Full Council
01/07/2024 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty
Minutes of the extraordinary Full Council meeting held remotely and at the Council Chambers, 11 Baker Street
1.7.2024
COFNODION / MINUTES
|
||||
68 | Yn bresennol:
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Emlyn Jones Cyng. Mair Benjamin Cyng. Lucy Huws Cyng. Alun Williams Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Jeff Smith Cyng. Bryony Davies Cyng. Brian Davies
Yn mynychu:
Will Rowlands (Clerc) Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
Present:
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Emlyn Jones Cllr. Mair Benjamin Cllr. Lucy Huws Cllr. Alun Williams Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Jeff Smith Cllr. Bryony Davies Cllr. Brian Davies
In attendance:
Will Rowlands (Clerk) Carol Thomas (Translator)
|
||
69 | Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:
Yn absennol efo ymddiheuriadau:
Cyng. Carl Worrall Cyng. Mark Strong
Yn absennol heb ymddiheuriadau:
Cyng. Owain Hughes Cyng. Connor Edwards Cyng. Mari Turner Cyng. Gwion Jones
|
Apologies & Absence:
Absent with apologies:
Cllr. Carl Worrall Cllr. Mark Strong
Absent without apologies:
Cllr. Owain Hughes Cllr. Connor Edwards Cllr. Mari Turner Cllr. Gwion Jones
|
||
70 | Datgan Diddordeb
Dim |
Declaration of Interest
None
|
||
71 | Penodi SAC dros dro
Roedd y Clerc wedi dychwelyd i’r gwaith, felly nid oedd angen penodi SAC dros dro. |
Appoint a temporary RFO
The Clerk had returned to work, therefore there was no need to appoint a temporary RFO. |
||
Yn unol â Rheol Sefydlog 10a(xi), PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer eitem 72, oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod. | In accordance with Standing Order 10a(xi), it was RESOLVED to exclude the press and public for item 72, due to the confidential nature of business to be discussed. | |||
72 | Staffio
Cafwyd diweddariad ar faterion staffio gan y Cyng. Emlyn Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Staffio. Roedd hyn yn cynnwys: · TGCh swyddfa – roedd y rhan fwyaf o’r staff bellach yn defnyddio gliniaduron, a oedd yn ffordd fwy effeithlon a hyblyg o weithio. Roedd Siambr y Cyngor bellach yn addas i grwpiau allanol ddefnyddio eu hoffer eu hunain, gan sicrhau gwell diogelwch data’r Cyngor. Roedd data’r Cyngor wedi’i drosglwyddo i Microsoft Sharepoint er mwyn cynyddu diogelwch, ac roedd mynediad at ddata staffio wedi’i gyfyngu i Gadeirydd y Pwyllgor Staffio a’r Clerc. · Cynhwysedd – Cytunwyd bod angen cyflogi aelod o staff rhan amser i ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol a chefnogi’r clerc. Pwyllgor Staffio i drafod ymhellach. · Gwyliau blynyddol – PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Staffio ynglŷn â gwyliau staff heb eu defnyddio. · Adolygiadau staff – roedd paratoadau ar y gweill i gynnal adolygiadau staff. · Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol – PENDERFYNWYD darparu llythyr yn gofyn am estyniad i derfyn amser cymhwyster CiLCA y clerc.
Diolchwyd i’r Cyng. Emlyn Jones am ei waith.
|
Staffing
An update on staffing matters was provided by Cllr. Emlyn Jones, Chair of the Staffing Committee. This included: · Office ICT – most staff were now using laptops, which was a more efficient and flexible way of working. The Council Chamber was now suitable for outside groups to use their own equipment, ensuring better security of Council data. Council data had been migrated to Microsoft Sharepoint to increase security, and access to staffing data restricted to the Chair of the Staffing Committee and the Clerk. · Capacity – It was agreed that there was need to employ a part-time member of staff to undertake administrative duties and support the clerk. Staffing Committee to discuss further. · Annual leave – It was RESOLVED to approve the Staffing Committee’s recommendation regarding unused staff leave. · Staff reviews – preparations were underway to undertake staff reviews. · General Power of Competence – It was RESOLVED to proivde a letter requesting an extention to the clerk’s CiLCA qualification deadline.
Cllr. Emlyn Jones was thanked for his work. |
||
73 | Gohebiaeth
Dim |
Correspondence
None |
||