Finance and Establishment

16/06/2025 at 6:30 pm

Minutes:

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi

Minutes of the Finance Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi

 

16.6.2025

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1 Presennol

 

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Eitemau 1 i 12 yn unig)

Cyng. Alun Williams

 

 

Yn mynychu

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Mark Strong

Will Rowlands (Clerc)

Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

Present

 

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Items 1 to 12 only)

Cllr. Alun Williams

 

 

In attendance

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Mark Strong

Will Rowlands (Clerk)

Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer)

Carol Thomas (Translator)

 

 

 

 
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Dim

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Dim

 

Apologies and Absences

 

Absent with apologies:

None

 

Absent without apologies:

None

 

 
3 Datgan diddordebau:

 

11. Adolygu’r ffioedd a godir gan y Cyngor am wasanaethau:

·         Datganodd y Cyng. Kerry Ferguson fuddiant oherwydd ei bod yn talu’r Cyngor am stondin yn yr Hen Farchnad Dref.

·         Datganodd y Cyng. Emlyn Jones fuddiant oherwydd ei bod yn talu’r Cyngor am stondin yn yr Hen Farchnad Dref.

Declarations of interest:  

 

 

11. To review the fees charged by the Council for services:

·         Cllr. Kerry Ferguson declared an interest due to paying the Council for a stall at the Old Town Market.

·         Cllr. Emlyn Jones declared an interest due to paying the Council for a stall at the Old Town Market.

 

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

·         Estynnwyd diolch i’r staff am drefnu’r ‘Diwrnod Tyfu’ yn Sefydliad Tyfu Plascrug.

·          Estynnwyd diolch a llongyfarchiadau i drefnwyr Gŵyl Farddoniaeth Aberystwyth.

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i’r Cyng. Kerry Ferguson a’r Cyng. Emlyn Jones ar eu dyweddïad diweddar

 

Personal references:

 

·         Thanks were extended to the staff for organizing the ‘Have a Grow Day’ at Plascrug Growing Space.

·         Thanks and congratulations were extended to the organisers of the Aberystwyth Poetry Festival.

·         Congratulations were extended to Cllr. Kerry Ferguson & Cllr. Emlyn Jones on their recent engagement.

 

 
5 Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyfer 2025-26

 

Enwebwyd y Cyng. Talat Chaudhri gan y Cyng. Jeff Smith, a fe’i eiliwyd gan y Cyng. Alun Williams.

 

Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill, a PENDERFYNWYD ethol y Cyng. Talat Chaudhri yn Gadeirydd.

Elect Chair of the Finance Committee for 2025-26

 

Cllr. Talat Chaudhri was proposed by Cllr. Jeff Smith and seconded by Cllr. Alun Williams.

 

There were no other nominations, and it was RESOLVED to elect Cllr. Talat Chaudhri as Chair.

 

 

6 Ethol Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyfer 2025-26

 

Enwebwyd y Cyng. Kerry Ferguson y Cyng. Talat Chaudhri, a fe’i eiliwyd gan y Cyng. Emlyn Jones.

 

Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill, a PENDERFYNWYD ethol y Cyng. Kerry Ferguson yn Is-gadeirydd.

 

Elect Vice-Chair of the Finance Committee for 2025-26

 

Cllr. Kerry Ferguson was proposed by Cllr. Talat Chaudhri and seconded by Cllr. Emlyn Jones.

 

There were no other nominations, and it was RESOLVED to elect Cllr. Kerry Ferguson as Vice-Chair.

 
7 Ystyried cyfrifon diwedd blwyddyn 2024-25

 

Cafodd cyfrifon terfyn blwyddyn olaf eu diwygio yn dilyn materion a godwyd yn ystod yr archwiliad mewnol. Gwnaed dau newid:

 

·         Ychwanegwyd credydwr ychwanegol ar gyfer cyflogau mis Mawrth, a dalwyd ym mis Ebrill ac felly’n cael eu hystyried yn gredydwr ar ddiwedd y flwyddyn.

