expansion of Parc Natur Penglais (A250314)

 

It was agreed that further discussions should take place with the Parc Natur Penglais Support Group before further consideration.

 

 

9 Cynnig: Ail enwi ‘Sgwar Llys y Brenin’ (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands)

 

Roedd y cynnig yn cynnig cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ‘ail-enwi’r ardal a adnabyddir yn gyffredin fel ‘Sgwâr Llys y Brenin’, i enw sy’n gysylltiedig â Dewi Sant. ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cynnig gyda’r newidiadau canlynol:

·         Diwygio teitl y cynnig i ‘Enwi ardal o Aberystwyth’ oherwydd nad oes gan yr ardal ei henw ei hun eisoes.

·         I restru mwy o enwau posibl, nid dim ond rhai sy’n gysylltiedig â Dewi Sant.

·         I gynnwys darpariaeth i’r cyhoedd awgrymu enwau posibl.

 

Byddai’r aelodau’n ystyried enwau posibl, ar gyfer rhestr o awgrymiadau i’w chymeradwyo gan y Cyngor Llawn ochr yn ochr â’r cynnig.

Motion: Renaming ‘Llys y Brenin Square’ (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands)

 

The motion proposed undertaking a public consultation on the ‘renaming’ of the area know colloquially as ‘Llys y Brenin Square’, to a name associated with Saint David. It was RECOMMENDED to approve the motion with the following changes:

·         Amend the title of the motion to ‘Naming an area of Aberystwyth’ due to the area not already having it’s own name.

·         To list more potential names, not only ones associated with Saint David.

·         To include provision for the public to suggest potential names.

 

Members would think of potential names, for a list of suggestions to be approved by Full Council alongside the motion.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda Cyngor Llawn

Full Council Agenda

10 Gohebiaeth Correspondence

 

 
10.1 Diwrnod VJ: Cais gan drigolyn lleol yn gofyn sut oedd y Cyngor Tref yn bwriadu coffáu 80fed pen-blwydd Diwrnod VJ. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. VJ day: A request from a local resident asking how the Town Council intended to commemorate the 80th anniversary of VJ day. To be discussed by General Management Committee. Agenda RhC

GM Agenda

10.2 Carnifal Llanbadarn Fawr: Cais gan breswylydd lleol sy’n ymwneud â threfnu Carnifal Llanbadarn Fawr, yn gofyn am fenthyg sedd fawr Glan-y-môr y Cyngor Tref ar gyfer eu digwyddiad thema ‘Ar lan y Môr’. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. Llanbadarn Fawr Carnival: A request from a local resident involved in organising the Llanbadarn Fawr Carnival, asking to borrow the Town Council’s large deckchair for their ‘Beside the Sea’ themed event. To be discussed by General Management Committee. Agenda RhC

GM Agenda

10.3 Protest ‘Llinell Goch’ Gaza: Gwahoddiad i aelodau fynychu’r brotest a gynhelir yn Aberystwyth ar 26 Gorffennaf 2025. I’w ystyried gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. Gaza ‘Red Line’ protest: Invitation for members to attend the protest being held in Aberystwyth on 26 July 2025. To be considered by General Management Committee. Agenda RhC

GM Agenda

Daeth y cyfarfod i ben am 21:00                                                                The meeting was closed at 21:00

Agenda:

2.7.2025

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gwahoddir i fynychu gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr, nos Lun, 7.7.2025 am 18:30

 

You are invited to attend a hybrid meeting of the Planning Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road, at 18:30 on Monday 7.7.2025

 

AGENDA

 

1 Yn bresennol Present
2 Ymddiheuriadau Apologies
3 Datganiadau diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau personol Personal references
5 Cyflwyniad gan Sarah Groves Phillips ar Blaenau Siopau Presentation by Sarah Groves Phillips on Shop Frontage
6 Ymgynghoriad datblygwr cyn cynllunio: Tir Gwag Brynderw Pre-planning developer consultation:     Land at Brynderw
7 Ystyried Ceisiadau Cynllunio To consider Planning Applications
7.1 A250434: Deva, 33-34 Glan y Môr A250434: Deva, 33-34 Glan y Môr
7.2 A250455 : WH Smith 36, Ffordd y Môr A250455 : 36, Ffordd y Môr
7.3 A250466: TJ Davies and Sons Ltd, 11-13 Rhodfa’r Gogledd A250466: TJ Davies and Sons Ltd, 11-13 Rhodfa’r Gogledd
8 Ehangu Parc Natur Penglais (A250314) Expansion of Parc Natur Penglais (A250314)
9 Cynnig: Ail enwi ‘Sgwar Llys y Brenin’ (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands) Motion: Renaming ‘Llys y Brenin Square’ (Cllr. Dylan Lewis-Rowlands)
10 Gohebiaeth Correspondence

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely

 

 

Will Rowlands

Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk