Finance and Establishment
15/09/2025 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi
Minutes of the Finance Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi
15.9.2025
|
COFNODION / MINUTES
|
|||
| 1 | Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd) Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Emlyn Jones Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Julien Brun Cyng. Glynis Somers Cyng. Jeff Smith
Yn mynychu Cyng. Mark Strong Laura Miller (Aelod o’r cyhoedd) Will Rowlands (Clerc) Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Cyfieithydd) |
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair) Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Emlyn Jones Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Julien Brun Cllr. Glynis Somers Cllr. Jeff Smith
In attendance Cllr. Mark Strong Laura Miller (Member of the public) Will Rowlands (Clerk) Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer) Carol Thomas (Translator)
|
|
| 2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Alun Williams
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Dim
|
Apologies and Absences
Absent with apologies: Cllr. Alun Williams
Absent without apologies: None
|
|
| 3 | Datgan diddordebau:
Dim |
Declarations of interest:
None |
|
| 4 | Cyfeiriadau Personol:
· Anfonir cerdyn at deulu Mr Alan Blair, a fu farw yn drist, er cydnabyddiaeth o’i wasanaeth hir a diflino i’r RNLI. Anfonir cerdyn hefyd at yr RNLI i gydnabod ei gyfraniad gwerthfawr. · Diolchwyd i’r staff a fu’n rhan o drefnu Gŵyl y Castell, a oedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn ac yn fwynhad i bawb. Bydd gwerthfawrogiad yn cael ei gyfleu i bawb a gyfrannodd. · Croesawyd y Parchedig Tina Swire yn gynnes, gan ei bod wedi’i phenodi’n weinidog newydd yn Eglwys Fethodistaidd Sant Paul. Roedd y Cynghorydd Dylan Lewis-Rowlands wedi mynychu’r digwyddiad croeso, ac anfonir cerdyn i gyfleu dymuniadau gorau’r Cyngor. |
Personal references:
· A card would be sent to the family of Mr. Alan Blair, who had sadly passed away, in recognition of his long and dedicated service to the RNLI. A card would also be sent to the RNLI to acknowledge his valued contribution. · Thanks were extended to the staff involved in organising Gŵyl y Castell, which was a highly successful and enjoyable event. Appreciation would be passed on to all those who contributed. · A warm welcome was extended to Rev. Tina Swire, the newly appointed minister at St Paul’s Methodist Church. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands had attended the welcome event, and a card would be sent to convey the Council’s best wishes.
|
Anfon cerdyn Send card
Anfon cerdyn Send card |
| 5 | Ystyried cyfrifon mis Gorffennaf
Codwyd y pwyntiau canlynol:
· 1225 Regalia Dinesig, Robau a Phortreadau: Codwyd cwestiwn ynghylch glanhau medal y Dirprwy Faer, a nodwyd y gellid ychwanegu manylion arian at y rhuban coch. Holwyd a fyddai medalau ychwanegol yn cael eu prynu. Nodwyd y byddai Bardd y Dref a Chydymaith y Maer yn gofyn am fedal, a chytunwyd y byddai hyn yn cael ei roi ar yr agenda yn y dyfodol i’w ystyried. · 1865 Gefeillio: Codwyd cwestiwn ynghylch unrhyw geisiadau diweddar gan grwpiau dinasoedd efell y dref. Cadarnhawyd bod Kronberg eisoes wedi derbyn ei gyllid a ddyrannwyd, ac roedd hyd at £4,500 wedi’i neilltuo ar gyfer Yosano yn dilyn eu cais am gyllid. Nodwyd bod y grŵp Yosano i fod i gyfarfod y noson honno. Ymddengys bod y ddau grŵp yn fodlon ar eu dyraniadau priodol.
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon.
|
To consider July accounts
The following points were raised:
· 1225 Civic Regalia, Robes & Portraits: A question was raised regarding the cleaning of the Deputy Mayor’s medal, and it was noted that silver detail could be added to the red ribbon. It was queried whether additional medals would be purchased. It was noted that Bardd y Dref and the Mayor’s Consort would require a medal, and it was agreed for this to be placed on a future agenda for consideration. · 1865 Twinning: A question was raised regarding any recent requests from the town’s twinning groups. It was confirmed that Kronberg had already received its allocated funding, and up to £4,500 had earmarked for Yosano following their funding request. It was noted that the Yosano group was due to meet that evening. Both groups appeared to be satisfied with their respective allocations.