·         Roedd prosiectau grant a gyfrifwyd yn flaenorol gyda dim ond un cod enwol wedi’u rhannu’n ddau god: un ar gyfer incwm y grant ac un ar gyfer gwariant y prosiect.

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon

To consider 2024-25 year end accounts

 

The final year end accounts had been amended following matters raised during the internal audit. Two changes had been made:

 

·         An additional creditor had been included for March salaries, which were paid in April and therefore a creditor at the year end.

·         Grant projects which were previously accounted with only one nominal code had been split into two codes; one for grant income and one for project expenditure.

 

It was RECOMMENDED to approve the accounts.

 

 
8 Ystyried cyfrifon mis Ebrill

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon

 

To consider April accounts

 

It was RECOMMENDED to approve the accounts.

 

 
9 Ystyried cyfrifon mis Mai

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon.

 

To consider May accounts

 

It was RECOMMENDED to approve the accounts.

 
10 Grant Digwyddiadau Cynnal y Cardi a goblygiadau i gyllideb 2025–26

 

Estynnwyd diolch a llongyfarchiadau i’r staff am sicrhau Grant Digwyddiadau Cynnal y Cardi yn llwyddiannus

 

Byddai sicrhau cyllid grant ar gyfer rhaglen ddigwyddiadau’r Cyngor yn golygu y byddai cost net y rhaglen i’r Cyngor tua £18,000 yn llai na’r hyn a gyllidwyd yn wreiddiol. Cynhaliwyd trafodaeth ar y ffordd orau o ddyrannu’r arian hwn a ryddhawyd drwy sicrhau’r grant, ac fe ARGYMHELLWYD y dylid clustnodi’r arian at gyflogi staff glanhau strydoedd, yn amodol ar ystyriaeth gan y Pwyllgor Staffio.

Ystyriwyd hefyd ddefnyddiau amgen ar gyfer y cyllid, megis cyfrannu at gostau gwresogi’r hen Eglwys.

Cynnal y Cardi Events grant & implications for the 2025-26 budget

 

Thanks and congratulations were extended to staff for successfully securing the Cynnal y Cardi Events Grant.

 

The securing of grant funding for the Council’s programme of events would mean that the programme would have a net cost to the Council of around £18,000 less than originally budgeted. A discussion was had on how best to allocate these funds that had been released through securing the grant, and it was RECOMMENDED to earmark the funds for employment of street cleaning staff, subject to consideration by the Staffing Committee.

 

 

Consideration was also given to alternative uses for the funding, such as contributing to heating the former Church.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda Staffio/ Staffing Agenda

11 Adolygu’r ffioedd a godir gan y Cyngor am wasanaethau

 

Adolygwyd rhestr o’r ffioedd a godir am wasanaethau’r Cyngor.

 

ARAGYMHELLWYD cymeradwyo’r ffioedd a godir gan y Cyngor am ei wasanaethau.

 

To review the fees charged by the Council for services

 

A list of fees charged for the Council’s services was reviewed.

 

It was RECOMMENDED to approve the fees charged by the Council for services.

 

 
12 Ystyried y broses o Grantiau Cymunedol

 

Adolygwyd y broses bresennol ar gyfer Grantiau Cymunedol, gyda’r pwyntiau canlynol yn cael eu codi:

·         Roedd y broses ar hyn o bryd yn ormod o fater barn, ac roedd angen strwythur cliriach.

·         Rhaid i’r meini prawf cymhwystra fod yn gliriach ac yn fwy hygyrch i ymgeiswyr.

·         Roedd y ffurflen gais ar hyn o bryd yn rhy gymhleth; roedd angen fersiwn symlach.

·         Roedd potensial i gynnwys matrics sgorio meintiol ar gyfer asesu ceisiadau.

 

ARGYMHELLWYD drafftio ffurflenni cais a chanllawiau newydd, gyda’r awgrymiadau canlynol:

·         Creu dwy ffurflen; un symlach ar gyfer grantiau llai ac un fanylach ar gyfer grantiau mwy.

·         Gwneud y meini prawf cymhwystra’n glir yn y canllawiau a’r ffurflen gais.

·         Nodyn yn y canllawiau nad yw teithiau y tu allan i Aberystwyth a digwyddiadau fel arfer yn cael eu hariannu, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol.

