Finance and Establishment

09/12/2024 at 6:30 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi

Minutes of the Finance Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi

 

9.12.2024

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1 Presennol

 

Cyng. Kerry Ferguson (Cadeirydd)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Brian Davies

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Emlyn Jones

 

Yn mynychu

Cyng. Mark Strong (Eitemau 1 i 6 yn unig)

Arwel Jones (Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 2025)

John Eifion Jones (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru)

Sally Washtell-Blaise (Big Wave – Ton Fawr)

Will Rowlands (Clerc)

 

Present

 

Cllr. Kerry Ferguson (Chair)

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Brian Davies

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Emlyn Jones

 

In attendance

Cllr. Mark Strong (Items 1 to 6 only)

Arwel Jones (Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 2025)

John Eifion Jones (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru)

Sally Washtell-Blaise (Big Wave – Ton Fawr)

Will Rowlands (Clerk)

 

 
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

·         Cyng. Talat Chaudhri

·         Cyng. Maldwyn Pryse

·         Cyng. Umer Aslam

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

·         Cyng. Alun Williams

 

Apologies and Absences

 

Absent with apologies:

·         Cllr. Talat Chaudhri

·         Cllr. Maldwyn Pryse

·         Cllr. Umer Aslam

 

Absent without apologies:

·         Cllr. Alun Williams

 

 
3 Datgan diddordebau:

 

5. Gŵyl Cerdd Dant 2025: Roedd y Cyng. Kerry Ferguson yn aelod o’r pwyllgor trefnu ar gyfer y digwyddiad.

 

6. Gŵyl Cariad Aber: Roedd y Cyng. Kerry Ferguson yn adnabod perchennog un o’r lleoliadau arfaethedig yn bersonol.

Declarations of interest:  

 

5. Gŵyl Cerdd Dant 2025: Cllr. Kerry Ferguson was a member of the organising committee for the event.

 

6. Gŵyl Cariad Aber: Cllr. Kerry Ferguson knew the owner of one of the proposed venues personally.

 

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

Dim

Personal references:

 

None

 

 
5 Gŵyl Cerdd Dant 2025 – cais am gyllid

 

Cafwyd cyflwyniad ar yr ŵyl gan Arwel Jones ac Eifion Jones. Roedd yr ŵyl yn ŵyl flynyddol ar raddfa fawr, yn cael ei chynnal mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn. Fe’i cynhelid yn Aberystwyth o leiaf unwaith bob degawd, ond nid oedd wedi dychwelyd ers 1997. Rhoddwyd amlinelliad o fanteision tebygol yr ŵyl i Aberystwyth a’r ardal ehangach, gan gynnwys y budd diwylliannol ac economaidd. Nodwyd bod Cerdd Dant yn draddodiad Cymreig cwbl unigryw nad yw i’w gael yn unman arall yn y byd. Byddai’r digwyddiad yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2025, mae’n debyg yn Ysgol Penglais, gydag ymdrech sylweddol i godi arian a hysbysebu drwy gydol 2025 i gefnogi’r ŵyl.

 

Roedd cefnogaeth eang i’r ŵyl a byddai cyfraniad ariannol yn cael ei ystyried fel rhan o’r gyllideb ar gyfer 2025-26. Targed codi arian yr ŵyl oedd £50,000.

 

Diolchwyd i Arwel Jones ac Eifion Jones am fynychu a gadawsant y cyfarfod.

Gŵyl Cerdd Dant 2025 – request for funding

 

A presentation on the festival was given by Arwel Jones & Eifion Jones. The festival was a large scale annual festival, held in a different location each year. It had previously been held in Aberystwyth at least once every decade, however had not returned since 1997. An outline was given on the likely benefits of the festival to Aberystwyth and the wider area, including both the cultural and economic benefit. It was noted that Cerdd Dant is a wholly unique Welsh tradition not found anywhere else in the world. The event would be held in November 2025, likely in Ysgol Penglais, with a significant fundraising and advertising effort throughout 2025 to support the festival.

 

There was wide support for the festival and financial contribution would be considered as part of the budget for 2025-26. The festival’s fundraising target was £50,000.

 

Arwel Jones & Eifion Jones were thanked for attending and left the meeting.

 

 
6 Gŵyl Cariad Aber – cais am gyllid

 

Cafwyd cyflwyniad ar yr ŵyl gan Sally Washtell-Blaise. Roedd yr ŵyl yn ŵyl gelfyddydol a arweinir gan y gymuned yn canolbwyntio ar bob math o gariad a byddai’n rhedeg o ddydd Santes Dwynwen (25 Ionawr) tan ddydd San Ffolant (14 Chwefror). 2025 fyddai’r digwyddiad peilot ond roedd eisoes â llawer o ddiddordeb a chefnogaeth gyda dros 40 o artistiaid wedi’u cysylltu â busnesau lleol i greu arddangosfeydd celf mewn ffenestri siopau ar draws y dref. Roedd yr ŵyl wedi gofyn am y cymorth ariannol canlynol:

·         £200 ar gyfer yswiriant atebolrwydd cyhoeddus

·         £300 ar gyfer argraffu deunyddiau marchnata gan gynnwys sticeri gyda chodau QR ar gyfer ffenestri siopau

·         £1,500 ar gyfer llogi offer taflunio i daflunio gweithiau celf ar adeiladau amlwg yn Aberystwyth, megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chastell Aberystwyth.