It was RECOMMENDED to approve the accounts.
|
|
| 6 | Ystyried cyfrifon mis Awst
Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod trafodaeth ar gyfrifon Awst:
Darparodd y Clerc eglurhad ar yr eitemau hyn:
· 101 Costau staff: Eglurwyd bod costau staff yn ymddangos yn is na’r disgwyl gan mai dim ond cyflogau am dri mis oedd wedi’u cynnwys yn y ffigurau. Cafwyd eglurhad pellach bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn prosesu taliadau cyflog gyda mis o oedi, a oedd yn cyfrannu at yr anghysondeb ymddangosiadol. · 1126 Yswiriant: Eglurwyd bod y pennawd cyllideb yn dangos mwy o wariant nag sy’n gywir ar gyfer y flwyddyn ariannol, gan fod polisi yswiriant y Cyngor yn cael ei adnewyddu o fis Mehefin i fis Mehefin; felly, bydd swm bach yn cael ei dynnu o’r pennawd fel taliad ymlaen llaw i’r flwyddyn ariannol 2026–27. · 1155 Taliadau ymgynghori: Roedd y pennawd cyllideb yn dangos mwy o wariant nag sy’n gywir ar gyfer y flwyddyn ariannol, gan fod contract cymorth cyfraith cyflogaeth y Cyngor gyda Worknest yn cael ei adnewyddu o fis Mehefin i fis Mehefin; felly, bydd swm bach yn cael ei dynnu o’r pennawd fel taliad ymlaen llaw i’r flwyddyn ariannol 2026–27.” · 1156 Taliadau banc: Eglurwyd bod y taliadau banc yn dangos balans positif oherwydd ad-daliad a dderbyniwyd yn dilyn cau un o gyfrifon banc y Cyngor. · 1535 Cynnal a chadw parciau a thir / 1947 Costau gwelyau blodau: Eglurwyd y bydd y codio ar gyfer gwariant rheolaidd ar waith cynnal a chadw gerddi yn cael ei ddiwygio, gan y dylai fod o dan god 1535 cynnal a chadw parciau yn hytrach na 1947 costau gwelyau blodau. Bydd yr addasiad hwn yn cael ei weithredu o fis Medi ymlaen. · 1005 Incwm bagiau gwrth-wylan : Cod newydd a grëwyd i gofnodi’r incwm o fagiau gwrth-wenyn y môr yn fwy cywir; crëwyd cod cost cyfatebol hefyd. Nodwyd ymhellach bod y Cyngor wedi rhedeg allan o fagiau gwrth-wenyn y môr yn ddiweddar ac yn aros am gyflenwad gan Gyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd. · 1011 Incwm rhandiroedd: Nodwyd bod incwm y rhandiroedd yn ymddangos yn uwch na’r disgwyl. Eglurwyd bod hyn oherwydd bod y Cyngor yn casglu ffioedd tanysgrifio ar ran Cymdeithas y Rhandiroedd, ac yn eu trosglwyddo i’r grŵp; fodd bynnag, cofnodwyd y gost ar wahân o dan god 1939 costau rhandiroedd. Awgrymwyd y dylid creu cod cyllideb ar wahân i gofnodi incwm tanysgrifio a gesglir ar ran Cymdeithas y Rhandiroedd, er mwyn sicrhau adrodd ariannol cliriach.