·         Nodyn yn y canllawiau bod well gan y Cyngor i ariannu nifer fwy o grantiau llai, yn hytrach na dim ond ychydig o geisiadau mawr.

 

Staff i ddrafftio ffurflenni a chanllawiau newydd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd o’r Pwyllgor.

 

To consider the Community Grants process

 

The current Community Grants process was reviewed, with the following points raised:

·         The process was currently too subjective, and a clearer structure was needed.

·         Eligibility criteria must be clearer and more accessible to applicants.

·         The application form was currently too complicated; a simplified version was needed.

·         There was potentially a need to include a quantitative scoring matrix for assessing applications.

 

It was RECOMMENDED to draft new application forms & guidance, with the following suggestions:

·         Creating two forms; a simpler form for smaller grants and a more detailed form for larger grants.

·         Making eligibility criteria clear in the guidance and application form.

·         Noting in the guidance that trips outside of Aberystwyth and events would not normally be funded, except in exceptional circumstances.

·         Noting in the guidance that the Council would prefer to fund a greater number of smaller grants, rather than a few large applications.

 

Staff to draft new forms & guidance, in consultation with the Chair & Vice-Chair of the Committee.

 

 

 

13 Ystyried y broses ar gyfer ariannu celf stryd a murluniau

 

ARGYMHELLWYD i broses gais gael ei llunio i berchnogion eiddo sydd â diddordeb wneud ceisiadau am gyllid i gefnogi darparu murluniau a chelf stryd. Dylid sefydlu proses glir a thryloyw, gan gynnwys:

·         Datblygu meini prawf i arwain y broses o ddewis a chymeradwyo prosiectau murluniau.

·         Gofyn am ganiatâd gan berchnogion eiddo sydd â diddordeb mewn cael gwaith celf wedi’i osod ar eu heiddo.

·         Gosod blaenoriaethau i hwyluso ystyried ceisiadau.

 

Y Clerc i ddrafftio deunyddiau cais gyda’r Cyng. Kerry Ferguson.

To consider the process for funding street art & murals

 

It was RECOMMENDED that an application process be devised for interested property owners to make applications for funding to support provision of murals and street art. A clear and transparent process should be established, including:

 

·         Developing criteria to guide the selection and approval of mural projects.

·         Requiring permission from property owners interested in having artwork installed on their property.

·         Setting priorities to ease consideration of applications.

 

Clerk to draft application materials with Cllr. Kerry Ferguson.

 

 
14

 

 

 

Man Tyfu Plascrug: Mynediad o Goedlan Plascrug

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo gwariant o £1,890 ar waith i newid y giât yn Glwb Bowlio Aberystwyth, Plascrug (gyda chaniatâd llawn y clwb) gyda giât â chlo cod, i alluogi tenantiaid Man Tyfu Plascrug i gael mynediad i’r safle o Goedlan Plascrug.

Plascrug Growing Space: Access from Plascrug Avenue

 

It was RECOMMENDED to approve expenditure of £1,890 for works to replace the gate at Aberystwyth Bowling Club, Plascrug (with the club’s full permission) with a coded lock gate, for tenants of the Plascrug Growing Space to access the site from Plascrug Avenue.

 

 
15 Ymweliad i Saint Brieuc

 

ARGYMHELLWYD clustnodi hyd at £2,000 i’r Maer a’i gymar ymweld â Saint Brieuc.

 

ARGYMHELLWYD ymhellach i’r Maer a’i gymar drefnu’r ymweliad gyda’r staff, gan ddefnyddio’r dull trafnidiaeth mwyaf priodol ac economaidd.

Visit to Saint Brieuc

 

It was RECOMMENDED to earmark up to £2,000 for the Mayor & consort to visit Saint Brieuc.

 

It was further RECOMMENDED for the Mayor & consort to book the visit with staff, in the most suitable and economic mode of transport.