 

Byddai’r ŵyl yn lansio gyda gorymdaith flynyddol Santes Dwynwen y Cyngor Tref, a gynhelir ddydd Sadwrn 25 Ionawr, ac roedd gwaith eisoes ar y gweill i ddarparu pecynnau celf i ysgolion ar gyfer cymryd rhan yn yr orymdaith.

 

Diolchwyd i Sally Washtell-Blaise am ddod a gadawodd y cyfarfod.

 

ARGYMHELLWYD darparu cymorth ariannol o £1,800, o’r gyllideb digwyddiadau, i gynorthwyo gyda chostau argraffu a thaflunio. Byddai hyn ar yr amod bod darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud ar gyfer y Gymraeg drwy gydol yr ŵyl a’i bod yn dod yn brosiect ar y cyd â’r Cyngor Tref (a’i hysbysebu fel y cyfryw) er mwyn iddi ddod o dan yswiriant atebolrwydd cyhoeddus y Cyngor Tref.

 

Gadawodd y Cyng. Mark Strong y cyfarfod.

Gŵyl Cariad Aber – request for funding

 

A presentation on the festival was given by Sally Washtell-Blaise. The festival was a community led arts festival focussed on all forms of love and would run from Santes Dwynwen day (25 January) until St Valentine’s day (14 February). 2025 would be the pilot event but already had much interest and support with over 40 artists having been connected with local businesses to create art displays in shop windows across the town. The festival had requested the following financial support:

·         £200 for public liability insurance

·         £300 for printing of marketing materials including stickers with QR codes for shop windows

·         £1,500 for hire of projection equipment to project artworks onto prominent buildings in Aberystwyth, such as the National Library of Wales and Aberystwyth Castle.

 

The festival would launch with the Town Council’s annual Santes Dwynwen parade, being held on Saturday 25 January, and work was already underway to provide arts packs to schools for participation in the parade.

 

Sally Washtell-Blaise was thanked for attending and left the meeting.

 

 

It was RECOMMENDED to provide financial support of £1,800, from the events budget, to assist with printing and projection costs. This would be on the condition that adequate provision was made for the Welsh language throughout the festival and that it become a joint project with the Town Council (and advertised as such) in order for it to come under the remit of the Town Council’s public liability insurance.

 

Cllr. Mark Strong left the meeting.

 

 
7 Ystyried cyfrifon mis Tachwedd

 

Codwyd y pwyntiau canlynol:

 

1942 Sul y Cofio: Pennawd costau wedi gorwario oherwydd cynnydd mewn costau. Cyllideb wedi’i diwygio yn unol â hynny ar gyfer 2025-26.

 

1935 Plannu a chynnal coed: Dim ond 5.9% a wariwyd ar y bennawd costau, fodd bynnag byddai hyn yn newid y mis nesaf gan fod gwariant wedi’i wneud i adnewyddu labeli coed a byrddau gwybodaeth.

 

1955 Adnewyddu Neuadd Gwenfrewi: Pennawd cost i’w weld yn orwariant oherwydd costau adnewyddu Ty’r Offeiriad a fyddai’n cael ei drosglwyddo o’r arian wrth gefn a glustnodwyd ar ddiwedd y flwyddyn. Mewn gwirionedd roedd gan y pennawd £26,341.17 yn weddill o’r £40,000 a gyllidebwyd.

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon.

Consider November accounts

 

The following points were raised:

 

1942 Remembrance Sunday: Cost heading had overspent due to increases in costs. Budget amended accordingly for 2025-26.

 

1935 Tree planting & maintenance: Cost heading was only 5.9% spent, however this would change next month as expenditure had been incurred to renew tree labels and information boards.

 

1955 Neuadd Gwenfrewi refurbishment: Cost heading appeared overspent due to Presbytery refurbishment costs, that would be transferred from earmarked reserve at the year-end. The heading actually had £26,341.17 remaining of the budgeted £40,000.

 

It was RECOMMENDED to approve the accounts.

 

 
8  Cyllideb 2025-26

 

Dosbarthwyd cyllideb ddrafft ddiwygiedig, a oedd wedi’i diwygio i adlewyrchu’r cytundeb i gyflogi aelod ychwanegol o staff a’r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU i Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Codwyd y pwyntiau canlynol:

 

1101 Costau Staffio: Roedd y gyllideb wedi cynyddu’n sylweddol ers y drafft diwethaf oherwydd newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.

 

1532 Glanhau Strydoedd: Awgrymwyd y gallai’r gyllideb hon gynnwys golchi palmentydd â jet. Gellid ystyried hyn fel rhan o’r cynllun chwynnu ar gyfer 2025.

 

1761 Grantiau Cymunedol: I’w leihau o £25,000 i £20,000. Nodwyd bod digwyddiad dyfarnu grantiau wedi’i gynnal yn flaenorol i ddyfarnu sieciau grant ac awgrymwyd y dylid ystyried digwyddiad tebyg eto ar gyfer y dyfodol. Proses dyfarni ac arcwhili Grantiau Cymunedol i’w hystyried yn fanylach.