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon.
|
To consider August accounts
The following points were raised during discussion of the August accounts:
The Clerk provided clarification on these items:
· 1101 Staff costs: It was explained that the staffing costs appeared lower than expected as the figures reflected only three months of wages. It was further clarified that Carmarthenshire County Council processes salary payments a month in arrears, which contributed to the apparent discrepancy. · 1126 Insurance: It was explained that the budget heading showed more expenditure than was correct for the financial year, as the Council’s insurance policy was renewed from June to June; there was therefore a small amount that would be removed from the heading as a prepayment into the 2026-27 financial year. · 1155 Consultancy charges: The budget heading showed more expenditure than was correct for the financial year, as the Council’s employment law support contract with Worknest was renewed from June to June; there was therefore a small amount that would be removed from the heading as a prepayment into the 2026-27 financial year. · 1156 Bank charges: It was explained that the bank charges showed a positive balance due to a refund received following the closure of one of the Council’s bank accounts. · 1535 Parks & grounds maintenance / 1947 Flower beds costs: It was explained that the coding for regular garden maintenance expenditure would be amended, as it should fall under 1535 park maintenance rather than 1947 flower beds costs. This adjustment would be implemented from September onwards. · 1005 Seagull proof bags income: This was a new code that had been created to more accurately record the income from seagull proof bags; a corresponding cost code has also been created. It was further noted that the Council had recently run out of seagull-proof bags and was currently awaiting a delivery from Ceredigion County Council. · 1011 Allotments income: It was noted that the allotment income appeared higher than expected. It was explained that this was due to the Council collecting subscription fees on behalf of the Allotments Association, which were subsequently passed on to the group; however the cost was recorded separately under 1939 Allotments costs. It was suggested that a separate budget code be created to record subscription income collected on behalf of the Allotments Association, to ensure clearer financial reporting.
It was RECOMMENDED to approve the accounts.
|
|
| 7 | Ystyried opsiynau ar gyfer prynu seff
Roedd angen cist ddiogel i storio regalia dinesig y Cyngor. Roedd tri dyfynbris wedi’u cael ar gyfer ystyriaeth, ond o gwmnïau yn Lloegr i gyd. Cytunwyd y byddai’r swyddfa’n archwilio opsiynau gan gyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac yn cyflwyno dyfynbrisiau wedi’u diweddaru yng nghyfarfod llawn nesaf y Cyngor.
|
Consider options for purchasing a safe
A safe was required to store the Council’s civic regalia. Three quotes had been obtained for consideration, however all from companies based in England. It was agreed that the office would explore options from Welsh-based suppliers and present updated quotes at the next Full Council meeting. |
Agenda Cyngor Llawn/ Full Council Agenda |
| 8 | Adolygu’r gwariant ar mannau gwyrdd
Adolygwyd y costau rheolaidd sy’n gysylltiedig â rheoli mannau gwyrdd. Roedd hyn yn cynnwys contractau ar gyfer torri glaswellt, cynnal a chadw gerddi, a gwagio biniau.
Roedd y costau a dalwyd am y tri gwasanaeth hyn yn unol â’r costau a gytunwyd yn y contractau, a gafodd eu hadnewyddu ym mis Chwefror.
Eglurwyd y byddai cost gwagio biniau yn is na’r swm a gontractwyd, gan fod y contract yn cael ei ohirio dros y misoedd gaeaf, er mwyn i staff y Cyngor gyflawni’r gwaith eu hunain, sydd bellach yn bosibl gan fod y Cyngor wedi prynu ei gerbyd ei hun.
Codwyd cwestiwn ynghylch a fyddai’n fwy economaidd i’r Cyngor gyflawni’r tri gwaith hyn ei hun, ond eglurwyd nad yw hynny’n ymarferol ar hyn o bryd oherwydd diffyg peiriannau arbenigol a chapasiti staff.
Awgrymwyd cofnodi’r oriau a dreulir ar waith cynnal a chadw mannau gwyrdd a chynhyrchu adroddiad chwarterol i fonitro faint o amser sy’n mynd i bob gwasanaeth. |
Review the expenditure on green spaces
A review of the regular costs related to the management of green spaces was undertaken. This included contracts for grass cutting, garden maintenance and bin emptying.
The costs paid for all three of these services were in line with the costs agreed in contracts, which had been renewed in February.
It was explained that bin emptying would cost less than the contracted amount, as the contract was being suspended over winter months, for the Council’s own staff to carry out the work, which was now a possibility due to the Council having purchased its own vehicle.
It was questioned whether it would be more economical for the Council to carry out all three of these works itself, however it was explained that it was not currently feasible due to lack of specialist machinery and staff capacity.