 

 
16 Cais am gyllid: Pamffled Bardd y Dref

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo gwariant hyd at £1,100 i ariannu cynhyrchu pamffled o gerddi’r Bardd y Dref blaenorol, Dr Eurig Salisbury, a ysgrifennwyd yn ystod ei gyfnod fel Bardd y Dref rhwng 2023-25. Byddai’r cyllid hwn yn amodol ar y gweithdrefnau canlynol:

 

·         Rhaid cynnwys logo’r Cyngor ar y pamffled.

·         Rhaid cynnwys rhagair, wedi’i hysgrifennu gan y cyn-Feiri, y Cyng. Kerry Ferguson a’r  Cyng. Maldwyn Pryse.

 

Request for funding: Bardd y Dref pamphlet

 

It was RECOMMENDED to approve expenditure of up to £1,100 to fund production of a pamphlet of the previous Bardd y Dref, Dr Eurig Salisbury’s poems written during his term as Bardd y Dref from 2023-25. This funding would be subject to the following conditions:

 

·         The Council’s logo must be included on the pamphlet.

·         A foreword must be included, written by the former Mayors Cllr. Kerry Ferguson & Cllr. Maldwyn Pryse.

 

 
17 Gohebiaeth

 

Correspondence  
  17.1 Cyfethol Penparcau: Hysbysiadau cyhoeddus yn hysbysebu’r ddau swydd wag ar gyfer cyfethol, i’w hysbysebu tan 9.7.2025 Penparcau Co-option: Public notices advertising the two vacancies for co-option, to be advertised until 9.7.2025  
  17.2 Adroddiad Archwiliad Mewnol: Adroddiad terfynol gan archwilydd mewnol y Cyngor, Rhian Davies, ar gyfer 2024-25. I’w ystyried gan y Cyngor Llawn. Internal Audit report: Final report form the Council’s internal auditor,Rhian Davies, for 2024-25. To be considered by Full Council. Agenda Cyngor Llawn

Full Council Agenda

  17.3 Archwiliad Allanol: Adroddiad terfynol yr archwiliad allanol ar gyfer 2023-24 gan Archwilio Cymru. I’w ystyried gan y Cyngor Llawn. External Audit: Final external audit report for 2023-24 from Audit Wales. To be considered by Full Council. Agenda Cyngor Llawn

Full Council Agenda

Daeth y cyfarfod i ben am: 20:25                                                      The meeting was closed at: 20:25

Agenda:

Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr / Queen’s Road

Aberystwyth

SY23 2BJ

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

                                  Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Emlyn Jones

11.6.2025

 

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau y gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr ar Nos Lun, 16.6.2025 am 18:30.

 

You are invited to a hybrid meeting of the Finance and Establishments Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road on Monday 16.6.2025 at 18:30.

 

 

 

AGENDA 

 

 

1 Yn bresennol Present
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies and absences
3 Datgan Diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau Personol Personal references
5 Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyfer 2025-26 Elect Chair of the Finance Committee for 2025-26
6 Ethol Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyfer 2025-26 Elect Vice-Chair of the Finance Committee for 2025-26
7 Ystyried cyfrifon diwedd blwyddyn 2024-25 To consider 2024-2025 year end accounts
8 Ystyried cyfrifon mis Ebrill To consider April accounts

 

9 Ystyried cyfrifon mis Mai To consider May accounts

 

10 Grant Digwyddiadau Cynnal y Cardi a goblygiadau i gyllideb 2025–26 Cynnal y Cardi Events grant & implications for the 2025-26 budget
11 Adolygu’r ffioedd a godir gan y Cyngor am wasanaethau To review the fees charged by the Council for services
12 Ystyried y broses o Grantiau Cymunedol To consider the Community Grants process
13 Ystyried y broses ar gyfer ariannu celf stryd a murluniau To consider the process for funding street art & murals
14 Man Tyfu Plascrug: Mynediad o Goedlan Plascrug Plascrug Growing Space: Access from Plascrug Avenue
15 Ymweliad i Saint Brieuc Visit to Saint Brieuc
16 Cais am gyllid: Pamffled Bardd y Dref Request for funding: Bardd y Dref pamphlet
17 Gohebiaeth

 

Correspondence

 

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely   

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

…………………………………………

Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details