 

1932 Cinio Nadolig yr Henoed: I’w ail-werthuso ar ôl y digwyddiad, a oedd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 11 Rhagfyr 2024.

 

1935 Plannu a chynnal a chadw coed: Awgrymwyd y gellid lleihau hyn ymhellach, fodd bynnag nodwyd y byddai gan y Cyngor Tref fwy o gyfrifoldebau cynnal a chadw gyda Coedlan Plascrug ac ardaloedd eraill. Costau i’w harchwilio ymhellach.

 

Toiledau cyhoeddus: Roedd y ffigurau wedi’u hail-gadarnhau yn erbyn y wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Gyngor Sir Ceredigion. Nododd y Pwyllgor ei siom nad oedd wedi cael ymateb ffurfiol hyd yma i gynnig y Cyngor Tref i Gyngor Sir Ceredigion.

 

Gŵyl Cerdd Dant 2025: Cadw fel £10,000 yn dilyn cyflwyniad cynharach.

 

Byddai’r gyllideb yn cael ei hailddrafftio fel yr uchod a’i hystyried eto yn y cyfarfod nesaf. Nodwyd mai’r dyddiad cau terfynol ar gyfer gosod y praesept ar gyfer 2025-26 oedd 31 Ionawr 2025.

Budget 2025-26

 

A revised draft budget was circulated, which had been amended to reflect the agreement to employ an additional member of staff and the UK Government’s announced changes to employers National Insurance. The following points were raised:

 

1101 Staffing Costs: Budget had increase significantly since last draft due to changes to employers National Insurance contributions.

 

1532 Street Cleaning: It was suggested that this budget could include jet washing of pavements. This could be considered as part of the weeding scheme for 2025.

 

1761 Community Grants: To be reduced from £25,000 to £20,000. It was noted that a grant award event was previously held to award grant cheques and suggested that a similar event be considered again for the future. Community Grant award and audit process to be considered in more detail.

 

1932 Senior Citizens Christmas Dinner: To be re-evaluated after the event, which was being held on Wednesday 11 December 2024.

 

1935 Tree planting & maintenance: It was suggested that this could be reduced further, however noted that the Town Council would have greater maintenance responsibilities with Plascrug Avenue and other areas. Costs to be investigated further.

 

Public toilets: Figures had been re-confirmed against most recent information provided by Ceredigion County Council. The Committee noted its disappointment in not yet having received a formal response to the Town Council’s proposal to Ceredigion County Council.

 

Gŵyl Cerdd Dant 2025: Retained as £10,000 following earlier presentation.

 

The budget would be re-drafted as above and considered again at the next meeting. It was noted that the final deadline to set the precept for 2025-26 was 31 January 2025.

 

 
9 Gohebiaeth

 

Correspondence  
9.1 Kronberg: Erthygl ym mhapur newydd Kronberg yn cynnwys Maer Aberystwyth yn dilyn ymweliad. Kronberg: Article in Kronberg newspaper featuring Aberystwyth Mayor following visit.  
9.2 Un Llais Cymru: Adroddiad Aeddfedrwydd Iechyd Digidol yn dilyn cwblhau arolwg hunanasesu. Cafodd aeddfedrwydd digidol y Cyngor sgôr uchel gydag argymhellion bach i gynyddu’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a chynnal hyfforddiant digidol. One Voice Wales: Digital Health Maturity Report following completion of self-assessment survey. The Council’s digital maturity was scored highly with small recommendations to increase use of social media & undertake digital training.  
9.3 Cod Ymddygiad: Hyfforddiant cod ymddygiad am ddim a gynigir gan Gyngor Sir Ceredigion i bob Cyngor Tref a Chymuned yng Ngheredigion ar 11 Chwefror 2025. Anogir pawb i fynychu. Code of Conduct: Free code of conduct training offered by Ceredigion County Council to all Town & Community Councils in Ceredigion on 11 February 2025. All encouraged to attend.  

Daeth y cyfarfod i ben am 21:00.                                                    The meeting was closed at 21:00.

Agenda:

Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr / Queen’s Road

Aberystwyth

SY23 2BJ

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

                                  Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse

3.12.2024

 

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau y gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr ar Nos Lun, 9.12.2024 am 18:30.

 

You are invited to a hybrid meeting of the Finance and Establishments Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road on Monday 9.12.2024 at 18:30.

 

 

 

AGENDA 

 

 

1 Yn bresennol Present
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies and absences
3 Datgan Diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau Personol Personal references
5 Gŵyl Cerdd Dant 2025 – cais am gyllid Gŵyl Cerdd Dant 2025 – request for funding
6 Gŵyl Cariad Aber – cais am gyllid Gŵyl Cariad Aber – request for funding
7 Ystyried cyfrifon mis Tachwedd Consider November accounts
8 Cyllideb 2025-26 Budget 2025-26
9 Gohebiaeth

 

Correspondence

 

 

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely   

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

…………………………………………

Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details