It was suggested to record the hours spent on green space maintenance and to produce a quarterly report for monitoring the amount of time that went into each service.
|
|
| 9 | Addurniadau Nadolig: Stryd y Dollborth
Ystyriwyd addurniadau ychwanegol ar gyfer Stryd y Dollborth; fodd bynnag, eglurwyd nad oedd pwyntiau angor i osod goleuadau traws-stryd, nac unrhyw bwyntiau trydanol addas, ac felly ni fyddai’n bosibl darparu addurniadau ychwanegol eleni. Cytunwyd y dylid ystyried hyn yn gynnar yn 2026, er mwyn cynllunio ar gyfer darparu addurniadau ychwanegol.
Rhoddwyd eglurhad pellach ar gostau disgwyliedig y Nadolig ar gyfer 2025. Roedd y goleuadau newydd a brynwyd wedi cyrraedd, ac roedd staff wedi disodli’r goleuadau traws-stryd hen gyda’r rhai newydd mewn paratoad, ond daeth yn amlwg bod angen mwy o oleuadau i ddisodli’r holl groesfannau, gyda chost amcangyfrifedig o £2,242. Roedd goleuadau ar gyfer y tŵr cloc hefyd wedi’u hepgor, ac roedd eu hangen gyda chost amcangyfrifedig o £2,500. Byddai’r ychwanegiadau hyn yn golygu gorwariant amcangyfrifedig o £3,219.
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r gorwariant hwn, a phrynu’r goleuadau newydd ychwanegol, gan gynnwys y rhai ar gyfer y tŵr cloc. |
Christmas decorations: Stryd y Dollborth
Additional decorations for Stryd y Dollborth had been considered; however, it was explained that there were no anchor points to fix crossing lights to, nor any suitable electrical points, and as such it would not be possible to deliver additional decorations this year. It was agreed that this should be considered early in 2026, to plan delivery of additional decorations.
A further explanation was provided on the expected costs of Christmas for 2025. The new lights purchased had arrived, and staff had replaced the old crossings with the new lights in preparation, however it had become apparent that more lights were needed to replace all of the crossings, with an estimated cost of £2,242. Lights for the clocktower had also been omitted, and were needed at an estimated cost of £2,500. These additions would mean an estimated total overspend of £3.219.
It was RECOMMENDED to approve this overspend, and to purchase the additional new lights, including those for the clocktower.
|
|
| 10 | Cynnig: Gweithredu’r cynllun BDCh (Boicotio, dadfuddsoddi a chosbau) (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands)
Ystyriwyd y cynnig i weithredu’r cynllun BDS. Nodwyd bod y Cyngor ar hyn o bryd yn defnyddio’r cwmnïau canlynol sydd wedi’u boicotio:
· Microsoft: Cyflenwi meddalwedd Microsoft Office. Nodwyd na fyddai’n ymarferol disodli hyn gyda chyflenwr arall. · Dell: Cyfarpar cyfrifiadurol wedi’i gyflenwi gan Dell. Mae dewisiadau amgen ar gael, ond dim ond y llynedd y prynwyd y cyfarpar, felly ni fydd angen ei ddisodli am beth amser. · Chevron: Gorsafoedd gwasanaeth Texaco yn cael eu defnyddio i danio cerbyd y Cyngor.
Gwnaed gwelliant i’r cynnig, i ddarparu ar gyfer mabwysiadu’r cynllun BDS yn ei ffurf bresennol, yn hytrach nag fel polisi cyffredinol, fel nad yw’r Cyngor yn rhwym wrth unrhyw newidiadau i’r cynllun. Bydd angen i’r Cyngor gynnal ei adolygiad ei hun pan wneir newidiadau i’r cynllun, er mwyn asesu’r ymarferoldeb a’r effaith ar y Cyngor.
Gyda’r gwelliant uchod, ARGYMHELLWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r cynnig. |
Motion: Enacting the BDS (Boycott, Divestment, and Sanctions) scheme (Cllr. Dylan Lewis-Rowlands)
The motion to enact the BDS scheme was considered. It was noted that the Council currently used the following boycotted companies: · Microsoft: Supply of Microsoft Office software. It was noted that this would not be feasible to replace with an alternative supplier. · Dell: Computer equipment had all been supplied by Dell. Alternatives were available, however equipment had only been purchase last year so would not need replacing for some time. · Chevron: Texaco service stations were used to fuel the Council’s vehicle.
An amendment was made to the motion, to provide for the BDS scheme to be adopted in its current form, rather than as a blanket policy, such that the Council was not tied to any changes made to the scheme. The Council would need to undertake its own review whenever changes to the scheme were made, to assess feasibility and impact on the Council.
With the above amendment, it was unanimously RECOMMENDED to approve the motion.
|
Agenda Cyngor Lawn/ Full Council Agenda |
| 11 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
| 11.1 | Arwyddion Southgate: Cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch cyfieithiad Cymraeg ar gyfer Southgate. Daeth cyfarfod y Panel Safoni Enwau Lleoedd ar 8 Medi 2025 i’r casgliad, er nad oes tystiolaeth hanesyddol o enw Cymraeg, bod enghreifftiau diweddar o “Porth-y-de” wedi ymddangos mewn dogfennau swyddogol. Cynghorodd y Panel, os yw’r Cyngor Tref yn dymuno mabwysiadu enw Cymraeg yn ffurfiol, mai “Porth-y-de” fyddai’r ffurf safonol a argymhellir yn unol â’r canllawiau cenedlaethol. I’w ystyried gan y Cyngor Llawn. | Southgate signs: Advice from the Welsh Language Commissioner on the Welsh translation of Southgate. The Place Names Standardisation Panel meeting on 8 September 2025 concluded that, although there is no historical evidence supporting a Welsh name, recent examples of “Porth-y-de” appearing in official documents were noted. The Panel advised that, should the Town Council wish to formally adopt a Welsh name, “Porth-y-de” would be the recommended standard form in line with national guidelines. To be considered by Full Council. | Agenda Cyngor Llawn/ Full Council Agenda |
| 11.2 | Ecosinema 2025: Manylion gan Ŵyl Ffilm WOW ynghylch Ecosinema 2025, digwyddiad deuddydd a gynhelir yn Aberystwyth ar 9–10 Hydref. Roedd y rhaglen yn cynnwys dangosiadau ffilm a thrafodaethau yn canolbwyntio ar y newid hinsawdd, cymuned, a chysylltiad. Roedd y trefnwyr wedi gwahodd cynrychiolydd o Gyngor y Dref i fynychu. | Ecosinema 2025: Details from the WOW Film Festival regarding Ecosinema 2025, a two-day event taking place in Aberystwyth on 9–10 October. The programme included film screenings and discussions focused on climate, community, and connection. The organisers had invited a representative from the Town Council to attend. |
Daeth y cyfarfod i ben am: 19:25 The meeting was closed at: 19:25
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
| Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery
Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2BJ |
council@aberystwyth.gov.uk
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Emlyn Jones
10.9.2025
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau y gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr ar Nos Lun, 15.9.2025 am 18:30.
You are invited to a hybrid meeting of the Finance and Establishments Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road on Monday 15.9.2025 at 18:30.
|
AGENDA
|
||
| 1 | Yn bresennol | Present |
| 2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences |
| 3 | Datgan Diddordeb | Declarations of interest |
| 4 | Cyfeiriadau Personol | Personal references |
| 5 | Ystyried cyfrifon mis Gorffennaf | To consider July accounts |
| 6 | Ystyried cyfrifon mis Awst | To consider August accounts |
| 7 | Ystyried opsiynau ar gyfer prynu sêff | Consider options for purchasing a safe |
| 8 | Adolygu’r gwariant ar mannau gwyrdd | Review the expenditure on green spaces |
| 9 | Addurniadau Nadolig: Stryd y Dollborth | Christmas decorations: Stryd y Dollborth |
| 10 | Cynnig: Gweithredu’r cynllun BDCh (Boicotio, dadfuddsoddi a chosbau) (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands) | Motion: Enacting the BDS (Boycott, Divestment, and Sanctions) scheme (Cllr. Dylan Lewis-Rowlands) |
| 11 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu cyfarfod y Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee meeting by contacting the Town Council Office for details